1 / 18

ENW

ENW. Beth yw’r mathau o enwau?. enw cyffredin (enw ar bob gwrthrych) enw priod (llythyren fawr i’r rhain) enw torfol (enw am gr ŵp o bethau efo’i gilydd). ENW CYFFREDIN.

malise
Télécharger la présentation

ENW

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. ENW

  2. Beth yw’r mathau o enwau? • enw cyffredin(enw ar bob gwrthrych) • enw priod(llythyren fawr i’r rhain) • enw torfol(enw am grŵp o bethau efo’i gilydd)

  3. ENW CYFFREDIN Mae pob enw cyffredin naill ai’n wrywaidd neu’n fenywaidd. Mae’n bwysig gwybod y gwahaniaeth rhwng enw benywaidd ac enw gwrywaidd gan fod ENW BENYWAIDD yn achosi sawl rheol treiglad. • Sut i adnabod enw benywaidd cyffredin? • Rhoi’r FANNOD o flaen yr enw(bydd enw benywaidd yn treiglo) • Rhoi HWN neu HON ar ôl yr enw • Defnyddio geiriadur!

  4. Beth yw y FANNOD? Y FANNOD yw’r enw ar y ffurfiau o ‘the’ yn y Gymraeg, sef Y, YR a ‘R. Drwy roi rhain o flaen yr enw, mae’n gwneud yr enw’n bendant. enw pendant – y llyfr (the book) enw amhendant – llyfr (a book)

  5. ENW PRIOD Enw PRIOD yw’r enw a roddir am yr enwau sydd â llythyren fawr iddynt, sef enwau arbennig e.e. - enw a chyfenw pobl - enwau gwledydd ac ieithoedd - enwau mynyddoedd ac afonydd - dyddiau’r wythnos a’r misoedd - teitlau o bob math

  6. ENW TORFOL Dyma’r term am grŵp o bethau gyda’i gilydd e.e. torf o bobl Mae ‘TORF’ yn enw torfol Enwau torfol eraill yw: byddin o filwyr tusw o flodau gyrr o wartheg praidd o ddefaid

  7. Beth yw cenedl enw? Mae pob enw cyffredin naill ai’n fenywaidd neu’n wrywaidd. Prin iawn yw’r geiriau sy’n ddeuryw! Gall enw fod yn wrywaidd yn y gogledd ac yn fenywaidd yn y de! Ystyriwch hyn: y bwrdd crwn (enw gwrywaidd) y ford gron (enw benywaidd)

  8. Pwysigrwydd adnabod cenedl enw Mae llawer o reolau treiglo yn y Gymraeg yn dibynnu ar genedl enw. Yr enw BENYWAIDD sy’n achosi’r treiglad. (Cofiwch fod merched yn llawer mwy cymhleth na bechgyn!!!) Mae’n bwysig felly ein bod yn gallu adnabod cenedl enw. Ydych chi’n cofio sut i adnabod enw benywaidd cyffredin? Rhoi’r FANNOD o flaen yr enw(bydd enw benywaidd yn treiglo) Rhoi HWN neu HON ar ôl yr enw Defnyddio geiriadur!

  9. Rheolau yn ymwneud ag ENW • Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod • Angen llythyren fawr i enw priod • Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal • Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol

  10. Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod Y fannod yw Y, YR a ‘R Os yw’r fannod yn cael ei ddilyn gan enw benywaidd, bydd yr enw’n treiglo’n feddal e.e. cath > y gath buwch > y fuwch dafad > y ddafad Y fannod sy’n achosi’r treiglad

  11. Angen llythyren fawr i enw priod Mae’n rhaid cael llythyren fawr ar ddechrau bob enw priod: Enw PRIOD yw’r enw a roddir i’r enwau sydd â llythyren fawr iddynt, sef enwau arbennig e.e. - enw a chyfenw pobl - enwau gwledydd ac ieithoedd - enwau mynyddoedd ac afonydd - dyddiau’r wythnos a’r misoedd - teitlau o bob math

  12. Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal Pan fo ansoddair yn dilyn enw benywaidd mae’n treiglo’n feddal e.e. bachgen da (ansoddair yn dilyn enw gwrywaidd) merch dda (ansoddair yn dilyn enw benywaidd) Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal Ystyriwch y canlynol: cadair gyfforddus cath filain drama ddiddorol Mae’r treiglad yn digwydd oherwydd fod yr ansoddair yn dilyn enw benywaidd

  13. Enw yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol yn treiglo’n feddal Mae POB enw’n treiglo’n feddal ar ôl ‘yn’ – enwau gwrywaidd, benywaidd a lluosog. e.e. merch > yn ferch bachgen > yn fachgen merched > yn ferched bechgyn > yn fechgyn Yr ‘yn’ traethiadol sy’n achosi’r treiglad

  14. Cywiro brawddegau Mae cath du’r merch yn peryglus iawn. cath du > cath ddu Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal ‘r merch > ‘r ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod yn peryglus > yn beryglus Treiglad meddal i’r ansoddair yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol

  15. Gwelodd sian y pont cam lle digwyddodd y damwain drwg. sian > Sian Angen llythyren fawr i enw priod y pont > y bont Enw unigol benywaidd yn treiglo’n faddal ar ôl y fannod pont cam > pont gam Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal y damwain > y ddamwain Enw unigol benywaidd yn treiglo’n faddal ar ôl y fannod damwain drwg > damwain ddrwg Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal

  16. Mae cai yn bachgen ddawnus. cai > Cai Angen llythyren fawr i enw priod yn bachgen > yn fachgen Angen treiglad meddal i’r enw ar ôl yr ‘yn’ traethiadol bachgen ddawnus > bachgen dawnus Nid yw ansoddair yn treiglo ar ôl enw gwrywaidd

  17. Mae’r cath du yn cath blin. mae‘r cath > mae‘r gath Enw unigol benywaidd yn treiglo’n faddal ar ôl y fannod cath du > cath ddu Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal yn cath > yn gath Angen treiglad meddal i’r enw ar ôl yr ‘yn’ traethiadol cath blin > cath flin Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal

  18. Mae’r merch pert yn caru’r fachgen. Mae’r merch > Mae’r ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod merch pert > merch bert Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal caru’r fachgen > caru’r bachgen Nid yw enw gwrywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod

More Related