1 / 12

Grŵp Un

Syniadau’r Natsïaid ynglŷn â rôl menywod. Grŵp Un. Yn ôl y Natsïaid, beth oedd rôl menywod i fod mewn cymdeithas?. Pam yn eich barn chi mae Goebbels yn gwneud y gymhariaeth rhwng ‘priod waith menywod’ a rôl yr iâr ym myd yr adar?. FFYNHONNELL A: Joseph Goebbels, yn ysgrifennu yn 1929.

nanji
Télécharger la présentation

Grŵp Un

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Syniadau’r Natsïaid ynglŷn â rôl menywod Grŵp Un

  2. Yn ôl y Natsïaid, beth oedd rôl menywod i fod mewn cymdeithas? Pam yn eich barn chi mae Goebbels yn gwneud y gymhariaeth rhwng ‘priod waith menywod’ a rôl yr iâr ym myd yr adar? FFYNHONNELL A:Joseph Goebbels, yn ysgrifennu yn 1929. “Priod waith menywod yw bod yn brydferth a dod â phlant i’r byd. Dyw hynny ddim mor anfodern o gwbl ag y mae’n swnio. Mae’r iâr yn ei phrydferthu ei hun ar gyfer ei chymar ac yn deor yr wyau trosto. Yn gyfnewid am hynny, mae’r gwryw yn gofalu am gasglu bwyd, yn cadw gwyliadwriaeth a chadw’r gelyn i ffwrdd."

  3. Yn ôl y Natsïaid, beth oedd rôl menywod i fod mewn cymdeithas? Pam roedd y Natsïaid yn canolbwyntio ar addysg gorfforol ar gyfer merched? FFYNHONNELL B:Mein Kampf, gan Hitler “Ynglŷn ag addysg merched yn y wladwriaeth Almaenig, mae’n rhaid rhoi’r pwyslais ar addysg gorfforol yn bennaf; dim ond wedi hynny y dylid ystyried gwerthoedd ysbrydol a meddyliol. Y nod pwysicaf sydd rhaid ei gofio bob amser wrth addysgu merched yw’r ffaith y byddant rhyw ddydd eisiau dod yn famau.”

  4. Yn ôl y Natsïaid, beth oedd rôl menywod i fod mewn cymdeithas? Beth oedd y rolau teuluol pwysicaf y dylai menywod ganolbwyntio arnynt yn ôl Hitler? FFYNHONNELL C: Rhan o araith gan Hitler yn rali Nuremberg, 8 Medi 1934 Byd menyw yw ei gŵr, ei phlant a’i thŷ. Ond ble byddai’r byd mawr pe byddai neb ar gael i ofalu am y byd bychan? Mae pob menyw sy’n dod â phlentyn i’r byd yn cyfrannu i’r frwydr dros fodolaeth ei phobl.

  5. Syniadau’r Natsïaid ynglŷn â rôl menywod Grŵp Dau

  6. Yn ôl y Natsïaid, beth oedd rôl menywod i fod mewn cymdeithas? Sut roedd Hitler yn annog teuluoedd i dyfu? Ffynhonnell CH:www.schoolhistory.co.uk Pan ddaeth Hitler i rym yn 1933, cyflwynodd y ‘Ddeddf er Hybu Priodas’. Roedd y ddeddf yn datgan y byddai’r llywodraeth yn rhoi benthyciad o 1000 marc i bob cwpl wedi iddynt briodi, swm oedd yn gyfwerth fwy neu lai â naw mis o gyflog. Wedi genedigaeth eu plentyn cyntaf, gallai’r cwpl gadw chwarter yr arian. Wedi genedigaeth eu hail blentyn, gallent gadw’r ail chwarter. Byddent yn cael cadw’r trydydd chwarter ar enedigaeth eu trydydd plentyn a’r swm cyfan ar enedigaeth eu pedwerydd.

  7. Yn ôl y Natsïaid, beth oedd rôl menywod i fod mewn cymdeithas? Beth mae’r ffynhonnell hon yn ei ddweud am y pwysigrwydd a roddai Hitler ar i fenywod ddechrau cael plant? FFYNHONNELL D: Am wasanaeth clodwiw yn yr ymgyrch yn erbyn gostyngiad yn y gyfradd geni. Efydd = pedwar o blant Arian = chwech o blant Aur = wyth o blant Y Mutterkreuz (Croes y Fam)

  8. Yn ôl y Natsïaid, beth oedd rôl menywod i fod mewn cymdeithas? Sut roedd Gwasanaeth Mamau yReich yn cadarnhau’r rôl roedd disgwyl i fenywod ei chymryd yn ôl dymuniad y Natsïaid wedi 1933? FFYNHONNELL DD: Frau Gertrud Scholtz-Klink, arweinydd y menywod Natsïaidd yn 1938. Yn 1933 aethom ati i sefydlu Gwasanaeth Mamau y Reich i hyfforddi menywod. Amcan yr hyfforddiant hwnnw oedd eu haddysgu am eu dyletswyddau hollbwysig: sef magwraeth ac addysg eu plant a’u gorchwylion domestig ac economaidd.

  9. Syniadau’r Natsïaid ynglŷn â rôl menywod Grŵp Tri

  10. Pa mor llwyddiannus oedd polisïau’r Natsïaid ynglŷn â menywod? Pa mor llwyddiannus oedd polisi’r Natsïaid o annog menywod i aros gartref yn ystod y 1930au a pham yn eich barn chi mai felly roedd? FFYNHONNELL E: Cyfanswm y menywod mewn gwaith yn 1933, 1936 a 1939. 1933 – 11.48 miliwn 1936 – 11.7 miliwn 1939 – 12.7 miliwn

  11. Pa mor llwyddiannus oedd polisïau’r Natsïaid ynglŷn â menywod? A oedd pob menyw yn hapus i gydymffurfio â dymuniadau’r Blaid Natsïaidd? Pam hynny? FFYNHONNELL F:Weimar and NaziGermany, gan Stephen Lee, 1996 Ymunodd ychydig o fenywod â gwrthbleidiau megis y Comiwnyddion neu’r Blaid Sosialaidd Ddemocrataidd. Er hynny, gweithio o fewn y system a wnaeth llawer mewn gwirionedd… Roeddynt yn beirniadu’r polisi am dri rheswm … roedd llawer o fenywod yn parhau yn rhwystredig … roedd menywod an cael eu hamddifadu o brofiadau oedd yn hollbwysig iddynt … roedd gan fenywod dalentau arbennig ar gyfer rhai mathau o waith.

  12. Pa mor llwyddiannus oedd polisïau’r Natsïaid ynglŷn â menywod? A fu ymdrech bropaganda’r Natsïaid i godi’r gyfradd geni yn llwyddiannus erbyn 1936? FFYNHONNELL FF: Germany 1918-1945, gan Greg Lacey a Keith Sheppard. Yn 1900 roedd dros ddwy filiwn o enedigaethau byw bob blwyddyn, ond roedd hynny wedi gostwng i lai nag un miliwn yn 1933 … yn 1936 roedd dros 30% yn fwy o enedigaethau nag a fu yn 1933.

More Related