470 likes | 1.63k Vues
Y Lindysyn Llwglyd Iawn. gan Eric Carle. Yng ngolau’r lleuad gorweddai wy bach ar ddeilen. Un bore Sul cododd yr haul cynnes ac allan o’r – pop! – daeth lindysyn bychan llwglyd iawn. Dechreuodd chwilio am dipyn o fwyd. Dydd Llun bwytaodd drwy un afal. Ond roedd e’n dal i fod yn llwglyd.
E N D
Y Lindysyn Llwglyd Iawn gan Eric Carle
Un bore Sul cododd yr haul cynnes ac allan o’r – pop! – daeth lindysyn bychan llwglyd iawn.
Dydd Llun bwytaodd drwy un afal. Ond roedd e’n dal i fod yn llwglyd.
Dydd Mawrth bwytaodd drwy ddwy ellygen, ond roedd e’n dal i fod yn llwglyd.
Dydd Mercher bwytaodd drwy dair eirinen, ond roedd e’n dal i fod yn llwglyd.
Dydd Iau bwytaodd drwy bedair mefusen, ond roedd e’n dal i fod yn llwglyd.
Dydd Gwener bwytaodd drwy bum oren, ond roedd e’n dal i fod yn llwglyd.
Dydd Sadwrn bwytaodd drwy un dafell o salami, Un dafell o felon dŵr. un lolipop, un darn o gacen siocled, un dafell o gaws, un darn o bastai geirios, un gacen fach ac Un hufen iâ, Y noson honno roedd ganddo stumog dost! un selsigen, un picl,
Drannoeth roedd hi’n ddydd Sul eto. Bwytaodd y lindysyn drwy un ddeilen werdd hyfryd ac ar ôl gwneud hynny teimlai’n well o lawer.
Doedd e ddim yn llwglyd bellach – a doedd e ddim yn lindysyn bach chwaith. Roedd e’n lindysyn mawr, tew
Adeiladodd dŷ bychan, o’r enw cocŵn, o’i gwmpas. Arhosodd ynddo am bythefnos neu ragor. Yna aeth ati i gnoi twll yn y cocŵn, gwthiodd ei hun allan ahono ac…………
© Eric Carle, 1969 Published by Puffin Books, 1974 Many thanks to Eric Carle for giving his permission to reproduce artwork PowerPoint by Bev Evans, 2008 www.communication4all.co.uk