1 / 40

Prawf Macro-economeg

Prawf Macro-economeg. Mae’r prawf hwn yn cynnwys 10 cwestiwn i brofi eich dealltwriaeth o’r pethau sylfaenol ynghylch macro-economeg. Mae’r cysylltau’n rhoi dewis o atebion i chi, ynghyd ag esboniadau a datrysiadau. Cwestiwn 1. Pa un o’r canlynol sy’n rhan o bolisi cyllidol?

marly
Télécharger la présentation

Prawf Macro-economeg

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Prawf Macro-economeg Mae’r prawf hwn yn cynnwys 10 cwestiwn i brofi eich dealltwriaeth o’r pethau sylfaenol ynghylch macro-economeg. Mae’r cysylltau’n rhoi dewis o atebion i chi, ynghyd ag esboniadau a datrysiadau.

  2. Cwestiwn 1. Pa un o’r canlynol sy’n rhan o bolisi cyllidol? a. Codi cyfraddau llog b. Cynyddu trethi uniongyrchol c. Cyflwyno deddfwriaeth undebau llafur

  3. Cywir – Mae polisi cyllidol yn ymwneud â threthi a gwariant y llywodraeth.

  4. Enghraifft o bolisi ariannol.

  5. Enghraifft o bolisïau ochr-gyflenwad

  6. Cwestiwn 2. Pa un o’r canlynol sy’n dreth uniongyrchol? A. TAW B. Tollau tramor a thollau ecseis C. Treth incwm gyfradd uwch

  7. Mae treth ar werth yn dreth anuniongyrchol – treth ar wariant.

  8. Mae tollau tramor a thollau ecseis yn drethi anuniongyrchol -trethi ar wariant.

  9. Cywir. Mae treth incwm yn dreth ar incwm.

  10. Cwestiwn 3. Pa un o’r polisïau canlynol sy’n debygol o gynyddu gwerth y £ mewn perthynas â’r €? A. Gostwng lefelau treth incwm B. Cynyddu cyfraddau llog C. Symud o drethi uniongyrchol i drethi anuniongyrchol

  11. Byddai hyn yn fwy na thebyg yn cynyddu mewnforion ac felly yn gostwng gwerth y £

  12. Cywir. Byddai’r galw am £oedd yn cynyddu (llifoedd arian trasymudol), ac felly yn cynyddu gwerth y £.

  13. Yn debygol o beidio â chael unrhyw effaith ar werth y £.

  14. Cwestiwn 4. Pa fath o ddiweithdra sy’n amrywio gydag armywiadau mewn gweithgaredd economaidd? A. Cylchol B. Ffrithiannol C. Strwythurol

  15. Diweithdra chwilio am waith yw diweithdra ffrithiannol.

  16. Mae diweithdra strwythurol yn ymwneud â newidiadau mewn technoleg neu ym mhatrymau galw.

  17. Da iawn! Mae diweithdra cylchol yn ganlyniad i amrywiadau yn y gylchred economaidd.

  18. Cwestiwn 5. Pa un o’r canlynol sy’n achosi chwyddiant? A. Cynnydd mewn mewnforion oherwydd y cynnydd yng ngwerth y £ mewn marchnadoedd ariannau tramor. B. Cynnydd yn lefelau galw uwchlaw gallu cynhyrchu diwydiant y DU.

  19. Mae hyn yn debygol o ostwng cost mewnforion ac felly lleihau pwysau chwyddiannol.

  20. Cywir! Yn yr amgylchiadau hyn gall cwmnïau godi prisiau a chynnal lefelau galw.

  21. Cwestiwn 6. A Pa un o’r canlynol sy’n rheswm pam y rhoddwyd y gorau i bolisi rheoli galw? A. Marwolaeth Keynes B. Problemau ag oediadau amser C. Problemau â rheoli’r cyflenwad arian

  22. Cywir. Oherwydd yr amser rhwng gweithredu polisïau a’r polisïau hynny’n cael effaith, gallai cylchredau masnach fynd yn fwy.

  23. Anghywir. Rydym I gyd yn marw yn y pen draw!

  24. Anghywir. Dyma un o’r rhesymau pam y rhoddwyd y gorau i arianolaeth yn dawel fach.

  25. Cwestiwn 7. Pa un o’r canlynol sy’n diffinio polisïau ochr-gyflenwad? A. Polisi’r Pwyllgor Polisi Ariannol o reoli chwyddiant drwy gyfraddau llog B. Ymdrechion i wneud gweithrediad yr economi’n fwy effeithlon

  26. Anghywir. Polisi ariannol.

  27. Cywir. Mae polisïau ochr-gyflenwad yn ceisio cynyddu’r cyflenwad cyfanredol yn yr economi drwy wneud i’r farchnad lafur a phob marchnad arall weithredu’n fwy effeithlon.

  28. Cwestiwn 8. Pa un o’r canlynol sy’n un o amcanion macro-economaidd y llywodraeth? A. cynnal cyfradd cyfnewid sefydlog B. cadw trosedd yn isel C. cynnal twf sefydlog a chynaliadwy o CMC

  29. Anghywir. Mae’r £ yn cael ei gadael i arnofio’n rhydd yn y marchnadoedd ariannau tramor.

  30. Cywir. Dyma un o’r prif amcanion macro-economaidd ynghyd â chyfraddau isel o ddiweithdra a chwyddiant a chydbwysedd yng nghyfrif cyfredol y fantol daliadau.

  31. Anghywir. Amcan cymdeithasol.

  32. Cwestiwn 9. Pa un / rai o’r canlynol sy’n enghraifft / enghreifftiau o bolisi ariannol? 1. Rheoli benthyca gan fanciau 2. Newidiadau yng nghyfraddau Yswiriant Gwladol 3. Rheoli credyd defnyddwyr A. 1 yn unig B. 1, 2 a 3 C. 1 a 3

  33. Anghywir. Mae hwn yn enghraifft o bolisi ariannol, ond nid yr unig un.

  34. Anghywir. Mae 2 yn enghraifft o bolisi cyllidol.

  35. Cywir. Mae’r ddau yma’n enghreifftiau o bolisi ariannol, ond prin y cânt eu defnyddio erbyn hyn.

  36. Cwestiwn 10. Ar gyfer pa un / rai o’r canlynol y gall polisi cyllidol gael ei ddefnyddio? 1. Rheoli galw yn yr economi 2. Rheoli’r diffyg cyllidol 3. Addasu dosraniad incwm a chyfoeth A. 2 yn unig B. 2 a 3 C. Pob un o’r uchod

  37. Mae’n wir, ond nid dyma’r unig un yn y rhestr sy’n wir. .

  38. Mae’n wir, ond edrychwch eto.

  39. Cywir. Gall polisi cyllidol gael ei ddefnyddio ar gyfer pob un o’r tri phwrpas.

  40. Rydych wedi cwblhau’r prawf. Am adolygu ychwanegol mwy manwl defnyddiwch yr astudiaethau achos ar y wefan. I ymadael â’r prawf defnyddiwch y botwm ‘Back’ ar eich bar offer.

More Related