1 / 38

Dyn ifanc yn ymuno -

Pwyswch ‘Esc’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad. Dyn ifanc yn ymuno -. Edward Clement. gan Des Quinn a Martin Williams. Pwy yw'r bobl hyn?. Ysgrifennwch pwy yn eich barn chi yw pob aelod o’r teulu hwn a nodwch eu perthynas a’i gilydd, e.e. tad, merch ….

alvis
Télécharger la présentation

Dyn ifanc yn ymuno -

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Pwyswch ‘Esc’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad. Dyn ifanc yn ymuno - Edward Clement gan Des Quinn a Martin Williams

  2. Pwy yw'r bobl hyn? Ysgrifennwch pwy yn eich barn chi yw pob aelod o’r teulu hwn a nodwch eu perthynas a’i gilydd, e.e. tad, merch … Ffotograff trwy garedigrwydd Des Quinn

  3. Ffotograff trwy garedigrwydd Des Quinn • David Clement(Tad) • AnnClement (Mam) • Mary Clement(Merch a Chwaer) • William Clement(Mab a Brawd) • Edward Clement(Mab a Brawd) 4 1 5 2 3 Dyma’r teulu Clement oedd yn byw yn yr Hafod, Abertawe, pan ddechreuodd y rhyfel yn 1914. Cafodd eu bywydau eu tynnu’n ddarnau gan y gwrthdaro – fel y gwnaeth i lawer teulu arall yng Nghymru a thrwy’r byd. Wrth ddilyn y gwersi nesaf, byddwch yn dysgu beth a ddigwyddodd i’r bobl hyn.

  4. Dechreuwch eich ymchwil trwy gymryd cipolwg y tu mewn i’r ddogfen hon o’r flwyddyn 1915

  5. Amlygwch y rhannau o’r ddogfen sy’n rhoi gwybodaeth benodol am ei pherchennog.

  6. Amlygwch y rhannau o’r ddogfen sy’n rhoi gwybodaeth benodol am ei pherchennog. 1) Pwy sydd piau’r ddogfen hon?

  7. Amlygwch y rhannau o’r ddogfen sy’n rhoi gwybodaeth benodol am ei pherchennog. • Pwy sydd piau’r ddogfen hon? • Beth oedd swydd y person • hwnnw yn 1915?

  8. Amlygwch y rhannau o’r ddogfen sy’n rhoi gwybodaeth benodol am ei pherchennog. • Pwy sydd piau’r ddogfen hon? • Beth oedd swydd y person • hwnnw yn 1915? • 3) Ble roedd y person hwnnw’n byw?

  9. Amlygwch y rhannau o’r ddogfen sy’n rhoi gwybodaeth benodol am ei pherchennog. • Pwy sydd piau’r ddogfen hon? • 2) Beth oedd swydd y person • hwnnw yn 1915? • 3) Ble roedd y person hwnnw’n byw? Trafodwch: Pam rydych chi’n credu fod y person hwn wedi’i gofrestru (‘registered’)?

  10. Pwy sydd piau’r ddogfen hon? Amlygwch ar y ddogfen enw’r sefydliad a gynhyrchodd y ffurflen hon. Trafodwch: Pam roedd y dogfennau hyn yn cael eu cyhoeddi ar y pryd?

  11. Beth yw ystyr y term ‘attested’’ (ardystiwyd)? Pam yn eich barn chi roedd cymaint o ddynion yn gwneud hynny rhwng 1914 a 1918? Pam yn eich barn chi y gwnaeth Edward Clement ymuno ar 8 Rhagfyr, a pham y cafodd ei drosglwyddo wedyn i’r Fyddin Wrth Gefn nes y deuai’r alwad iddo wasanaethu?

  12. Attested (Ardystiwyd) – Ystyr hynny yw bod rhywun wedi cymryd llw i gyflawni’r hyn a gytunodd i’w wneud … Yn achos Edward Clement roedd hynny’n golygu gwneud ei ddyletswydd ac ymladd dros ei wlad ym Myddin Prydain, pe bai’n cael ei alw i wneud hynny. Wedi ardystio rhywun, gallai’r lluoedd arfog ychwanegu enw’r person hwnnw at eu ffigurau wrth iddynt gyfrif cyfanswm y milwyr oedd ar gael i ymladd.

  13. Rhoddwyd Edward yng Ngrŵp 2.Beth oedd ystyr y rhif hwnnw? Eglurhad o’r term ‘Grŵp’

  14. Di-briod Oedran Grŵp 18-19 1 19-20 2 20-21 3 21-22 4 22-23 5 23-24 6 24-25 7 25-26 8 26-27 9 27-28 10 28-29 11 29-30 12 30-31 13 31-32 14 Di-briod Oedran Grŵp 32-33 15 33-34 16 34-35 17 35-36 18 36-37 19 37-38 20 39-40 21 40-41 22 Over 41 23 Wedi iddynt ymrestru, rhoddwyd y dynion mewn grwpiau. Roedd y grwpiau hyn yn cymryd i ystyriaeth eich oedran a’ch statws priodasol. Dynion di-briod fyddai’n cael eu galw gyntaf – gan ddechrau gydag aelodau o Grŵp 1, yna Grŵp 2, Grŵp 3, ac yn y blaen. Byddai gwŷr priod 18-19 oed yng Ngrŵp 24, a gwŷr priod rhwng 40-41 yn y grŵp olaf, sef 46. Meddyliwch am y dynion yn eich teulu chi. I ba grŵp y bydden nhw’n perthyn a pham?

  15. Pa un yw Edward yn y ffotograff hwn a dynnwyd yng Ngwersyll Hyfforddi Parc Cinmel yng Ngogledd Cymru? Ffotograff trwy garedigrwydd Des Quinn

  16. Pa un yw Edward yn y ffotograff hwn a dynnwyd yng Ngwersyll Hyfforddi Parc Cinmel yng Ngogledd Cymru? Cerdyn post Gwersyll Cinmel Ffotograff trwy garedigrwydd Des Quinn

  17. Cerdyn post doniol a anfonwyd o Wersyll Cinmel Very busy with choir. Having a grand time. Tomorrow – oranges, apples, nuts, plum pudding after dinner. Will let you know all about it later. Haddocks for breakfast. Had tongue and cake for tea. Choir singing at concert tonight. All well and jolly. Best love from Old Tom.Nos da, merch.

  18. Ceisiwch roi’r capsiwn cywir ar bob darlun. Eyes Right! Signalling Practice The Regimental Pet Despatch Riding Nerves! Lights Out!

  19. Cafodd Edward Clement ei alw ym mis Ionawr 1916. Rhoddwyd Llyfr Bach (Small-Book) iddo lle’r oedd i gadw’r dogfennau a welsoch eisoes ac unrhyw ‘bapurau swyddogol’ eraill. Mae’r llyfr hwn yn dweud llawer wrthym am Edward Clement a beth a ddigwyddodd iddo tra’n gwasanaethu yn Ffrainc.

  20. Aelod o ba Gatrawd oedd Edward Clement yn ôl y ddogfen hon? Edward Clement also had a ‘Small Book’ in which he kept the documents that you have already seen. Tra roedd yn Ffrainc yn 1916, roedd Edward yn gwasanaethu gyda’r 14th Service Battalion. Cliciwch yma i weld rhestr o’r catrodau Cymreig

  21. Aelod o ba gatrawd oedd Edward Clement yn ôl y ddogfen hon? • 2) Beth oedd ei rif yn y gatrawd? (yr un cyntaf)Cadwch hwn yn ofalus gan y gall y bydd ei angen arnoch eto os y byddwch am ymchwilio yng ngwefan y Commonwealth War Graves. Edward Clement also had a ‘Small Book’ in which he kept the documents that you have already seen. Tra roedd yn Ffrainc yn 1916, roedd Edward yn gwasanaethu gyda’r 14th Service Battalion. Cliciwch yma i weld rhestr o’r catrodau Cymreig

  22. Aelod o ba gatrawd oedd Edward Clement yn ôl y ddogfen hon? • 2) Beth oedd ei rif yn y gatrawd? (yr un cyntaf)Cadwch hwn yn ofalus gan y gall y bydd ei angen arnoch eto os y byddwch am ymchwilio yng ngwefan y Commonwealth War Graves. • 3) Pam rydych chi’n meddwl fod dau rif wedi’u rhoi iddo? Edward Clement also had a ‘Small Book’ in which he kept the documents that you have already seen. Tra roedd yn Ffrainc yn 1916, roedd Edward yn gwasanaethu gyda’r 14th Service Battalion. Cliciwch yma i weld rhestr o’r catrodau Cymreig

  23. Beth allwn ni ei ddysgu am Edward Clement o’r dudalen hon?

  24. Edrychwch ar dudalen 7 o’r Llyfr Bach. Nawr edrychwch eto ar y ffotograff o’r teulu. Nodwch unrhyw newidiadau yn hanes teuluol Edward (e.e. cyfeiriadau, galwedigaethau). Tad Mam Brawd Chwaer

  25. Pam yr anfonodd y Fyddin Lyfr Bach Edward at ei dad?

  26. Pam yr anfonodd y Fyddin Lyfr Bach Edward at ei dad? Sut yn eich barn chi roedd tad Edward yn teimlo wrth iddo afael yn Llyfr Bach Edward am y tro cyntaf? Geiriau Disgrifiadol

  27. GWYBODAETH YCHWANEGOL Tudalen fewnol Llyfr Bach Edward Amlygwch y rhesymau pam roedd pob milwr yn gorfod cario Llyfr Bach. Amlygwch y wybodaeth oedd i fod gael ei gofnodi yn y Llyfr Bach.

  28. Roedd Edward yn cadw’r cerdyn hwn yn ei Lyfr Bach. Ymhle roeddech yn cael eich cynghori i gadw’r cerdyn? Pam rydych chi’n meddwl fod cymaint o filwyr yn cario’r cardiau hyn? Cefn y cerdyn.

  29. Roedd Edward yn cario’r Beibl poced hwn. Beth ddylai’r milwyr ei wneud â’r Beibl?

  30. Cerdyn gyda chynghorion arno a roddwyd hefyd i’r milwyr…

  31. Beth yn eich barn chi fyddai’n digwydd i filwyr Almaenig a ddaliwyd mewn gwisg Brydeinig?

  32. Beth yn eich barn chi fyddai’n digwydd i filwyr Almaenig a ddaliwyd mewn gwisg Brydeinig? Yn ôl yr erthyglau rhyfela (Confensiwn Genefa), gallai cael eich dal yng ngwisg y gelyn arwain at y gosb eithaf. DIWEDD

More Related