1 / 23

Cyfrifoldebau Cadeirydd

Cyfrifoldebau Cadeirydd. Mae pobl yn gwbl ryng-ddibynnol. Felly y bu pethau erioed. Mae’r unigolyn gerwin - y Maverick, y Lone Ranger, Hercules – oll yn fythau. Rydyn ni’n ychwanegu gwerth at ein gilydd trwy ryngweithio ac fe amlygir hynny trwy gyfathrebu.

taji
Télécharger la présentation

Cyfrifoldebau Cadeirydd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cyfrifoldebau Cadeirydd Mae pobl yn gwbl ryng-ddibynnol. Felly y bu pethau erioed. Mae’r unigolyn gerwin - y Maverick, y Lone Ranger, Hercules – oll yn fythau. Rydyn ni’n ychwanegu gwerth at ein gilydd trwy ryngweithio ac fe amlygir hynny trwy gyfathrebu. Mae cyfathrebu yn rhyddhau egni cudd, talent cudd, potensial cudd. Ychydig o bethau sy’n fwy grymus. (Awdur Anhysbys)

  2. Pwy fydd yn elwa? • Darpar Gadeiryddion ac Is Gadeiryddion cyrff llywodraethol pob ysgol.

  3. Mae gan Gorff Llywodraethol: • Gyfrifoldeb ar y Cyd • Rhaid iddynt weithio fel grwp • Mae un aelod yn cymryd rôl arweiniol - “Y CADEIRYDD”

  4. Pwy all fod yn gadeirydd?Unrhyw lywodraethwr ac eithrio : • Pennaeth • Athro/Athrawes Lywodraethwr • Person a gyflogir yn yr ysgol • Disgybl cofrestredig yn yr ysgol

  5. Ethol Cadeirydd • Yng Nghymru bob blwyddyn • Fel arfer yn ystod cyfarfod yr Hydref • Etholir gan bob llywodraethwr

  6. Grymoedd • Nid oes gan y cadeirydd unrhyw rymoedd arbennig. • Ac eithrio, wrth gwrs, mewn argyfwng.

  7. Grymoedd cadeirydd mewn argyfwng. • Dim ond ar faterion brys y gall y cadeirydd weithredu ar ran y Corff Llywodraethol, pan nad oes amser hyd yn oed i gynnull cyfarfod arbennig a phan fod modd dirprwyo’r mater dan sylw yn gyfreithlon. • Byddai argyfwng yn sefyllfa ble y byddai oedi yn gwneud drwg mawr i’r: ysgol, athro/athrawes, disgybl neu riant. • Byddai ef neu hi maes o law yn cyflwyno adroddiad ar y camau a gymerwyd i’r corff llywodraethol.

  8. Pleidleisio • Mae llywodraethwyr yn gwneud penderfyniadau trwy gonsensws a phleidlais. • Gallant benderfynu a oes angen cynnal pleidlais gudd ai peidio. • AC EITHRIO : wrth ethol cadeirydd rhaid cael pleidlais gudd. • Pan fo’r bleidlais yn gyfartal ar unrhyw fater, mae gan y cadeirydd ail bleidlais, neu bleidlais fwrw.

  9. Pleidlais Fwrw’r Cadeirydd • Mae gan Gadeirydd y Corff Llywodraethol neu unrhyw un o’r is-bwyllgorau bleidlais fwrw. (ac eithrio yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn) • Y confensiwn yw y bydd y cadeirydd yn pleidleisio dros y status quo. (Mae hynny’n gofalu nad yw newidiadau ond yn cael eu gwneud pan fod mwyafrif pendant o blaid newid) • Pan fod gwelliannau i gynnig yn cael eu hystyried a phan fo nifer y pleidleisiau ar y gwelliant yn gyfartal, dylid defnyddio’r bleidlais fwrw er mwyn cadw’r cynnig gwreiddiol, ond nid yw hynny’n orfodol! (Pleidleisio yn erbyn y cynnig gwreiddiol – gall hynny arwain at sefyllfa ryfedd ble y mae’r cadeirydd yn defnyddio ei bleidlais gyntaf un ffordd a’r ffordd arall wrth ddefnyddio’r bleidlais fwrw.) • Mae hynny’n iawn gan nad yw’n fwriad i’r bleidlais fwrw roi mwy o rym neu ddylanwad i’r cadeirydd.

  10. Diswyddo’r Cadeirydd • Gellir diswyddo’r Cadeirydd trwy benderfyniad gan y Corff Llywodraethol. • Rhaid i benderfyniad o’r fath gael ei gadarnhau mewn ail gyfarfod i’w gynnal heb fod yn llai nac 14 diwrnod ar ôl y cyfarfod cyntaf. • Rhaid i’r mater fod yn eitem ar agenda’r ddau gyfarfod. • Rhaid i’r cynigydd gynnig rhesymau ac mae gan y cadeirydd hawl i ymateb.

  11. Beth yw rôl cadeirydd effeithiol ar gorff llywodraethol?

  12. Rôl y Cadeirydd yw: • Gofalu fod gwaith y corff llywodraethol yn cael ei gyflawni mewn ffordd gyfreithlon • Gofalu fod cyfarfodydd yn cael eu rhedeg yn effeithiol • Helpu’r corff llywodraethol i weithio fel tîm • Gweithio’n effeithiol gyda’r Pennaeth i feithrin perthynas gadarnhaol • Gofalu fod y corff llywodraethol yn gweithredu fel seinfwrdd i’r pennaeth ac yn cynnig cyfeiriad strategol • Cyflawni dyletswyddau a ddirprwyir gan y corff llywodraethol

  13. Defnyddio amser yn effeithiol, eu hamser eu hunain ac amser pobl eraill • Cyflawni rolau penodol o dan, er enghraifft, “rheoli “perfformiad” • Ei fod/bod wdi cytuno agenda bwrpasol wedi trafod gyda’r pennaeth a’r clerc. • Ei fod/bod wedi darllen y dogfennau perthnasol. • Ei fod/bod yn gwybod pryd i annog y drafodaeth neu pryd i ddod â hi i ben. • Gwrandawydd da. • Gall grynhoi trafodaeth mewn ffordd sy’n arwain at benderfyniad priodol.

  14. Dylai fod gan gadeirydd effeithiol: • Weledigaeth glir ar gyfer yr ysgol sy’n cael ei rhannu gan y corff llywodraethol a’r staff, ac yn enwedig felly’r pennaeth • Ddealltwriaeth dda o’r ysgol a’i lle yn y gymuned leol • Gallu siarad ar ran y corff llywodraethol a chyflwyno ei safbwyntiau yn deg a chywir. • Bod yn ddi-duedd a chadw cydbwysedd rhwng rhoi arweiniad a gofalu fod pob barn yn cael ei chlywed • Rheoli cyfarfodydd yn dda er mwyn sicrhau fod penderfyniadau teg yn cael eu gwneud • Bod yn gyswllt allweddol rhwng y pennaeth a’r corff llywodraethol • Cadw trosolwg o weithgareddau’r corff llywodraethol a dirprwyo i aelodau eraill pan fo hynny’n briodol.

  15. “MAE’R CADEIRYDD” • Yn arwain cyfarfodydd. • Yn cydlynu gwaith y corff llywodraethol • Yn gofalu fod y corff llywodraethol yn cyflawni ei ddyletswyddau yn effeithiol • Yn gynrychiolydd cyhoeddus i’r corff llywodraethol

  16. Mae Gwaith y Cadeirydd • Yn heriol ond yn rhoi boddhad • Yn cymryd amser. • Gall fod yn feichus. • Yn golygu llawer mwy na mynd i gyfarfodydd. • Mae Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Ganol erbyn hyn yn cyfathrebu’n uniongyrchol gyda chadeiryddion ar y rhan fwyaf o bethau (ond nid ar bopeth). • Mae llawer o wybodaeth i’w threulio. • Arweinyddiaeth a gweledigaeth ar gyfer y Corff Llywodraethol • Cyflawni’r weledigaeth. • Partner mewn arweinyddiaeth gyda’r pennaeth.

  17. Eitemau cyffredin ar gyfer yr Agenda • Ymddiheuriadau • Cofnodion y cyfarfod diwethaf • Cofnodion cyfarfodydd pwyllgorau a dylai is grwpiau eraill ag awdurdod dirprwyedig gyflwyno adroddiadau ysgrifenedig i’r Corff Llywodraethol llawn cyn gynted ag y bo modd. • Datganiadau o ddiddordeb – dylai unrhyw lywodraethwr a chanddo/chanddi ddiddordeb gwrthdrawiadol ar unrhyw eitem ddatgan hynny a gall y Corff Llywodraethol benderfynu os oes angen iddynt adael y cyfarfod • Datgan diddordebau busnes – dylid eu diweddaru h.y. llywodraethwyr newydd yn ystod y flwyddyn ond dylid eu hadolygu’n flynyddol ar gyfer pob aelod. • Adroddiadau ar unrhyw gamau a gymerwyd gan y cadeirydd • Adroddiad y Pennaeth • Hyfforddiant Llywodraethwyr – mae gan lawer o gyrff llywodraethol lywodraethwr cyswllt: dyma eu cyfle i adolygu a myfyrio ar eu hanghenion • Materion U.F.A.

  18. Y Cyfarfod • Nid oes y fath beth ag un fformat cywir ar gyfer cyfarfod. • Yr hanfodion yw trafodaeth bwrpasol yn yr amser sydd ar gael. • Yn arwain at :benderfyniadau eglur, democrataidd a synhwyrol. • Grwp o bobl sy’n fodlon ar y diwedd eu bod wedi cael cyfle llawn a’r anogaeth i gymryd rhan.

  19. Arwain a Datblygu • Gofalu fod pawb yn cael eu trin yn deg. • Cynnig anogaeth i bobl sy’n brin o hyder. • Ffrwyno pobl allai gymryd drosodd. • Gofalu fod y gwaith yn cael ei wneud yn effeithlon. • Gofalu fod digon o amser yn cael ei neilltuo ar gyfer y materion pwysicaf. • Gofalu fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn unol â’r rheolau a’r protocolau.

  20. Cyfaill Beirniadol - Cynhaliaeth Ymrwymiad a theyrngarwch Cyfrinachedd Deall y cyfrifoldeb colectif Eiriolaeth Y gymuned ehangach Cynnal yr Ysgol Gwrando Canmol staff, disgyblion, rhieni, am eu hymdrechion a’u cyflawniadau Gwneud amser i ymweld â’r ysgol Datblygu perthnasoedd

  21. Monitro & Adolygu Perfformiad yr Ysgol • Sut mae ein hysgol yn gwneud ar hyn o bryd? • A yw rhai rhannau o’r ysgol yn fwy effeithiol nac eraill? • A yw rhai grwpiau o ddisgyblion yn gwneud yn well nac eraill? • Sut mae cyflawniadau’r ysgol ar hyn o bryd yn cymharu â’i chyflawniadau yn y gorffennol? • Sut mae perfformiad yr ysgol yn cymharu â pherfformiad ysgolion eraill?

  22. Rhestr Wirio ar gyfer Cadeiryddion • Cytuno gyda’r clerc a’r pennaeth pa eitemau i’w rhoi ar yr agenda cyn y cyfarfod. • Hysbysiad y cyfarfod • Cyflwyno llywodraethwyr newydd neu sylwedyddion fel aelodau o staff yr ysgol • Gweithio gyda’r clerc yn y cyfarfod i fynd drwy’r eitemau ar yr agenda. • Cadw’r agenda yn berthnasol, hylaw a nid yn rhy hir. • Cadw’r cyfarfodydd i fynd: dylai’r trafodaethau fod yn berthnasol; ni ddylai unrhyw un siarad yn rhy aml nac yn rhy hir; a dylid mynd drwy’r agenda mewn da bryd. • Gosod cywair cynhwysol – gofalu fod pawb yn cael cyfle i siarad. • Peidio goddef iaith neu ymddygiad sy’n rhywiaethol, hiliol neu’n rhagfarnllyd mewn unrhyw ffordd arall. • Gofalu nad yw’r trafodaethau’n mynd yn llawn jargon. • Gofalu fod cofnodion y cyfarfod yn eglur a chryno, a bod cyfrifoldebau gweithredu’r personau cyfrifol yn cael eu nodi

  23. Y Cadeirydd • “Mae cadeiryddion da werth eu pwysau mewn aur.”

More Related