110 likes | 241 Vues
CAREDIGRWYDD DIEITHRYN. Dinas Efrog Newydd: Mae’n ddiwrnod oer ym mis Rhagfyr. Roedd bachgen bach tua 10 oed yn sefyll o flaen siop esgidiau ar Broadway, yn droednoeth, yn edrych drwy’r ffenest, ac yn crynu yn yr oerfel. DINAS EFROG NEWYDD.
E N D
Dinas Efrog Newydd: Mae’n ddiwrnod oer ym mis Rhagfyr. Roedd bachgen bach tua 10 oed yn sefyll o flaen siop esgidiau ar Broadway, yn droednoeth, yn edrych drwy’r ffenest, ac yn crynu yn yr oerfel.
Daeth menyw at y bachgen a gofyn iddo, “Fy machgen bach i, pam wyt ti’n edrych mor daer yn y ffenest yna?"
“Roeddwn yn gofyn i Dduw roi pâr o esgidiau i mi,”oedd ateb y bachgen.
Aeth y fenyw ag ef law yn llaw i’r siop a gofyn i’r clerc am hanner dwsin o sanau i’r bachgen.
Yna gofynnoddd am fasn o ddŵr a thywel. Daeth ef â hwy ati ar unwaith. Aeth â’r bachgen i gefn y siop ac, wrth dynnu ei menig, plygodd i lawr a golchodd ei draed bach â’u sychu â thywel.
Erbyn hyn, roedd y clerc wedi dychwelyd â’r sanau. Gan roi pâr ar draed y bachgen yna prynodd bâr o esgidiau iddo a rhoi gweddill y sanau iddo. Gan roi ei llaw ar ei ben, dywedodd, “Dwi’n siŵr dy fod ti’n fwy cysurus nawr,‘machgen i”.
Wrth iddi droi i fynd, cydiodd y bachgen yn ei llaw, wedi’i syfrdanu, ac wrth edrych ar ei hwyneb, gyda dagrau yn ei lygaid, atebodd y cwestiwn gyda’r geiriau hyn: "Ai gwraig Duw wyt ti?"