1 / 28

‘Chwarae i Ddysgu’

‘Chwarae i Ddysgu’. Cyflwyniad. Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: gefndir ‘Chwarae i Ddysgu’. Diben. Cynyddu hyder, gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ymarferwyr er mwyn gwella sgiliau corfforol a sgiliau symud creadigol plant. Canlyniadau.

Télécharger la présentation

‘Chwarae i Ddysgu’

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. ‘Chwarae i Ddysgu’

  2. Cyflwyniad Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • gefndir ‘Chwarae i Ddysgu’

  3. Diben • Cynyddu hyder, gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ymarferwyr er mwyn gwella sgiliau corfforol a sgiliau symud creadigol plant

  4. Canlyniadau Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd gan y cyfranogwyr fwy o ymwybyddiaeth o: • yr adnodd ‘Chwarae i Ddysgu’ • sut y gall yr adnodd ‘Chwarae i Ddysgu’ • wella arfer presennol • cyfrannu at iechyd, ffitrwydd a lles plant • ategu gwaith cynllunio ac athroniaeth y Cyfnod Sylfaen Yn ogystal, dylent fod yn gallu: • gwella sgiliau corfforol plant • dechrau adnabod strategaethau effeithiol ar gyfer rhaeadru’r wybodaeth hon i eraill • dechrau llunio cynllun ar gyfer gweithredu ‘Chwarae i Ddysgu’

  5. Y darlun ehangach • Mae ‘Chwarae i Ddysgu’ yn rhan o’r fenter Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (AGChY) a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a reolir gan Chwaraeon Cymru. • Mae prosiect AGChY wedi datblygu cyfres o gyrsiau ac adnoddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus i gynorthwyo ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 3 i 19 oed.

  6. Mae Datblygiad Corfforol a Symud Creadigol yn bwysig oherwydd: • mae plant ifanc yn ddysgwyr gweithgar sy’n mwynhau dysgu drwy chwarae a gweithgareddau corfforol • caiff sgiliau corfforol plant eu datblygu’n gyfannol ar draws pob Maes Dysgu. Ceir llawer o gyfleoedd i blant ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth yn y Meysydd Dysgu • gall problemau â datblygiad corfforol plentyn neu bryderon ynghylch ei ddatblygiad corfforol ddangos y gallai fod gan y plentyn rai anawsterau dysgu • bydd rhai plant ar y blaen i blant eraill o ran tyfu’n fwy medrus yn gorfforol, felly mae’n bwysig arsylwi sgiliau plant ac ystyried anghenion unigol • wrth i blant symud ymlaen drwy’r Cyfnod Sylfaen a dod yn fwy hyderus, bydd eu gallu i gydlynu symudiadau echddygol bras a manwl yn parhau i wella a byddant yn dysgu sgiliau newydd • maent yn cyfrannu at iechyd, ffitrwydd a diogelwch plentyn

  7. Cefndir • Cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm Cenedlaethol diwygiedig yn 2008 • Adroddiad ar y Cyfnod Sylfaen 2007 • Ymgynghoriad cenedlaethol • Llunio Cynllun Gweithredu’r Cyfnod Sylfaen • Ymchwilio i adnoddau cyfredol • Treialu • Cynhyrchu adnoddau • Partneriaethau newydd • Hyfforddiant ymwybyddiaeth • Hyfforddiant ar weithredu

  8. Pam dechrau â… …Llyfraustori?

  9. Beth sydd yn y blwch? Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • elfennau ‘Chwarae i Ddysgu’

  10. Beth sydd yn y blwch? • Mewn parau, cwblhau’r gweithgaredd ‘Beth sydd yn y blwch?’

  11. Archwilio darpariaeth barhaus Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • sut y gallant ddefnyddio elfennau ‘Chwarae i Ddysgu’ mewn darpariaeth barhaus

  12. Archwilio darpariaeth barhaus • Gweithio fesul pedwar ac fel dau bâr: pâr A a phâr B • Pob grŵp o bedwar yn gweithio mewn ‘Gardd’, yn casglu cerdyn ‘Eich Gardd’ a chardiau cymell A a B • Arsylwi a chynllunio • Trafod

  13. Hierarchaeth o Sgiliau Echddygol Bras Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • yr Hierarchaeth o Sgiliau Echddygol Bras, Sgiliau Symud, Sgiliau Rheoli’r Corff a Sgiliau Trafod a Thrin a’r camau ‘wrth iddynt ddatblygu’, ‘wrth iddynt wneud cynnydd’ ac ‘wrth iddynt ddod yn fwy medrus’

  14. Hierarchaeth o Sgiliau Echddygol Bras • Mewn grwpiau o bedwar • Gweithgaredd Trefnu Cardiau – Bydd gennych sawl sgìl a’r penawdau canlynol: ‘wrth iddynt ddatblygu’, ‘wrth iddynt wneud cynnydd’ ac ‘wrth iddynt ddod yn fwy medrus’. Fel grŵp, rhaid i chi roi’r sgiliau mewn trefn hierarchaidd dan y pennawd priodol • Cymharu • Trafod

  15. Archwilio tasgau â ffocws Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • sut y gallant ddefnyddio elfennau ‘Chwarae i Ddysgu’ i gefnogi tasgau â ffocws • sut y gellir defnyddio’r adnoddau i wella iechyd, ffitrwydd a lles plant

  16. Archwilio tasgau â ffocws • Ymwneud â thasg â ffocws ar gyfer datblygiad corfforol gan ddefnyddio ‘Cerdyn Gweithgareddau’ • Trafod iechyd, ffitrwydd a lles • Ymwneud â thasg â ffocws ar gyfer symud creadigol, a ddatblygwyd o’r un ‘Cerdyn Gweithgareddau’ • Trafod • Cynllunio

  17. Cardiau Awgrymu Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • sut y gellir defnyddio elfennau ‘Chwarae i Ddysgu’ i gefnogi darpariaeth barhaus, darpariaeth wedi’i chyfoethogi a darpariaeth â ffocws • Cardiau Awgrymu ‘Chwarae i Ddysgu’

  18. Cardiau Awgrymu • Cynllunio yn y Cyfnod Sylfaen • Cymharu • Trafod

  19. Cyfleoedd Dysgu Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • natur gyfannol ‘Chwarae i Ddysgu’ • egwyddorion tynnu gwaith symud o destunau eraill

  20. Cyfleoedd Dysgu • ‘Cyfleoedd Campus’ o’r straeon • Cynnwys yn ymwneud â symud, o destunau eraill • Defnyddio adnoddau i gefnogi’r syniadau hyn • Trafod

  21. Dysgu y tu allan i Oriau Ysgol • Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • bwysigrwydd darparu cyfleoedd ‘Dysgu y tu allan i Oriau Ysgol’ i’r grŵp oedran hwn • y problemau sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth hon • y rhwydwaith o unigolion a all gyfrannu at y ddarpariaeth hon

  22. Dysgu y tu allan i Oriau Ysgol • Cwblhau’r cwis iechyd plant mewn grwpiau o bedwar • Cynnal gweithgaredd mat bwrdd ‘Dysgu y tu allan i Oriau Ysgol’ • Pwy all helpu?

  23. Rhaeadru i bobl eraill Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • strategaethau effeithiol ar gyfer rhaeadru’r wybodaeth hon i bobl eraill • y rhwydwaith o unigolion ym mhob Awdurdod Lleol sy’n gallu cynorthwyo ymarferwyr i raeadru gwybodaeth a gweithredu ‘Chwarae i Ddysgu’

  24. Cynllunio Gweithredu • Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn gallu llunio: • camau gweithredu tymor byr a thymor canolig o ganlyniad i fynychu’r hyfforddiant ‘Chwarae i Ddysgu’ • y meini prawf ar gyfer llwyddo y byddant yn eu defnyddio i fesur effaith y cwrs ar ganlyniadau’r Cyfnod Sylfaen • y dystiolaeth y byddant yn ei chasglu i gadarnhau bod yr effaith honno wedi’i chael • sut y byddant yn adrodd ynghylch cynnydd/arfer da ac wrth bwy

  25. Golwg ar yr Adnoddau Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn gallu: • dechrau llywio eu ffordd o amgylch y CD-ROM ‘Chwarae i Ddysgu’ a thrafod sut y gellir ei ddefnyddio i gynorthwyo â gwaith cynllunio a chyflwyno yn y Cyfnod Sylfaen

  26. Sesiwn lawn • Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • gyrsiau eraill sydd ar gael iddynt Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn gallu: • cynnig sylwadau myfyriol ynghylch gwerth y cwrs iddynt hwy fel unigolion, eu hysgol/lleoliad a’u plant

More Related