1 / 26

CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT

CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT. Gwaith gr ŴP. agenda. Beth yw hawliau plant? Pam hawliau plant? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yng Nghymru Hawliau plant ar gyfer swyddogion cynllunio a pholisi gofal cymdeithasol Myfyrio a gwerthuso.

bern
Télécharger la présentation

CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT

  2. Gwaith grŴP

  3. agenda • Beth yw hawliau plant? • Pam hawliau plant? • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Hawliau plant yng Nghymru • Hawliau plant ar gyfer swyddogion cynllunio a pholisi gofal cymdeithasol • Myfyrio a gwerthuso

  4. HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD • Cyffredinol • Diymwad • Annatod • Atebol

  5. EGWYDDORION FREDA • Tegwch a rhyddid (Fairness and freedom) • Parch (Respect) • Cydraddoldeb (Equality) • Urddas (Dignity) • Ymreolaeth (Autonomy)

  6. PAM MAE ANGEN HAWLIAU YCHWANEGOL AR BLANT? • Aeddfedrwydd • Heb lais ac yn anweledig • Eiddo

  7. DYMUNIADAU, ANGHENION A HAWLIAU • Dymuno – awydd i gael rhywbeth • Angen – y cyflwr o fod angen cymorth, neu â phrinder hanfodion sylfaenol fel bwyd • Hawl – hawl foesol neu gyfreithiol i gael neu wneud rhywbeth

  8. 4 ELFEN HAWL • Y sawl sydd â’r hawl (yr unigolyn) • Y gwrthrych (yr hyn y mae ganddynt hawl i’w gael) • Y rhai â dyletswydd (pobl neu sefydliad) • Y cyfiawnhad (mwy o urddas i’r unigolyn, datblygiad cymdeithasol, cymdeithas heddychlon)

  9. YNYS AIL-GREU

  10. CONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN • 54 erthygl • 41 prif erthygl • 3 pharth

  11. 4 HAWL SYLFAENOL Erthygl 2 – Dim gwahaniaethu Erthygl 3 – Lles y plentyn Erthygl 6 – Hawl i fywyd Erthygl 12 – Hawl i gael eich clywed

  12. Y SAFONAU CENEDLAETHOL AR GYFER CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC 1. Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall 2. Eich dewis chi – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis gwybodus 3. Dim gwahaniaethu – mae gan bob person ifanc yr un cyfle i gymryd rhan 4. Parch – byddwn yn parchu’ch barn chi 5. Byddwch chi ar eich ennill hefyd – byddwch chi’n mwynhau’r profiad 6. Adborth - byddwch chi’n gwybod pa wahaniaeth mae’ch barn chi wedi’i wneud 7. Gwella ein ffordd o weithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut gallan nhw wella eu ffordd o weithio gyda chi yn y dyfodol

  13. GWEITHREDU’R HAWL I ADDYSG- ENGHRAIFFT

  14. Y BROSES ADRODD • Bob 5 mlynedd • Adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig: • Llywodraeth y DU (gan gynnwys adran gan Lywodraeth Cymru) • Adroddiadau Cyrff Anllywodraethol • Adroddiad pobl ifanc • Adroddiadau’r Comisiynwyr Plant (4 gwlad) • Sylwadau i gloi • Cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru • Grŵp monitro

  15. AMSER PANED

  16. SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI GOFAL CYMDEITHASOL 1 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i bob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant, yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol • Defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ddiogelu hawl plentyn i fyw • Cyflwyno ymchwiliadau awtomatig, annibynnol a chyhoeddus i unrhyw farwolaeth neu anaf difrifol i blentyn • Sicrhau bod parch i farn plant yn y teulu ac mewn sefydliadau yn cael ei hyrwyddo a’i roi ar waith • Hyrwyddo parch i farn plant mewn llysoedd a sefydliadau eraill sy’n effeithio ar blant

  17. SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI GOFAL CYMDEITHASOL 2 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Sicrhau bod ataliad ond yn cael ei ddefnyddio fel dewis olaf, i atal niwed i’r plentyn • Gwahardd pob math o atal plant yn gorfforol fel ffordd o ‘ddisgyblu’ • Gwahardd pob math o gosb gorfforol yn y teulu • Sicrhau bod cosb gorfforol yn cael ei gwahardd mewn sefydliadau gofal a sefydliadau eraill • Ei gwneud hi’n llai derbyniol taro plant trwy hyrwyddo dulliau di-drais o’u disgyblu 11. Darparu addysg a hyfforddiant ar sut i fagu plant yn gadarnhaol i rieni ac oedolion sy’n gweithio gyda phlant

  18. SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI GOFAL CYMDEITHASOL 3 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Defnyddio Astudiaeth y Cenhedloedd Unedig o Drais yn erbyn plant i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei ddiogelu rhag pob math o drais corfforol, rhywiol a meddyliol • Cynnig rhagor o gymorth i rieni a gwarcheidwaid fagu eu plant • Sicrhau nad yw plant yn cael eu rhoi mewn gofal oherwydd nad yw eu rhieni’n ennill llawer o arian • Ystyried barn plant ym mhopeth sy’n ymwneud â’r teulu neu o fod mewn gofal • Monitro plant sy’n byw mewn gofal maeth, cartrefi gofal neu sefydliadau, a phlant sy’n derbyn gofal gan aelodau eraill o’r teulu.

  19. SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI GOFAL CYMDEITHASOL 4 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Deall pam mae cymaint o blant mewn cartrefi gofal hirdymor 18. Sicrhau y gellir dechrau trefniadau cyswllt fel y gall plant sy’n byw ar wahân i’w rhieni a’u brodyr a’u chwiorydd gael cyswllt gyda nhw 19. Darparu hyfforddiant ac addysg i helpu i baratoi plant sy’n byw mewn gofal neu mewn sefydliadau ar gyfer bywyd fel oedolion • Sefydlu ffyrdd o wirio faint o achosion o gam-drin sy’n digwydd mewn teuluoedd, ysgolion, sefydliadau a phob math o ofal 21. Sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn gwybod am eu dyletswydd i adrodd am achosion lle yr amheuir trais domestig sy’n effeithio ar blant a’u bod yn mynd i’r afael â’r achosion hyn

  20. SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI GOFAL CYMDEITHASOL 5 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Sicrhau bod yna wasanaethau da i helpu plant sydd wedi’u cam-drin • Darparu hyfforddiant i weithwyr cymdeithasol sy’n gweithio gyda phlant anabl ar hawliau plant • Sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol ar gael mewn ysgolion i blant sy’n cael problemau yn yr ysgol • Sicrhau bod gan blant sy’n byw mewn gofal rywun i gynrychioli ac amddiffyn eu buddiannau • Sicrhau bod rheolau amddiffyn plant ar gyfer plant sy’n cael eu masnachu yn bodloni safonau rhyngwladol

  21. DEDDFWRIAETH A PHOLISÏAU HAWLIAU PLANT YNG NGHYMRU • Deddf Plant 2004 – mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail i bob polisi plant • Saith nod craidd – yn seiliedig ar y Confensiwn • Cynllun Gweithredu Cenedlaethol – Gwneud Pethau’n Iawn 2009 – yn mynd i’r afael ag 16 blaenoriaeth ar gyfer Cymru • Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) – pasiwyd yn 2010 • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – bydd Gweinidogion yn gorfod ystyried y Confensiwn wrth wneud eu holl benderfyniadau

  22. Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL ISWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI GOFAL CYMDEITHASOL 1 • Erthygl 5 – parchu hawliau a chyfrifoldebau teuluoedd i gyfeirio ac arwain eu plant • Erthygl 6 – hawl i fyw a goroesi a datblygu’n iach • Erthygl 9 – hawl i beidio â chael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni onid yw hynny er eu lles eu hunain a chadw mewn cysylltiad â’r ddau riant • Erthygl 12 – hawl i gael eu clywed a chael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw • Erthygl 13 – hawl i gael a rhannu gwybodaeth • Erthygl 16 – hawl i breifatrwydd

  23. Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI GOFAL CYMDEITHASOL 2 • Erthygl 19 – amddiffyn rhag cam-drin corfforol ac esgeulustod • Erthygl 20 – os na all dy deulu dy hun ofalu amdanat, rhaid i ti dderbyn gofal priodol • Erthygl 25 – dylid adolygu sefyllfa plant sydd mewn gofal yn rheolaidd • Erthygl 28 – hawl i addysg • Erthygl 34 – amddiffyn rhag cam-drin corfforol • Erthygl 36 – amddiffyn rhag gweithgareddau a allai niweidio plentyn • Erthygl 39 – os yw plentyn wedi’i gam-drin, dylai dderbyn cymorth arbennig i adfer hunan-barch

  24. MEDDYLIWCH AM BLENTYN…

  25. RHOI’R HYN A DDYSGWYD AR WAITH

  26. UNRHYW GWESTIYNAU I GLOI?

More Related