html5-img
1 / 45

TGAU Hamdden a Thwristiaeth

TGAU Hamdden a Thwristiaeth. Cyflwyniad i Hamdden a Thwristiaeth Uned 4. DALIER SYLW: Mae angen i osodiad diogelwch macro eich rhaglen PowerPoint fod ar ‘canolig’ er mwyn gallu cael y gweithgareddau Llusgo a Gollwng i weithio. Cliciwch flwch i ddewis gweithgaredd

red
Télécharger la présentation

TGAU Hamdden a Thwristiaeth

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. TGAU Hamdden a Thwristiaeth Cyflwyniad i Hamdden a Thwristiaeth Uned 4 DALIER SYLW: Mae angen i osodiad diogelwch macro eich rhaglen PowerPoint fod ar ‘canolig’ er mwyn gallu cael y gweithgareddau Llusgo a Gollwng i weithio.

  2. Cliciwch flwch i ddewis gweithgaredd (Mae ymyl coch i’r blwch yn dangos fod y gweithgaredd yn un rhyngweithiol). Gweithgareddau 1 11 21 31 41 2 12 22 32 3 13 23 33 4 14 24 34 5 15 25 35 6 16 26 36 7 17 27 37 8 18 28 38 9 19 29 39 10 20 30 40

  3. Merch 4 oed Bachgen 10 oed Merch 17 oed Dyn 28 oed Dyn 46 oed Menyw 37 oed Menyw 68 oed Gweithgaredd 1 Ar gyfer pob un o’r bobl a restrir isod, awgrymwch gynnyrch addas y gallent ei ddefnyddio yn eu hamser hamdden sy’n costio tua £25 ac eglurwch eich ateb.

  4. Emyr sy’n 25 oed, sydd wedi graddio mewn electroneg ac sy’n gweithio i gwmni cyfrifiaduron. Mr Brown, athro wedi ymddeol 66 oed sy’n byw gyda’i wraig. Mae ganddo ddau ŵyr (grandchildren) ifanc. Lisa sy’n 42 oed, sy’n byw gyda’i dau fab, 10 a 13 oed. Sunita sy’n 14 oed ac mae ganddi ddwy chwaer hŷn. Matthew sy’n 33 oed ac mewn cadair olwyn. Gweithgaredd 2 Suggest five leisure activities for each of the following people:

  5. Mae Alan yn 27 oed. Mae’n aelod o’r clwb athletau amatur lleol ac mae’n mwynhau rhedeg marathonau. Mae’n ymarfer pedwar neu bum niwrnod yr wythnos ac yn rhedeg tua 20 milltir y dydd. Mae’n cynrychioli ei glwb mewn cystadlaethau ac yn rhedeg mewn marathonau ym mhob cwr o’r wlad, gan gynnwys marathon Llundain. Mae wedi cystadlu ym marathon Efrog Newydd hefyd. Er mwyn cadw’n heini, nid yw Alan yn yfed alcohol. Mae Gemma yn 14 oed. Mae hi wedi bod yn aelod o’i chlwb nofio lleol ers pum mlynedd ac wedi ennill y cystadlaethau nofio yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae hi’n cynrychioli ei chlwb mewn cystadlaethau rhanbarthol ac wedi ennill sawl ras. Mae hi’n ymarfer bob diwrnod gwaith rhwng saith ac wyth o’r gloch y bore. Mae hi wedi cael ei gwahodd i wersyll hyfforddi yn Crystal Palace lle gallai gael ei dewis ar gyfer y tîm nofio cenedlaethol. Mae hi’n mynd i gystadlaethau nofio bron bob penwythnos. Gweithgaredd 3 Think about the leisure activities for these two people: Trafodwch ac ysgrifennwch am fanteision ac anfanteision gweithgareddau hamdden Alan a Gemma. Gweithiwch gyda ffrind i wneud y gwaith hwn.

  6. Gweithgaredd 4 Allwch chi gofio beth oedd eich hoff weithgareddau hamdden pan oeddech chi’n 10 oed? Pa gemau oeddech chi’n eu chwarae? Pa gerddoriaeth oeddech chi’n ei hoffi? Beth oedd eich hoff raglenni teledu? Pa ffilmiau ydych chi’n cofio eu gweld?

  7. Gweithgaredd 5 Defnyddiwch www.photolibrarywales.com i ddewis tua 10 llun sydd, yn eich barn chi’n dangos diwylliant Cymru. Defnyddiwch y lluniau fel rhan o gyflwyniad am ddiwylliant Cymru.

  8. Gweithgaredd 6 Chwiliwch ar y we am wyliau i bobl sengl a gwyliau i rieni sengl i weld beth sydd ar gael. Dewiswch wyliau ym mhob categori sy’n costio llai na £200. Rhestrwch beth sy’n gynwysedig yn y gwyliau. Gwyliau i bobl sengl Gwyliau i rieni sengl

  9. Gweithgaredd 7 Gwnewch restr o 10 o chwaraeon a gweithgareddau hamdden sy’n cael eu mwynhau gan ddynion yn bennaf, 10 sy’n cael eu mwynhau gan fenywod yn bennaf a 10 sy’n cael eu mwynhau gan ddynion a menywod.

  10. Saturday Sunday Gweithgaredd 8 Gwnewch linell amser o’ch gweithgareddau hamdden yn ystod y penwythnos diwethaf. Gwnewch restr o’r gweithgareddau a wnaethoch gyda ffrindiau, gyda’ch teulu a beth a wnaethoch ar eich pen eich hun.

  11. Gweithgaredd 9 Gyda phartner, gwnewch restr o nifer o weithgareddau hamdden sydd wedi dod yn fwy neu’n llai poblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar gyfer pob gweithgaredd awgrymwch un rheswm pam ei fod yn fwy neu’n llai poblogaidd.

  12. Gweithgaredd 10 Disgrifiwch y math o gludiant y byddech yn ei ddefnyddio i deithio o’ch cartref i’r cyfleusterau canlynol. Dylech gynnwys cymaint o wybodaeth â phosib e.e. faint o amser mae’n ei gymryd, llwybrau teithio, pa mor rheolaidd yw’r gwasanaeth ac ati. Ble rydych chi’n byw?

  13. Gweithgaredd 11 Meddyliwch am bum cynnyrch hamdden a thwristiaeth fel ffilmiau newydd, gemau consol a gwyliau sydd wedi’u hyrwyddo yn ddiweddar. Nodwch sut y cawsant eu hyrwyddo yn y bocsys isod.

  14. 1 2 3 4 5 Gweithgaredd 12 Dewiswch bump seren chwaraeon sy’n ‘bersonoliaeth ar y cyfryngau’ ac ysgrifennwch yn gryno am bob un.

  15. Gweithgaredd 13 Eglurwch pam y mae’r cyfryngau yn cael cymaint o ddylanwad ar sut mae pobl yn dewis treulio eu hamser hamdden.

  16. Gweithgaredd 14 Awgrymwch bedwar cyfleuster hamdden gwahanol yr hoffech eu gweld yn eich ardal chi. Nodwch sut y byddai pob un yn effeithio ar eich dewisiadau hamdden. Cyfleuster 1 Cyfleuster 2 Cyfleuster 3 Cyfleuster 4

  17. Gweithgaredd 15 Defnyddiwch wefannau trefnwyr teithiau, fel Thomas Cook a Thompsons, i ddod o hyd i wyliau gwerth tua £1,000, £2,000 a £5,000 y pen. Ysgrifennwch fanylion y gwyliau yn y bocsys isod. Am £1,000 gallwch.. Am £2,000 gallwch.. Am £5,000 gallwch..

  18. Gweithgaredd 16 Rhestrwch y cyfleusterau hamdden yn eich ardal sy’n cynnig rhyw fath o weithgaredd ffitrwydd neu ddosbarth ymarfer corff.

  19. Gweithgaredd 17 Gwnewch restr o dai bwyta sy’n agos i’ch cartref a nodwch y mathau o fwyd y maent yn eu cynnig.

  20. Gweithgaredd 18 Disgrifiwch sut mae eich tŷ chi’n defnyddio adloniant cartref newydd a sut mae hyn wedi datblygu dros y pum mlynedd diwethaf.

  21. Gweithgaredd 19 Gwnewch restr o gyfleusterau hamdden yn eich ardal chi a disgrifiwch yr hyn y maent yn ei gynnig i bobl hŷn

  22. Gweithgaredd 20 Defnyddiwch wefannau i ddod o hyd i amseroedd hedfan o feysydd awyr yn y DU i’r cyrchfannau canlynol.

  23. 1 6 2 7 3 8 4 9 5 10 Gweithgaredd 21 Crynhowch y ffactorau amrywiol sy’n gysylltiedig â newidiadau i ffordd o fyw ar y ddwy dudalen nesaf: Cynnydd mewn cyfoeth Dylanwad y cyfryngau Adloniant newydd yn y cartref Ffordd o fyw iach Chwaeth a ffasiwn yn newid Poblogaeth sy’n heneiddio Strwythur y teulu yn newid Datblygiadau ym maes cludiant Ymwybyddiaeth o’r amgylchedd Patrymau gwyliau yn newid

  24. Gweithgaredd 22 Ewch ati i bwyso a mesur (asesu) manteision ac anfanteision defnyddio ceir ar gyfer gweithgareddau hamdden, teithio a thwristiaeth. Meddyliwch am hyn o safbwynt twristiaid, sefydliadau a chyrchfannau. MANTEISION ANFANTEISION Twristiaid: Sefydliadau: Cyrchfannau: Twristiaid: Sefydliadau: Cyrchfannau:

  25. Gweithgaredd 23 Rhowch gamau gwahanol y broses o archebu tocyn a defnyddio’r system gofrestru ar-lein yn eu trefn gywir. Olaf Ewch i’r maes awyr. Ewch trwy’r sgriniau diogelwch. Ewch i’r gât ymadael. Defnyddiwch eich pasport i gadarnhau pwy ydych chi. Chwiliwch am deithiau hedfan ar y diwrnod rydych am deithio. Cofrestrwch ar-lein 24 awr cyn ymadael. Edrychwch ar brisiau’r teithiau hedfan. Dewiswch eich seddau. Ewch â’ch bagiau i’r lle gadael bagiau. Defnyddiwch gerdyn credyd i archebu tocyn. Argraffwch eich cardiau i fynd ar yr awyren. Dewiswch yr amser ymadael mwyaf addas. Cyntaf

  26. Gweithgaredd 24 Defnyddiwch wefan Virgin Atlantic yn www.virginatlantic.coma gwefan British Airways yn www.ba.comi ganfod amseroedd teithiau hedfan i’r cyrchfannau canlynol a phris tocyn rhad.

  27. Gweithgaredd 25 Beth yw prif fanteision systemau archebu a chofrestru ar-lein ar gyfer cwmnïau hedfan a’u teithwyr?

  28. Gweithgaredd 26 Gwnewch restr o offer technoleg y cyfryngau (set deledu, ffon symudol, consol gêm, cyfrifiadur ac ati) sydd gennych yn eich cartref. Nodwch pwy sy’n eu defnyddio ac at ba ddiben.

  29. Gweithgaredd 27 Dychmygwch fod gennych £1,000 i’w wario ar offer technoleg y cyfryngau yn eich cartref. Nodwch yr offer y byddech chi’n ei brynu a’r gwahaniaeth y byddai’n ei wneud i weithgareddau hamdden pobl yn eich cartref.

  30. Gweithgaredd 28 Gweithiwch gyda phartner. O’r rhestr o dechnoleg ddigidol yn y blwch isod, dewiswch 5 eitem sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf i weithgareddau hamdden yn y cartref yn eich tŷ chi, gan nodi eich rhesymau. Person 2 Person 1 Yn gyffredin Y Rhyngrwyd CD DVD iTunes Chwaraeydd MP3 Camera Digidol PlayStation 3 XBox 360 Teledu Lloeren Facebook Sŵn Amgylchynol - Sinema Cartref iPhone Apps Cyfrifiadur Personol Cliniadur Teledu Clirlun

  31. Gweithgaredd 29 Sut mae cyfryngau newydd wedi newid hamdden yn y cartref yn y DU? Crynhowch isod:

  32. Gweithgaredd 30 Gwnewch ymchwil ar y we drwy deipio’r geiriau ‘offer ffitrwydd yn y cartref’ neu ‘home fitness equipment’ os ydych yn chwilota yn Saesneg. Dewiswch dri darn o offer. Nodwch nodweddion yr offer (sgrin, dyfais reoli ac ati), beth y mae’n ei wneud a’i bris.

  33. Gweithgaredd 31 Allwch chi feddwl am chwe achlysur yn yr wythnosau diwethaf lle mae rhywun sy’n darparu gwasanaeth i chi mewn sefyllfa hamdden a thwristiaeth wedi defnyddio rhyw fath o system dechnoleg neu offer i’w helpu?

  34. Gweithgaredd 32 Defnyddiwch y wefan www.expedia.co.uk i gymharu prisiau ystafell mewn gwesty pedair seren yng Nghaerdydd am benwythnos.

  35. Gweithgaredd 33 Crynhowch effeithiau twristiaeth ar Gaerdydd yn y tabl isod. Effaith economaidd gadarnhaol: Effaith economaidd negyddol: Effaith gymdeithasol gadarnhaol: Effaith gymdeithasol negyddol: Effaith amgylcheddol gadarnhaol: Effaith amgylcheddol negyddol:

  36. Gweithgaredd 34 Defnyddiwch y grid isod i wneud datganiad syml am effeithiau twristiaeth ar Malta a cheisiwch ddatblygu’ch ateb drwy wneud gwaith ymchwil pellach gan ddefnyddio’r gwefannau a ddarperir. Effeithiau economiadd cadarnhaol: Datganiad syml: Datblygiad: Effeithiau economiadd negyddol: Datganiad syml: Datblygiad:

  37. Gweithgaredd 34 Defnyddiwch y grid isod i wneud datganiad syml am effeithiau twristiaeth ar Malta a cheisiwch ddatblygu’ch ateb drwy wneud gwaith ymchwil pellach gan ddefnyddio’r gwefannau a ddarperir. Effeithiau amgylcheddol cadarnhaol: Datganiad syml: Datblygiad: Effeithiau amgylcheddol negyddol: Datganiad syml: Datblygiad:

  38. Gweithgaredd 34 Defnyddiwch y grid isod i wneud datganiad syml am effeithiau twristiaeth ar Malta a cheisiwch ddatblygu’ch ateb drwy wneud gwaith ymchwil pellach gan ddefnyddio’r gwefannau a ddarperir. Effeithiau cymdeithasol cadarnhaol: Datganiad syml: Datblygiad: Effeithiau cymdeithasol negyddol: Datganiad syml: Datblygiad:

  39. Gweithgaredd 35 Llenwch y tabl isod i gymharu twristiaeth dorfol ac ecodwristiaeth.

  40. Gweithgaredd 36 Gwnewch grynodeb o’r cynllun 11 pwynt i hybu twristiaeth gynaliadwy ym Mharc Cenedlaethol Dartmoor yn y tabl isod.

  41. Gweithgaredd 37 Defnyddiwch ‘Google Maps’ i ddod o hyd i’r Kasbah du Toubkal ym mynyddoedd yr Atlas, Moroco. Sawl milltir sydd rwng y Kasbah a Marrakech? Faint o amser sydd ei angen i hedfan o Lundain i Marrakech? milltir awr

  42. Gweithgaredd 38 Defnyddiwch wybodaeth oddi ar wefan Kasbah du Toubkal(www.kasbahdutoubkal.com) a’r lluniau a geir fel atodiad i’r e-lyfr i wneud cyflwyniad PowerPoint yn dangos cynhyrchion a gwasanaethau’r Kasbah du Toubkal.

  43. 1 2 3 4 5 6 Gweithgaredd 39 Ysgrifennwch 6 phwynt i egluro pam y mae’r Kasbah du Toubkal yn enghraifft dda o dwristiaeth gynaliadwy.

  44. Gweithgaredd 40 Cynlluniwch boster i ddenu pobl i’r Kasbah du Toubkal.

  45. Gweithgaredd 41 Ewch i adran ‘press cuttings’ y wefan i weld y fideo byr a gynhyrchwyd gan gwmni teledu o’r Iseldiroedd – 3 OP REIS. Disgrifiwch dirwedd yr ardal o gwmpas y Kasbah.

More Related