1 / 29

Esbonio

Esbonio. Sue Palmer Addasiad Cymraeg gan Delyth Eynon. Mae testun esbonio. * yn esbonio sut neu pam mae rhywbeth yn digwydd / gweithio * yn dweud beth yw’r achos a’r effaith * yn aml yn nhrefn amser. (mewn dilyniant, h.y. cyfres o gamau sy’n dilyn ei gilydd). esboniad.

Télécharger la présentation

Esbonio

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Esbonio Sue Palmer Addasiad Cymraeg gan Delyth Eynon

  2. Mae testunesbonio * yn esbonio sut neu pam mae rhywbeth yn digwydd / gweithio * yn dweud beth yw’r achos a’r effaith * yn aml yn nhrefn amser (mewn dilyniant, h.y. cyfres o gamau sy’n dilyn ei gilydd)

  3. esboniad Dyma enghreifftiau lle mae testun esboniadol yn cael ei ddefnyddio… gwybodaeth mewn gwyddoniadur taflenni ac erthyglau ‘cwestiwn ac ateb’ rhannau o lyfr ffeithiol (e.e. daearyddiaeth, bioleg) manylion am arbrawf gwyddonol gwerslyfr gwyddoniaeth llawlyfr technegol (e.e. ar gyfer car neu beiriant golchi)

  4. cynllunesboniad 1 Mae cyfres o gamau rhesymegol mewn esboniad syml Weithiaumaeynaddiagramauwedieulabelu Mae hyn yn digwydd hyn hyn hyn sy’n arwain at sy’n arwain at sy’n arwain at Ar ôl i chi wneud eich sgerbwd ar gyfer y siart llif gallwch ddefnyddio pob rhan o’r siart llif i ysgrifennu paragraff. mae’n bosib… y bydd achosion ac effeithiau eraill ym mhob cam

  5. cynllunesboniad 2 Dyma enghreifftiau o esboniadau cymhleth ; Cylch Mwy nag un achos Effeithiau dwyffordd Mae esboniadau yn gallu bod yn gymhleth iawn. Rhaid i chi feddwl yn ofalus wrth wneud siart llif. Syniad da fyddai gwneud copi bras ohono (mwy nag un efallai). Bydd gwneud siart llif a diagramau eraill yn eich helpu i ddeall eich gwaith.

  6. Nodweddioniaithesboniad • * yr amser presennol (heblaw am esboniadau hanesyddol) os… yna… achos y rheswmmai… * iaith achos pan... felly... *cysyllteiriau yn dangos dilyniant maehynynachosi… *iaith amhersonol oherwydd… am hynny... *geirfa dechnegol o ganlyniad...

  7. Pwrpas helpu’r darllenydd i ddeall y broses mor rhwydd â phosib Cynulleidfa rhywun *sydd am ddeall proses arbennig (sut neu pam mae rhywbeth yn digwydd) • Mae angen: • cynllun clir • diagramau wedi eu labelu • Gallwch ddefnyddio lliw, allwedd ac yn y blaen i’ch helpu • bocsys ar gyfer gwybodaeth ychwanegol *Efallai y bydd gennych fwy o wybodaeth am oed a diddordebau’r darllenydd.

  8. iaithamhersonol * Y trydydd person Mae’rpeiriantyncaeleiyrrugan … *y cyflwr goddefol *ffurfiau amhersonol y ferf Gelwirhynyn … Rhoddwyd y prenmewn… *gerifa ffurfiol fel arfer (e.e. ‘gosod’ yn hytrach na ‘dodi’ Mae’rochrau’ncaeleugorchuddiogan … *cysyllteiriau ffurfiol (e.e. o ganlyniad, fodd bynnag, serch hynny, ymhellach

  9. Pan fyddwchynysgrifennugydaphartner, cofiwch .. Ymarfer * Dywedwch bob ymadrodd neu frawddeg yn uchel * Ceisiwch wella eich gwaith, os yw’n bosib Ysgrifennu Un i ysgrifennu, ac un i helpu Ail-ddarllen Darllenwch dros eich gwaith i wneud yn siwr ei fod yn swnio’n iawn ac yn gwneud synnwyr.

  10. ‘Sgerbydau’

  11. Sgerbwdesboniad

  12. Effeithiaudwyffordd

  13. mwy nag un achos

  14. Cylch

  15. Rhagor o ‘sgerbydau’ i’chhelpuiwneudnodiadau

  16. effaith grid achos ac effaith a cho s

  17. cylch ( felwynebcloc)

  18. * Diagramauwedieulabelu (ynamlgydasaethau) *cyfres o luniau * trawsdoriad

  19. PosteriTestunEsbonio

  20. PamffledTestunEsbonio

  21. PamffledTestunEsbonio

  22. HunanasesuTestunEsbonio

  23. Enghraifft o ysgrifennuesboniad Solidau, Hylifau a Nwyon Gellir gosod pob math o ddefnyddiau mewn tri grŵp, sef solidau, hylifau neu nwyon. Mae defnyddiau wedi cael eu gwneud o ronynnau bitw bach o’r enw moleciwlau. Mewn solidau, mae’r moleciwlau eu pacio’n agos iawn at ei gilydd fel na allan nhw symud llawer. Mae hyn yn golygu bod solid yn cadw ei siâp a’ch bod yn gallu ei ddal, ei dorri neu ei siapio. Dydy’r moleciwlau hylifau ddim wedi eu pacio mor agos ac maen nhw’n gallu symud ychydig. Mae hylifau yn rhedegog ac yn llifo i lawr. Pan fydd hylif yn cael ei arllwys i gynhwysydd, mae’r hylif yn cymryd siâp y cynhwysydd, ond mae arwyneb yr hylif yn aros yn wastad.

  24. Enghraifft o ysgrifennuesboniad - parhad Mae gan y moleciwlau ddigon o le ac maen nhw’n symud o gwmpas drwy’r amser. Mae nwyon o’n cwmpas ym mhob man ac yn lledaenu i unrhyw leoedd gwag. Maen nhw’n anodd iawn eu rheoli. Mae’r rhan fwyaf o nwyon yn anweledig. Pan fydd y nwyon yn cael eu lled-oeri byddant yn troi’n hylif. Wrth led-oeri’r hylifau byddant yn troi nôl yn solidau. Enghraifft o lyfr ‘Codi Safonau Llythrennedd – Datblygu Ysgrifennu Ffeithiol’

  25. Enghreifftio’rdefnydd o ‘sgerbydau’ Sue Palmer ( Cyhoeddwyr; David Fulton )

  26. HOW DO BABIES GROW? Newborn babies are very small. Most of them weigh round about 3½ kilograms and are only about 53 centimetres from head to toe. Some are even smaller. However, soon after they are born, babies are ready to eat! Their food is milk, which they suck from their mummy’s breast or from a bottle. The milk helps the baby grow, so by 3 months old it weighs about 6 kilograms and is around 60 centimetres long. Its tummy is growing stronger too. This means mum can give the baby some solid food as well as milk. The food is special mushy baby food because the baby does not have any teeth, so it cannot chew it yet. At 6 months old a baby is about 8 kilograms and 68 centimetres long. Its body is stronger now so it can sit up and play. Its little teeth are starting to come through. This means it can have some hard food like rusks as well as baby food and milk. By one year old, most babies weigh around 9½ kilograms and measure about 72cms. They can stand up, and will soon start to walk. They usually have several teeth, so they can eat the same food as older children, as long as it is cut up small. As they eat more and more, they will grow heavier, taller and stronger. Sgerbwd

  27. 3½ kg 53 cm 6 kg 60 cm 8 kg 68 cm 9½ kg 72 cm 1 mlwydd oed 3mis 6 mis Newydd anedig dim dannedd sugno llaeth stumog yn gryfach rhai dannedd gwahanol faint sefyll dannedd eistedd a chwarae methu cnoi torri bwyd peth bwyd caled + meddal + llaeth llaeth a bwyd meddal

  28. Pam mae’n rhaid i bobl anadlu? Er mwyn aros yn fyw rhaid i’r nwy ocsigen gyrraedd pob rhan o’r corff yn barhaol. Hefyd, rhaid i’r corff gael gwared ar y nwy gwenwynig, carbon deuocsid. Mae’r nwyon hyn yn cael eu cario o gwmpas y corff yn y gwaed. Y gwythiennau sy’n cario’r gwaed i’r galon a’r rhydweliau sy’n cario’r gwaed o’r galon. Mae’r gwythniennau a’r rhydweliau yn rhannu’n filoedd o gapilariau. Y capilariau sy’n caniatau i fwyd a nwyon fynd i mewn ac allan o’r gwaed. Pan fydd pobl yn anadlu i mewn, aiff yr aer i lawr i’r ysgyfaint, sy’n debyg i ddau fag sbwnglyd ac sy’n llawn o filoedd o sachau aer. Mae’r ocsigen a’r aer yn teithio trwy’r sachau i’r capilariau. Yna, mae’r gwaed yn cludo’r ocsigen trwy’r gwythiennau i’r galon. Mae’r galon yn pwmpio’r gwaed a’r ocsigen o gwmpas yr holl gorff trwy’r rhydweliau sy’n rhannu’n gapilariau er mwyn cyrraedd celloedd y corff. Mae’r ocsigen yn mynd o’r gwaed i’r celloedd, a’r carbon deuocsid, sy’n wastraff, yn mynd o’r celloedd i’r gwaed. Yna, mae’r gwythiennau yn cario’r gwaed a’r gwastraff yn ôl i’r galon, sy’n pwmpio’r gwaed yn ôl i’r ysgyfaint. Yno, caiff y carbon deuocsid ei drosglwyddo i’r sachau aer, ac wrth i’r corff anadlu, mae’r nwy gwenwynig yma yn cael ei wthio allan i’r aer. Felly, rhaid i bobl anadlu i mewn ac allan trwy’r amser er mwyn i’r corff gael cyflenwad cyson o ocsigen ac i gael gwared ar y gwastraff, sef y nwy gwenwynig carbon deuocsid. Sgerbwd

  29. Cynnwys ocsigen (O ) ² capilariau Anadlu aer capilariau rhwydweli gwythien O O ² ² celloedd sachau aer CALON CORFF AER YSGYFAINT celloedd sachau aer CO gwythien rhwydweli ² CO ² Anadlu allan CO capilariau capilariau ²

More Related