E N D
Roedd saer oedrannus yn barod i ymddeol. Dywedodd wrth ei feistr am ei fwriad i adael y busnes adeiladu tai i fyw bywyd mwy hamddenol gyda'i wraig a mwynhau bod gyda'i wyrion. Byddai'n gweld eisiau'r siec gyflog bob wythnos, ond roedd am ymddeol. Roedd digon o arian ganddynt i oroesi.
Roedd ei feistr yn drist i feddwl am ei weithiwr da'n gadael a gofynnodd iddo adeiladu dim ond un tŷ arall fel cymwynas bersonol.
Dywedodd y saer y byddai'n gwneud, ond dros amser roedd hi'n hawdd gweld nad oedd ei galon yn ei waith. Roedd yn gwneud gwaith eilradd ac yn defnyddio deunyddiau gwael. Roedd yn ffordd anffodus i orffen gyrfa.
Ar ôl i'r saer gwblhau ei waith, daeth ei gyflogwr i archwilio'r tŷ. Yna rhoddodd allwedd y drws blaen iddo gan ddweud, "Dyma'ch tŷ chi... fy rhodd i chi."
Synnwyd y saer yn arw! Dyna drueni! Petai wedi gwybod ei fod yn adeiladu ei dŷ ei hun, byddai wedi gwneud y cyfan yn gwbl wahanol.
Fel hyn y mae pethau. Rydym yn adeiladu ein bywydau un dydd ar y tro, yn aml yn rhoi llai na chant y cant i'r gwaith. Yna, rydym yn synnu wrth sylweddoli bod rhaid i ni fyw yn y tŷ rydym wedi'i adeiladu. Petai cyfle i ni ail-wneud y gwaith, mae'n bosib y byddem yn ei wneud yn wahanol iawn.
Ond does dim modd mynd yn ôl. Chi yw'r saer, a bob dydd rydych yn morthwylio hoelen, gosod bwrdd neu godi wal. Dywedodd rhywun unwaith, "Prosiect DIY yw bywyd." Mae eich agwedd a'r dewisiadau a wnewch heddiw yn helpu i adeiladu'r "tŷ" lle byddwch yn byw yfory. Felly, adeiladwch yn gall!