1 / 8

Cyflwyniad i Chwyddiant

Cyflwyniad i Chwyddiant. Diffinir chwyddiant fel – ‘cynnydd cyffredinol yn lefelau prisiau’.

simeon
Télécharger la présentation

Cyflwyniad i Chwyddiant

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cyflwyniad i Chwyddiant

  2. Diffinir chwyddiant fel – ‘cynnydd cyffredinol yn lefelau prisiau’ • Mae'r llywodraeth yn ceisio mesur chwyddiant bob mis trwy brisio basged o nwyddau sy'n ceisio copïo gwariant teulu cyfartalog ar incwm cyfartalog. Y prif fesur o chwyddiant yw'r MPD – y Mynegrif Prisiau Defnyddwyr • Mae'r ‘fasged o nwyddau’ yn cynnwys bwyd, teithio, gwyliau, yswiriant, dillad, nwyddau trydanol, dodrefn, a gweithgareddau hamdden fel tocynnau sinema. Mae'r llywodraeth yn casglu prisiau'r fasged o nwyddau bob mis. • At ei gilydd ceir 650 o nwyddau yn y fasged – ac mae'r rhain yn newid gydag amser. Mae rhai o'r nwyddau newydd diweddaraf a ychwanegwyd at y fasged yn cynnwys ffonau smart ac apps, a ffioedd asiantaethau chwilio am gariad!

  3. Hanes Chwyddiant • Mae gan fanc Lloegr fideo byr ar hanes chwyddiant - dolen Mae'r siart uchod yn dangos chwyddiant yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. Er bod rhai o'r brigau’n edrych yn uchel, bu chwyddiant yn uwch na 5% am 1 mis yn unig, a'r gyfradd gyfartalog yw tua 3%.

  4. Chwyddiant yn y DU yn y 1970au Cymherwch chwyddiant isel y DU dros y deng mlynedd diwethaf â’r lefelau o chwyddiant a welwyd yn y 1970au. Gan ddechrau ar tua 6% ym 1970, erbyn 1976 roedd chwyddiant wedi cynyddu i dros 20%!

  5. Pam fod lefelau uchel o chwyddiant yn beth drwg? • Mae prisiau uwch am nwyddau Prydeinig yn golygu ein bod yn allforio llai – felly caiff swyddi eu colli. • Mae cwmnïau'n buddsoddi llai, sy'n golygu llai o swyddi yn y dyfodol. • Mae nwyddau a wneir dramor yn dod yn rhatach o gymharu â nwyddau a wneir yn y DU, felly mae mewnforion yn cynyddu – collir mwy o swyddi. • Oni bai fod gweithwyr yn cael codiad yn eu cyflog sydd o leiaf cyn uched â chwyddiant yna bydd eu safonau byw yn gostwng. • Yn aml mae chwyddiant uchel yn golygu cyfraddau llog uchel – efallai na fydd pobl yn gallu ad-dalu eu morgeisi, felly maen nhw'n colli eu cartrefi, a gall costau benthyca uwch olygu y gall cwmnïau fynd i'r wal. • Mae pobl sydd â chynilion yn gweld bod gallu gwario eu cynilion yn gostwng – felly maen nhw'n mynd yn dlotach.

  6. Gorchwyddiant • Ar achlysuron prin, mae chwyddiant yn mynd dros ben llestri, ac mae prisiau'n dechrau saethu i fyny – gall prisiau ddyblu mewn blwyddyn, mis neu hyd yn oed diwrnod! • Yn yr Almaen ym 1922-23, cododd prisiau yn fwy nag ychydig. • Yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 1922 roedd chwyddiant yn 600% • Dros y flwyddyn nesaf cynyddodd i 18000% • Ac erbyn diwedd 1923, roedd prisiau nwyddau 1 filiwn gwaith yn uwch na’r flwyddyn flaenorol – pe bai hyn yn digwydd yn y DU byddai torth o fara'n costio £1m, litr o betrol yn £1,300,000, iPad yn £400,000,000.

  7. Mynd i siopa'n yr Almaen ym 1923 Llosgi arian i gadw’n gynnes

  8. Sut mae'r llywodraeth yn cadw rheolaeth ar chwyddiant? • Mae gan y llywodraeth darged chwyddiant o 2%. • Er mwyn cadw chwyddiant o gwmpas y lefel hon, mae'n gofyn i Fanc Lloegr newid y cyfraddau llog, yn ôl yr amgylchiadau economaidd. • Prisiau'n cynyddu – cyfraddau llog yn mynd i fyny. • Prisiau'n gostwng – cyfraddau llog yn mynd i lawr. • Mae'r system hon wedi gweithio'n eithaf da dros y 15 mlynedd diwethaf, ond ceir problemau ar hyn o bryd – am ragor o wybodaeth ewch at y nodiadau a'r PowerPoint ar Gyfraddau Llog.

More Related