1 / 12

Pennod 3 ‘Stafell Ddirgel

Pennod 3 ‘Stafell Ddirgel. Marion Eames. Cynnwys Pennod 3. Parti’r Plygain yn yr Hengwrt – cyfoeth amlwg! Hywel Vaughan yw’r un sy’n gwahodd y pwysigon yno i’w gartref. Rowland yn teimlo’n anghyfforddus ynghanol yr holl ysblander.

Télécharger la présentation

Pennod 3 ‘Stafell Ddirgel

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Pennod 3‘Stafell Ddirgel Marion Eames

  2. Cynnwys Pennod 3 • Parti’r Plygain yn yr Hengwrt – cyfoeth amlwg! • Hywel Vaughan yw’r un sy’n gwahodd y pwysigon yno i’w gartref. • Rowland yn teimlo’n anghyfforddus ynghanol yr holl ysblander. • Meg wrth ei bodd gyda’r holl sioe a’r moethusrwydd. Yn amsugno’r awyrgylch hyd yr eithaf i wneud yn iawn am ei naw mis o gaethiwed. • Meg yn diflannu i’r llyfrgell.

  3. Parhâd • Wrth chwilio am ei wraig mae’n cyfarfod â Jane Owen yn y llyfrgell. • Hywel Vaughan a Meg yn ymddangos gyda’i gilydd yn y llyfrgell hefyd! • Casineb ac oerni yn amlwg gan Hywel Vaughan at ei chwaer. • Jane Owen yn gofyn am gael rhyddhau Ifan Roberts o garchar Cae Tanws – ofer yw ei hymdrech. • Meddwon yn mynd i’r eglwys -RHAGRITHWYR .( Rowland yn falch o beidio â mynd!) • Y ddau yn aros yn yr Hengwrt.

  4. Pwysigrwydd cyfarfyddiad Jane Owen a Rowland… • Rowland gam yn nes eto at droi yn Grynwr. • Cyfarchiad Jane Owen yn bwysig – yn ei gyfarch fel TI. “ Rydw i’n falch o’th weld” • Rowland yn cael ei wahodd i gyfarfod y Crynwyr ar Nos Galan. • Rowland yn casau Hywel Vaughan am drin ei chwaer mor sal nid am fflyrtian efo’i wraig!

  5. Gwrthgyferbyniadau… • Meg yn mwynhau bywyd materol ac ysblennydd. Rowland yn dod i ddeall fod pethau amgenach na hynny. • Rowland yn isel ei ysbryd ac yn ymwybodol fod hyn yn creu rhwyg rhyngddo ef a Meg. • Cyfoeth ysblennydd yr Hengwrt – sianderlirs a digonedd o fwyd! Tlodi’r pentrefwyr a moelni carchar Caetanws.

  6. Parhâd… • Sgwrs Meg a Hywel: “ O mi hoffwn fynd i Lundain…” ( Meg ) “ I fod yn feistres y Brenin?” ( Hywel ) Mewn gwrthgyferbyniad â sgwrs Jane a Rowland sydd am grefydd: “ Am fod Jane Owen yn synhwyro fod Rowland Ellis eisioes wedi profi drosto’i hun nerth y goleuni oddi mewn” ( Jane Owen )

  7. Hywel Vaughan • Casineb amlwg tuag at ei chwaer: “ Ateb fi y gnawes hurt. Be wnei di yma?” “Roedd y teimlad a basiodd o’r brawd i’r chwaer yn rhywbeth y gellid gafael ynddo bron.” Smart iawn ei wisg – dillad ysgarlad (Lliw brenhinol)- ryfflau gwynion, gwasgod glaerwen a botymau aur. Ffasiynol iawn. Fflyrtian gyda Meg – ymwybodol o fan gwan Meg am bethau da bywyd. Dyn deallus ond oer a chaled. Dyn bydol-ddoeth.

  8. Rowland Ellis • Yn ei fyd ei hun – trist a thrwm ei galon. • Mae meddyliau Meg yn cadarnhau hyn: “ Teimlai Meg bigiad o anniddigrwydd wrth sylwi ar ei wyneb di wên” Mae newid mawr wedi dod dros Rowland mewn blwyddyn: “ Teimlai ei fod yn nes at ei was yn ei glos ffustian a’i grys gwlan nag yr oedd at y boneddigion hyn…yn eu sidanau a’u melfed”

  9. Jane Owen • Byw yn Nolserau • Gwraig Robert Owen Dolserau • Meistres Ifan Roberts yr hwsmon. • Yn mynd i’r carchar dros ei chred yn nes ymlaen yn y nofel • Dynes ddewr a dylanwadol • Yn gweld addewid yn Rowland. • Dynes addfwyn.

  10. Meg Ellis • Wedi cael gormod i’w yfed: “ Roedd ei llygaid yn ddieithr a’i gwefusau’n llac.” • Nerfusrwydd wrth weld Rowland yn y llyfrgell – gwybod ei bod wedi gwneud yn anghywir. • Fel plentyn bach yn cael ei rhoi i’w wely ar ddiwedd y bennod • Rowland yn aeddfetach a mwy deallus na hi.

  11. Arddull • Deialog – ystwyth a llithrig dafodieithol. • Pwyslais ar natur Jane Owen o gyfarch yn null y Crynwyr. ( TI ) • Cyffelybiaeth: “Clywodd Rowland y geiriau yn mynd drwyddo fel saeth.” ( h.y. geiriau J.Owen) “ Syrthiodd distawrwydd rhewllyd fel cyllell ar draws yr ystafell”

  12. Parhâd… • Ansoddeiriau i ddisgrifio llais Hywel Vaughan: “ Parlyswyd hi gan eiriau noeth mileinig a’r edrychiad enbyd”

More Related