1 / 26

ARDDODIAD

ARDDODIAD. Y deuddeg arddodiad. Mae 12 arddodiad yn y Gymraeg yn achosi TREIGLAD MEDDAL. Y 12 arddodiad yw: AR AM AT DAN DROS DRWY GAN HEB HYD I O WRTH Dyma’r treiglad sy’n digwydd amlaf ac felly mae’n un o’r gwallau sy’n digwydd amlaf!. Enghraifft.

chad
Télécharger la présentation

ARDDODIAD

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. ARDDODIAD

  2. Y deuddeg arddodiad Mae 12 arddodiad yn y Gymraeg yn achosi TREIGLAD MEDDAL. Y 12 arddodiad yw: AR AM AT DAN DROS DRWY GAN HEB HYD I O WRTH Dyma’r treiglad sy’n digwydd amlaf ac felly mae’n un o’r gwallau sy’n digwydd amlaf!

  3. Enghraifft Aeth Cai ar trên o Bangor i Manceinion. Mae tri ARDDODIAD yn y frawddeg hon Mae’n rhaid treiglo’n feddal ar ôl bob un ohonynt, felly: Aeth Cai ar drên o Fangor i Fanceinion.

  4. Ble mae’r gwallau? Ar dydd Llun, byddaf yn mynd i gweld fy nain. Ar dydd Mawrth, dw i’n mynd i tŷ fy modryb i te. Am pump o’r gloch mae hi’n fy helpu i gwneud fy ngwaith Cerdd gan mynd dros y gwaith gyda fi. Ar dydd Mercher, byddaf yn mynd ar bws i Dinbych ar cyfer fy ngwers ddawnsio. Ble mae’r ARDDODIAID?

  5. Chwiliwch am yr arddodiaid… Ar dydd Llun, byddaf yn mynd i gweld fy nain. Ar dydd Mawrth, Byddaf yn mynd i tŷ fy modryb i te.Am pump o’r gloch mae hi’n fy helpu i gwneud fy ngwaith Cerdd gan mynd dros y gwaith gyda fi. Ar dydd Mercher, byddaf yn mynd ar bws i Dinbych ar cyfer fy ngwers ddawnsio. Rhaid treiglo’n feddal ar ôl bob un!

  6. Cywiro Ar ddydd Llun, byddaf yn mynd i weld fy nain. Ar ddydd Mawrth, dw i’n mynd i dŷ fy modryb i de. Am bump o’r gloch mae hi’n fy helpu i wneud fy ngwaith Cerdd gan fynd dros y gwaith gyda fi. Ar ddydd Mercher, byddaf yn mynd ar fws i Ddinbych ar gyfer fy ngwers ddawnsio. Sut ydw i’n esbonio’r cywiriad? Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘__’

  7. Rhowch gynnig arni… • Cerddodd Sian at drws yr ystafell. • Aeth Cai i gweld y meddyg ddoe. • Cefais grys am dim gan y clwb. • Es i ar bws i Prestatyn, ond fe ddes i adref ar trên. • Doedd y ffilm ddim at dant pawb. ESBONIO: Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘__’

  8. Arddodiad gyda berf Gwall cyffredin yn y gymraeg yw defnyddio’r arddodiad anghywir gyda berf. Ystyriwch y brawddegau hyn: Aeth Sian i’r deintydd bore heddiw. Dywedodd y bachgen i’r prifathro ei fod yn sâl. Cafodd y bachgen gyfle i siarad i’r athro heddiw. Byddaf yn mynd i’r meddyg yr wythnos nesaf.

  9. Beth yw’r gwall yn y brawddegau? Fe welwch fod yr arddodiad yn anghywir ym mhob un: Aeth Sian i’r deintydd bore heddiw. Dywedodd y bachgen i’r prifathro ei fod yn sâl. Cafodd y bachgen gyfle i siarad i’r athro heddiw. Byddaf yn mynd i’r meddyg yr wythnos nesaf. Mae’r arddodiad ‘i’ wedi ei ddefnyddio ym mhob brawddeg!

  10. Pa arddodiad sy’n gywir? Mae’n bwysig ein bod yn gwybod pa arddodiad sy’n mynd gyda berfau e.e. mynd at siarad gyda/efo/â dweud wrth anghofio am ateb dros gwrando ar

  11. Sut i esbonio’r gwall? Yn syml bydd angen nodi fod yr arddodiad anghywir gyda’r ferf a nodi beth sydd ei angen e.e. Aeth Sian i’r deintydd bore heddiw.

  12. Ble mae’r gwallau? Mae sawl gwall yn y darn byr isod. Beth ydy’r gwallau? Mae 7 gwall yma. Bum yn siarad i fy nhad am pum munud ar y ffôn. Roedd o ar brys i mynd i rhywle, ond cefais gyfle i gofyn iddo a ydw i’n mynd i’r deintydd yfory. Sut ydw i’n cywiro?

  13. Arddodiad RHEDADWY Mae modd i ni roi person ar gyfer pob arddodiad. Ystyriwch y frawddeg yma: Paid ag edrych ar fi! Byddai’n rhaid cywiro’r frawddeg gan ddefnyddio’r arddodiad RHEDADWY, sef arna i/arnaf fi

  14. Beth yw’r arddodiaid rhedadwy? Mae chwe person i’r arddodiad rhedadwy sef: FI TI FO/HI NI CHI NHW unigol lluosog

  15. Drwy roi rhain gydag arddodiad fe fyddwch yn ffurfio’r arddodiad rhedadwy: ar fi > arnaf fi ar ti > arnat ti ar fo > arno fo ar hi > arni hi ar ni > arnon ni ar chi > arnoch chi ar nhw > arnyn nhw

  16. Mae modd gwneud hyn gyda’r deuddeg arddodiad: AR AM AT DAN DROS DRWY GAN HEB HYD I O WRTH Rydyn ni eisoes wedi gwneud ‘ar’, beth am y gweddill?

  17. AR, AM ac AT

  18. DAN, DROS a DRWY

  19. GAN, HEB a HYD

  20. I, O ac WRTH

  21. Pa fath o wall sy’n gyffredin? Y gwall mwyaf cyffredin yw peidio defnyddio arddodiad rhedadwy. Edrychwch ar yr esiamplau: Edrychodd Sian ar fo’n flin. Cefais anrheg gan fo heddiw. Diolchodd mam dros ni. Cerddodd y tarw at hi.

  22. Sut fyddwn i’n cywiro?

  23. CRYNHOI’R RHEOLAU • Ceir treiglad meddal ar ôl yr arddodiaid AR, AM, AT, DAN, DROS, DRWY, GAN, HEB, HYD, I, O, WRTH. • Mae angen sicrhau fod yr arddodiad cywir yn cael ei ddefnyddio gyda berf • Mae angen rhoi’r arddodiad yn ei ffurf redadwy ar adegau a dylem geisio nodi pa berson sydd ei angen e.e. ar fi > arnaf fi (person 1af unigol)

More Related