1 / 18

Dŵr: Gwers 2

Dŵr: Gwers 2. Canlyniadau dysgu: Deall sut y mae’r cylch dŵr yn gweithio. Darganfod mwy am ddosbarthiad glawiad Amlygu lleoedd yn y byd a chydnabod bod rhai lleoedd yn derbyn mwy o law nag eraill. Ceir gwybodaeth i athrawon yn yr adran nodiadau ar waelod pob sleid. Y cylch dŵr.

orsin
Télécharger la présentation

Dŵr: Gwers 2

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Dŵr: Gwers 2 • Canlyniadau dysgu: • Deall sut y mae’r cylch dŵr yn gweithio. • Darganfod mwy am ddosbarthiad glawiad • Amlygu lleoedd yn y byd a chydnabod bod rhai lleoedd yn derbyn mwy o law nag eraill. • Ceir gwybodaeth i athrawon yn yr adran nodiadau ar waelod pob sleid. MarilynWebster

  2. Y cylch dŵr Mae 2/3 o arwyneb y ddaear wedi cael ei orchuddio â dŵr, ond mae llai nag 1% yn ddŵr ffres i’w yfed. Mae dŵr ffres yn adnodd prin, ac yn gyflym yn dod yn fater gwleidyddol yn y byd datblygol. MarilynWebster

  3. Cylch dŵr – geiriau newydd! dŵr sy’n dod o goed a phlanhigion Anweddiad anwedd dŵr sy’n troi yn ôl yn hylif Trydarthiad Cyddwysiad dŵr sy’n cwympo o’r awyr ar unrhyw ffurf e.e. glaw, eira Dyddodiad dŵr sy’n newid o hylif i anwedd MarilynWebster

  4. Diagram o’r cylch dŵr Cyddwysiad: Dyddodiad: Anweddiad: Trydarthiad: Dŵr daear Cyddwysiad Dyddodiad Trydarthiad Anweddiad Dŵr daear Môr Tir MarilynWebster

  5. Ble yn y byd y mae’r dŵr? Cairo Yr Aifft 28mmau Llundain Lloegr 593mmau Ulan Bator Mongolia 208mmau Efrog Newydd UDA 1092mmau Tokyo Siapan 1523 mmau Rhufain Yr Eidal 744mmau Los Angeles UDA 381 mmau Sydney Awstralia 1222mmau Lima Periw 41mmau Alice Springs Awstralia 252mmau Rio de Janeiro Brasil 1082 mmau Nairobi Cenia 958mmau Timbuktu Mali 231mmau MarilynWebster

  6. Cyfandiroedd Ewrop UDA Asia De America Awstralia Affrica MarilynWebster

  7. Ffeithiau dyfrllyd! Mae tua 6,000 o blant (digon i lenwi 20 jymbo jet) yn marw bob dydd o ganlyniad i yfed dŵr anniogel a diffyg glanweithdra priodol (e.e. tai bach). Mae dolur rhydd yn lladd 1.8 miliwn o blant o dan bum mlwydd oed bob blwyddyn, ond gellid atal y rhan fwyaf o achosion. O fewn 25 mlynedd, efallai y bydd hanner poblogaeth y byd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddigon o ddŵr ffres i’w yfed ac ar gyfer dyfrhau (dyfrhau cnydau). MarilynWebster

  8. Mwy o ffeithiau dyfrllyd! • Mae teithiau cerdded hir i ffynhonnau ac afonydd yn cario potiau trwm o ddŵr yn gallu achosi gorflinder a niwed i esgyrn a chymalau. • Mae mwy nag 80 gwlad â 40% o boblogaeth y byd yn dioddef prinder dŵr. • Mae 1 litr o ddŵr yn pwyso tua 2. 2 pwys, tua’r un pwysau â bag o siwgr. Yn aml, mae plant yn cario 10 litr o ddŵr ar eu pennau dros bellteroedd hir. • Mae nifer o fenywod yn cario 40 pwys o ddŵr ar eu pennau. MarilynWebster

  9. Cwis dŵr – GWIR neu ANWIR? • Mae fflysio’r tŷ bach unwaith yn y byd datblygedig yn defnyddio cymaint o ddŵr ag y mae unigolyn cyfartalog yn ei ddefnyddio yn y byd datblygol ar gyfer golchi, coginio ac yfed mewn diwrnod cyfan. GWIR MarilynWebster

  10. Datganiad 2 • Mae menywod yn Affrica yn cario ar gyfartaledd, 20 cilogram (40 pwys) o ddŵr ar eu pennau. GWIR MarilynWebster

  11. Datganiad 3 • Mae pobl yn America a’r DU yn talu mwy am eu dŵr na phobl mewn gwledydd datblygol. ANWIR MarilynWebster

  12. Datganiad 4 • Mae dolur rhydd yn lladd 1.8 miliwn o blant o dan bum mlwydd oed bob blwyddyn; ni ellir ei drin. ANWIR MarilynWebster

  13. Datganiad 5 • Mae gan 95% o boblogaeth y byd dap yn eu cartref. ANWIR MarilynWebster

  14. Datganiad 6 • Gall golchi â dŵr a sebon ostwng afiechydon mwy na 40%. GWIR MarilynWebster

  15. Datganiad 7 • O fewn 25 mlynedd, efallai y bydd hanner poblogaeth y byd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddŵr ffres i’w yfed. GWIR MarilynWebster

  16. Datganiad 8 • Ar gyfartaledd, mae pobl yn y byd datblygol yn defnyddio 400-500 litr o ddŵr bob dydd. Yn y byd datblygedig, mae pobl yn defnyddio ar gyfartaledd 20 litr o ddŵr pob dydd. ANWIR MarilynWebster

  17. Datganiad 9 • Mae cario llwythi trwm o ddŵr dros bellteroedd hir yn effeithio ar iechyd menyw GWIR MarilynWebster

  18. Datganiad 10 • Mewn gwledydd datblygol, dynion a bechgyn ifanc yn bennaf sy’n casglu a chario dŵr. ANWIR MarilynWebster

More Related