1 / 40

ADOLYGU GRAMADEG

ADOLYGU GRAMADEG. Cwestiynau. Bydd TRI chwestiwn i’w ateb: Creu brawddegau yn cynnwys berfau , priod-ddulliau, rhagenw perthynol o flaen berf, cymalau a negyddu. Cywiro gwallau mewn brawddegau – bydd dau wall ymhob brawddeg. Cywiro ymadroddion a’u defnyddio mewn brawddegau.

gelsey
Télécharger la présentation

ADOLYGU GRAMADEG

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. ADOLYGU GRAMADEG

  2. Cwestiynau Bydd TRI chwestiwn i’w ateb: • Creu brawddegau yn cynnwys berfau, priod-ddulliau, rhagenw perthynol o flaen berf, cymalau a negyddu. • Cywiro gwallau mewn brawddegau – bydd dau wall ymhob brawddeg. • Cywiro ymadroddion a’u defnyddio mewn brawddegau.

  3. Cwestiwn 1 Mae’n hanfodol bwysig gyda’r cwestiwn yma eich bod yn edrych yn ofalus ar derfyniad y ferf er mwyn gweld pa berson a pha amser sydd eisiau: cysgai gwelodd caiff darllenem * RHAID dysgu terfyniadau’r berfau*

  4. Tag amser Mae’n hanfodol bwysig defnyddio TAG AMSER yn y brawddegau y byddwch yn eu creu: Presennol: heddiw, ar hyn o bryd, rwan Gorffennol: ddoe, llynedd, fis diwethaf Amherffaith: ers talwm, flynyddoedd yn ôl

  5. Amser Amherffaith Gysa’r amser AMHERFFAITH, mae angen rhoi tag arferiadol yn ogystal: -wn (Roeddwn i’n arfer…) cysgwn i -et (Roeddet ti’n arfer…) cysget ti -ai (Roedd o/hi’n arfer…) cysgai o/hi -em (Roedden ni’n arfer…) cysgem ni -ech (Roeddech chi’n arfer…) cysgech chi -ent (Roedden nhw’n arfer…) cysgent hwy cysgen nhw

  6. Ymarfer creu Cofiwch edrych ar derfyniad y ferf a chofiwch ddefnyddio TAG AMSER derbyniodd cerddai caiff gwelais gwisgem darllenwn i

  7. Berf amhersonol Mae’n bwysig ein bod yn adnabod y berfau amhersonol. Y trefyniadau yw: -ir -wyd -id cenir – mae rhywbeth yn cael ei ganu canwyd– mae rhywbeth wedi cael ei ganu cenid – roedd rhywbeth yn arfer cael ei ganu

  8. Berf amhersonol Wrth greu brawddeg yn defnyddio berf amhersonol, rhaid cofio NID OES GODDRYCH I FERF AMHERSONOL Mae’n syniad da i ddefnyddio GAN yn y frawddeg e.e. Ddoe yn yr ysgol gwelwyd yr ymrafael gan nifer o ddisgyblion

  9. Y rheol ydy: PEIDIWCH Â DILYN BERF AMHERSONOL GYDAG ENW PERSON e.e. Sonir y bardd yn ei gerddi… Goddrych – felly’n anghywir

  10. Beth am greu? cafwyd cenir ysgrifennid chwaraewyd gwelir edrychid

  11. Negyddu cymal enwol Mae’n fwy na thebyg y bydd gofyn i chi greu brawddeg yn NEGYDDU CYMAL. Y gyfrinach yw CREU PRIF GYMAL SYML ar ddechrau’r frawddeg. Does dim angen brawddeg gymhleth!

  12. Enghreifftiau nad ydy Clywodd Sionnad ydy o wedi llwyddo i gael lle yn y coleg ym mis Medi. Prif gymal syml

  13. nad oedd Dywedodd Sionnad oedd o wedi llwyddo i gwblhau ei waith cartref. Prif gymal syml

  14. nad ydym Rwyf yn siomedignad ydym ni’n cael defnyddio ein nodiadau i ateb y cwestiwn hwn! Prif gymal syml

  15. Beth am greu? nad ydw i na fyddwn ni nad oedd o nad ydym ni nad oedden nhw nad ydy o

  16. Brawddeg yn cynnwysCYMAL PERTHYNOL • Mae CYMAL PERTHYNOL yn dweud mwy wrthym ni am y goddrych yn y frawddeg e.e. Dyma’r ferch a enillodd y brif wobr • Mae CYMAL PERTHYNOL yn cychwyn gyda’r rhagenw perthynol ‘a’ neu’r negyddol ‘na’

  17. Sut i greu brawddeg? Y gyfrinach yw CREU PRIF GYMAL SYML Dywedodd y fercha oedd yn eistedd yng nghefn y dosbarth, ei bod wedi gorffen ei gwaith. Prif gymal syml

  18. Prif gymal syml Dywedodd y bachgenna lwyddodd i ennill lle yn y coleg, ei fod yn hynod siomedig.

  19. Beth am roi cynnig arni? a welodd na chlywodd a dderbyniais na orffennodd

  20. Defnyddio IDIOM mewn brawddeg Wrth lunio brawddeg gydag IDIOM neu BRIOD-DDULL, sicrhewch fod ystyr yr idiom / priod-ddull yn hollol glir. e.e. talu’n hallt Credaf fod Cai wedi talu’n halltam ei noson o ffolineb yn y dafarn nos Sadwrn gan fod ei wraig wedi ei adael y diwrnod canlynol!

  21. Cwestiwn 2 Byddwch yn cael pum brawddeg i’w cywiro. Mae’n rhaid darllen y brawddegau’n ofalus er mwyn ceisio darganfod y gwallau. Gall y gwallau fod yn unrhywbeth! Dylid ceisio esbonio mor ramadegol â phosibl ac mae angen llunio tair colofn daclus er mwyn ateb y cwestiwn hwn: GwallCywiriad Esboniad

  22. Pa fath o wallau? Mae’n bwysig ystyried pa fath o wallau sy’n bosibl: • Enw • Ansoddair • Arddodiad • Rhagenw • Berf • Negyddu Cymal • Camsillafu • Cymysgu geiriau tebyg • Cyfieithu llythrennol o’r Saesneg • Mynegi perthynas …of the Gweler taflen waith ADOLYGU

  23. Gwall treiglo Gan amlaf, mae treiglad yn cael ei achosi gan y gair sy’n dod o’i flaen e.e. fy cath > fy nghath dy trwyn > dy drwyn ei pen > ei ben ei troed > ei throed Yr hyn sy’n bwysig felly, yw gwybod yn union pa fath o air sy’n dod o flaen y treiglad. Yma RHAGENW DIBYNNOL BLAEN yw pob enghraifft uchod. Mae’r math o dreiglad yn wahanol ar ôl bob un ohonynt.

  24. Ydych chi’n adnabod rhain? Y FANNOD y yr ‘r am, ar, at fy, dy, ei a neu a / y (o flaen berf) ARDDODIAD RHAGENW DIBYNNOL BLAEN CYSYLLTAIR RHAGENW PERTHYNOL

  25. Dyma’r dyn yr enillodd y fedal arian am Gymru. yr enillodd > a enillodd Angen y rhagenw perthynol ‘a’ ar ddechrau’r cymal perthynol am Gymru > i Gymru Angen yr arddodiad ‘i’ yma

  26. Mae’r merch yn cyfleu ei teimladau’n eglur. Mae’r merch > Mae’r ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod ei teimladau > ei theimladau Angen teiglad llaes ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ benywaidd

  27. Cyhoeddir y bardd nifer o cyfrolau’n flynyddol. Cyhoeddir y bardd > Cyhoedda’r bardd Nid oes goddrych i ferf amhersonol. Angen berf bersonol person 1af presennol y ferf ‘cyhoeddi’. nifer o cyfrolau > nifer o gyfrolau Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘o’

  28. Yn gwlad Groeg mae fy brawd yn byw. Yn gwlad > Yng ngwlad Angen treiglad trwynol ar ôl yr arddodiad ‘yn’ fy brawd > fy mrawd Angen treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘fy’

  29. Cerddodd bob dydd i’r ysgol ar ben ei hun. Cerddodd > Cerddai Mae angen y ferf yn yr amser amherffaith er mwyn cyfleu yr arferiadol. Terfyniad y 3ydd person unigol gorffennol yw ‘–odd’ ar ben ei hun > ar ei ben ei hun Angen y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ o flaen y gair ‘ben’ yn yr idiom

  30. Bydd ei mham yn gwrthod â mynd i siopa. ei mham > ei mam Mae’n ymddangos yma fod ‘mam’ wedi ei dreiglo’n drwynol. Dydy’r llythyren ‘m’ ddim yn treiglo’n drwynol. Yr unig ddau dreiglad all ddigwydd ar ôl y rhagenw dibynnol blaen yw meddal neu llaes. gwrthod â mynd > gwrthod mynd Does dim angen yr arddodiad ‘â’ ar ôl y ferf ‘gwrthod’

  31. Darllenodd y plant bob dydd bennod allan o’r nofel. Darllenodd > Darllenai Angen y ferf yn yr amser amherffaith er mwyn cyfleu yr arferiadol. Terfyniad y 3ydd person unigol amherffaith yw ‘-ai’ bennod allan o’r nofel > bennod o’r nofel Cyfeithiad llythrennol o’r Saesneg

  32. Gwelodd ei frawd pob nos yn neuadd y pentref ers talwm. Gwelodd > Gwelai Angen y ferf yn yr amser amherffaith yn hytrach na’r gorffennol er mwyn cyfleu yr arferiadol pob nos > bob nos Angen treiglad meddal yn y cyflwr adferfol

  33. Os ydych wedi darllen ef, yna rwyt ti’n gwybod pam fy mod yn poeni. wedi darllen ef > wedi ei ddarllen Angen y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ o flaen y ferf ‘darllen’, ac mae hyn yn achosi treiglad meddal i’r ferf rwyt ti’n gwybod > rydych chi’n gwybod Angen yr 2il berson lluosog y ferf yn hytrach na’r 2il unigol

  34. Os byddai Sian yn yr ysgol yn amlach, byddai’n gallu gorffen ei waith. Os byddai > Pe byddai Angen defnyddio ‘pe’ o flaen y ferf ar ddechrau brawddeg i gyfleu’r amodol. ei waith > ei gwaith Does dim treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ benywaidd

  35. Pan yn cerdded i’r ysgol gwelodd Sion damwain. Pan yn cerdded > Tra’n cerdded Rhaid dilyn y gair ‘pan’ gyda berf, ac felly angen yr adferf ‘tra’ yma gwelodd Sion damwain > gwelodd Sion ddamwain Gwrthrych y ferf yn treiglo’n feddal

  36. Cwestiwn 3 Bydd angen ail ysgrifennu paragraff a fydd yn cynnwys 10 gwall, yn gywir. Bydd angen tanlinellu pob gwall a gywirir.

  37. Pwyntiau pwysig • Darllen y paragraff yn ofalus • Tanlinellu pob gwall • Ail ysgrifennu’r darn yn bwyllog • Tanlinellu’r hyn a fydd wedi ei gywiro • Bydd 10 gwall i gyd

  38. Mewn llyfrgell ym Mhontypridd y cawswn i fy mhrofiad gwaith ac roeddwn ar ben fy myd yno. Cefais fy ngofyn gan y llyfrgellydd i chwilio am i gyd o’r llyfrau ar hanes lleol. Roeddwn i yn ofn mynd i mewn i’r stordy i chwilio am y llyfrau hyn. Yn ffodus ‘rwyf yn mwynhau darllen llyfrau ar y pwnc hwn. Chwiliaswn am lyfr yn sôn am ein anthem genedlaethol gan fod Evan a James James wedi byw ym mhentref Trehopcyn ger Pontypridd. Yn y llyfr hwnnw darllennais am y tro cyntaf y tri pennill sydd bia’r anthem…

  39. Mewn llyfrgell ym Mhontypridd y cawswn i fy mhrofiad gwaith ac roeddwn ar ben fy myd yno. Cefais fy ngofyn gan y llyfrgellydd i chwilio am i gyd o’r llyfrau ar hanes lleol. Roeddwn i yn ofn mynd i mewn i’r stordy i chwilio am y llyfrau hyn. Yn ffodus ‘rwyf yn mwynhau darllen llyfrau ar y pwnc hwn. Chwiliaswn am lyfr yn sôn am ein anthem genedlaethol gan fod Evan a James James wedi byw ym mhentref Trehopcyn ger Pontypridd. Yn y llyfr hwnnw darllennais am y tro cyntaf y tri pennillsydd bia’r anthem…

  40. Mewn llyfrgell ym Mhontypridd y cefais i fy mhrofiad gwaith ac roeddwn wrth fy modd yno. Gofynodd y llyfrgellydd i mi chwilio am yr holl lyfrau ar hanes lleol. Roeddwn i yn ofni mynd i mewn i’r stordy i chwilio am y llyfrau hyn. Yn ffodus ‘rwyf yn mwynhau darllen llyfrau ar y pwnc hwn. Chwiliais am lyfr yn sôn am ein hanthem genedlaethol gan fod Evan a James James wedi byw ym mhentref Trehopcyn ger Pontypridd. Yn y llyfr hwnnw darllenais am y tro cyntaf y tri phennill sydd yn yr anthem…

More Related