180 likes | 462 Vues
Ymchwil Criw Amser. Rhoddwyd comisiwn i CRG i gynnal ymchwil i bwyso a mesur agweddau ac adborth gan athrawon a phlant mewn perthynas
E N D
1. Ymchwil Criw Amser
3. Ymchwil Criw Amser Dull:
Grwpiau ffocws i fechgyn 6 grwp gyda bechgyn 9-11 mlwydd oed (3 Dwyrain, 3 Gorllewin, 10 bachgen ym mhob un, 2 grwp Cymraeg)
Grwpiau ffocws i athrawon 2 grwp (1 Dwyrain, 1 Gorllewin,
50/50 gwrywaidd/benywaidd, 5 o athrawon ym mhob sesiwn )
Arolwg drwyr Post 300 o holiaduron drwyr post wediu dosbarthu ledled Cymru (97 o ysgolion a oedd wedi archebu Criw Amser a 203 o ysgolion eraill nad oeddent wedii archebu ac a ddewiswyd ar hap)
Pwyntiau iw cofio:
Ailgrynhoir broses ar gyfer dosbarthu ac archebu Criw Amser copi sampl wedi cael ei anfon at bob ysgol ac wedyn roedd yn rhaid i athrawon archebu copau ychwanegol am ddim.
Ar adeg yr ymchwil dim ond 97 o ysgolion oedd wedi archebu copau ychwanegol roedd hyn yn cyfyngu ar ein sampl, ond roedd hefyd yn golygu ei bod yn bwysig archwilior rhesymau dros y nifer isel a oedd yn ei dderbyn fel rhan or ymchwil.
Fe ymatebodd 39 o ysgolion ir holiadur, yr oedd 22 ohonynt wedi archebu copau ychwanegol o Criw Amser.
4. Ymchwil Criw AmserGofyn ir bechgyn beth oeddent yn ei feddwl
5. Ymchwil Criw AmserAthrawon Darllen ac Adnoddau
Fe gadarnhaodd yr Athrawon fod Criw Amser yn diwallu angen canfyddedig am adnoddau sydd wediu bwriadu i ennyn diddordeb darllenwyr syn methu ac syn gyndyn.
Mae argaeledd adnoddau dysgu sydd o ansawdd uchel (ac syn fforddiadwy) yn cael ei ystyried yn ffactor pwysig ar gyfer mynd ir afael r mater hwn. Rhoddwyd digon o enghreifftiau o adnoddau a ddefnyddir ar hyn o bryd, ond wedi dweud hynny fe bwysleisiodd yr athrawon nad yw adnoddau ynddynt eu hunain yn datrys y broblem cael y bechgyn i defnyddior adnoddau ywr allwedd.
Caiff potensial comics fel adnodd darllen ei gydnabod gan athrawon, yn enwedig fel modd i ennyn diddordeb darllenwyr syn methu ac syn gyndyn (bechgyn yn enwedig).
Y Broses Hyrwyddo, Dosbarthu, a.y.b
Gorlwytho mentrau; ychydig o ddealltwriaeth oedd gan lawer am y cyswllt rhwng Criw Amser a Darllenwn Fil o Eiriau gydan Gilydd.
Maer mater syn ymwneud cheidwaid pyrth mewn ysgolion (megis ysgrifenyddion) yn dal i fod yn allweddol i sicrhau bod mentrau megis Criw Amser yn cael eu defnyddion effeithiol. Ychydig o ddealltwriaeth oedd gan nifer o athrawon ynghylch sut yr oedd y comic wedi cael ei archebu. Bu ir rheiny a wnaeth archebur comic gael bod y broses yn rhwydd ac yn effeithlon.
Roedd rhesymau dros archebun gysylltiedig r ffaith mai adnodd rhad ac am ddim ydyw a bod potensial iw ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Roedd samplau or comic yn aml yn peri ir plant eu hunain roi pwysau ar yr athro/athrawes i archebu copau ychwanegol.
6. Ymchwil Criw AmserAthrawon
Y Defnydd o Criw Amser ac Adborth Athrawon
Roedd athrawon a oedd wedi gweld a defnyddior comic ar y cyfan yn dweud pethau cadarnhaol am Criw Amser rhoddwyd canmoliaeth ir cysyniad, yr ansawdd, ac agweddau ar rediad y stori.
Roedd athrawon yn defnyddior comic mewn ystod o wahanol ffyrdd roedd rhain annog plant i ddarllen mewn grwpiau, tra bo eraill yn gofyn i blant ddarllen y comic yn unigol.
Roedd Criw Amser hefyd yn cael ei ystyried yn erfyn defnyddiol ar gyfer ennyn diddordeb darllenwyr syn methu ac syn gyndyn gan arwain at ddigon o egni a thrafodaeth yn yr ystafell ddosbarth.
Dywedodd rhai athrawon fod bod chomic iw roi ir plant yn beth cadarnhaol ynddoi hun nid oes gan nifer o blant fynediad at y deunyddiau hyn gartref.
Efallai y byddai darparu awgrymiadau ar gyfer athrawon o ran sut i ddefnyddior comic wedi annog mwy i archebur comic, ac wedi ysgogi defnydd mwy creadigol
o Criw Amser yn yr ystafell ddosbarth.
7. Ymchwil Criw AmserAthrawon Adborth arall
Dywedwyd fod ymateb y plant yn gadarnhaol i raddau helaeth, er bod rhai plant yn rhoi beirniadaeth adeiladol o ran rhediad y stori, cymeriadau, arddull, a.y.b.
Roedd lefel yr iaith yn fras yn gywir ar gyfer y grwp oedran targed. Ymddengys fod gwahaniaeth barn ymhlith yr athrawon ynghylch defnyddio slang mewn comics maen groes i ddoethineb addysgu confensiynol, ond maent yn sylweddoli ei fod yn ffordd o apelio at blant, yn enwedig bechgyn.
Cafodd y fersiwn Gymraeg ei beirniadu gan athrawon roedd yr eirfan cael ei hystyried yn rhy anodd, ar defnydd o eiriau ac ymadroddion gogleddol yn cyfyngu ar hygyrchedd y cyfieithiad.
Rhoddwyd digon o enghreifftiau a syniadau am ffyrdd y gellir datblygu Criw Amser ai wella ymhellach.
Ar y cyfan, roedd athrawon yn falch eu bod wedi derbyn/archebu Criw Amser a byddent yn ei archebu eto pe bai rhifyn dilynol yn cael ei gyhoeddi.
Yn fwy eang, fe fynegodd yr athrawon awydd i weld adnoddau ychwanegol er mwyn hyrwyddo darllen mewn ysgolion, er bod rhai wedi awgrymu y gallai buddsoddi mewn adnoddau presennol gynnig mwy o werth am arian na datblygu rhai
newydd.
8. Ymchwil Criw AmserPlant
Fe gadarnhaodd y grwpiau ffocws bod plant yn mwynhau darllen comics ac yn gallu mynd atin rhwydd i enwi enghreifftiau o gyhoeddiadau y maent yn mwynhauu darllen Beano Dandy, Simpsons a.y.b.
Roedd yr ymatebion i Criw Amser yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda dwy ran o dair or cyfranogwyr yn y grwpiau ffocws yn datgan eu bod yn ei gael yn Wych neun Dda.
Bu ir grwpiau ddangos dealltwriaeth dda am y rheswm yr oedd y comic wedi cael ei ddatblygu h.y. i hyrwyddo darllen. Nid oedd yn effeithio ar eu mwynhad.
Roedd y comic yn apelio at blant am amrywiaeth o resymau: rhediad stori anturus, y defnydd o gymeriadau, y cysyniad (estroniaid, dinosoriaid, teithio mewn amser), ymddangosiad lliwgar, defnydd o slang, adran bosau.
9. Ymchwil Criw AmserPlant
Roedd y rhesymau dros beidio hoffi Criw Amser yn amrywio: peth dryswch ynghylch rhediad y stori, anhawster gyda chynllun y tudalennau, y fformat seiliedig ar un stori yn hytrach na nifer o storau byrrach, rhy ifanc i rai bechgyn.
Er na wnaeth pob un or plant fwynhaur comic, bu ir grwpiau ffocws ysgogi llawer o drin a thrafod am ffyrdd y gellid ei wella ai ddatblygu yn y dyfodol.
Roedd lefel yr iaith yn Saesneg iw gweld fel pe bain briodol o ran gallu, er bod peth or slang ar dewis o eiriaun drysu darllenwyr. Roedd y fersiwn Gymraeg yn peri problemau. Roedd yr eirfan rhy gymhleth (hyd yn oed i siaradwyr Cymraeg hyfedr) ac yn cynnwys tafodiaith ogleddol nad oedd yn rhwydd iw deall.
Mae dinosoriaid syn siarad yn fabaidd
Mwy o arddull stori
Ddim yn hoffir enw
Mwy o drais
Pam fod estroniaid ar y ddaear
Roedd y cymeriadaun wael iawn
Addas i flwyddyn 1 a 2 nid i flwyddyn 3 ac uwch
Roedd rhan ganol y comic yn edrych yn ddryslyd
Roedd y swigod siarad yn rhy agos at ei gilydd, yn anodd iw dilyn
Nid oedd wedii osod fel comic go iawn
Llawer o fynd yn hytrach na bod yn ddigrif
10. Ymchwil Criw AmserPlant
Cymariaethau chomics eraill
Roedd ansawdd y comic yn cael ei ystyried yn dda ac roedd bechgyn ar y cyfan yn hoff oi ddiwyg.
Wedi dweud hynny, roedd y bechgyn yn awyddus iawn i amlygu agweddau ar y comic a oedd yn gwneud iddo edrych a theimlon wahanol i gomics confensiynol. Beirniadwyd y syniad o gynnwys logos LlCC ar y clawr blaen roedd yn gwneud iddo deimlo fel rhywbeth y byddech yn ei ddefnyddio yn yr ysgol.
Roedd nifer o wendidau canfyddedig y comic yn gysylltiedig chymariaethau brandiau comics mwy sefydledig (Beano a.y.b.) er enghraifft, mae gan y comics hyn roddion am ddim, nifer o storau, dolenni i wefannau, mwy o bosau, cystadlaethau, rhagflas o rifynnau or comic yn y dyfodol, hysbysebion a.y.b.
Mae bechgyn yn uniaethu chomics eraill syn aml yn gysylltiedig brandiau sefydledig megis The Simpsons. Fe wnaeth y bechgyn nifer o awgrymiadau sylwgar am ffyrdd y gellid datblygu brand Criw Amser dros amser, e.e. Gwybodaeth gefndir am y cymeriadau i alluogir darllenwyr i uniaethu hwy, datblygu gwefan syn eich galluogi i ddysgu mwy am y Criw Amser, mwy o rifynnau iw gwneud yn bosibl ir comic ddatblygu dilynwyr, a.y.b. Mae a wnelo phrynu i mewn.
Roedd y bechgyn yn dangos egni a brwdfrydedd yn y trafodaethau am ffyrdd y gellid datblygu Criw Amser. Maen dangos potensial y comic ac yn cynnig data gwerthfawr ar gyfer llywio datblygiad adnoddau tebyg.
11. Ymchwil Criw AmserPlant
Rhai or awgrymiadau a ddarparwyd:
Gallech wneud y clawr yn well.
Dylent gynnwys adran darllenwch wythnos nesaf.
Byddair comic yn well pe bain cynnwys llythyrau gan ddilynwyr, cystadlaethau a gwobrau.
Dylair comic gynnwys gwahanol storau.
Gallair comic fod gwefan, syn dweud wrthych beth syn digwydd nesaf.
Gwnewch y cymeriadaun fwy fel oedolion gan eu bod yn fabaidd.
Dylid cael pobl dda a phobl ddrwg.
Dylent fod theganau ar y tu blaen.
Dylai Criw Amser gynnwys hysbysebion.
Dylem gael gwybod mwy am y cymeriadau.
Dylent fynd yn l at ddigwyddiadau hanesyddol ac yna gallair storau gynnwys gwybodaeth ffeithiol.
Dylech gasglur syniadau gan blant, nid oedolion.
12. Ymchwil Criw AmserPlant
13. Ymchwil Criw AmserCasgliadau
Cafodd Criw Amser dderbyniad da gan athrawon a oedd yn gwerthfawrogir ffaith bod adnodd rhad ac am ddim yn cael ei ddarparu i ategu ymdrechion mewn perthynas llythrennedd yn gyffredinol. Roedd agweddau cadarnhaol tuag at y comics yn amlwg ymhlith athrawon.
Roedd y comic yn boblogaidd iawn ymhlith plant (yn enwedig bechgyn), a oedd yn mwynhaur cysyniad, rhediad y stori, y cymeriadau a diwyg y comic yn gyffredinol.
Er gwaethaf yr agweddau cadarnhaol, maen bwysig ystyried y nifer isel sydd wedi archebu copau o Criw Amser. Gall fod methiant i ddanfon a oedd yn gysylltiedig r modd y cafodd y comig ei hyrwyddo, ar broses archebu. Dylid ystyried awgrymiadau gan athrawon o ran sut y gellid gwella ar hyn. Maen bwysig peidio dod i gasgliadau negyddol anghywir, gan y gall fod a wnelon fwy r ffordd y mae ceidwaid pyrth yn rheoli llif gwybodaeth i ysgolion, yn hytrach na phenderfyniad bwriadol i beidio ag archebu.
Bu i gysyniad a rhediad stori Criw Amser ysgogi llawer o drafod brwd ymhlith athrawon a phlant fel ei gilydd. Gwnaed awgrymiadau o ran y ffordd y gallair comic gael ei ddatblygu yn y dyfodol.
Bu ir grwpiau ffocws i blant ddarparu pwyntiau dysgu amhrisiadwy o ran pam fod plant yn mwynhau darllen comics penodol gellid cynnwys yr elfennau hyn, os bydd rhifyn pellach o Criw Amser yn cael ei gyhoeddi.
Bu ir mwyafrif or plant a gymerodd ran yn yr ymchwil fynegi diddordeb mewn gweld mwy o rifynnau o Criw Amser. O ystyried mai hwn oedd y rhifyn cyntaf, ni ddylid bychanur gamp hon. Byddai mantais gyda rhifynnau yn y dyfodol yn yr ystyr eu bod yn gyfarwydd ir plant ac yn cael eu deall gan yr athrawon.
Gallai newidiadau ir ffordd y caiff y comic ei hyrwyddo ai archebu wella nifer y rhai syn ei dderbyn.
14. Ymchwil Criw AmserFfactorau Llwyddiant
Mwy o rifynnau rhoi amser i Criw Amser gael dilynwyr
Datblygur Cymeriadau rhoi cyfle ir darllenwyr ddod i wybod mwy am y cymeriadau, prynu i mewn
Datblygur cryfderau roedd plant yn hoffi Criw Amser, ac fe wnaethant ddarparu llawer o syniadau am ffyrdd iw wneud yn well
Fformat ystyried cael mwy nag un stori, swigod siarad eglurach, a.y.b.
Clawr gwneud y clawr yn fwy deniadol, cyfeirio at yr hyn sydd y tu mewn ir comic
Cystadlaethau mae plant yn hoffi cymryd rhan, ennill gwobrau, a gweld eu cyfraniadaun cael eu harddangos yn y comic
Posau poblogaidd iawn, angen iddynt fod yn ddigon soffistigedig i ddifyrru
Hysbysebu?? Dyma syn cael ei ystyried yn arferol, a ellir defnyddior fformat i gyfeirio at fentrau eraill syn gysylltiedig dysgu?
Gwefan Adnodd pwysig syn galluogi plant i ymchwilio ymhellach ir brand, y cymeriadau, i ddysgu, chwarae. Er enghraifft, cynigiodd plant y syniad o deithio i wahanol gyfnodau mewn hanes. Gellid defnyddior wefan i ddarparu ffeithiau cefndir a chyfeirio at gyfleoedd dysgu pellach
Ymdeimlad o berthyn, clwb cefnogwyr efallai ffordd wych o ennyn brwdfrydedd, teyrngarwch a chyfranogiad
Manylion roedd defnyddio logos yn troir darllenwr oddi ar y comic gall manylion bychain wneud i fenter lwyddo neu fethu
Maer defnydd o fodelau rl yn gymhellol iawn gallai sbarduno mentrau megis Criw Amser os caiff ei wneud yn iawn
Ym mhennod yr wythnos nesaf mae plant am gael gwybod beth syn digwydd nesaf..
Hyrwyddor adnodd yn effeithiol ymhlith athrawon a rhoi syniadau iddynt am ffyrdd y
gallent ei ddefnyddio.
15. Ymchwil Criw AmserFfactorau Llwyddiant
17. Ymchwil Criw AmserPwyntiau Trafod
Sut dderbyniad gafodd Criw amser yn eich ardal chi?
Pa mor bwerus all comics fod fel cyfrwng?
Unrhyw brofiadau ymarferol o fethiant i ddanfon y comics: beth ywr ffordd orau o anfon gwybodaeth a deunyddiau trwy ddrysfar ysgol?
Ydych chin credu bod cyndynrwydd i ddarllen yn arwydd o broblemau dyfnach?
18.
Diolch am eich gwrandawiad
CRG Research
25 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9TZ
mark@crgresearch.co.uk
www.crgresearch.co.uk