110 likes | 609 Vues
Cerddi. Beth ydy cerdd?. Darn o farddoniaeth ydy cerdd sydd yn dweud rhywbeth mewn ffordd hwylus. Oes gennych chi hoff gerddi? Pa gerddi rydych chi’n eu gwybod ar eich cof?. Beirdd sydd yn ysgrifennu cerddi.
E N D
Beth ydy cerdd? Darn o farddoniaeth ydy cerdd sydd yn dweud rhywbeth mewn ffordd hwylus. Oes gennych chi hoff gerddi? Pa gerddi rydych chi’n eu gwybod ar eich cof?
Beirdd sydd yn ysgrifennu cerddi. Mae gan Gymru nifer o feirdd. Ers 2000, mae un cael ei benodi bob blwyddyn fel Bardd Plant Cymru. Pwrpas y cynllun yw annog plant a phobl ifanc i fwynhau darllen ac ysgrifennu cerddi o bob math. Efallai eich bod wedi clywed sôn am rai ohonyn nhw.
Mererid Hopwood Twm Morys Caryl Parry Jones Menna Elfyn Gwyneth Glyn Myrddin ap Dafydd Ceri Wyn Jones Tudur Dylan Jones
Beth sydd yn bwysig wrth ysgrifennu cerdd? • odl – geiriau sy'n swnio’n debyg i'w gilydd • nifer y sillafau • defnydd da o iaith – berfau, ansoddeiriau, cymariaethau, trosiadau • gwreiddioldeb
Porwch drwy rai cyfrolau barddoniaeth sydd ar gael yn yr ysgol. Pa gerddi rydych chi’n eu hoffi? Ysgrifennwch wybodaeth amdanyn nhw.