90 likes | 276 Vues
Goroesi. Nodau dysgu Gallu disgrifio sut mae tymheredd yn cael ei fonitro a’i reoli gan y corff . Gallu esbonio sut y gellir cynnal tymheredd y corff mewn amgylchiadau eithafol . Gallu archwilio dulliau gwahanol o reoli tymheredd a gwerthuso’u heffeithiolrwydd.
E N D
NodaudysguGalludisgrifiosutmaetymhereddyncaeleifonitroa’ireoligan y corff.Galluesboniosut y gellircynnaltymheredd y corffmewnamgylchiadaueithafol.Galluarchwiliodulliaugwahanol o reolitymheredd a gwerthuso’uheffeithiolrwydd.
Sut fydd y corff dynol yn dygymod â chael ei drochi’n llwyr mewn dŵr oer? Pa newidiadau fydd yn digwydd er mwyn rhwystro tymheredd creiddiol y corff rhag disgyn? Ceisiwch feddwl am ffyrdd y gall goroeswr rwystro’i hun rhag cael ei effeithio’n ormodol gan y dŵr oer.
Mae’rcanlynolynbedwar dull o oroesi a allaihelpuigynydducyfleclaf o oroesimewndŵroer… OGP Dylai morwyr wisgo’r Offer Gwarchod Personol cywir megis siaced sy’n insiwleiddio rhag ofn iddynt gael eu trochi mewn dŵr oer. Cwtsho Os oes mwy nag un claf, dylent gwtsho ynghyd i gadw’n gynnes. Rafft bywyd Pe bai darpar gleifion yn gallu dod allan o’r dŵr drwy ddringo ar i rafft bywyd. YLlCG Dylai cleifion weithredu’r Ystum Lleihau Colli Gwres drwy dynnu’u pengliniau i fyny a chroesi’u breichiau.
Gweithiwch fesul pâr i archwilio un o’r dulliau y gallai goroeswr ei ddefnyddio i leihau effeithiau trochiad mewn dŵr oer. Bydd eich athro’n rhoi cerdyn ymchwilio i chi – darllenwch y cyfarwyddiadau’n ofalus a chyflawni eich ymchwiliad fel y gallwch gymharu eich canlyniadau â’r grwpiau eraill.
Mae gennych chi 5 munud i weithio gyda’r grwpiau eraill sydd wedi archwilio’r un strategaeth oroesi â chi. Ar ôl 5 munud, cyflwynwch eich casgliadau i weddill y dosbarth. Disgrifiwch eich canlyniadau a cheisio’u hesbonio. Pam y bu i’r cwymp mewn tymheredd gynyddu neu arafu?
Chi sydd wedi cael y dasg o gynghori criwiau badau achub ar broblemau cael eu trochi mewn dŵr oer. Beth fyddech chi’n ei awgrymu fel y dull gorau o rwystro colli gwres?
Bellach mae gennych y cyfrifoldeb dros ddarparu’r offer cywir i bob criw bad achub. Edrychwch ar y costau sydd ynghlwm wrth hyn. A yw hynny’n newid eich argymhellion i’r RNLI?
Gwaith cartref Ysgrifennwch adroddiad i’r RNLI yn amlinellu peryglon cael eich trochi mewn dŵr oer a dull y corff o ymateb. Disgrifiwch rai o’r dulliau o leihau colli gwres gan esbonio pam eu bod yn effeithiol. Pa strategaeth sy’n cynyddu’r gobaith o oroesi, yn eich barn chi?