1 / 24

BERFAU

BERFAU. AMSER Y FERF. Rydym yn gallu defnyddio BERF yn y ffordd hir (CWMPASOG) neu’r ffordd fer (CRYNO). CWMPASOG. CRYNO. CRYNO > CWMPASOG. cerdd wn i roeddwn i’n (arfer) cerdded ca iff hi mae/bydd hi’n cael

beck
Télécharger la présentation

BERFAU

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. BERFAU

  2. AMSER Y FERF Rydym yn gallu defnyddio BERF yn y ffordd hir (CWMPASOG) neu’r ffordd fer (CRYNO) CWMPASOG

  3. CRYNO

  4. CRYNO > CWMPASOG cerddwn i roeddwn i’n (arfer) cerdded caiff hi mae/bydd hi’n cael gwelodd o mae o wedi gweld canem ni roedden ni’n (arfer )canu prynafi rydw/byddaf i’n prynu bwytais i rydw i wedi bwyta yfai o roedd o’n (arfer) yfed cychwynom ni rydyn ni wedi cychwyn darllenwn ni rydyn/byddan ni’n darllen cofiaistti rwyt ti wedi cofio clywent hwy roedden nhw’n (arfer) clywed

  5. Creu brawddeg • Mae’n holl bwysig edrych ar derfyniad y ferf er mwyn creu brawddeg sy’n gywir o ran YSTYR a DEFNYDD • Rhaid dewis TAG AMSER addas i gyd-fynd â’r ferf • Os yw’r ferf yn un AMHERFFAITH, dylid rhoi tag arferiadol hefyd

  6. Adnabod amser y berf mewn brawddeg Un gwall cyffredin yw fod amser y ferf yn anghywir mewn brawddeg e.e. Ers talwm pan fyddwn yn cael prawfyn yr ysgol, teimlais yn sâl ATEB:Rydw i wedi teimlo Fyddai y ferf yma felly ddim yn addas TEIMLWN = Roeddwn i’n arfer teimlo Ystyriwch beth fyddai ffurf hir y ferf yma?

  7. Beth yw’r gwall? Canodd fy mrawd yn flynyddol yn Eisteddfod yr Urdd ers talwm. Ystyriwch beth yw ffurf hir ‘canodd’ > mae fy mrawd wedi canu canodd > canai Angen amser AMHERFFIATH y ferf yn lle’r gorffennol gan fod y weithred yn rhywbeth a oedd yn arfer cael ei wneud ers talwm.

  8. Beth yw’r gwall? Cerddais i’r ysgol yn ddyddiol pan oeddwn yn yr ysgol gynradd Ystyriwch beth yw ffurf hir ‘cerddais’ > rydw i wedi cerdded cerddais > cerddwn Angen amser AMHERFFIATH y ferf yn lle’r gorffennol gan fod y weithred yn rhywbeth a oedd yn arfer cael ei wneud ers talwm.

  9. Berf amhersonol Y peth pwysig i’w gofio gyda berf amhersonol yw: DOES DIM GODDRYCH I FERF AMHERSONOL, h.y. does dim person yn gwneud y weithred yn uniongyrchol e.e. Cariwyd y bachgen… Yn y frawddeg yma, NID y bachgen sy’n gwneud y weithred, ond cael ei gario gan rhywun arall mae o! berf amhersonol

  10. Mwy o enghreifftiau! Gwelwyd y plant… Cariwyd y ferch i’r ambiwlans… Genir babanod yn ysbyty… Achubwyd y dringwr… Yn yr enghreifftiau uchod, mae’r weithred yn cael eu gwneud gan rywun arall! Mae’r ferf felly yn ei stad ODDEFOL.

  11. Creu brawddeg gyda berf amhersonol Wrth greu brawddeg gyda berf amhersonol, rhaid sicrhau nad oes GODDRYCH i’r ferf os yw’r ferf yn ei stad WEITHREDOL h.y. mae angen sicrhau nad yw’r goddrych yn gwneud y weithred. Fodd bynnag, mae modd creu brawddeg yn ei stad ODDEFOL os dymunwch wneud hynny. COFIWCH: Cyngor y prif arholwr oedd: defnyddio ‘GAN’ yn y frawddeg

  12. Beth am greu? gwelwyd anfonir ysgrifennid darllenwyd bwytir prynid

  13. Gwallau gyda’r amhersonol Sonir y bardd yn ei gerddi… • Yn y frawddeg yma, mae goddrych, sef ‘y bardd’, felly dyna’r gwall – DOES DIM GODDRYCH I FERF AMHERSONOL. • Wrth egluro’r gwall gellid mai 3ydd person unigol amser presennol y ferf sydd ei angen sonir > sonia

  14. Ble mae’r gwall? Cyhoeddwyd yr awdur gyfrol newydd. cyhoeddwyd > cyhoeddodd Nid oes goddrych i ferf amhersonol. Angen 3ydd pesrson unigol amser gorffennol ferf Defnyddir y plant Gymraeg graenus. defnyddir > defnyddia Nid oes goddrych i ferf amhersonol. Angen 3ydd pesrson unigol amser gorffennol ferf

  15. Sonir y bardd am natur yn ei gerddi. sonir > sonia Nid oes goddrych i ferf amhersonol. Angen 3ydd pesrson unigol amser presennol y ferf Argraffwyd yr awdures ei hail nofel. argraffwyd > argraffodd Nid oes goddrych i ferf amhersonol. Angen 3ydd pesrson unigol amser gorffennol ferf

  16. Gwrthrych berf Gwelodd Sian blismon Gwrthrych y ferf sy’n ateb ‘BETH?’ i’r ferf. Gwelodd yw’r ferf, Sian yw’r goddrych, yr un sy’n gwneud y weithred a plismon yw’r gwrthrych, sef yr hyn sy’n ateb ‘BETH?’ i’r ferf. berf goddrych gwrthrych

  17. Rheol treiglo Mae gwrthrych berf bersonol yn treiglo’n feddal: Ysgrifennodd y prifathro lythyr. Cafodd y bachgen ddamwain. Gwelodd Carys ddrama. Coginiodd fy mam ginio blasus. Planais flodau yn yr ardd

  18. DIM TREIGLAD i wrthrych berf amhersonol Gwelwydplismon ar y stryd. Ysgrifennwydllythyr gan y pifathro. Planwydblodau gan yr athro. Coginwydcinio blasus gan fy mam. Gwelwyddrama yn y theatr. Cafwydparti da neithiwr.

  19. Beth yw’r gwall? Cafodd y dosbarth cinio cynnar ddoe. cinio > ginio Gwrthrych berf bersonol yn treiglo’n feddal Ysgrifennodd y bachgen llythyr. llythyr > lythyr Gwrthrych berf bersonol yn treiglo’n feddal

  20. Beth yw’r gwall? Gwelwyd ddamwain ar y draffordd. ddamwain > damwain Nid yw gwrthrych berf amhersonol yn treiglo’n feddal. Coginwyd bysgodyn i ginio ddoe. bysgodyn > pysgodyn Nid yw gwrthrych berf amhersonol yn treiglo’n feddal.

  21. Arddodiad gyda berf Mae defnyddio ARDDODIAD anghywir gyda berf yn wall cyffredin iawn. Gofynnais wrtho ddod i’m gweld. Bydd hi’n gwrando i gerddoriaeth Aeth Sian i’r deintydd bore heddiw. Dywedodd y cyfan i’w athro.

  22. Beth yw’r gwall? Byddaf yn mynd i’r deintydd yfory. mynd i > mynd at Arddodiad anghywir gyda’r ferf ‘mynd’. Rhaid i mi siarad i’r prifathro. siarad i > siarad gyda/efo/â Arddodiad anghywir gyda’r ferf ‘mynd’.

  23. Brawddegau i’w cywiro Cafodd ein dosbarth parti i diweddu’r blwyddyn. parti > barti Gwrthrych berf bersonol yn treiglo’n feddal i diweddu > i ddiweddu Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘i’ diweddu’r blwyddyn > diweddu’r flwyddyn Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod

  24. Mae DAU wall ym mhob brawddeg Sonir yr awdur am Cymru yn ei gyfrol newydd. Cafodd y plant pysgodyn a sglodion i cinio. Gwelwyd blismon yn siarad i’r plant ar y stryd. Ysgrifennodd fy mam llythyr i cwyno. Ers talwm, cerddais i’r ysgol bob dydd gyda fy brawd.

More Related