90 likes | 228 Vues
Astudiaethau’r Cyfryngau. Cynrychiolaeth Rhyw. Ail-ddal. Beth yw ‘Testun Cyfryngol’? Pa 3 ‘Testun Cyfryngol’ y byddem yn canolbwyntio arnynt y tymor yma? Beth yw ystyr y term naratif? Beth yw ystyr y term genre? Beth yw ystyr y term cynrychiolaeth rhyw?
E N D
Astudiaethau’r Cyfryngau Cynrychiolaeth Rhyw
Ail-ddal • Beth yw ‘Testun Cyfryngol’? • Pa 3 ‘Testun Cyfryngol’ y byddem yn canolbwyntio arnynt y tymor yma? • Beth yw ystyr y term naratif? • Beth yw ystyr y term genre? • Beth yw ystyr y term cynrychiolaeth rhyw? • Sut mae merched yn cael eu cynrychioli yn y genre Hip Hop? • Beth yw ystyr y term parodi?
Pwy sy’n cael eu cynrychioli o fewn y cyfryngau? • Rhyw (merched/dynion) • Ethnigrwydd • Oedran • Hunaniaeth rhanbarthol a chenedlaethol
Terminoleg: Dulliau Cyfarch “Sut mae’r testun cyfryngol yn cyfarch ei gynulleidfa. Gall gyfeirio at berson mewn llun yn edrych ar (dull cyfarch uniongyrchol) neu ddim edrych ar (dull cyfarch anuniongyrchol) ni y gynulleidfa. Gall hefyd gyferio at urhyw iaith a ddefnyddir”.
Terminoleg: Mise-en-scene “Daw’r term o’r Ffrangeg ac mae’n golygu ‘wedi’i roi mewn golygfa/saethiad’. Mae pob elfen mewn llun llonydd neu llun sy’n symud yn golygu cynlluno a pharatoi manwl er mwyn creu rhyw neges neu ystyr penodol”.
Tasg: Anodwch y clawr cylchgrawn gan gyfeirio at… • Lleoliad • Lliwiau • Dulliau cyfrarch • Mynegiant wynebol • Iaith y corff • Teipograffi • Gwisg • Gwrthrychau • Ongl camera • Gosodaid
Cynrychiolaeth sy’n groes i’r arfer: Missy Elliott – Menyw Du Cryf • Yn gwrthod cynrychiolaeth confensiynol merched – Nid oes gwrthrycholiad • Nid yw’n cydymffurfio a chynrychiolaeth rhyw & hil ystrydebol • Nid yw Missy yn oddefol; hi sy’n traethu – nid yw’r delyneg yn hunan ymelwa (self-exploit)
DELWEDDMissy Elliott • Androgyny: Codau ystumiol, osgo a gwisg gwrywaidd – crys a tei, dillad y fyddin, dungarees • Y fideo yn gwyrdroi codau rhyw – dynion sy’n dawnsio; persona dynol gan Missy, gyrru car cyflym, gwisgo ‘Bling’ • Delwedd corfforol yn gwrthod cydymffurfio a’r ddelwedd ideolegol sydd gan nifer o ferched ystrydebol y diwydiant gerddoriaeth – Missy hyd yn oed yn chwythu ei chorff i fyny i edrych yn fwy yn y fideo (Supa Dupa Fly – DDE)
Astudiaeth Achos: ‘She’s a Bitch’ • Missy’n ymddangos fel rhyw greadur nad yw’n fenyw neu yn ddyn – Dim gwallt, gwisg lledr, gemwaith a ‘spikes’ rhyfedd • Persona yn dynwared dynion/arwyr eiconig Americanaidd e.e. Cowboi (DDE) • Defnyddio codau a chonfensiynau o ffilmiau ffuglen wyddonol sy’n apelio yn bennaf at gynulleidfa gwrywaidd • Onglau camera isel a saethiadau craen yn pwysleisio pŵer a phersonoliath mawreddog Missy