1 / 8

Y Treiglad Trwynol

Y Treiglad Trwynol. Dyma’r llythrennau sy’n treiglo’n drwynol:. P > mh (fy) mhen T > nh (fy) nhrwyn C > ngh (fy) ngheg B > m (fy) mol D > n (fy) nant G > ng (fy) ngenau. Ond pryd mae angen treiglo’n drwynol?. Ar ôl y rhagenw ‘fy’ - fy nghi ; fy mhen

ananda
Télécharger la présentation

Y Treiglad Trwynol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Y Treiglad Trwynol

  2. Dyma’r llythrennau sy’n treiglo’n drwynol: • P > mh (fy) mhen • T > nh (fy) nhrwyn • C > ngh (fy) ngheg • B > m (fy) mol • D > n (fy) nant • G > ng (fy) ngenau

  3. Ond pryd mae angen treiglo’n drwynol? • Ar ôl y rhagenw ‘fy’ - fy nghi ; fy mhen • Ar ôl yr arddodiad ‘yn’ (yn + m > ym; yn + g >yng) – yn Nhalsarnau; ym Mangor; yng Nghroesor

  4. Cofiwch hefyd am yr enwau ‘diwrnod, blwydd, blynedd’ • Y treiglad trwynol ddaw ar ôl ‘pum, saith, wyth, naw, deng, deuddeng, pymtheng, deunaw, ugain, can’: • Pum niwrnod; wyth mlynedd; can mlynedd

  5. Dewch i ni weld faint ydych chi’n ei gofio! Cylchwch gamgymeriadau John druan. Tua pump blynedd yn ôl oedd hi ac roeddwn i’n saith blwydd oed. Roeddwn i a Mam a Dad yn byw yn Talsarnau. Es i a ci fi am dro efo dad fi. Yn cae Mr Jones y ffarmwr oedden ni pan welon ni o – y tarw! Roedd ci fi wedi dychryn cymaint roedd pen fi’n troi wrth drio’i ddal o ar y tennyn. Roedd o’n rhy gryf i mi, a dyma fo’n symud yn sydyn a neidio i fyny a bachu’r fodrwy oedd yn trwyn y tarw. Doedd hwnnw ddim yn hapus, felly dyma dad fi a finna yn rhedeg ar ôl ci fi a neidio dros y ffens. Es i byth am dro i gae Mr Jones y ffarmwr wedyn. John Jones

  6. Eisiau help? Dyma’r camgymeriadau mewn coch… Tua pump blynedd yn ôl oedd hi ac roeddwn i’n saith blwydd oed. Roeddwn i a Mam a Dad yn byw yn Talsarnau. Es i a ci fi am dro efo dad fi. Yn cae Mr Jones y ffarmwr oedden ni pan welon ni o – y tarw! Roedd ci fi wedi dychryn cymaint roedd pen fi’n troi wrth drio’i ddal o ar y tennyn. Roedd o’n rhy gryf i mi, a dyma fo’n symud yn sydyn a neidio i fyny a bachu’r fodrwy oedd yn trwyn y tarw. Doedd hwnnw ddim yn hapus, felly dyma dad fi a finna yn rhedeg ar ôl ci fi a neidio dros y ffens. Es i byth am dro i gae Mr Jones y ffarmwr wedyn.

  7. …a dyma’r atebion… Tua pum mlynedd yn ôl oedd hi ac roeddwn i’n saith mlwydd oed. Roeddwn i a Mam a Dad yn byw yn Nhalsarnau. Es i a fy nghi am dro efo fy nhad. Yng nghae Mr Jones y ffarmwr oedden ni pan welon ni o – y tarw! Roedd fy nghi wedi dychryn cymaint roedd fy mhen i’n troi wrth drio’i ddal o ar y tennyn. Roedd o’n rhy gryf i mi, a dyma fo’n symud yn sydyn a neidio i fyny a bachu’r fodrwy oedd yn nhrwyn y tarw. Doedd hwnnw ddim yn hapus, felly dyma fy nhad a finna yn rhedeg ar ôl fy nghi a neidio dros y ffens. Es i byth am dro i gae Mr Jones y ffarmwr wedyn.

  8. Roedd yna 11 camgymeriad… • Gawsoch chi nhw i gyd ? • Cofiwch y treiglad trwynol – mae’n hawdd!!

More Related