110 likes | 286 Vues
Ymddygiadaeth. Edrychwch ar y datganiad a phenderfynu a yw’n wir ai peidio. Anwir. Pavlov wnaeth ddyfeisio cyflyru clasurol. Pavlov oedd y cyntaf i ddisgrifio’r broses ond roedd y broses yn bodoli erioed. Gwir. Mae Ymddygiadwyr yn tueddu i ddefnyddio dull gwyddonol.
E N D
Ymddygiadaeth Edrychwch ar y datganiad a phenderfynu a yw’n wir ai peidio.
Anwir • Pavlov wnaeth ddyfeisio cyflyru clasurol. • Pavlov oedd y cyntaf i ddisgrifio’r broses ond roedd y broses yn bodoli erioed.
Gwir • Mae Ymddygiadwyr yn tueddu i ddefnyddio dull gwyddonol. • Maent yn edrych ar ffenomenau y gellir eu harsylwi ac mae hynny’n wyddonol.
Anwir • Dysgu yw’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol • Fe all ddigwydd mewn ysgol ond y mae’n bendant yn digwydd mewn amgylcheddau eraill hefyd. Nid yw seicolegwyr yn cytuno’n hollol beth yw dysgu, na sut y mae’n gweithio.
Anwir • Mae ymosodedd yn digwydd o ganlyniad i’w weld ar y teledu • Nid yw pawb sy’n gwylio trais ar y teledu yn ymddwyn yn ymosodol wedyn.
Gwir • Gellir defnyddio dadsensiteiddio systematig i drin ffobia. • Mae’n gweithio trwy gysylltu teimladau o hedd gyda gwrthrych yr ofn.
Gwir • Cafodd B F Skinner ei hyfforddi fel awdur ffuglen a newyddiadurwr. • Daeth yn seicolegydd fel myfyriwr ôl-radd, ond dyfeisiodd y Blwch Skinner pan oedd yn dal i fod yn fyfyriwr.
Gwir • Mae damcaniaeth dysgu cymdeithasol yn awgrymu bod dysgu’n digwydd trwy arsylwi. • Mae’r ddamcaniaeth yn dadlau fod pobl yn dynwared model ac y gallant ymddwyn fel y mae’r model yn ymddwyn.
Anwir • Mae damcaniaeth dysgu cymdeithasol yn dadlau y gallwch ddysgu heb fod yn ymwybodol o hynny. • Mae Bandura’n mynnu bod rhoi sylw yn rhan bwysig o’r broses o ddysgu.
Gwir • Mae cyflyru gweithredol yn seiliedig ar ymddygiad gwirfoddol. • Mae’n wahanol i gyflyru clasurol sy’n seiliedig ar weithred atgyrch, megis glafoerio.
Gwir • Gall cyflyru gweithredol fod yn fwy effeithiol os nad oes atgyfnerthu cadarnhaol bob amser. • Ond gall yr unigolyn weithiau arddangos lefelau uwch o orbryder.