1 / 29

Rheoli’r Ystafell Ddosbarth yn Effeithiol

Rheoli’r Ystafell Ddosbarth yn Effeithiol. Gweithiwch mewn grwpiau o ddau neu dri. 5 munud: O’r profiad addysgu a gawsoch hyd yma, rhestrwch y pethau yr ydych wedi’u cael yn anodd eu rheoli yn yr ystafell ddosbarth :. Beth mae Rheoli Effeithiol yn yr Ystafell Ddosbarth yn ei olygu?.

tarala
Télécharger la présentation

Rheoli’r Ystafell Ddosbarth yn Effeithiol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Rheoli’r Ystafell Ddosbarth yn Effeithiol

  2. Gweithiwch mewn grwpiau o ddau neu dri 5 munud: • O’r profiad addysgu a gawsoch hyd yma, rhestrwch y pethau yr ydych wedi’u cael yn anodd eu rheoli yn yr ystafell ddosbarth:

  3. Beth mae Rheoli Effeithiol yn yr Ystafell Ddosbarth yn ei olygu? • Bod â pherthynas dda â’ch disgyblion • Bod â disgwyliadau uchel • Gwneud yn siŵr eich bod chi a’ch disgyblion yn gwybod pa ymddygiad i’w ddisgwyl • Sut mae defnyddio canmoliaeth i gael ymddygiad da • Gwersi wedi’u cynllunio’n dda • P’un a ydych yn symud o gwmpas y dosbarth ai peidio • Pa mor hyderus rydych yn ymateb i ymddygiad disgyblion • Eich ymddygiad a sut rydych chi’n edrych

  4. 1. Bod â pherthynas dda â’ch disgyblion Meddyliwch – pa athrawon roeddech chi’n eu hoffi fwyaf? • Pe bydden nhw wedi dweud wrthych chi i wneud rhywbeth fyddai ots gennych chi? • Fyddech chi wedi ufuddhau ar unwaith i athro nad oedd, yn eich barn chi, yn eich hoffi? • Mae teimlo’n rhan o ddosbarth yn eich gwneud chi’n fwy parod i ddilyn cyfarwyddiadau

  5. Un ffordd o wneud i ddisgyblion deimlo eu bod nhw’n rhan o ddosbarth yw’n hiaith vs Am mai pwrpas bod gyda’ch gilydd mewn ystafell ddosbarth yw addysgu a dysgu effeithiol, mae iaith sy’n cyfleu “cydweithio” yn fwy effeithiol Chi Ni

  6. 2. Disgwyliadau uchel Astudiaeth Rosenthal a Jacobson (1968) “Pygmalion in the Classroom” Ar gyfer yr astudiaeth Pygmalion wreiddiol cafodd athrawon wybodaeth ffug am botensial dysgu rhai disgyblion cynradd mewn ysgol elfennol yn San Francisco. Dywedwyd wrth yr athrawon fod y disgyblion hyn wedi cael eu profi a’u bod ar drothwy cyfnod o dwf deallusol sydyn iawn. Mewn gwirionedd roedd y disgyblion wedi cael eu dewis ar hap. Ar ddiwedd yr arbrawf, dangosodd rhai o’r disgyblion berfformiad llawer yn well ar brofion IQ, ac roedden nhw wedi perfformio’n well nag a fyddai wedi disgwyl iddyn nhw wneud heb ymyrraeth. Y casgliad oedd fod disgwyliadau’r athrawon wedi achosi i’r disgyblion gyflawni llawer mwy.

  7. 3. Yr ymddygiad a ddisgwylir – gwybod beth rydych chi ei eisiau! Ystyriwch • Sut mae’ch disgyblion yn cyrraedd? • Ble maen nhw’n eistedd? • Sut mae cael eu sylw ? • Sut rydych chi’n ymateb i ymddygiad annerbyniol?

  8. CYNLLUNIO YW’R ALLWEDD • Dod i mewn yn afreolus? • Sefyll mewn rhes? • Ydych chi’n dod i mewn gyda nhw neu...? • Ydych chi yno i’w cyfarch?

  9. Defnyddio cynlluniau eistedd Gall cynlluniau eistedd fod yn ddefnyddiol iawn i: • gymysgu grwpiau o allu • cynllunio ar gyfer cymorth gan gymheiriaid • atal unigolion rhag cael eu gwrthod neu eu hynysu • siapio rhyngweithio disgybl i ddisgybl • sicrhau parau o wahanol rywiau Symud yn rheolaidd o gylch y dosbarth Parau twba lwcus Rhifau ar fyrddau

  10. 4. Canmoliaeth a chydnabyddiaeth • Bydd canmoliaeth a chydnabyddiaeth go-iawn, ystyrlon a chadarnhaol am ymdrech yn gwneud hinsawdd y dosbarth yn fwy cadarnhaol

  11. 5. Cynllunio gwers Mae dechrau gwersi yn hollbwysig Gweithgareddau i ddechrau Oedd eich esboniad yn effeithiol? Cyflymder, cyflwyniad a momentwm Rheoli’r symud o un peth i’r llall Cloi yn effeithiol/dod â phawb at ei gilydd

  12. 6. Symud o gwmpas yr ystafell ddosbarth • Mae rhai athrawon yn cyfyngu ar eu defnydd o le drwy weithio wrth eu desg neu o’r ffrynt • Gyda chydweithiwr, meddyliwch: • Pam ei bod yn bwysig symud o gwmpas yr ystafell?

  13. Sganio a disgwyliadau • Mae’r rhan fwyaf o broblemau ymddygiad yn dechrau gydag ymddygiad bach ar ôl crwydro o’r dasg, sydd wedyn yn gwaethygu. • Drwy sganio’r dosbarth, mae’n haws gweld y rheini sy’n crwydro o’r dasg neu sy’n dechrau camymddwyn. • Mae sganio’n aml yn fwy effeithiol pan fydd athrawon yn symud o gwmpas y dosbarth. • Mae symud o gwmpas y dosbarth hefyd yn gyfle i ni ganmol y rhai sy’n dal i weithio ar y dasg

  14. 7. Ymateb yn hyderus i ymddygiad disgyblion Awdurdod Tawel?

  15. Defnyddio ysgogiadau • Ysgogiadau cadarnhaol cyffredinol

  16. Defnyddio ysgogiadau • Canmol yr hyn sy’n digwydd o gwmpas

  17. Defnyddio ysgogiadau • Rhybuddio

  18. Defnyddio ysgogiadau • Gwneud cais cyffredinol

  19. Defnyddio ysgogiadau • Atgoffa am y rheolau

  20. Beth sy’n bod ar hwn? • PEIDIWCH Â MEDDWL AM ELIFFANT...

  21. Defnyddiwch iaith gadarnhaol

  22. Ailgyfeirio at y dasg Pan fydd rhywbeth yn digwydd – naill ai yn y dosbarth neu’r tu allan iddo – mae hynny’n tynnu sylw’r disgyblion • Cydnabyddwch y digwyddiad • Ailgyfeiriwch y grŵp yn ôl i’r dasg

  23. Ailffocysu

  24. 8. Eich ymddygiad a sut rydych chi’n edrych • Sut rydych chi am edrych? Yn galed a llym / meddal a charedig / cynnes ac agored? • Cofiwch: • Ymarweddiad Ystum eich wyneb •  Ystum  Eich dewis o eiriau

  25. Y ffordd rydyn ni’n ymddwyn Os bydd athrawon yn ymddwyn mewn ffordd ymosodol neu amharchus, bydd eu disgyblion hefyd, fwy na thebyg, yn ymddwyn yn yr un modd. (Arbrawf Albert Bandura)

  26. AMSER EGWYL Y TRO NESAF… byddwn ni’n edrych ar ffiniau effeithiol

More Related