1 / 15

Uned 4

Uned 4. Normaleiddio a Systemau Rheoli Cronfeydd Data Perthynol. Cronfeydd data Cyfrifiaduredig. Mae cronfa ddata yn gasgliad o eitemau data wedi’u trefnu ; mae’r cysylltau rhwng yr eitemau data wedi’u trefnu er mwyn caniat áu mynediad ato gan nifer o raglenni cymhwyso gwahanol.

cale
Télécharger la présentation

Uned 4

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Uned 4 Normaleiddio a Systemau Rheoli Cronfeydd Data Perthynol

  2. Cronfeydd data Cyfrifiaduredig Mae cronfa ddata yn gasgliad o eitemau data wedi’u trefnu; mae’r cysylltau rhwng yr eitemau data wedi’u trefnu er mwyn caniatáu mynediad ato gan nifer o raglenni cymhwyso gwahanol. h.y. tablau perthynol o ddata sydd wedi eu cysylltu gyda’i gilydd, a gall nifer o raglenni ddefnyddio’r data yn y tablau.

  3. Dyblygiad mewn Ffeil fflat

  4. Normaleiddio

  5. Allwedd Gynradd Allwedd estron Allwedd Gynradd Loans ID Allwedd Gynradd Tablau data cysylltiedig mewn cronfa ddata berthynol

  6. IDCwsmer EnwCyntaf Cyfenw 1 Brian Smith 2 Harry Adams 3 Joe Jones 4 Harry Smith Terminoleg: Allwedd Gynradd • Mae’r allwedd gynradd yn werth unigol sy’n galluogi pob cofnod i gael ei adnabod. • Ni all EnwCyntaf na Cyfenw fod yn allweddi cynradd oherwydd maent yn cynnwys data dyblygedig neu an-unigryw. Mae IDCwsmer yn unigryw i bob rhes ac felly yn fwy addas.

  7. RhifArcheb RhifEitem RhifGweithiwr RhifCwsmer EnwEitem Swm 121 3 4 1024 Nyten 4 121 4 4 1024 Bollt 3 122 8 9 176 Wasier 6 123 3 6 154 Bollt 5 123 8 6 154 Wasier 4 • Ambell waith does dim un maes sy’n addas ar gyfer allwedd gynradd. O dan yr amgylchiadau hyn mae’n bosib dewis dau faes sydd, gyda’i gilydd, yn creu gwerth unigryw: Does dim maes unigol, fellyy prif faes mwyaf addas ydy cymryd RhifArcheb a RhifEitem gyda’i gilydd.

  8. Allwedd Estron • Mae Allwedd Estron yn Allwedd Gynradd o dabl arall a ddefnyddir er mwyn cysylltu tablau.

  9. Ail Ffurf Normal (2NF) • Er mwyn bod yn 2NF rhaid i dabl: • Fod mewn 1NF (yn amlwg) • Gael pob maes di-allwedd yn hollol ddibynnol ar yr allwedd gynradd cyn gweithio • Yn Gymraeg: • Nid yw maes di-allwedd yn rhan o’r allwedd gynradd • Mae hyn yn meddwlfod yn rhaid defnyddio’r allwedd gynradd er mwyn dod o hyd i werth meysydd eraill yn y tabl • Os gallwch ddod o hyd i werth meysydd eraill heb ddefnyddio’r allwedd gynradd, dylech gael gwared ar y maes hwnnw o’r tabl a’i symud i dabl arall.

  10. Trydydd Ffurf Normal (3NF) • Er mwyn bod mewn 3NF: • Mewn tabl rhaid i feysydd sydd ddim yn rhan o’r allwedd gynradd fod yn llwyr ddibynnol ar yr allwedd gynradd a dim byd arall, megis maes di-allwedd arall.

  11. Staff Dinas MathauSwydd IDGweithiwr* IDDinas* IDTeip* Cyfenw Dinas Cyflog EnwCyntaf IDDinas IDTeip Trydydd Ffurf Normal (Parhad) • Tynnu Dinas o’r tabl a chreu tabl dinasoedd newydd • Tynnu Cyflog o’r tabl a chreu tabl mathau swydd

  12. # Allwedd gynradd *Allwedd estron TablMeddyg (IDMeddyg#, Enw, Arbenigaeth, RhifCyswllt, IDWard) TablWard (IDWard#, Nifer o Welyau, Math o Ward, IDMeddyg) TablClaf(IDClaf#, Enw, Cyfeiriad, Afiechyd, Rhyw, IDMeddyg, IDWard) ,

  13. Beth sy’n gwneud cronfeydd data yn ddiogel ? • Hierarchaeth cyfrineiriau • Breintiau a hawliau mynediad i ddefnyddwyr • Storir data ar wahân i raglenni felly ni all raglenni gwahanol drosysgrifo data.

  14. Manteision defnyddio cronfeydd data(Manteision normaleiddio) • Osgoi dyblygu data -storio data unwaith -cysylltiedig drwy allweddi cynradd -yr holl ddata ar gael drwy’r cysylltau perthynol mewn allweddi cynradd 2. Dileu rheoledig - Lleihau dyblygu data 3. Sicrhau cysondeb data - data i bob defnyddiwr 4. Annibyniaeth data - storir data ar wahân i raglenni, felly gellir ychwanegu meysydd newydd oherwydd mae’r data yn annibynol o’r rhaglenni sy’n ei ddefnyddio 5. Mwy o ddiogelwch

  15. Anfanteision • Cymhleth i’w sefydlu a’u cynnal; angen tim o raglennwyr i’w gynnal a chadw. • Mae meddalwedd cronfa ddata yn fawr, cymhleth a chostus; mae angen cyfrifiaduron pwerus. • Mae pob cymhwysiad sy’n defnyddio’r data yn cael eu heffeithio os yw’r gronfa ddata yn methu. Gan mai’r System Reolaeth Cronfa Ddata SRCD (DBMS) yw’r unig fodd o gael at y data gweithredol, gallai methiant system gael canlyniadau difrifol.

More Related