1 / 12

Y ‘Stafell Ddirgel Pennod 7

Y ‘Stafell Ddirgel Pennod 7. Marion Eames. Cynnwys. Haf poeth tu hwnt – Pawb yn gorfod mynd i’r eglwys i dalu gwrogaeth neu yn cael eu hystyried i fod yn fradwyr i’r brenin a’r ffydd Brotestanaidd.

Télécharger la présentation

Y ‘Stafell Ddirgel Pennod 7

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Y ‘Stafell Ddirgel Pennod 7 Marion Eames

  2. Cynnwys • Haf poeth tu hwnt – Pawb yn gorfod mynd i’r eglwys i dalu gwrogaeth neu yn cael eu hystyried i fod yn fradwyr i’r brenin a’r ffydd Brotestanaidd. • Gwrthgyferbyniad amlwg rhwng yr eglwys ac arferion creulon y werin e.e. y bwriad o fynd i’r Ceffyl Gwinau ( Ffowc sy’n cadw’r dafarn) yn syth ar ôl yr oedfa ac yna i ymladd ceiliogod yn y fynwent! Yr un bobl sy’n mynd i’r eglwys ac i’r dafarn, y ffair, yr ymladd ceiliogod ac yn boddi gwrachod.

  3. Parhad • Y Rheithor fyddai’r cyntaf i’r dafarn – RHAGRITH. • Y Rheithor a Hywel Vaughan yn ffrindiau da. • Robert Owen Dolserau yn torri ar draws y cyfarfod cyn diwedd y fendith. Datgan ei gred a’i ffydd yn gyhoeddus. Galw’r rheithor yn “Was y diafol”. • Samuel Ifan(Twrne) yn ymosod ar Robert Owen – yn ei ddyrnu a thynnu ei het oddi ar ei ben er mwyn ei fychanu. • Pawb yn ymateb drwy ymosod ar Robert Owen.

  4. Parhâd.. • Robert Owen yn wynebu Samuel Ifan wyneb yn wyneb yn y fynwent. Mae hyn yn adloniant gwych i’r dorf – gwell na’r ymladd ceiliogod. • Robert yn gorchfygu ei elyn heb ymladd!Hyn yn syndod i’r dorf. • Rowland Ellis yn sylwi ar dynerwch a threfnusrwydd a dewrder Marged Owen Dyffrydan yn sychu’r gwaed oddi ar wyneb Robert Owen. • Robert Owen yn gyn –filwr felly – mae ei agwedd newydd o ymatal rhag paffio yn groes i’r graen iddo.

  5. Parhâd… • Sian Morris yn noeth ar y comin a’r bobl yn ei gwawdio ac yn ymosod yn gorfforol arni. • Rowland Ellis yn ei chodi yn ei freichiau ac yn rhoi ei glogyn amdani.( Symbol cyhoeddus cyntaf Rowland o’i berthynas â’r Crynwyr.)Mae Rowland yn mynd â hi gartref. • Rowland wrth gario Sian yn teimlo ei fod wedi ymateb gymaint gwell nac a wnaeth i ddigwyddiad boddi Betsan Prys. • Teimlo ei fod wedi amddiffyn merch ynghanol creulondeb torf – dylai fod wedi gwneud hynny i Betsan.

  6. Parhâd… • Mae hyn yn symbol o’r newid mawr sydd wedi dod drosto ers hynny. • Marged Owen wedi ymddangos yn nhŷ’r teiliwr er mwyn rhoi cymorth i Rowland. • Cydweithio clos a dealltwriaeth dda rhwng Rowland a Marged. • PAWB yn gwybod rwan am ymlyniad Rowland i fod yn Grynwr. Gwnaeth ymrwymiad cyhoeddus drwy amddiffyn Sian. • Y Cyfeillion yn edrych arno fel olynydd i Robert Owen.

  7. Parhâd… • George Fox mewn cysylltaid â Chrynwyr Dolgellau . Methu â deall nad ydynt yn rhugl yn y Saesneg. – credu bod hyn yn amharu ar ddatblygiad eu ffydd. • Datblygiad ym mherthynas Rowland a Marged –Rowland yn gallu siarad am ei broblemau priodasol gyda Marged. Trafod ofnau Meg fod Rowland am gael ei garcharu.

  8. Marged Owen(Cyfnither RE) • Trefnus • Cysurlon • Ymarferol ei gweithredoedd • Caredig. • “ Roedd cadernid iachusol yn perthyn i ferch Dyffrydan” • Direidi yn ei gwên. • Dangos tosturi tuag at Rowland yn ei sefyllfa â Meg.

  9. Cynlluniau Meg: • Casglu arian i ddianc. Uchafbwynt ei diwrnod oedd rhoi arian yn y bocs pren afal. • Eisiau prynu rhyddid iddi hi ei hun. • Teimlo’n gas at Rowland am ei fod o am fradychu ei gefndir moethus a holl waith caled ei gyndadau. • “Gallai feddwl am Rowland.. Fel dyn nad oedd yn perthyn iddi mwyach.”

  10. Cynllwynio Meg… • Huw Morris yw’r unig un sy’n sylweddoli fod rhywbeth o’i le ar Meg – yn sylwi ei bod hi’n cynllwynio rhywbeth. • Huw Morris wedi cael gwybodaeth gan Nans y Goetre wrth gysgu â hi rhyw noson. • Ellis a Rowland yn mynd i Tabor i gyfarfod y Crynwyr – Huw yn manteisio ar y sefyllfa. • Huw yn gweld Meg yn dwyn o’r ddresal. • Huw yn mynd i’w herio. Dangos i Meg ei fod yn gwybod am ei hymgais i erthylu’r babi.

  11. Parhâd… • Huw yn (rhoi’r argraff mai) amau mai oherwydd mai nad Rowland oedd y tad oedd rheswm Meg dros erthylu’r babi! • Huw yn herio Meg – dangos ei fod yn gwybod ei bod hi wedi dwyn arian. • Huw yn mynnu cael hanner yr arian (neu ffafr rywiol) Meg yn ei ddarbwyllo mai am brynu cwpan aur i Rowland mae hi gyda’r arian. Ond Huw yn cael y fuddugoliaeth.

  12. Parhâd… • Newyddion drwg i’r Crynwyr yn y cyfarfod – George Fox yn y carchar gyda nifer fawr o Grynwyr eraill. • Rhybudd o ddyddiau blin ac anodd o’u blaen. ERLID MAWR. • Si fod Robert Owen am gael ei roi yn ôl yn y carchar. • Meg yn marw ar enedigaeth ei merch.

More Related