150 likes | 375 Vues
Plastig. Plastig. Allwch chi enwi cynhyrchion gwahanol sydd wedi cael eu gwneud o blastig?. Allwch chi feddwl am y manteision a’r anfanteision o ddefnyddio plastig yn ein bywydau bob dydd?. Plastigau. Tasg - rhestrwch 10 eitem o fewn cyrraedd i chi sydd wedi cael eu gwneud allan o blastig.
E N D
Plastig Allwch chi enwi cynhyrchion gwahanol sydd wedi cael eu gwneud o blastig? Allwch chi feddwl am y manteision a’r anfanteision o ddefnyddio plastig yn ein bywydau bob dydd?
Plastigau Tasg - rhestrwch 10 eitem o fewn cyrraedd i chi sydd wedi cael eu gwneud allan o blastig
Plastig • Sut ydyn ni’n defnyddio plastig yn ein cartrefi? Lluniau isod trwy ganiatâd caredig www.bodieandfou.comwww.thelollipopshoppe.co.uk
Plastig Allwch chi feddwl sut mae plastig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer : • defnydd pacio Allwch chi feddwl sut mae plastig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer • adloniant
Plastig Defnydd synthetig yw plastig, mae’n sgil gynnyrch i’r diwydiant olew. Mae dau fath o blastig : • Thermoplastig • Thermosodol
Defnyddiau Thermoplastig Polypropylen ABS. resin thermoplastig. Caiff y rhain eu diffinio fel plastigau y gellir defnyddio gwres i’w hailffurfio ; mae gan y plastig hwn gof, o gael ei ail gynhesu bydd yn dychwelyd i’w siâp fflat gwreiddiol. • Dyma rai esiamplau a’r defnydd a wneir ohonynt. • Acrylig – mae ar gael ar ffurf rhoden, taflen neu diwb ac mewn bron i unrhyw liw. Gellir defnyddio plygwr llinell neu ffurfiwr â gwactod i’w siapio ABS – plastig cyffredin iawn, gellir ei fowldio chwistrellu o ffurf powdwr Styren – da iawn ar gyfer ffurfio â gwactod
Defnyddiau Thermosodol Handlenni tegell a sosban Caiff y rhain eu disgrifio fel plastigau na ellir defnyddio gwres i’w hailffurfio, maen nhw’n ‘SETIO’ ac ni ellir eu hail siapio. Resinpolyester- caiff ei arllwys i mewn i fowld i wneud cynhyrchion neu drwsio cychod. Dyma rai esiamplau a’r defnydd a wneir ohonynt: Wrea fformaldehyd – plygiau a socedau trydan Melamin – wynebau gweithio cegin, mygiau yfed sydd ddim yn torri Pwysau papur / ataliwr drws Harry Allen- wedi’i wneud allan o resin
Defnyddiau - Plastigau Plastigau yw sylweddau resinaidd synthetig y gellir eu mowldio trwy gyfrwng gwres neu wasgedd. Mae dau brif fath o blastigau: Thermosodol– plastigau y gellir eu cynhesu a’u mowldio unwaith yn unig. O gael eu hail gynhesu nid ydynt yn meddalu. Thermoplastigau - plastigau sy’n cael eu cynhesu a’u mowldio a gellir eu hail-fowldio drwy eu cynhesu eto. Bydd cynhesu’r thermoplastigau’n eu meddalu a gellir eu siapio pan yn boeth. Wrth oeri bydd y plastig yn caledu.
Dim ond bag plastig arall! bagnewydd@bobsiop
Ydy defnyddio bagiau siopa plastig yn creu unrhyw broblemau? Tasg 1 – Mewn grwpiau bach rhestrwch dair mantais ac anfantais i ddefnyddio bagiau siopa plastig Tasg 2 - yn eich grŵp ystyriwch ddau ddull o wella unrhyw broblemau rydych wedi’u canfod.
Faint o fagiau siopa plastig fydd y siopwr arferol yn eu defnyddio i gario nwyddau adref bob wythnos? 5 15 12 20 Sut fyddai hi’n bosibl lleihau’r nifer hwn? Tasen ni’n defnyddio bagiau siopa y gellir eu hail-ddefnyddio faint yn llai o fagiau siopa plastig fyddai eu hangen bob blwyddyn? 20 bag plastic yr wythnos x 52 wythnos = Bagiau siopa 1,040 Mae archfarchnadoedd yn dosbarthu 1.75 biliwn o fagiau plastig bob blwyddyn.
Dim ond un ffôn arall ……. wneith e ddim gwahaniaeth… Beth ddigwyddodd i’ch hen ffôn symudol? Yn y DU bydd 11 miliwn o bobl yn disgwyl cael ffôn symudol newydd yn ystod cyfnod y Nadolig. Mae disgwyl y bydd 2 miliwn o ffonau symudol yn cael eu rhoi yn y bin yn ystod cyfnod y Nadolig. Sut mae’n bosibl gwella hyn?
Pethau y dylem eu hystyried cyn defnyddio defnyddiau plastig Plastig ac agweddau cynaladwyedd Adnodd gwerthfawr sy’n cael ei wneud o olew yw plastig. Rydym yn ei ddefnyddio mor helaeth am ei fod yn ddefnydd mor hyblyg. Mewn grwpiau bach trafodwch y canlynol a chyflwynwch adborth i weddill y dosbarth. 1. Nodwch 5 cynnyrch lle mai plastig yw’r defnydd gorau i’w ddefnyddio 2. Nodwch 5 cynnyrch plastig nad oes eu hangen o gwbl 3. Nodwch 5 cynnyrch plastig y byddai’n well pe defnyddid defnyddiau eraill. Lluniau trwy ganiatâd caredig photo gallery wales.