1 / 36

Cytundeb Versailles

Cytundeb Versailles. ‘Y Kaiser yn ymddiswyddo. Y Tywysog Coronog yn ymddiswyddo. Ebert yn dod yn Ganghellor.’. Sut a pham roedd y ‘Tri Mawr’ eisiau cosbi’r Almaen?. Wedi darllen y ffynhonnell hon, sut yn eich barn chi roedd pobl yr Almaen yn teimlo ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf?.

zanta
Télécharger la présentation

Cytundeb Versailles

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cytundeb Versailles ‘Y Kaiser yn ymddiswyddo. Y Tywysog Coronog yn ymddiswyddo. Ebert yn dod yn Ganghellor.’ Sut a pham roedd y ‘Tri Mawr’ eisiau cosbi’r Almaen?

  2. Wedi darllen y ffynhonnell hon, sut yn eich barn chi roedd pobl yr Almaen yn teimlo ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf? “Trwy’r drysau yn y pen pellaf … daeth y pedwar swyddog o Ffrainc, Prydain, America a’r Eidal. Ac yna, yn unig a thruenus, daeth y ddau Almaenwr, Dr. Muller a Dr. Bell. Mae’r distawrwydd yn ddychrynllyd … Maent yn cadw eu golygon oddi wrth y dwy fil o lygaid sy’n rhythu arnynt, gan syllu i fyny tua’r nenfwd. Maent yn wyn fel y galchen … Mae tensiwn cyffredinol i’w deimlo. Maent yn arwyddo. Mae pethau’n ymlacio … Aros ar ein heistedd a wnaethom ni tra roedd yr Almaenwyr yn cael eu harwain i ffwrdd fel carcharorion o’r doc.” (Harold Nicolson, Peacemaking, 1919) Peace

  3. Amcanion y Wers • Dod i wybod: • Beth oedd aelodau o’r cyhoedd yng ngwledydd y cynghrair yn ei feddwl o bobl yr Almaen yn 1918 • Telerau Cytundeb Versailles • Beth roedd pobl yr Almaen yn ei feddwl o Gytundeb Versailles

  4. Prydain, America a Ffrainc oedd y gwledydd cryfaf o blith y Cynghreiriaid; roedd pob un eisiau cael dylanwad ar Gytundeb Versailles. Eto roeddynt eisiau pethau gwahanol. Cliciwch ar yr unigolion i gael gwybod beth roedd pob un eisiau o’r cytundeb heddwch Wedi i chi edrych ar bob un Ymlaen i’r ymarferiad

  5. Lloyd George (DU) • Yr Almaen i’w chosbi’n gyfiawn, ond nid yn rhy llym • Yr Almaen i golli ei llynges a’i threfedigaethau gan eu bod yn fygythiad i lynges ac ymerodraeth Prydain ei hun • Yr Almaen a Phrydain i ddod yn bartneriaid masnachol Cliciwch ar y bwlb i gael gwybod mwy OND Ar y cyfan, nid oedd Lloyd George am gosbi’r Almaen yn rhy llym, gan nad oedd eisiau i’r Almaen geisio dial yn y dyfodol.

  6. Lloyd George (DU) Roedd pwysau arno gartref i wneud i’r Almaen dalu – os y byddai wedi bod yn rhy hael byddai wedi colli ei swydd fel Prif Weinidog. Roedd Lloyd George yn casáu’r Cytundeb. Er hynny roedd “Crogwch y Kaiser” a “Gwnewch i’r Almaen dalu” yn alwadau cyffredin iawn yn y cyfnod yn union wedi diwedd y rhyfel ac roedd Lloyd George, wrth geisio sicrhau cefnogaeth y cyhoedd, yn adleisio’r galwadau hyn. Roedd wrth ei fodd fod trefedigaethau’r Almaeni’w meddiannu gan Brydain, ac roedd llynges fechan yr Almaen yn help i gynnal pŵer Prydain ar y môr. Ond er bod llawer o bobl Prydain o blaid ‘Gwneud i’r Almaen dalu’, credai Lloyd George fod y Cytundeb yn rhy llym, ac y byddai’n dechrau rhyfel eto ymhen 25 mlynedd. Beth roedd Lloyd George yn ei hoffi ac yn ei gasáu ynglŷn â’r Cytundeb?

  7. Clemenceau (Ffrainc) • eisiau anablu’r Almaen fel na allai ymosod ar Ffrainc eto. • eisiau rhannu’r Almaen yn nifer o wladwriaethau bychain (er mwyn ei gwanhau). • Ffrainc oedd wedi dioddef fwyaf yn ystod y rhyfel, felly roedd Clemenceau dan bwysau mawr oddi wrth bobl Ffrainc i wneud i’r Almaen dalu. Cliciwch ar y bwlb i gael gwybod mwy

  8. Clemenceau (Ffrainc)Roedd Clemenceau yn hoffi’r telerau llym yn y Cytundeb, yn enwedig yr iawndaliadau, gan y byddent yn gwanhau’r Almaen tra’n helpu adferiad Ffrainc. Un amcan syml iawn oedd ganddo – y dylai’r Almaen gael ei darostwng fel na allai ddechrau rhyfel arall fyth eto (roedd Ffrainc wedi dioddef ymosodiad gan yr Almaen o’r blaen yn 1871).Roedd yn hoff o’r syniad o adael dim ond byddin fechan i’r Almaen, a sefydlu ardal ddadfilwriedig yn y Rheindir, gan y byddai hynny’n rhwystro ymosodiad arall ar Ffrainc yn y dyfodol. Roedd hefyd yn fodlon fod Alsace a Lorraine yn rhan o Ffrainc unwaith eto gan fod yr Almaen wedi’u meddiannu yn 1871. Y gwir oedd ei fod am wneud y cytundeb yn llymach eto. Beth roedd Clemenceau yn ei hoffi ac yn ei gasáu ynglŷn â’r Cytundeb?

  9. Wilson (UDA) • byd gwell a mwy heddychlon • sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd i alluogi’r gwledydd i helpu a chefnogi ei gilydd a’u helpu i hyrwyddo heddwch byd-eang • yr hawl i hunanbenderfyniaeth. Hawl i bawb benderfynu gan ba wlad roeddynt eisiau cael eu rheoli • Roedd U.D.A. yn hwyr yn ymuno â’r rhyfel (yn 1917), ac nid oedd wedi dioddef cymaint â’r Cynghreiriad eraill o ran ei cholledion dynol a materol. Cliciwch ar y bwlb i gael gwybod mwy

  10. Wilson (UDA)Llwyddodd Wilson i sicrhau hunan-benderfyniaeth i bobl Dwyrain Ewrop, a sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd, ond profodd y Cytundeb yn siom fawr iddo gan na weithredwyd llawer o’i ‘Bedwar Pwynt ar Ddeg’. Yn waeth na dim, pan gyrhaeddodd Wilson yn ôl i America, gwrthododd y Senedd ag ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, a gwrthododd arwyddo Cytundeb Versailles! Yn America, roedd awydd cynyddol i’r llywodraeth fabwysiadu polisi o ynysiaeth gan adael i Ewrop ddelio â’i broblemau ei hun. Roedd Wilson yn credu y dylid cosbi’r Almaen, ond mewn ffordd a fyddai’n arwain at gymod (heddwch) yn Ewrop yn hytrach na dialedd (rhyfel). Beth roedd Wilson yn ei hoffi ac yn ei gasáu ynglŷn â’r Cytundeb?

  11. Telerau Cytundeb Versailles Beth fyddai aelodau o’r cyhoedd yng ngwledydd y cynghrair yn ei feddwl o bobl yr Almaen yn 1918?

  12. Beth mae’r ffynhonnell hon yn ei ddweud am deimladau pobl Prydain tuag at yr Almaen yn 1918? “Os caiff y llywodraeth hon ei hethol, bydd yr Almaenwyr yn talu pob ceiniog; mae nhw am gael eu gwasgu, fel y byddwn yn gwasgu lemon, nes bydd yr hadau’n gwichian.” Syr Eric Geddes, (Rhagfyr 1918) Syr Eric Geddes oedd Gweinidog Arfau Prydain, bu hefyd yn Oruchwyliwr y Llynges a Phrif Arglwydd y Morlys ar wahanol adegau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

  13. A yw’r wybodaeth isod yn eich helpu i ddeall pam roedd cymaint o bobl eisiau dial wedi’r rhyfel? Cafodd tua 8 miliwn o bobl eu lladd Roedd cost y rhyfel tua £9,000 miliwn Gwnaed difrod enfawr i dir, cartrefi, ffermydd a ffatrïoedd Bu farw miliynau eto o bobl wedi’r rhyfel oherwydd newyn ac afiechyd “Yn Ffrainc a Gwlad Belg, lle digwyddodd y rhan fwyaf o’r ymladd, dinistriwyd 300,000 o dai, 6,000 o ffatrïoedd, 1,000 milltir o reilffordd, 2,000 o fragdai a 112 o byllau glo… Mewn rhai ffyrdd, ni lwyddodd y ddynoliaeth erioed i ddod dros erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf.” John D. Clare, First World War (1994)

  14. A yw’r wybodaeth isod yn eich helpu i ddeall pam roedd cymaint o bobl eisiau dial wedi’r rhyfel? Cafodd tua 8 miliwn o bobl eu lladd Roedd cost y rhyfel tua £9,000 miliwn Gwnaed difrod enfawr i dir, cartrefi, ffermydd a ffatrïoedd Bu farw miliynau eto o bobl wedi’r rhyfel oherwydd newyn ac afiechyd “Yn Ffrainc a Gwlad Belg, lle digwyddodd y rhan fwyaf o’r ymladd, dinistriwyd 300,000 o dai, 6,000 o ffatrïoedd, 1,000 milltir o reilffordd, 2,000 o fragdai a 112 o byllau glo… Mewn rhai ffyrdd, ni lwyddodd y ddynoliaeth erioed i ddod dros erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf.” John D. Clare, First World War (1994) A yw’r wybodaeth uchod yn eich helpu i ddeall pam roedd cymaint o bobl eisiau heddwch wedi’r rhyfel?

  15. “Yn ystod Etholiad Cyffredinol Prydain ym mis Rhagfyr 1918, roedd galwadau croch i’w clywed yn aml y dylai’r Kaiser gael ei grogi, ac y dylai’r Almaen dalu …. Ychydig oedd yn sylweddoli pa mor niweidiol fyddai effeithiau barn gyhoeddus unffurf ac ymosodgar oedd wedi’i chyffroi gan flynyddoedd o bropaganda rhyfel, a’i chynddeiriogi gan y wasg boblogaidd…” Martin Kitchen, Europe between the Wars, (1988) Trafodwch pa mor anodd oedd o angenrheidrwydd i’r Cynghreiriaid sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cosbi a chreu heddwch parhaol?

  16. Telerau Cytundeb Versailles Sut y byddai pobl yr Almaen yn teimlo ynglŷn â thelerau’r Cytundeb?

  17. Roedd yn rhaid i’r Almaen dderbyn yr holl gyfrifoldeb am ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.yr enw ar hynny oedd Cymal yr Euogrwydd am y Rhyfel neu Erthygl 231.

  18. Roedd yn rhaid i’r Almaen dalu £6,600 miliwn am y difrod a wnaed yn y rhyfel a cholledion eraill y Cynghreiriaid.Yr enw ar hynny oedd ‘iawndaliadau’.

  19. Roedd yn rhaid i’r Almaen ildio tua 70,000 cilometr sgwâr o dir. Roedd hynny’n golygu tua 13% o’i holl dir a’r chwe miliwn o bobl oedd yn byw yno.

  20. Byddai’r Almaen yn colli ei threfedigaethau. Byddai’r trefedigaethau hyn yn mynd yn fandadau i’w rheoli gan y Cynghreiriaid ar ran Cynghrair y Cenhedloedd.

  21. Roedd byddin yr Almaen i’w chyfyngu i ddim mwy na 100,000 o filwyr a’i llynges i 15,000 o longwyr. Doedd ganddi ddim hawl i gael llu awyr na llongau tanfor.

  22. Roedd llynges yr Almaen i gael chwe llong ryfel a dim mwy, a gwaharddwyd yr Almaen rhag prynu rhagor o arfau na deunyddiau rhyfel arall.

  23. Roedd byddin un o wledydd y Cynghrair i feddiannu’r Rheindir am gyfnod o bymtheng mlynedd. Doedd dim hawl gan filwyr yr Almaen i fynd i’r ardal feddianedig. Nawr mae’n rhaid i chi gwblhau’r ymarferiad trefnu cardiau ar delerau Cytundeb Versailles

  24. Cliciwch yma ar gyfer y Telerau

  25. Adolygu • Roedd y Cytundeb ar y cyfan yn bodloni’r “Tri Mawr" i bob golwg. • Roedd yn sicrhau y byddai’r Almaen yn rhy wan i ddechrau rhyfel arall yn Ewrop, ond eto’n ddigon cryf i helpu i atal Comiwnyddiaeth rhag lledaenu. • Roedd yn diogelu’r ffin rhwng Ffrainc a’r Almaen rhag ymosodiadau o’r Almaen yn y dyfodol. • Roedd wedi sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd. Byddai hynny’n help i hyrwyddo heddwch a masnach fyd-eang.

  26. Ond... Roedd pobl yr Almaen yn casáu’r cytundeb, yn enwedig Erthygl 231 oedd yn rhoi’r bai arnynt hwy am ddechrau’r rhyfel. Roedd llawer o bobl yr Almaen yn meddwl hefyd fod y cosbau ariannol a osododd y cytundeb arnynt hwy a’r wlad yn anfoesol ac anghyfiawn.Cafodd yr aelodau hynny o lywodraeth yr Almaen oedd wedi cydsynio â’r cytundeb eu galw’n “Droseddwyr Tachwedd”.Roedd llawer o bobl yr Almaen yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi nawr oherwydd camgymeriadau’r Kaiser a llywodraeth yr Almaen a ddechreuodd y rhyfel ym mis Awst 1914, yn ogystal â llywodraeth 1919 a arwyddodd y cytundeb a ddaeth â heddwch.

  27. Prawf Cyflym • Ym mha flwyddyn y cafodd Cytundeb Versailles ei arwyddo? • 2. Beth oedd cyfanswm y milwyr y cafodd byddin yr Almaen yr hawl i’w cadw dan amodau’r cytundeb? • 3. Faint o dir a gymerwyd oddi ar yr Almaen yn Ewrop? • 4. Pa air fyddai pobl yr Almaen yn ei ddefnyddio wrth sôn am y cytundeb a’r trafodaethau a arweiniodd ato? • 5. Faint o arian y bwriadwyd i’r Almaen ei dalu i’r Cynghreiriaid fel iawndaliadau?

  28. Prawf Cyflym • Ym mha flwyddyn y cafodd Cytundeb Versailles ei arwyddo? • Beth oedd cyfanswm y milwyr y cafodd byddin yr Almaen yr hawl i’w cadw dan amodau’r cytundeb? • 3. Faint o dir a gymerwyd oddi ar yr Almaen yn Ewrop? • 4. Pa air fyddai pobl yr Almaen yn ei ddefnyddio wrth sôn am y cytundeb a’r trafodaethau a arweiniodd ato? • 5. Faint o arian y bwriadwyd i’r Almaen ei dalu i’r Cynghreiriaid fel iawndaliadau? 1919

  29. Prawf Cyflym • Ym mha flwyddyn y cafodd Cytundeb Versailles ei arwyddo? • Beth oedd cyfanswm y milwyr y cafodd byddin yr Almaen yr hawl i’w cadw dan amodau’r cytundeb? • 3. Faint o dir a gymerwyd oddi ar yr Almaen yn Ewrop? • 4. Pa air fyddai pobl yr Almaen yn ei ddefnyddio wrth sôn am y cytundeb a’r trafodaethau a arweiniodd ato? • 5. Faint o arian y bwriadwyd i’r Almaen ei dalu i’r Cynghreiriaid fel iawndaliadau? 1919 100,000

  30. Prawf Cyflym • Ym mha flwyddyn y cafodd Cytundeb Versailles ei • arwyddo? • 2. Beth oedd cyfanswm y milwyr y cafodd byddin yr • Almaen yr hawl i’w cadw dan amodau’r cytundeb? • 3. Faint o dir a gymerwyd oddi ar yr Almaen yn Ewrop? • 4. Pa air fyddai pobl yr Almaen yn ei ddefnyddio wrth sôn • am y cytundeb a’r trafodaethau a arweiniodd ato? • 5. Faint o arian y bwriadwyd i’r Almaen ei dalu i’r • Cynghreiriaid fel iawndaliadau? 1919 100,000 70,000 km sg

  31. Prawf Cyflym • 1. Ym mha flwyddyn y cafodd Cytundeb Versailles ei • arwyddo? • 2. Beth oedd cyfanswm y milwyr y cafodd byddin yr Almaen yr hawl i’w cadw dan amodau’r cytundeb? • 3. Faint o dir a gymerwyd oddi ar yr Almaen yn Ewrop? • 4. Pa air fyddai pobl yr Almaen yn ei ddefnyddio wrth sôn am y cytundeb a’r trafodaethau a arweiniodd ato? • 5. Faint o arian y bwriadwyd i’r Almaen ei dalu i’r Cynghreiriaid fel iawndaliadau? 1919 100,000 70,000 km sg Diktat

  32. Prawf Cyflym • 1. Ym mha flwyddyn y cafodd Cytundeb Versailles ei • arwyddo? • 2. Beth oedd cyfanswm y milwyr y cafodd byddin yr Almaen yr hawl i’w cadw dan amodau’r cytundeb? • 3. Faint o dir a gymerwyd oddi ar yr Almaen yn Ewrop? • 4. Pa air fyddai pobl yr Almaen yn ei ddefnyddio wrth sôn am y cytundeb a’r trafodaethau a arweiniodd ato? • 5. Faint o arian y bwriadwyd i’r Almaen ei dalu i’r Cynghreiriaid fel iawndaliadau? 1919 100,000 70,000 km sg Diktat £6,600 miliwn

  33. Disgrifiwch ymateb pobl yr Almaen i Gytundeb Versailles? (2 farc) CBAC, Papur 1, Astudiaeth Fanwl, Mehefin 2004 Cynllunio eich ateb:

  34. Gwefannau defnyddiol www.johndclare.net/peace_treaties1.htm Mae’r rhan hon o wefan John D. Clare yn edrych ar y Gynhadledd, yr Amcanion, y Telerau, ymateb yr Almaen a’r dyfarniadau. Ynddi hefyd mae taflenni adolygu, profion a llyfryn y gellir eu llwytho i lawr. www.johndclare.net/ToV5_cloze.htm Mae cyswllt uniongyrchol yma â phrawf rhyngweithiol ar wefan John D. Clare, lle gall disgyblion wirio eu hatebion ac argraffu taflen adolygu. www.spartacus.schoolnet.co.uk/FWWversailles.htm Mae’r dudalen hon o wefan Spartacus yn edrych ar rai o gymalau’r Cytundeb ynghyd â sylwadau cyfoes o’r flwyddyn 1919 (ffynonellau). DIWEDD

More Related