130 likes | 350 Vues
Sut i wneud bag llaw. Dewis o rubannau. Dewis o edau ar gyfer pwythau cyferbyniol a gwneud. siswrn. Dewis o ffabrig (20cm x 30cm yw maint y bag rydyn ni’n ei argymell). Dewis o fotymau. Dewis o secwinau. handlenni. Rhai o’r pethau y byddwch eu hangen i wneud bag llaw. Pinnau (sylwch
E N D
Sut i wneud bag llaw Dewis o rubannau Dewis o edau ar gyfer pwythau cyferbyniol a gwneud siswrn Dewis o ffabrig (20cm x 30cm yw maint y bag rydyn ni’n ei argymell) Dewis o fotymau Dewis o secwinau handlenni Rhai o’r pethau y byddwch eu hangen i wneud bag llaw.
Pinnau (sylwch sut y maent wedi cael eu gosod) Rhubannau cyferbyniol Pwythau rhedeg i dacio’r rhubannau. Cam 1 Ychwanegu nodweddion addurnol. Dewiswch y rhubannau a’r addurniadau i’r bag. Gwiriwch fod y lliwiau’n gweddu i’w gilydd neu’n gyferbyniol ayyb. 2. Piniwch y rhubannau yn eu lle. 3. Taciwch y rhubannau’n defnyddio tacio neu bwythau rhedeg – Pam? 4. Pwyth hawdd sy’n mynd i fyny ac i lawr yw pwyth rhedeg.
Ychwanegu pwythau tacio Cam 2 Pwyth rhedeg i dacio’r rhubannau i gyd. Taciwch y rhubannau i gyd a thynnwch bob un pin. Mae tacio’r rhubannau’n ei gwneud hi’n haws i wnio ar y peiriant – dydy’r pinnau ddim ar y ffordd. Dylai’r tacio fynd i mewn ac allan o’r ffabrig er mwyn gosod y rhuban yn sownd ar y ffabrig.
Cam 3 Ychwanegu nodweddion addurnol eraill – peiriant gwnio. Pwyth rhedeg i dacio’r rhubannau i gyd. 1. Dewiswch eich pwythau addurnol, mae canllaw yn help i gael llinell syth. Beth allech chi ei ddefnyddio fel canllaw? Troed y peiriant gwnio 2. Daliwch ati i ychwanegu pwythau i’r bag nes bod pob un rhuban wedi cael ei osod i greu patrwm deniadol. 3. Tynnwch bob un o’r pwythau tacio. Pwyth igam ogam mewn pwythau lliw gwahanol.
Cam 4 Tacluso’r ymylon crai. Yna ei blygu i lawr, ei smwddio a’i wnio. Pwythau igam ogam ar yr ymyl crai sydd ar dop y bag. 1. Tacluswch yr ymylon crai sydd ar dop y bag. Pa bwyth allech chi ddefnyddio? 2. Cofiwch dacluso’r ymyl crai sydd ar gefn y bag. 3. Plygwch 3cm i lawr o ymyl ucha’r/top y bag sydd wedi cael ei dacluso. Tynnu’r pwythau tacio.
Pwyth syth. Pinnau Cam 5 Troed y peiriant gwnio Tacluso top y bag – y blaen. 1. Smwddiwch yr ymyl top. 2. Adiwch binnau – pa ffordd dylai pennau’r pinnau wynebu? 3. Pwythau syth ar hyd ymyl y ffabrig - Ble dylid gosod ymyl troed y peiriant gwnio? 4. Cofiwch dacluso’r ymylon blaen a’r ymylon sydd ar gefn y bag. Plygwch drosodd tua 3cm ar yr ochr tu chwithig. Ochr anghywir y ffabrig
Troed y peiriant gwnio Cam 6 Rhan gefn y bag. pinnau Rhan gefn y bag. Byddwch angen ail ddarn o ffabrig sy’n union yr un maint â’r darn cyntaf. Yna dilynwch yr un camau i dacluso’r top. 1. Pwythau igam ogam ar y top 2. Plygwch drosodd 3cm a’i smwddio. 3. Pwythau syth i’w gadw’n ei le. Pwyth syth. Ail ddarn o ffabrig Blaen y bag –edrych o’r cefn.
Cam 6a Ymylon wedi’u tacluso Pwythau igam ogam ac yna pwyth syth. Nawr dylech fod â dau ddarn o ffabrig sy’n edrych yn debyg i hyn. Ar un darn mae rhubanau a phwythau addurno, mae’r ail ddarn yn blaen. Nawr bydd rhaid i chi roi’r ddau darn at ei gilydd i greu’r bag. Ochr gywir ffabrig 1 Ochr anghywir ffabrig 2 Rhubanau a phwythau addurno.
Gosod yr ymylon sydd ar y dde gyda’i gilydd. Cam 7 Rhoi’r bag gyda’i gilydd. Gosodwch binnau yr holl ffordd o amgylch y bag. Bydd angen dal cefn a blaen y bag gyda’i gilydd. Defnyddir semau i wneud hyn. Sêm ydy dau ddarn o ffabrig sydd wedi cael eu pwytho at ei gilydd. 1. Gosodwch gefn a blaen gyda’r ochr gywir at ei gilydd. 2. Rhowch binnau i ddal cefn a blaen y bag gyda’i gilydd -Ydych chi’n cofio unrhyw reol am sut i osod y pinnau?
Troed y peiriant gwnio Cam 7 Gwneud y semau - 2 1. Defnyddiwch bwythau syth i wneud bag sydd ar siap U. 2. Dechreuwch yn y gornel top ar y chwith a rhedeg rhai pwythau ar i lawr, yna gwrthdroi, ac yna parhau ymlaen at y gornel sydd ar y dde yn y gwaelod gan STOPIOychydig cyn y diwedd – y nodwydd yn dal yn y ffabrig – pam? 3. Codwch y droed – 90 gradd ac yna pwythau syth ar hyd y gwaelod – Ble rydych chi’n stopio? 4. Unwaith eto STOPIWCH – y nodwydd yn y ffabrig – trowch 90 gradd – ac yna pwythau syth i dop y bag ac yna gwrthdroi a rhoi rhai pwythau ar i nôl.
Pwyth igam ogam Cam 8 Sylwch ar y pwythau igam ogam – pam mae dau ohonynt yn anghywir? Tacluso’r ymylon crai 1. Sut mae hi’n bosibl tacluso’r ymylon crai? 2. Gosodwch y peiriant i wneud pwythau igam ogam. Dechreuwch ar y chwith yn y top – i lawr at waelod y bag. 3. Nodwydd i lawr a throwch 90 gradd ac ar hyd y gwaelod. STOP. 4. Nodwydd i lawr yn y ffabrig – trowch 90 gradd a phwythau igam ogam ar hyd top y bag – pwyth gwrthdro. Adolygu’n sydyn!
Cam 8 Tacluso’r corneli Pwyth igam ogam Unwaith rydych wedi pwytho’r holl ffordd o amgylch y bag ac wedi defnyddio pwythau igam ogau i dacluso’r ymylon y cam nesaf yw torri ymylon y corneli. Bydd torri’r ffabrig sydd dros ben yn gwneud y corneli’n daclus a gwastad pan rydych yn troi’r bag y ffordd iawn. Byddwch yn ofalus i beidio torri trwy’r pwythau syth neu bydd gennych dwll yn eich bag!! Pwyth syth. Byddwch yn ofalus i beidio torri heibio fan hyn. Os ydych yn ansicr gofynnwch i’ch athro am gymorth. Torri’r corneli i ffwrdd.
Opsiwn 1. Handlen hir Opsiwn 2. Dwy handlen fer. Da iawn, rydych wedi cwblhau eich bag. Cam 9 Cwblhau’r bag. 1.Trowch y bag y tu chwith allan a’i presiwch gyda haearn smwddio cynnes. 2. Rhowch handlen y bag yn sownd – efallai y bydd angen i’ch athro eich helpu i wneud hyn. 3. Cymerwch ofal wrth smwddio’r rhubannau, gall ffabrig synthetig. doddi.