130 likes | 292 Vues
dylunwyr + gwneuthurwyr yng Nghymru. Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr.
E N D
dylunwyr + gwneuthurwyr yng Nghymru
Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr ‘Mae fy ngherfluniau wedi cael eu gwneud o goed, metel a’r defnyddiau rwyf yn eu darganfod o fy amgylch, yn aml iawn gweddillion o drin y dirwedd, coed wedi’u teneuo o’r coetiroedd lleol, coron a phen gwreiddiau boncyffion ac offer amaethyddol sydd wedi cael eu taflu ar y domen sbwriel.’Simon Gaiger photographs courtesy www.simongaiger.co.uk
‘Portheus (Portheus molossus) Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr Allwch chi ganfod y rhannau sydd wedi cael eu hailgylchu yn y pysgodyn? Mae wedi cael ei wneud o lafnau llif wedi’u hailgylchu. Ffotograffau trwy ganiatâd caredig www.simongaiger.co.uk
Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr John Dory’ “Byddaf yn aml yn cynnwys darnau rwyf wedi’u ffeindio yn fy ngwaith, haearn a dur yw llawer o’r rhain ac maen nhw’n rhoi cliwiau pendant ynglyn â datblygiad y gwaith. Bydd ffigyrau ac anifeiliad yn tyfu o’r pentwr sgrap ac mae hyn yn bodloni rhyw ysfa blentynaidd i adnabod ffurf.” Simon Gaiger Allwch chi ganfod y rhannau sydd wedi cael eu hailgylchu yn y cerflun? – – mae’r dur sydd wedi cael ei ailgylchu’n cynnwys nytiau pad cefn llifanydd i greu’r llygaid. Ffotograffau trwy ganiatâd caredig www.simongaiger.co.uk
Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr Allwch chi ganfod y rhannau sydd wedi cael eu hailgylchu yn y cynnyrch? Malwr sbeis - Derw ac ailgylchu olwyn haearn wedi’i chastio Canhwyllbren - - Alch o bopty trydan + gyriant belt dur Ffotograffau trwy ganiatâd caredig www.simongaiger.co.uk
Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr “Tyfais i fyny yn Affrica a De’r Môr Tawel ac yno mae celf yn rhan o’r gwrthrychau sy’n ganolog i fywyd bob dydd. Fy ngobaith yw y bydd fy ngwaith yn dal yr ysbryd hwn.”Simon Gaiger Allwch chi ganfod y rhannau sydd wedi cael eu hailgylchu yn y cerflun? Gwellaif wedi’u hailgylchu, gefyn a sbring cert Ffotograffau trwy ganiatâd caredig www.simongaiger.co.uk
Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr Allwch chi ganfod y rhannau sydd wedi cael eu hailgylchu yn y cerflun? drip,drip,drip golau - tap Rac gwin - Leineri piston wedi’u hailgylchu Ffotograffau trwy ganiatâd caredig www.simongaiger.co.uk
Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr Gwaith ar y cyd gyda John O’Carroll : dur, estyllod to o goed cedrwydden, a phigment naturiol o Werddon Dakhla yn yr Aifft Ffotograffau trwy ganiatâd caredig www.simongaiger.co.uk
Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr Rhwyd Rith’ : mae’n cynnwys disg gwydr coron wedi’i chwythu â llaw, defnyddid y math hwn o wydr mewn chwareli ffenestri tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ffotograffau trwy ganiatâd caredig www.simongaiger.co.uk
dylunwyr + gwneuthurwyr yng Nghymru
Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr ‘Sedd Dugong ’, darn trwchus o bren ffawydden wedi’i dorri o goeden wedi cwympo a choesau dur fforchiog. ‘Mae fy ngherfluniau wedi cael eu gwneud o goed, metel a’r defnyddiau rwyf yn eu darganfod o fy amgylch, yn aml iawn gweddillion o drin y dirwedd, coed wedi’u teneuo o’r coetiroedd lleol, coron a phen gwreiddiau boncyffion ac offer amaethyddol sydd wedi cael eu taflu ar y domen’. Simon Gaiger Ffotograffau trwy ganiatâd caredig www.simongaiger.co.uk
Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr “Byddaf yn gweithio pren yn reddfol, yn ei ffurf wyllt bydd y defnydd hwn yn gwneud llawer o’r penderfyniadau yn eich lle. Mae’r ffordd mae’r pren yn troi a throsi’n naturiol, llif y coedyn, yn mynnu eich bod yn ei ddilyn yn hytrach na thorri ar ei draws. Rwyf wrth fy modd gyda’r teimlad garw a chrai sydd i’r pren a byddaf yn pwysleisio ac yn gweithio gyda’r broses naturiol yn hytrach na cheisio’i guddio.” Simon Gaiger Sedd Phoenix – coeden onnen wedi’i tharo gan fellten Ffotograffau trwy ganiatâd caredig www.simongaiger.co.uk
Simon Gaiger – dyluniwr a gwneuthurwr ““Tyfais i fyny yn Affrica a De’r Môr Tawel ac yno mae celf yn rhan o’r gwrthrychau sy’n ganolog i fywyd bob dydd. Fy ngobaith yw y bydd fy ngwaith yn dal yr ysbryd hwn.” Simon Gaiger Sedd – cedrwydden wedi’i golosgi Ffotograffau trwy ganiatâd caredig www.simongaiger.co.uk