1 / 10

“ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr .”

Brwydr Prydain. “ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr .”. Y Prif Weinidog Winston Churchill, Awst 1940. Geiriau a Delweddau. Amddiffyn y genedl - Y Genedl yn Rhyfela. Pwyswch ‘ Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

natan
Télécharger la présentation

“ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr .”

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Brwydr Prydain “Erioedynhanesgwrthdarorhwngdynolryw y budyledcyniferigynlleiedmorfawr.” Y Prif Weinidog Winston Churchill, Awst 1940 Geiriau a Delweddau Amddiffyn y genedl - Y Genedl yn Rhyfela Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

  2. Mae’r Almaen yn goresgyn Ffrainc.Mae Brwydr Ffrainc yn dechrau. Digwyddiadau yn arwain at Frwydr Prydain 338,226 o filwyr Prydain a’u cynghreiriaid yn cael eu hachub o Dunkerque. Mae Staff Cyffredinol Byddin yr Almaen yn cwblhau’r trefniadau i oresgyn Prydain - ‘Operation Sea Lion’. Mai 1940 Mehefin 1940 Gorffennaf 1940 Mae’r Ffrancwyr yn ildio i’r Almaenwyr ar 22 Mehefin. Dechreuodd yr Almaenwyr ymosod mwy ar longau Prydain oedd yn y Sianel (Môr Udd). Erbyn mis Mehefin 1940 roedd Prydain wedi colli 959 o awyrennau drwy ymladd yn erbyn yr Almaenwyr yn y gorllewin.

  3. Yng ngeiriau Winston Churchill Delweddau a Phropaganda Awst 1940

  4. Amlygwch y geiriau mae Churchill yn eu defnyddio i bwysleisio dewrder a gallu peilotiaid y Llu Awyr Brenhinol (RAF). Mae diolchgarwch pob cartref ar ein hynys, yn ein hymerodraeth, ac yn wir ar draws y byd, heblaw yn nhrigfannau’r euog, yn ymestyn at y peilotiaid Prydeinig nad ydynt yn cael eu blino gan y grymoedd sy’n eu herbyn, sy’n ddiflino wrth wynebu her barhaus a pherygl marwol, ac sydd, drwy eu gallu a’u hymroddiad, yn newid cwrs y Rhyfel Byd. Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr. Yn ôl y rhan hon o araith Churchill pa mor bwysig oedd rôl yr RAF yn ystod y cyfnod hwn o’r Ail Ryfel Byd?

  5. Edrychwch ar y geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddiwyd gan Churchill isod. Mae’n calonnau gyda pheilotiaid yr awyrennau ymladd a’r gweithredoedd gwych yr ydym yn llygaid dyst iddynt dro ar ôl tro. Fyth nid anghofiwn fod ein sgwadronau bomio, drwy’r cyfan, ddydd ar ôl dydd, fis ar ôl mis, yn hedfan ymhell i’r Almaen ac yn defnyddio eu sgiliau mordwyo gorau i ganfod eu targed yn y tywyllwch, yn anelu eu hymosodiadau, yn aml yn wyneb ergydion gynnau, gan ddioddef colledion enbyd a gyda gwahaniaethu gofalus a bwriadol, yn peri ergydion dinistriol i strwythurau technegol a rhyfelgar grym y Natsïaid. Pa mor effeithiol yn eich barn chi oedd yr araith hon wrth geisio annog y cyhoedd ym Mhrydain i edmygu a chefnogi gwaith yr RAF?

  6. Barn Churchill am yr RAF yn ystod Brwydr Prydain... Disgrifiadau ac ymadroddion a ddefnyddiwyd ganddo mewn areithiau Pwysigrwydd yr RAF Ein dyled i’r RAF Darparwyd y delweddau gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain

  7. Beth sy’n gwneud hwn yn boster propaganda effeithiol? Effaith y geiriau Effaith y llun Delwedd gyda chaniatâd caredig Yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd, Llundain

  8. Pam ydych chi’n meddwl fod lluniau fel hyn yn cael eu gosod mewn papurau newydd ym Mhrydain yn ystod cyfnod Brwydr Prydain? IWM, London Hurricane Mk. I yn sgramblo o Gravesend ar 15 Awst 1940. Geiriau disgrifio allweddol: e.e. Gwladgarwch Hyder Ffotograff gyda chaniatâd caredig Yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd, Llundain(HU3093)

  9. Edrychwch yn ofalus ar lifrai'r dynion hyn. Beth mae’r milwr tua chanol y llun yn ei ddal?Disgrifiwch beth rydych chi’n meddwl sydd wedi digwydd. Pam byddai papurau newydd yn yr Almaen wedi dymuno cyhoeddi’r llun hwn? Pam na fyddai papurau newydd ym Mhrydain wedi bod eisiau ei gyhoeddi? Delwedd gyda chaniatâd caredig Des Quinn

  10. Rhan o gofeb Brwydr Prydain yn Llundain gan y cerflunydd Paul Day Mae’r delweddau sy’n darlunio Brwydr Prydain dal yn hynod o boblogaidd heddiw.Os yw’r cofebion, cerfluniau a delweddau sy’n ein hatgoffa o’r cyfnod hwn yn hanes Prydain mor boblogaidd, beth mae hynny’n ei ddweud wrthoch chi am bwysigrwydd Brwydr Prydain? Delwedd gyda chaniatâd caredig Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain

More Related