1 / 2

Tasg

Tasg Defnyddiwch y safle niwtral fel man cychwyn ar gyfer ymarferion ystwytho a threfniannau dawns, a’u hymgorffori yn eich bywyd bob dydd . Sefwch â’ch traed led y cluniau ar wahân, yn pwyntio ymlaen. Ceisiwch deimlo’r llawr yn wastad dan eich traed.

bette
Télécharger la présentation

Tasg

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Tasg • Defnyddiwch y safle niwtral fel man cychwyn ar gyfer ymarferion ystwytho a threfniannau dawns, a’u hymgorffori yn eich bywyd bob dydd. • Sefwch â’ch traed led y cluniau ar wahân, yn pwyntio ymlaen. Ceisiwch deimlo’r llawr yn wastad dan eich traed. • Meddyliwch am ymestyn neu dyfu drwy’r asennau a’r asgwrn cefn nes hwyhau ac agor y corff. • Dychmygwch gorun y pen yn cael ei dynnu tua’r nenfwd, gan gadw’r gwddw’n hir. • Sicrhewch fod gennych ben-gliniau meddal ac nad yw eich pen ôl yn ymwthio allan ond yn swatio o dan y torso. • Sicrhewch nad yw’r frest na’r pen wedi’u codi’n ormodol; dylech edrych yn unionsyth ac yn naturiol. • Bydd ymarferion rholio’r ysgwyddau neu godi a gostwng yr ysgwyddau a’r breichiau’n help i ryddhau’r tensiwn yma. Peidiwch â mynd yn stiff yn yr ymddaliad hwn; cofiwch anadlu ac ymlacio a bod yn ymwybodol o’ch corff cyfan.

  2. Tasg Perthynas y pen, y gwddw a’r cefn: Mae dau bwynt cyfeiriad i’n corff – y ffordd mae ein hasgwrn cefn yn pwyntio, sef i fyny, a’r ffordd mae ein pen yn pwyntio, sef ymlaen. Ceisiwch feddwl am gadw’ch gwddw’n rhydd fel y gall eich pen wynebu ymlaen a mynd i fyny. Pan ryddhawn ein gyddfau i ganiatáu i’r pen fynd i fyny, gall yr asgwrn cefn ddilyn. Wrth i’r cefn hwyhau, gall yr asgwrn cefn ddilyn, wedyn bydd yr ysgwyddau’n disgyn i’w priod le a gall yr asennau lenwi’r gofod iawn. Wrth i’ch cefn hwyhau a lledu fe sylwch ar berthynas newydd â’ch coesau a’ch traed. Dylai’r coesau deimlo’n fwy rhydd drwy’r glun, y pen-glin a’r ffêr fel bod pob symudiad yn llyfn.

More Related