1 / 25

ALEXANDER FLEMING

ALEXANDER FLEMING. Ei enw oedd Fleming. Roedd e’n ffermwr tlawd yn byw yn yr Alban. Un diwrnod, pan oedd wrth ei waith, clywodd rywun yn galw am help o gors gerllaw. Gadawodd ei waith, a rhedodd tuag at y gors.

fonda
Télécharger la présentation

ALEXANDER FLEMING

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. ALEXANDER FLEMING

  2. Ei enw oedd Fleming. Roedd e’n ffermwr tlawd yn byw yn yr Alban. Un diwrnod, pan oedd wrth ei waith, clywodd rywun yn galw am help o gors gerllaw. Gadawodd ei waith, a rhedodd tuag at y gors.

  3. Yno, roedd bachgen ifanc, yn sownd yn mwd hyd at ei ganol. Roedd ofn mawr arno, ac roedd e’n sgrechian wrth iddo drio dod yn rhydd. Achubodd Fleming y bachgen. Pe na bai Fleming yno byddai’r bachgen wedi marw yn araf ac mewn poen mawr.

  4. CORS

  5. Y diwrnod wedyn, cyrhaeddodd cerbyd mawr wrth gartref tlawd Fleming. O’r cerbyd daeth uchelwr wedi’i wisgo’n grand a dywedodd mai ef oedd tad y bachgen yr oedd Fleming wedi’i achub. ‘Rwyf am dy wobrwyo di am achub bywyd fy mab’ ebe’r uchelwr.

  6. A ‘Na, fedra i ddim derbyn tal am yr hyn wnes i’, dywedodd Fleming. Y foment honno sylwodd yr uchelwr ar fachgen ifanc yn chwarae y tu allan i fwthyn y ffermwr. ‘Ai dy fachgen di yw hwnna?’ gofynnodd. ‘Ie’ ebe Fleming, gan edrych yn falch ar ei fab.

  7. ‘Gad i fi daro bargen a thi’ ebe’r uchelwr. ‘Gad i fynd ag e, ac fe wna i’n siwr ei fod yn cael yr addysg orau posib. Os bydd yn debyg i’w dad fe wnaiff dyfu i fod yn ddyn y gellir bod yn falch ohono. ."

  8. A dyna ddigwyddodd. Ymhen amser graddiodd mab y ffermwr o’r Alban o Ysgol Feddygol Ysbyty’r Santes Fair yn Llundain. Daeth yn enwog ar draws y byd fel Syr Alexander Fleming, y dyn a wnaeth ddarganfod penisilin.

  9. Beth yw PENISILIN ? Math o wrthfiotig yw penisilin. Daeth Alexander Fleming ar ei draws yn tyfu ar lwydni. Sylweddolodd bod penisilin yn gallu lladd sawl math o facteria a germau a oedd yn lladd pobl ar yr adeg honno. Cafodd penisilin ei adnabod fel cyffur gwyrthiol.

  10. Flynyddoedd yn ddiweddarch roedd niwmonia ar fab yr uchelwr. Beth achubodd ei fywyd? Penisilin. Enw’r uchelwr – Yr Arglwydd Randolph Churchill. Enw ei fab? Syr Winston Churchill.

  11. Yr Arglwydd Randolph Churchill

  12. Syr Winston Churchill 1874 - 1965

  13. Prif Weinidog Prydain 10 Mai 1940 – 27 Gorffennaf 1945

  14. Yn 2002 pleidleisiwyd mai Winston Churchill oedd y Prydeiniwr pwysicaf erioed

  15. Rydym yn creu bywoliaeth drwy’r hyn a gawn, ond rydym yn creu bywyd drwy’r hyn a rown.

More Related