1 / 47

Modiwl 7: Rheoli eich arian – cynilo

Modiwl 7: Rheoli eich arian – cynilo. Amcanion y modiwl

davina
Télécharger la présentation

Modiwl 7: Rheoli eich arian – cynilo

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 7: Rheoli eich arian – cynilo

  2. Amcanion y modiwl • Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae addysgu dysgwyr am ‘egwyddorion sylfaenol benthyca’ yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru. • Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun cynilo a buddsoddi arian. • Darparu rhestr o wefannau defnyddiol ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2–5 i gael syniadau ystafell ddosbarth ar gyfer cynilo a buddsoddi arian. • Sylwch: Bydd gwahaniaethu, syniadau ymestyn a chwestiynu effeithiol yn cael eu hawgrymu'n aml yn y nodiadau o fewn y PowerPoint i athrawon/hyfforddwyr eu defnyddio yn ôl yr angen.

  3. Nodau’r dysgwyr • Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r egwyddorion sylfaenol sy’n gysylltiedig â’r broses o ‘gynilo arian’. • Bydd dysgwyr yn gallu: • deall bod gwahanol ffyrdd o gynilo • gwerthfawrogi egwyddorion sylfaenol cynilo arian • disgrifio rhai manteision tymor byr a thymor hir cynilo • adnabod prif nodweddion cyfrif cynilo a’r camau sy’n rhaid eu cymryd i agor cyfrif • deall y gall ennill llog helpu cynilion i dyfu • cyfrifo a chymharu llog syml ac adlog • gwerthfawrogi’r risgiau sy’n gysylltiedig â gwahanol ffyrdd o gynilo a buddsoddi. • Gellir defnyddio’r modiwl hwn ar draws cyfnodau allweddol – ni fydd pob deilliant yn gymwys i bob dysgwr.

  4. Cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh a gweld ble mae ‘deall egwyddorion cynilo arian’ yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru.Mae deilliannau dysgu sy’n gysylltiedig a chynilo wedi’u marcio mewn teip trwm yn y tabl.

  5. Mae’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr fod yn gymwys wrth reoli eu harian, cynllunio ar gyfer y dyfodol a gwybod ble a sut i gael cyngor ariannol. Nod y modiwl hwn yw mynd i'r afael â hyn yng nghyd-destun deall egwyddorion sylfaenol cynilo a buddsoddi arian.

  6. Y cwestiwn mawr Beth yw cynilo?

  7. Lleoedd a ddefnyddiwn i gynilo ein harian Gweithgaredd cychwynnol: Allwch chi enwi rhai lleoedd lle y gallwch chi gynilo eich arian?

  8. Mewn sêff Pwrs neu waled Cymdeithas adeiladu Undeb credyd Cadw-mi-gei O dan y gwely Mewn jar Banc Swyddfa’r Post Lleoedd a ddefnyddir i gynilo ein harian

  9. Manteision cynilo arian Gweithgaredd cychwynnol: Pam mae pobl yn cynilo arian? Pam mae cynilo yn ddewis arall da i fenthyca arian?

  10. Taith ysgol I gael y teclyn diweddaraf, e.e. ffôn clyfar Gwersi gyrru Prifysgol Prynu offer i'r cartref Prynu dillad drud Blaendal ar gyfer tŷ Stampiau cynilo archfarchnad Priodas Gwyliau i'r teulu Prynu anrheg ar gyfer achlysur arbennig Prynu car/sgwter cyntaf Rhesymau dros gynilo arian

  11. Gweithgareddau cynilo

  12. Gweithgaredd 1 Adnodd: Taflen weithgaredd rheoli arian: Cynilo Gweithgaredd: Mae’r gweithgaredd wedi’i anelu at ddysgwyr iau ac mae’n atgyfnerthu rhai o’r syniadau cychwynnol/trafod blaenorol. Mae’n ceisio annog dysgwyr i feddwl am yr hyn y gallen nhw wario arian arno, cynilo ar ei gyfer a ble y gallan nhw gynilo eu harian.

  13. Gweithgaredd 2 Adnoddau: Taflen weithgaredd rheoli arian: Un tro Gweithgaredd: Mae’r dysgwyr yn darllen hysbyseb ffugiol ond realistig ar gyfer cyfrif cynilo plant ac yn ateb y cwestiynau.

  14. Gweithgaredd 3 Adnodd:Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Lawrlwytho’r adnodd yn http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?skip=1&lang=cy Gweithgaredd: Wedi gwneud yn erbyn heb wneud Dylai Testun 2, ‘Cynilo ar gyfer y dyfodol’ (tudalennau 22–27), gael ei ddefnyddio gyda Thaflen adnoddau 1 ategol o’r enw ‘Wedi gwneud yn erbyn heb wneud’ (tudalennau 17–19).

  15. Gweithgaredd 3 Wedi gwneud yn erbyn heb wneud Mae’r adnodd yn rhoi chwe senario i’r dysgwyr am grŵp o bobl ifanc sy’n gwario ac yn cynilo. Mae’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 a 4. Mae’r pecyn cymorth yn rhoi syniadau gwersi manwl sy’n dangos sut i gyflwyno’r gweithgaredd i’r dysgwyr.

  16. Cyfrifon cynilo:Beth i edrych amdano Mae nifer o gyfrifon gwahanol gyda nifer o nodweddion gwahanol i bobl ifanc. Gan weithio mewn grwpiau, gall dysgwyr gael yr wybodaeth y mae ei hangen arnyn nhw am agor cyfrif cynilo. Oedran? Mynediad? Isafswm adneuon? Cyfradd llog?

  17. Cyfrifon cynilo: Beth i edrych amdano

  18. Gweithgaredd 4 Adnodd:Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Lawrlwytho’r adnodd yn http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?skip=1&lang=cy Gweithgaredd: Ei dalu i mewn Dylai Testun 2, ‘Cynilo ar gyfer y dyfodol’ (tudalennau 22–27) gael ei ddefnyddio gyda Thaflen adnoddau 3 ategol o’r enw ‘Cardiau cwsmeriaid’ (tudalennu 21–22).

  19. Gweithgaredd 4 Ei dalu i mewn Yn y gweithgaredd hwn, bydd dysgwyr yn trafod neu’n chwarae rôl yn agor cyfrif cynilo gan adnabod y nodweddion allweddol. Mae’r pecyn cymorth yn rhoi syniadau gwersi manwl ar sut i gyflwyno’r gweithgaredd. Bydd angen taflenni cyfrif neu wybodaeth ar-lein argraffiadwy ar ddysgwyr ar gyfer amryw o gyfrifon cynilo (neu fynediad i’r rhyngrwyd i ymchwilio eu hunain) o sawl fanc neu ddarparwr arall, megis cymdeithasau adeiladu neu undebau credyd. Fel arall i wneud cymhariaeth cynilo ewch i https://compare.moneyadviceservice.org.uk/savings?language=cy

  20. Rhai mathau o gynhyrchion cynilo i bobl ifanc Gweithgaredd trafod: Beth ydych chi’n ei wybod am y mathau canlynol o gynilion? Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) Iau Arian Parod Cronfa Ymddiriedolaeth Plant Bondiau Plant I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ac ISAs Iau Arian Parod (Saesneg yn unig) ewch i www.direct.gov.uk/childtrustfund a www.direct.gov.uk/juniorisa I gael rhagor o wybodaeth am fondiau plant to www.moneyadviceservice.org.uk/cy/articles/bondiau-bonws-plant

  21. Cynilo neu fuddsoddi?Ydych chi'n gwybod y gwahaniaeth? Cynilo Buddsoddi Defnyddio arian drwy brynu pethau a allai gynyddu mewn gwerth, fel eiddo, stociau neu gyfranddaliadau mewn cronfa. Rhoi arian o’r neilltu i wneud lwmp-swm, ar gyfer ‘diwrnod glawog’ neu nod tymor byr megis prynu eitem ddrud.

  22. Gweithgaredd 5 Un o ddeilliannau dysgu Blwyddyn 9 yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh yw ‘deall y risgiau sy’n gysylltiedig â gwahanol ffyrdd o gynilo a buddsoddi’. Mae Gweithgaredd 5 yn rhannu rhai syniadau y gallech chi eu dewis i gefnogi hyn. Gweithgareddau cychwynnol: Gemau paru cardiau cynilion a buddsoddiadau Argraffwch Adnodd 1 ac Adnodd 2 sydd ar gael o fewn y modiwl hwn.

  23. Risg ac enillion Risg Enillion • Mae risg yn enw arall ar gyfer siawns ac ansicrwydd. Enghreifftiau o fathau o risg: • efallai na fydd cyfradd llog a gytunwyd yn werth da yn y dyfodol • gall buddsoddiad ostwng mewn gwerth. Enillion yw swm yr arian rydych chi’n ei gael yn ôl ar y buddsoddiad rydych chi wedi’i wneud. Bydd enillion uwch yn golygu buddsoddiadau gyda mwy o risg yn aml. Cofiwch: ‘os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg o fod’.

  24. Risg ac enillion Mae Cerys a Rhys yn penderfynu buddsoddi £400 yr un. O’r wybodaeth isod, pwy sy’n cael yr enillion gorau ar eu harian? Ar ôl blwyddyn: Cerys £400 wedi lleihau gan 5% Rhys £400 wedi cynyddu gan 15% Cyfrifwch y gwahaniaeth rhwng swm yr arian sydd gan bob un ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r math hwn o gwestiwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr weld nad yw arian yn cael ei ennill wrth fuddsoddi bob tro.

  25. Risg ac enillion Gweithgaredd trafod: Mae Mr Jones yn buddsoddi ei arian drwy brynu tai rhad a’u hailwerthu am fwy na’r hyn y talodd amdanyn nhw a chost y gwelliannau. Mae Mr Evans yn buddsoddi ei arian drwy brynu aur ac yna ei werthu pan fydd y pris yn codi. Allwch chi feddwl am ffyrdd eraill o fuddsoddi? Allwch chi ddisgrifio mantais ac anfantais pob un o’r senarios uchod?

  26. Risg ac enillion Un o ddeilliannau dysgu Blwyddyn 9 yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh yw ‘deall y risgiau sy'n gysylltiedig â gwahanol ffyrdd o gynilo a buddsoddi’. Mae un cyfle i helpu i addysgu hyn i’w weld ar y wefan Risgiau a Gwobrwyon (Saesneg yn unig)y gallwch ei gyrchu yn www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=50874&lang=en Mae’r adnodd hwn yn cwmpasu ystod o ddeunyddiau, o edrych ar rôl y banciau i wahanol fathau o fuddsoddiadau. Mae’r deunyddiau yn cael eu darparu mewn amryw o ffurfiau megis cartwnau, gemau, fideo, ymarferion sain a thestun ysgrifenedig. Gall yr adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i athrawon mathemateg, ABCh, hanes, astudiaethau busnes ac economeg o Gyfnod Allweddol 2 i ôl-16.

  27. Mae'r elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh yn cynnwys y deilliannau dysgu canlynol. • Blwyddyn 8: • Gwneud cyfrifiadau mewn perthynas â [TAW,] cynilo [a benthyca]. • Gwerthfawrogi egwyddorion sylfaenol [cyllidebu,] cynilo (gan gynnwys deall adlog) a benthyca. • Ymestyn: • Defnyddio a deall dulliau effeithlon o gyfrifo adlog. • Mae cwestiynau yn seiliedig ar y deilliannau dysgu hyn yn debygol o gael eu gwneud mewn gwersi mathemateg. • Mae’r sleidiau nesaf yn cynnwys diffiniad o log syml ac adlog, cyfrifiadau a dau declyn ar-lein rhyngweithiol y gall dysgwyr eu defnyddio i’w helpu i gyfrifo adlog.

  28. Llog syml ac adlog Gweithgaredd cychwynnol: Llenwch y geiriau sydd ar goll. Mewn cyfrif cynilo mae swm yr arian a enillir yn cael ei alw’n …………. Swm yr arian gwreiddiol sy’n cael ei adneuo yw ………… Mae llog a enillir ar y prif swm yn unig yn cael ei alw’n ……….…… Mewn cyfrif cynilo, ………….. yw pan fydd y banc yn talu llog ar y prif swm a’r llog sydd eisoes wedi’i ennill. prif swm llog llog syml adlog

  29. Llog syml ac adlog Atebion Mewn cyfrif cynilo mae swm yr arian a enillir yn cael ei alw’n . Swm yr arian gwreiddiol sy’n cael ei adneuo yw’r . Mae llog a enillir ar y prif swm yn unig yn cael ei alw’n . Mewn cyfrif cynilo, yw pan fydd y banc yn talu llog ar y prif swm a’r llog sydd eisoes wedi’i ennill. llog prif swm llog syml adlog

  30. Cyflwyniad i gyfrifo llog syml Mae Sophie yn talu £300 i gyfrif cynilo ac mae’n ei adael yno am 4 blynedd i’w wylio’n tyfu. Mae’r banc yn cynnig cyfradd o 5% llog syml y flwyddyn. (Mae hyn yn golygu y bydd y banc yn talu Sophie 5% o’r arian y mae hi wedi’i fuddsoddi.) Cwestiynau: Faint o log oedd Sophie wedi’i ennill? Faint o arian sydd gan Sophie yn ei chyfrif cynilo ar ddiwedd y 4 blynedd?

  31. Cyflwyniad i gyfrifo llog syml 1. Faint o log oedd Sophie wedi’i ennill? 10% o £300 = £30 5% = £15 Mae Sophie yn cael £15 y flwyddyn, felly mewn 4 blynedd 4 x 15 = £60 enillodd Sophie £60 o log 2. Faint o arian sydd gan Sophie yn ei chyfrif cynilo ar ddiwedd y 4 blynedd? Cyfanswm = prif swm + llog = £400 + £60 = £460

  32. Enghraifft mathemateg Mae gan Nia £600 i’w fuddsoddi mewn cyfrif cynilo. Mae’n bwriadu gadael yr arian yn y cyfrif am 2 flynedd, heb ychwanegu rhagor neu dynnu unrhyw arian. Mae’n dewis rhwng y cyfrifon hyn. Bond 2 flynedd: Mae’n talu 4% llog syml bob blwyddyn Cyfrif cynilo: 3% llog yn cael ei dalu bob blwyddyn a’i ychwanegu at y cyfrif cynilo Llog syml Adlog

  33. Bond 2 flynedd: Mae’n talu 4% llog syml bob blwyddyn Cyfrif cynilo: Llog 4% yn cael ei dalu bob blwyddyn a’i ychwanegu at swm y cynilion Ateb 400 x 0.04 = £16 Ymhen 2 flynedd: £16 x 2 = £32 llog a enillwyd Ateb Blwyddyn 1af: £400 x 0.04 = £16 2il flwyddyn: £416 x 0.04 = £16.64 llog a enillwyd = £32.64 Dylai Nia fuddsoddi ei harian yn y cyfrif cynilo oherwydd mae’n ennill £0.64 mwy o log.

  34. Offer rhyngweithiol Gallai'r dysgwyr ddefnyddio cyfrifiannell cynilo ar-lein rhyngweithiol i ymchwilio i effaith adlog. Mae dwy enghraifft o offer ar-lein y gellir eu defnyddio i'w gweld ar y sleidiau nesaf.

  35. www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/VTC/ngfl/maths/r_davies/compound_calc/Chanrannau%20Calc.htmwww.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/VTC/ngfl/maths/r_davies/compound_calc/Chanrannau%20Calc.htm

  36. www.moneymatterstome.co.uk/Interactive-Tools/GeneralInterestCalculator.htmwww.moneymatterstome.co.uk/Interactive-Tools/GeneralInterestCalculator.htm

  37. Gall dysgwyr fynd i • www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/VTC/ngfl/maths/r_davies/compound_calc/Chanrannau%20Calc.htm • Mae’r gweithgaredd rhyngweithiol dwyieithog yn rhoi cyfle i ddysgwyr newid pedwar newidyn: • gwerth cychwynnol (prif swm) • buddsoddiad blynyddol (taliadau blynyddol) • cyfnod (cyfnod o amser mewn blynyddoedd) • cynnydd blynyddol (cyfradd llog). • Gall dysgwyr ddefnyddio’r offer rhyngweithiol i gymharu’r effaith y mae newid y newidynnau wedi’i chael ar gyfanswm yr arian yn y cyfrif cynilo. (Sylwch: mae’r swm terfynol hwn yn cael ei dalgrynnu i’r bunt agosaf.)

  38. Gall dysgwyr fynd i www.moneymatterstome.co.uk/Interactive-tools/GeneralInterestCalculator.htm. • Mae’r gweithgaredd rhyngweithiol hwn yn (Saesneg yn unig) rhoi cyfle i ddysgwyr newid pedwar newidyn: • lwmp-swm (prif swm) • cyfradd llog • cyfnod cynilo (cyfnod o amser mewn misoedd) • taliadau misol. • Mae’r offer rhyngweithiol yn rhoi cyfle i ddysgwyr gael eu cyflwyno i’r un fethodoleg â’r offer ar-lein blaenorol ond gan ddefnyddio geirfa wahanol. Mae’n rhoi cyfle iddyn nhw ddefnyddio gwerthoedd degol fel cyfraddau llog ac mae’r cyfnod cynilo yn cael eu cyflwyno mewn misoedd.

  39. Cyfrifo llog syml ac adlog Gweithgaredd ymestyn: Defnyddiwch yr offer rhyngweithiol (neu ddull cyfrifyddu effeithiol i gyfrifo adlog) i gymharu sut mae twf mewn cyfrif cynilo gydag adlog yn wahanol i’r twf mewn cyfrif gyda llog syml. Ceisiwch annog y dysgwyr i gyflwyno eu cyfrifiadau mewn tablau ac mewn graff addas. Rhowch gyfle iddyn nhw benderfynu ar y prif swm, buddsoddiad blynyddol (gall fod yn sero os na fydd unrhyw arian yn cael ei ychwanegu at y cyfrif) a chyfradd llog. Gall dysgwyr gymharu sut mae’r ddau fath o gynilion wedi tyfu dros bum mlynedd.

  40. Bwriad y ddogfen hon yw helpu athrawon i gydnabod a hyrwyddo uwch sgiliau mathemategol o fewn Cyfnod Allweddol 3 a hyd at Gyfnod Allweddol 4. Mae’n rhoi enghreifftiau o waith y dysgwyr ynghyd â sylwadau sy’n tynnu sylw at nodweddion uwch sgiliau mathemategol. Mae tudalennau 59–62 yn dangos enghraifft o waith y dysgwyr gan gymharu llog syml ac adlog.

  41. The Money Charity Mae The Money Charity (Credit Action yn gynt) yn elusen addysg arian yn y DU sy’n helpu pobl ifanc i reoli eu harian. I gael rhagor o wybodaeth (Saesneg yn unig) ewch i www.themoneycharity.org.uk Mae’r wefan hefyd yn cyflwyno modiwlau gwaith i ddysgwyr o Gyfnod Allweddol 3 i fyny sy’n helpu addysgwyr ysgolion uwchradd yn benodol i addysgu eu dysgwyr am addysg ariannol. I weld y deunyddiau (Saesneg yn unig) ewch i http://themoneycharity.org.uk/workshops-training/schools-colleges/

  42. Adding up to a lifetime Adnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 i 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl: • Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn) • Bywyd gwaith • Perthnasoedd • Bywyd newydd • Ymddeoliad egnïol. www.addinguptoalifetime.org.uk Mae amrywiaeth o bynciau rheoli arian wedi’i chynnwys. Mae adran ym Modiwl 1 ar gynilo. Mae tiwtorial sain gyda phob modiwl y gallwch wrando arno yn Gymraeg neu yn Saesneg.

  43. Gwefannau ac adnoddau • http://themoneycharity.org.uk/workshops-training/schools-colleges/ Offerynnau a chyngor cyllidebu ar gyfer pobl ifanc. • www.barclaysmoneyskills.com Syniadau, gweithgareddau ac adnoddau i bobl ifanc am gynilo a buddsoddi. • www.rbsmoneysense.co.uk/schools Rhaglen ryngweithiol am ddim sy’n rhoi sgiliau i ddysgwyr allu rheoli eu harian. • www.nationwideeducation.co.uk Sgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau* a thaflenni gwaith* i ddysgwyr 4 i 18 oed a hŷn (adnoddau argraffiadwy a gemau ar-lein). *Fersiynau Cymraeg ar gael. • www.pfeg.org Mae pfeg (Personal Finance Education Group) yn elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o adnoddau i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. Gweler enghreifftiau megis ‘My Money Mathematics Resources’, ‘Money Works: It’s your business’ a ‘Learning about Money in the Primary Classroom’ sy’n berthnasol i’r modiwl hwn ar gynilo a buddsoddi.

  44. Gwefannau ac adnoddau • www.moneyadviceservice.orgCyngor a chanllawiau ar-lein am ddim ar bynciau arian. Llyfrynnau am ddim ar gael: gweler yr un sy’n berthnasol i’r modiwl hwn o’r enw ‘Saving and investing’. • www.direct.gov.uk/childtrustfund a www.direct.gov.uk/juniorisa I gael rhagor o wybodaeth am gynhyrchion cynilo. • www.risksandrewards.org.uk Mae’r safle yn cwmpasu ystod o ddeunyddiau, o edrych ar rôl banciau i wahanol fathau o fuddsoddiadau sy’n addas ar gyfer dysgwyr Cyfnodau Allweddol 2–5. • www.addinguptoalifetime.org.uk Rhaglen ryngweithiol ar-lein i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 i ôl-16. • www.moneymatterstome.co.uk/Interactive-Tools/GeneralInterestCalculator.htm Cyfrifiannell ar-lein ryngweithiol i ymchwilio i effeithiau adlog. • www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/VTC/ngfl/maths/r_davies/compound_calc/Chanrannau%20Calc.htmOffer ar-lein rhyngweithiol dwyieithog i gyfrifo effaith adlog.

More Related