1 / 33

GWEITHIO GYDA’N GILYDD

GWEITHIO GYDA’N GILYDD. Pan fo angen cymydog Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti? Pan fo angen cymydog Ble'r wyt ti? Waeth pa liw, na pha gredo Enw chwaith, paid â hidio Ble'r wyt ti?. Rwyf heb fwyd a heb ddiod Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti? Rwyf heb fwyd a heb ddiod

creola
Télécharger la présentation

GWEITHIO GYDA’N GILYDD

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. GWEITHIO GYDA’N GILYDD

  2. Pan fo angen cymydog Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti? Pan fo angen cymydog Ble'r wyt ti? Waeth pa liw, na pha gredo Enw chwaith, paid â hidio Ble'r wyt ti?

  3. Rwyf heb fwyd a heb ddiod Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti? Rwyf heb fwyd a heb ddiod Ble'r wyt ti? Waeth pa liw, na pha gredo Enw chwaith, paid â hidio Ble'r wyt ti?

  4. Pa le bynnag y byddi Wele fi, wele fi Pa le bynnag y byddi Wele fi Waeth pa liw, na pha gredo, Enw chwaith, paid â hidio Wele fi, wele fi

  5. GWEITHIO GYDA’N GILYDD

  6. UN FFORDD DDA O GOFIO PA MOR BWYSIG YW GWEITHIO GYDA'N GILYDD YW EDRYCH AR FYSEDD EICH LLAW DDE

  7. Ar y dde mae Mistar Bys Bach, y lleiaf o'r pump. Mae Americanwyr yn ei alw'n 'Pinkie'. Nid yw'n gryf iawn ac mae'n anodd meddwl am unrhyw beth y gallai ei wneud ar ei ben ei hun. Yn yr hen amser, roedd rhai pobl bwysig o dras yn estyn eu bys bach wrth ddal paned o de yn arwydd o foesau da.

  8. Nesaf ato mae Mistar Gwanllyd, am ei fod mor wan. Yn wir, mae'n cael trafferth symud heb help ei frodyr. Ceisiwch ei wiglo ac fe welwch pam rwy'n dweud hynny.

  9. Yna daw Mistar Bys Canol. Ef yw'r talaf o'r cyfan ond mae arna i ofn nad yw'n fwy defnyddiol na'r ddau arall.

  10. Wrth ei ymyl y mae Mistar Pwyntio. Ef yw'r prysuraf o'r cyfan. Yn ogystal â phwyntio, mae'n gwasgu cloch drws, yn helpu i godi mân bethau, ac wrth ei chwifio'n yr awyr, mae'n pwysleisio'r hyn rydym ni'n ei ddweud pan fyddwn yn dweud y drefn wrth rywun neu'n rhoi araith rymus. Does dim amheuaeth mai Mistar Pwyntio yw'r mwyaf grymus o'r brodyr.

  11. Yr olaf wrth gwrs yw Mistar Pwtyn/Stwcyn (y bys bawd). Yn fyr a thrwchus, ef yw'r cryfaf o'r pum brawd. Gall wthio'n gryfach - mae'n dda iawn â phinnau bawd - a phan fyddwn yn ei godi'n syth uwchben ein dwrn, mae'n golygu "popeth yn dda".

  12. Nawr ni all yr un o'r rhain wneud llawer ar ei ben ei hun, ond pan fyddant yn gweithio gyda'i gilydd, gallant gyflawni gwyrthiau.

  13. Gallant baentio lluniau gwych

  14. Chwarae cerddoriaeth sy'n felys i'r glust

  15. Iacháu corff anafus

  16. Dal pêl yn yr awyr

  17. Rheoli ceffyl cyflym

  18. Clymu carrai esgidiau

  19. Gwnïo neu wau

  20. Defnyddio cyllell a fforc

  21. Mae pobl fel bysedd. Dim ond hyn a hyn y gall y rhan fwyaf ohonom ei gyflawni ar ein pennau ein hunain, ond drwy weithio gyda'n gilydd, does dim diwedd i'r hyn y gallwn ei wneud.

More Related