1 / 24

Teyrnas Unedig, Amlddiwylliannol

Teyrnas Unedig, Amlddiwylliannol. Beth sy’n dylanwadu ar bwy ydym ni?. Mae llawer o bethau yr ydym yn ystyried i fod yn rhan o ffordd o fyw y DU. Ond a yw’r pethau hyn yn wirioneddol Brydeinig? Mae’r 10 sleid nesaf yn dangos lluniau o wahanol wledydd. Mae’n rhaid i chi adnabod pob glwad.

malaya
Télécharger la présentation

Teyrnas Unedig, Amlddiwylliannol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Teyrnas Unedig, Amlddiwylliannol

  2. Beth sy’n dylanwadu ar bwy ydym ni? • Mae llawer o bethau yr ydym yn ystyried i fod yn rhan o ffordd o fyw y DU. Ond a yw’r pethau hyn yn wirioneddol Brydeinig? • Mae’r 10 sleid nesaf yn dangos lluniau o wahanol wledydd. Mae’n rhaid i chi adnabod pob glwad.

  3. Gwlad 1

  4. Gwlad 2 Minerals

  5. Gwlad 3

  6. Gwlad 4 Herbal Remedies

  7. Gwlad 5

  8. Gwlad 6

  9. Gwlad 7

  10. Gwlad 8

  11. Gwlad 9

  12. Gwlad 10

  13. 1 Ffrainc 2 Twrci 3 UDA 4 Tsieina 5 Yr Aifft 6 Yr Eidal 7 Israel 8 Cenia 9 India 10 Siapan Atebion

  14. Cymunedau a Hunaniaethau • Mae bod yn rhan o gymuned yn rhoi’r teimlad o berthyn i chi. Mae pobl fel arfer yn perthyn i nifer o wahanol gymunedau, ac mae’r rhain yn helpu i siapio ein hunaniaeth, y ffordd yr ydym yn gweld ein hunain. • Rydym yn rhan o gymuned leol – ein cymdogaeth – ac rydym hefyd yn rhan o gymunedau mwy (megis dinas, tref neu wlad) lle mae llawer o wahanol grwpiau yn byw. • Weithiau bydd pobl yn teimlo eu bod yn perthyn a weithiau byddant yn teimlo nad oes neb yn poeni amdanynt ac nad ydynt yn perthyn.

  15. Perthyn i Gymuned • I lawer. Mae cymuned yn ymwneud â pherthyn. • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo eu bod yn perthyn i gymunedau y mae ganddynt rhywbeth yn gyffredin megis oed, iaith, hobiau, eu swydd neu’r gred grefyddol y maent yn ei rhannu. • Mae llawer o bobl yn rhan o nifer o gymunedau sy’n gorgyffwrdd – e.e. ysgol, ffrindiau, teulu a chymdogion, clybiau, grwpiau ethnig, man addoli.

  16. Tasg Perthyn i Gymuned • Mae’r diagram yn dangos i ba gymunedau y mae Noah yn perthyn • Gwnewch ddiagram i ddangos y gwahanol gymunedau yr ydych chi’n teimlo eich bod yn perthyn iddynt. • A yw’r rhain i gyd gyda pobl o’r un oed â chi, neu ydych chi’n rhannu cymunedau gyda phobl o wahanol oedrannau. Ychwanegwch y wybodaeth hon at eich diagram • Trafodwch eich diagram gyda’ch grwp. A oes unrhyw gymunedau sy’n gorgyffwrdd yn eich dosbarth? Pam eich bod yn teimlo eich bod yn perthyn i’r cymunedau hyn. Ysgol Pêl-droed Teulu Cymdogaeth

  17. Perthyn i gymunedau gwahanol sy’n rhoi eu synnwyr hunaniaeth i bobl. Mae’n wahanol i bob person. Mae rhai pethau yn bwysicach iddynt nac eraill. Edrychwch ar y dylanwadau canlynol ar hunanaieth ddiwylliannol a phenderfynwch pa rai sy’n bwysig i chi. Iaith Teulu Bwyd Crefydd Addysg Man geni Lle rydych yn byw Symbolau Traddodiadau Dillad Cerddoriaeth Diddordebau a Hobiau Ffrindiau Swydd Chwaraeon Hunaniaethau

  18. Tasg Hunaniaeth • Meddyliwch am enghreifftiau o ddylanwadau sy’n bwysig i chi. • Gan ddefnyddio lluniau o gylchgronau a’ch lluniau chi gwnewch ludwaith i ddangos eich hunaniaeth eich hun. • Trafodwch eich gludwaith gyda gweddill y dosbarth. Sut mae pobl yn wahanol? Pa ddylanwadau y mae pobl yn eu rhannu. Pa mor bwysig yw eich hunaniaeth ddiwylliannol i chi?

  19. Cymdeithas Heddiw O edrych ar y sleidiau blaenorol gallwn weld bod nifer o wledydd o bob rhan o’r byd yn cael effaith ar y ffordd yr ydym yn byw heddiw. Fodd bynnag, ni all pawb ym Mhrydain weld yr effeithiau cadarnhaol ar ein bywydau.

  20. Cyd-fyw mewn Cymunedau • Nid yw cymunedau bob amser yn cyd-fyw’n hapus. • Weithiau bydd pobl yn beirniadu ei gilydd yn ôl nodweddion megis oedran, grwp ethnig, crefydd, cyfoeth a dosbarth. Nid ydynt yn dod i adnabod ei gilydd, nid oes ganddynt ffydd yn ei gilydd.

  21. Beth am edrych ar oed • Pa fath o bethau mae pobl ifanc yn ei ddweud am hen bobl? • Pa fath o bethau mae hen bobl yn ei ddweud am bobl ifanc? • Pam eu bod yn dweud y pethau hyn? Trafodwch pam fod hen bobl a phobl ifanc yn teimlo fel hyn am ei gilydd yn y wlad hon.

  22. StoriAli “Roeddwn i heb fy ffirndiau pan ddaeth y bechgyn mawr draw a dweud y dylwn fynd yn ôl i’m gwlad fy hun. Fe ddywedias i fy mod wedi cael fy ngeni yma a dyma nhw’n dweud fy mod i’n haerllug ac yna gafael yn fy mraich a fy nhaflu i’r llawr. Neidiodd un ar fy mraich a cheisiodd y ddau arall fy nghicio! Yna dyma nhw’n rhedeg i ffwrdd, yn galw fi’n enwau wrth fynd. Roeddwn wedi cynhyrfu oherwydd eu bod wedi bod mor gas i mi.”

  23. Gweithgaredd 4d Ysgrifennwch lythyr i’ch papur newydd lleol yn rhoi eich barn am droseddau casineb hiliol.

  24. Tasg Diwrnod Amlddiwylliannol • Dychmygwch fod eich ysgol yn cynnal diwrnod amlddiwylliannol er mwyn codi ymwybyddiaeth o ymosodiadau hiliol o’r fath. • Mewn grwpiau cynlluniwch faner a phosteri i hysbysebu’r diwrnod. Dylai eich gwaith bwysleisio pwysigrwydd cyd-fyw mewn heddwch a harmoni. • Dylai pobl sylweddoli bod cymdeithas Prydain yn newid a’i bod nawr yn amlddiwylliannol

More Related