1 / 16

Cynhyrchu Trydan

Cynhyrchu Trydan. Ffiseg 1. Pennod 10. Gwyddoniaeth. Olew. Egni – y broblem o ddefnyddio gormod. O ble’r ydym yn cael y rhan fwyaf o’n hegni?. Glo. Nwy. Pennod 10. Gwyddoniaeth. Problemau amgylcheddol! (Llygru’r atmosffer a newid hinsawdd).

redell
Télécharger la présentation

Cynhyrchu Trydan

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cynhyrchu Trydan Ffiseg 1 Pennod 10 Gwyddoniaeth

  2. Olew Egni – y broblem o ddefnyddio gormod O ble’r ydym yn cael y rhan fwyaf o’n hegni? Glo Nwy Pennod 10 Gwyddoniaeth Problemau amgylcheddol! (Llygru’r atmosffer a newid hinsawdd)

  3. Pan fo’r ddaear yn pelydru’r gwres hwn yn ôl i’r gofod, mae ar ffurf isgoch sydd â thonfedd hirach. Mae rhai moleciwlau, megis carbon deuocsid a methan, yn amsugno’r ymbelydredd hirach yma, gan ddal egni o fewn yr atmosffer.– effaith tþ gwydr yw’r term am hyn. Mae tymheredd y Ddaear yn codi o ganlyniad. Beth sy’n digwydd i’r Ddaear? Golau’r Haul yn symud fel tonnau electromagnetig trwy’r gofod, a’r amosffêr, tuag at y Ddaear. atmosffer y Ddaear Mae peth o egni’r pelydrau’n cael ei amsugno, a pheth yn cael ei adlewyrchu. Pennod 10 Gwyddoniaeth Cynhesu byd-eang (Global Warming)

  4. Effaith Cynhesu Byd Eang Beth fydd effaith codiad tymheredd o 2°C? Fe fydd ein gaeafau’n gynhesach Mwy o ddiffeithdiroedd – llai o dir i dyfu cnydau. Bydd lefel dŵr y môr yn codi wrth i begynnau iâ y Ddaear ymdoddi. Newid yn y tywydd – mwy o dywydd eithafol, llifogydd a sychder yn gyffredin. Pennod 10 Gwyddoniaeth Gall Llif y Gwlff newid cyfeiriad, ac o ganlyniad bydd tymheredd Prydain yn gostwng. Ein cynnyrch o garbon deuocsid sy’n gyfrifol am hyn, ac mae ymgyrch cyson erbyn hyn i leihau yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu wrth losgi glo, olew a nwy.

  5. Olew Yr Argyfwng Egni Mae glo, olew a nwy yn enghreifftiau o adnoddau anadnewyddadwy (non-renewable resources). Glo Nwy Ar ôl eu defnyddio unwaith, nid oes modd eu defnyddio eto – rhaid aros am filiynau o flynyddoedd iddynt ailffurfio. Pennod 10 Gwyddoniaeth Erbyn y flwyddyn 2020, bydd angen i ni leihau’r defnydd a wnewn o lo, olew a nwy ym Mhrydain, ynghyd â chynhyrchu trydan gan ddefnyddio adnoddau adnewyddadwy (renewable).

  6. boeler Glo, olew neu nwy Gorsafoedd Trydan Thermol 4. Tyrbin yn troi’r generadur ac yn cynhyrchu trydan. 3. Ager yn troi tyrbin 2. Dŵr oer yn troi’n ager yn y boeler. tyrbin generadur ager poeth ager Ager oer ager dŵr poeth dŵr tŵr oeri dŵr oer dŵr oer cyddwysydd Pennod 10 Gwyddoniaeth 5. Mae peth o’r egni gwres yn cael ei golli i’r amgylchedd yn yr achos yma. 1. Llosgi tanwydd ffosil Mae’n bosib defnyddio’r ager gwastraff i gynhesu ffatrïoedd/tai sy’n agos at yr orsaf TANWYDD FFOSIL

  7. Oes modd gwella’r cynllun? Mae’r gorsafoedd trydan diweddaraf yn defnyddio’r dŵr poeth er mwyn gwresogi tai cyfagos. generadur Ager poeth tyrbin Grid Cenedlaethol gwres Dŵr poeth cyddwysydd Mae’n bosibl defnyddio pren fel tanwydd. Mae’n bosib ailblannu a thyfu coed yn gymharol gyflym. Y CO2 y byddwn yn ei gynhyrchu wrth losgi pren, yw’r CO2 oedd yn yr aer i gychwyn. Pennod 10 Gwyddoniaeth Dŵr oer

  8. oerydd Generadur ager craidd tanwydd Gorsafoedd Pŵer Thermol 4. Tyrbin yn troi’r generadur ac yn cynhyrchu trydan. 3. Ager yn troi tyrbin 2. Dŵr oer yn troi’n ager yn y generadur ager tyrbin generadur ager poeth ager Stêm oer ager dŵr poeth dŵr tŵr oeri dŵr oer dŵr oer cyddwysydd Pennod 10 Gwyddoniaeth 5. Mae peth o’r egni gwres yn cael ei golli i’r amgylchedd yn yr achos yma. 1. Adwaith niwclear y tanwydd yn y craidd Mae un orsaf niwclear gyfwerth â 2400 melin wynt! Niwclear

  9. Cyflym Nwy Olew Glo Niwclear Oil Oil Araf Amser i ddechrau Mae gan y gwahanol fathau o orsafoedd pŵer, amseroedd ‘paratoi i ddechrau’ gwahanol: Pennod 10 Gwyddoniaeth

  10. Cost tanwydd isel Costio llawer i adeiladu (comisiynu) a chau (datgomisiynu) gorsaf drydan niwclear Yn dda i ateb gofynion sylfaenol Glo, olew, nwy a niwclear Tanwydd yn dod i ben Dibynadwy Amser dechrau byr i nwy ac olew Llygredd – CO2 yn arwain at gynhesu byd-eang a SO2 at law asid Ychydig iawn o lygredd sy’n cael ei achosi gan niwclear Ffynonellau Egni Anadnewyddadwy Anfanteision Manteision Pennod 10 Gwyddoniaeth

  11. Egni Adnewyddadwy - Pŵer y Gwynt Rydym yn gyfarwydd â gweld grwpiau o felinau gwynt yn y wlad hon. Gelwir y safleoedd yn ‘ffermydd gwynt’. Mae gwyntoedd cryfion ynysoedd Prydain yn ddefnyddiol ar gyfer cynhyrchu egni trydanol. Pennod 10 Gwyddoniaeth Ond, mae yna rai sy’n gwrthwynebu’r datblygiadau hyn. Maent yn dweud bod y melinau’n distrywio byd natur, yn swnllyd ac yn aneffeithlon.

  12. Egni Adnewyddadwy - Pŵer y Llanw Llanw Uchel Llanw Isel Pennod 10 Gwyddoniaeth Wrth i’r llanw droi, mae symudiad y dŵr yn gwneud i’r tyrbin i droi, ac i’r generadur gynhyrchu trydan.

  13. Egni Adnewyddadwy - Pŵer Tonnau’r Môr Pennod 10 Gwyddoniaeth Mae symudiad y tonnau yn gwneud i’r arnofyn symud lan a lawr. Mae symudiad yr arnofyn yn troi’r generadur ac yn cynhyrchu trydan.

  14. Egni Adnewyddadwy - Pŵer Trydan Dðr Cronfa Uchel Pennod 10 Gwyddoniaeth Pan fo angen egni trydan ar frys, defnyddir y system trydan-hydro. Mae dŵr o gronfa uchel yn cael ei ollwng, sy’n troi tyrbin a generadur er mwyn cynhyrchu trydan. Mae’n dibynnu ar effaith disgyrchiant. Mae’n bosibl defnyddio pwmp trydan er mwyn pwmpio’r dŵr yn ôl i’r gronfa ar adeg ratach yn y dydd fel bo modd ei ddefnyddio eto.

  15. Oes anfanteision i ffynonellau egni adnewyddadwy? Dibynnu ar y tywydd; llygredd gweledol yn ôl rhai; anodd ei storio. Gallu bod yn niweidiol i fyd natur; dibynnu ar faint y tonnau; dibynnu ar dywydd. Dibynnu ar uchder y llanw; gallu bod yn niweidiol i fyd natur; llygredd gweledol ym marn rhai. Pennod 10 Gwyddoniaeth Cynefinoedd anifeiliaid yn dioddef os caiff dyffryn ei foddi. Hefyd, mae gan yr uchod gostau cychwyn uchel

  16. Dim cost tanwydd Annibynadwy (ag eithro egni trydan -dwr) Dim llygredd Yn ddrud i’w adeiladu Gwynt, llanw, trydan-hydro a solar Mae trydan-hydro yn dda ar gyfer galw cyflym am drydan Mae cynlluniau pðer y llanw’n difetha cynefinoedd adar ac mae cynlluniau pŵer trydan dðr yn dibynnu ar foddi tir fferm. Mae solar yn dda ar gyfer ardaloedd anghysbell (e.e. lloerennau) Ffynonellau Egni Adnewyddadwy Anfanteision Manteision Pennod 10 Gwyddoniaeth

More Related