1 / 47

Hyfforddiant Rheoli Perfformiad i Lywodraethwyr

Hyfforddiant Rheoli Perfformiad i Lywodraethwyr. Amcanion y Sesiwn. Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol Deall rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol

Télécharger la présentation

Hyfforddiant Rheoli Perfformiad i Lywodraethwyr

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Hyfforddiant Rheoli Perfformiad i Lywodraethwyr

  2. Amcanion y Sesiwn • Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol • Deall rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol • Deall sut y mae rheoli perfformiad yn rhan o gyd-destun ehangach proses gwella'r ysgol • Deall gweithredu proses rheoli perfformiad y pennaeth gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau’r rheini sy’n rhan o’r broses

  3. Diben Rheoli Perfformiad 'Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac arweinwyr timau ysgolion. Mae'n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr i gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a'u hadolygu yng nghyd-destun cynllun gwella'r ysgol. Mae'n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.' Canllawiau Llywodraeth Cymru Mai 2012

  4. Y Broses Rheoli Perfformiad Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy: • ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles disgyblion; • gwerthfawrogi'r rôl hanfodol sydd gan athrawon; • ymddiriedaeth rhwng yr athro a'r gwerthuswr, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl; • annog rhannu arfer da; • integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol.

  5. Rôl Rheoli Perfformiad yn y Broses Gwella Ysgolion Mae Rheoli Perfformiad yn cefnogi:- • ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau • athrawon i ddiwallu anghenion plant a gwella safonau Mae Rheoli Perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i:- • ddatblygu'r holl ymarferwyr yn effeithiol • sicrhau boddhad yn y swydd • lefelau uchel o arbenigedd • dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol

  6. Y Cylch Gwerthuso • Cynllunio • Hunanddadansoddi • Dadansoddiad • Gosodamcanionstrategol Adolygu Hunanfyfyrio Cyfarfodadolygu Datganiadgwerthuso Gwerthuswr a Gwerthusai Monitro Adolygiadanffurfiolynystod y flwyddyn Arsylwiaddysgu Fynonellaucytunedigeraill o dystiolaethsy’nbriodolirôl yr athro Consortiwm De Orllewin a Chanolbarth Cymru

  7. Y Polisi Rheoli Perfformiad

  8. Y Polisi Rheoli Perfformiad ‘Dylai'r polisi osod fframwaith er mwyn i'r holl staff gytuno ac adolygu blaenoriaethau ac amcanion o fewn cyd-destun cynllun datblygu'r ysgol a'u hanghenion datblygu eu hunain. Bydd yn eu helpu gyda'r nod o ddatblygu'r holl staff a helpu, lle y bo'n addas, i godi safonau cyrhaeddiad i ddisgyblion.’ Rheoli Perfformiad i Athrawon LlC 073/2012

  9. Y Polisi Rheoli Perfformiad Rhaid bod y polisi rheoli perfformiad yn glir ynghylch: • rhoi ar waith • disgwyliadau • blaenoriaethau • monitro ac asesu • adolygu

  10. Elfennau Allweddol Polisi Rheoli Perfformiad Cyflwyniad: yr hyn y mae'r polisi'n ceisio'i gyflawni Rolau a chyfrifoldebau Amserlen ar gyfer adolygiadau Y Cylch Rheoli Perfformiad Y Weithdrefn Apelio Cyfrinachedd Mynediad i ddeilliannau

  11. Rolau a Chyfrifoldebau yn y Broses Rheoli Perfformiad

  12. Rolau a Chyfrifoldebau yn y Broses Rheoli Perfformiad Aelodau Allweddol Y corff llywodraethu/y corff priodol Y Pennaeth Gwerthuswr/ Gwerthuswyr Gwerthusai / Gwerthuseion Yr Awdurdod Lleol Llywodraeth Cymru

  13. Cyfrifoldebau'rCorffLlywodraethu / CorffPriodol Rhaid i'r corff llywodraethu/cyrff perthnasol: adolygu a chytuno ar y polisi rheoli perfformiad yn flynyddol monitro effeithiolrwydd ac effaith y broses rheoli perfformiad adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso rhoi unrhyw broses apelio ar waith cadw copi o ddatganiadau'r pennaeth am o leiaf 3 blynedd anfon copi o ddatganiad y pennaeth at y Prif Swyddog Addysg (PSA)

  14. Cyfrifoldebau'rPennaeth o fewn y broses RheoliPerfformiad Dylai penaethiaid: adolygu a chytuno ar bolisi RhP gyda'r Corff Llywodraethu a'r ALl pennu amseru cylch gwerthuso’r ysgol penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro yn yr ysgol a sicrhau bod gwerthuswyr yn cynnal eu cyfrifoldebau sicrhau monitro addysgu ac adborth datblygu sicrhau bod gan athrawon gynlluniau unigol a datblygiad proffesiynol a dargedir sy'n cefnogi gwella'r ysgol gyfan adrodd am effeithiolrwydd gweithdrefnau RhP yr ysgol yn flynyddol i'r corff llywodraethu cadw copi o'r holl ddatganiadau arfarnu dros y 3 blynedd ddiwethaf llunio adroddiad ysgrifenedig i'r corff llywodraethu ynghylch y broses RhP yn yr ysgol o leiaf unwaith y flwyddyn

  15. RôlyrGwerthuswr/Gwerthuswyr(Athro, Pennaeth, Llywodraethwr, EnwebaiALl) Rhaid i Werthuswyr: Gytuno a chofnodi amcanion gyda'r gwerthusai Monitro ac adolygu perfformiad y gwerthusai trwy gydol y cyfnod Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol y gwerthuseion Paratoi'r datganiad gwerthuso blynyddol Gwneud argymhellion ysgrifenedig lle mae‘r gwerthusai’n gymwys am gynnydd tâl yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (STPCD), lle y bo'n addas.

  16. Cyfrifoldebau'rGwerthuswr / Gwerthuswyr Maent yn cynnal eu cyfrifoldebau drwy:- • gynllunio'r cylch gwerthuso gyda'r gwerthusai • gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol • trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol • parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch RhP (adolygiad ffurfiannol) • cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthusai / gwerthuseion (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn) • gweithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad • trefnu bod datganiad gwerthuso llawn neu ychwanegiad i'r datganiad gwerthuso ar gael i'r personél priodol

  17. Rôl y Gwerthuseion(AthroneuBennaeth) Dylai'r gwerthuseion: drafod, cynllunio a gosod amcanion gyda'r gwerthuswr cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol

  18. Cyfrifoldebau'r Gwerthuseion Rhaid i'r gwerthuseion: drafod a gosod amcanion gyda'r gwerthuswr / gwerthuswyr, cymryd sylw o gyd-destun yr ysgol, disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data perthnasol a thystiolaeth o berfformiad cymryd rhan mewn trefniadau monitro cynnal a chadw cofnod datblygu ymarfer ac adolygu diweddar cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol

  19. Yr Awdurdod Lleol Rhaid i'r Awdurdod Lleol: gymeradwyo polisi RhP yr ysgol enwebu un neu ddau o werthuswyr yr ALl i wasanaethu ar banel gwerthuso'r pennaeth ymgynghori â'r pennaeth ar enwebai/enwebeion yr ALl darparu enwebeion ar gyfer y broses apeliadau derbyn a chadw datganiad gwerthuso'r pennaeth wedi'i lofnodi a'i ddyddio am dair blynedd sicrhau bod gweithdrefnau gwerthuso yn eu lle i athrawon digyswllt

  20. RheoliPerfformiad y Pennaeth

  21. Cyfrifoldebau’r Corff Llywodraeth o ran Rheoli Perfformiad y Pennaeth Mae’n rhaid i’r corff llywodraethu / corff perthnasol: • Benodi Panel Gwerthuso i • adolygu rheoli perfformiad y pennaeth trwy banel gwerthuso • cytuno ar amcanion i’r pennaeth • cytuno ar ddatganiad gwerthuso blynyddol • monitro perfformiad y pennaeth yn rheolaidd • Cynnwys unigolyn/unigolion a enwebwyd o’r Awdurdod Lleol ym mhanel gwerthuso’r pennaeth ac yn y broses rheoli perfformiad • Sicrhau y cynhelir proses rheoli perfformiad y pennaeth yn unol â’r gofynion statudol

  22. Rôl y Pennaeth yn ei Broses Rheoli Perfformiad ei hun • Trafod a gosod amcanion â’r gwerthuswyr • Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu gan gynnwys:- • adolygu’i berfformiad ei hun trwy ddefnyddio’r safonau arwain • cynnal ei Gofnod Ymarfer, Adolygu a Datblygu • mynd i gyfarfodydd adolygu perfformiad o fewn y flwyddyn anffurfiol â’r panel gwerthuso • Awgrymu amcanion ar gyfer y cylch nesaf • Ystyried y datganiad gwerthuso • Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol

  23. Cyfrifoldebau’rPennaeth • Trafod gosod amcanion â’r panel gwerthuso yng nghyd-destun yr ysgol, y swydd-ddisgrifiad a’r safonau proffesiynol addas • Hwyluso’r broses trwy nodi a darparu data a thystiolaeth berthnasol o berfformiad • Cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu wedi’i ddiweddaru • Cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol • Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol

  24. Rôl y Panel Gwerthuso Mae’n rhaid i’r panel gwerthuso: gytuno ar amcanion â’r pennaeth a’u cofnodi monitro ac adolygu perfformiad trwy’r cylch trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol y pennaeth paratoi’r datganiad gwerthuso blynyddol rhoi copi o’r datganiad gwerthuso i’r Pennaeth, Cadeirydd y Corff Llywodraethu a’r Prif Swyddog Addysg rhoi copi o ddatganiad o amcanion y pennaeth i Estyn ar gais

  25. Penodi’r Panel Gwerthuso Y corff llywodraethu i benodi o leiaf dau lywodraethwr Yr Awdurdod Lleol i benodi un neu ddau Yn ogystal, os mai pennaeth ysgol a chanddi gymeriad crefyddol sy’n cael ei werthuso, gallai’r Awdurdod Esgobaethol benodi gwerthuswr Lle bo’r amser y mae’r pennaeth yn ei dreulio yn addysgu’n rhan sylweddol o’i rôl, yna dylid ystyried cynnwys gwerthuswr a chanddo StatwsAthroCymwysedig(SAC) Ni ellir penodi yr un llywodraethwr yn werthuswr i’r pennaeth os yw’n athro neu’n aelod arall o staff yr ysgol

  26. Enwebai/EnwebeionyrAwdurdodLleol Bydd yr Awdurdod Lleol yn: enwebu un neu ddau gynrychiolydd y byddai ganddynt fel arfer wybodaeth am yr ysgol, rôl y pennaeth ac am flaenoriaethau perthnasol yr Awdurdod Lleol lle bo’n briodol, rhoi ystyriaeth benodol i gynnwys gwerthuswr a chanddo Statws Athro Cymwysedig (SAC) ymgynghori â’r pennaeth ynghylch pwy fydd yn cael ei benodi’n werthuswr/gwerthuswyr

  27. Trefniadau Rhanbarthol ar gyfer Penodi Enwebeion yr Awdurdod Lleol Bydd Prif Swyddog Addysg yr Awdurdod Lleol yn enwebu un gwerthuswr, ac mae’n cadw’r hawl i enwebu ail werthuswr: pan fo ysgol mewn amgylchiadau heriol pan fo ysgol mewn categori monitro Estyn ar gais y pennaeth trwy gytundeb â’r Prif Swyddog Addysg ar gais y Corff Llywodraethu trwy gytundeb â’r Prif Swyddog Addysg

  28. Enwebai/EnwebeionyrAwdurdodLleol • Enwebai cyntaf yr Awdurdod Lleol fydd swyddog gwella ysgolion y consortiwm sy’n cyflawni’r monitro craidd a’r rôl her ar ran yr Awdurdod Lleol • Yr ail fydd gwerthuswr hyfforddedig sy’n bodloni’r meini prawf a amlinellwyd yn y canllaw, a bydd yn un o’r canlynol: • swyddog yr Awdurdod Lleol o Awdurdod Lleol yr ysgol • swyddog Awdurdod Lleol o Gonsortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru • pennaeth cymheiriaid o Gonsortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru • Bydd Prif Swyddog Addysg yr Awdurdod Lleol yn sicrhau bod gan bob enwebai ddealltwriaeth gadarn o’r: • ysgol a’i chyd-destun • data perfformiad yr ysgol a gwybodaeth am yr ysgol • Safonau Arwain

  29. AdolyguPerfformiad

  30. Y CyfarfodGwerthusoBlynyddol • Mae’n rhaid i’r gwerthuswyr a’r pennaeth gynnal adolygiad gwerthuso blynyddol er mwyn: • asesu’r graddau y mae’r • pennaeth wedi cyflawni’r amcanion ar gyfer y cylch • pennu a bu perfformiad llwyddiannus ar y cyfan o ran cadarnhau a yw’r pennaeth wedi cyflawni safonau’r penaethiaid – y safonau arwain • nodi’r angen am gymorth hyfforddiant a datblygiad ychwanegol • Dylid ystyried Ymarfer, Adolygu a Datblygu’r pennaeth wrth adolygu perfformiad

  31. Dogfennaeth i’w hystyried yn ystod y Cyfarfod Gwerthuso Blynyddol Unrhyw ddata perfformiad a gwybodaeth berthnasol Cynllun Gwella Ysgolion Cofnod hunanwerthuso’r ysgol Cynllun yn dilyn arolygiad Estyn Y Safonau Arwain yn y Safonau Proffesiynol Diwygiedig ar gyfer Ymarferwyr Addysg yng Nghymru Deunydd perthnasol o adolygiadau’r awdurdod lleol gan gynnwys y matrics categoreiddio cenedlaethol

  32. Dylidhefydystyried: Adolygu, trafod a chadarnhau tasgau, amcanion a safonau hanfodol y pennaeth Cydnabod cryfderau a chyflawniadau ac ystyried ffactorau y tu hwnt i’w reolaeth Cadarnhau’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn ystod adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Nodi meysydd i’w datblygu a sut y gwneir hyn Cydnabod anghenion datblygu proffesiynol Cytuno ar amcanion clir a chwblhau cynllun unigol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod

  33. Gwneuddyfarniadau Mae’n rhaid i’r panel gwerthuso a’r pennaeth asesu: y graddau y cyflawnwyd yr amcanion a fu’r perfformiad ar y cyfan yn llwyddiannus ai peidio a yw’r pennaeth yn parhau i gyflawni safonau proffesiynol y pennaeth ar gyfer penaethiaid yr angen am hyfforddiant cymorth a datblygiad

  34. ParatoiargyferyrAdolygiadPerfformiadBlynyddol Rhoi digon o amser ar gyfer yr adolygiad Mae’n rhaid rhoi gwybod i’r pennaeth yn ysgrifenedig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf 10 diwrnod ysgol ymlaen llaw Dylid anfon y Cofnod Ymarfer, Adolygu a Datblygu at y gwerthuswyr o leiaf 5 diwrnod cyn y cyfarfod adolygu

  35. ParatoiargyferyrAdolygiadPerfformiadBlynyddol • Nodi cadeirydd ar gyfer y Panel Gwerthuso • Pennu sut y cedwir cofnodion a sut yr ysgrifennir y datganiad gwerthuso • Nodi data a thystiolaeth addas i’w defnyddio sydd yn cyd-fynd â’r rheoliadau • Penderfynu sut yr ystyrir yr amcanion o’r cylch blaenorol • Dylai’r pennaeth hunanfyfyrio cyn y cyfarfod • Cytuno ar drefniadau monitro ac adolygu

  36. GosodAmcanion

  37. GosodyrAmcanion • Byddai tri amcan fel arfer yn ddigon • Dylai amcanion y pennaeth: • gyfrannu at wella cynnydd disgyblion yn yr ysgol • ystyried tystiolaeth berthnasol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol • canolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu y gellir gwneud dyfarniadau yn seiliedig ar dystiolaeth arnynt

  38. Mae’nrhaidi’ramcanionymwneudag:- arwain a rheoli’r ysgol swydd ddisgrifiad y pennaeth unrhyw feini prawf datblygiad cyflog perthnasol unrhyw amcanion sy’n berthnasol i’r ysgol gyfan neu dîm a nodwyd yn y cynllun gwella ysgol y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer penaethiaid fel y penodwyd gan Weinidogion Cymru unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol o ran gwella ysgolion a nodwyd gan Weinidogion Cymru

  39. Dylai’ramcanionfodyn:- • Glir: ni ddylent achosi dim amwysedd na dryswch o ran y deilliant a fwriedir. • Cryno: defnyddio cyn lleied o eiriau â phosibl i gyfleu’r bwriad. • Mesuradwy: eu mynegi mewn ffordd lle bod modd cytuno ar y meini prawf a fydd yn dangos a yw’r amcan wedi’i gyflawni ai peidio. • Heriol: yn ddigon heriol, gan ystyried amgylchiadau’r ysgol, er mwyn sicrhau gwelliant sylweddol. • Datblygol: cefnogi gwelliant yr ysgol a’r gwerthusai

  40. NodiDatblygiadProffesiynol Dylai’r cyfleoedd datblygu proffesiynol a nodwyd: gefnogi datblygiad gwybodaeth, sgiliau a galluoedd y pennaeth cefnogi amcanion y cytunwyd arnynt datblygu cryfderau mynd i’r afael â meysydd ar gyfer datblygu proffesiynol neu dwf proffesiynol

  41. Y DatganiadGwerthuso Mae’n rhaid darparu datganiadau ysgrifenedig cyn pen 10 diwrnod ysgol Mae’n rhaid darparu anghenion hyfforddi a datblygu mewn atodiad Gall athro ychwanegu sylwadau at y datganiad cyn pen 10 diwrnod Bydd hyn yn ffurfio rhan o’r datganiad Mae’r datganiad Gwerthuso’n bersonol ac yn gyfrinachol

  42. MonitroPerfformiad

  43. MonitroPerfformiad • Dylai gweithdrefnau monitro: • gael eu trafod a’u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio • cynnwys amrywiaeth o ddulliau • Dylai cynnydd gael ei fonitro drwy’r flwyddyn • Dylid casglu tystiolaeth addas ddigonol i sicrhau y llunnir barn gadarn • Mae’n rhaid i’r pennaeth gadw Cofnod Ymarfer, Adolygu a Datblygu wedi’i ddiweddaru

  44. ArsylwiAddysguiBenaethiaid At ddiben rheoli perfformiad, mae’n rhaid i arsylwyr feddu ar Statws Athro Cymwysedig Dylid arsylwi yn ystod gwersi a gweithgareddau a drefnwyd ymlaen llaw Mae’n rhaid cael o leiaf 5 diwrnod ysgol o rybudd Mae’n rhaid arsylwi o leiaf unwaith y flwyddyn ar gyfer rheoli perfformiad – gellir caniatáu mwy trwy gytundeb Rhoddir adborth cyn gynted â phosibl (fel arfer cyn pen 5 diwrnod ysgol) Dylid cofnodi canlyniad yr arsylwi, gan gynnwys adborth Dylid rhoi’r cyfle i’r pennaeth ychwanegu sylwadau

  45. RheoliTanberfformiad Nid yw’r cyfarfod adolygu na’r datganiad gwerthuso’n ffurfio unrhyw ran o unrhyw gymhwysedd disgyblu neu weithdrefnau gallu Bydd rheoli llinell effeithiol â disgwyliadau clir a chymorth addas yn cynorthwyo i nodi a mynd i’r afael ag unrhyw wendidau mewn perfformiad Gellir ystyried datganiadau gwerthuso gan y rheini sy’n gyfrifol am wneud penderfyniad o ran materion perfformio, cyflog, dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu

  46. AmgylchiadauEithriadol Lle gwneir y penderfyniad i ymrwymo i gamau gweithredu cymhwyster neu allu ffurfiol, yna mae’r camau gweithredu hynny’n disodli’r trefniadau rheoli perfformiad Mae modd gohirio’r broses rheoli perfformiad ar unrhyw adeg

  47. MonitroGweithgarwch Dylai fod amrywiaeth o weithgarwch monitro sy’n casglu tystiolaeth addas ddigonol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Mae modd casglu’r dystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys: • Cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng y panel gwerthuso a’r pennaeth • Cofnod Ymarfer, Adolygu a Datblygu’r pennaeth • Cynllun Gwella Ysgol • Data a gwybodaeth am berfformiad yr ysgol • Proses barhaus hunanwerthuso’r ysgol • Arsylwi addysgu (lle bo’n addas)

More Related