1 / 21

Priodas Iddewig

Priodas Iddewig. Seremoni priodas gyda traddodiadau pwysig. Cyn y seremoni, bydd y priodfab a’r briodferch yn arwyddo y Ketubah i ddangos eu bod yn cytuno i’r briodas.

veradis
Télécharger la présentation

Priodas Iddewig

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Priodas Iddewig Seremoni priodas gyda traddodiadau pwysig

  2. Cyn y seremoni, bydd y priodfab a’r briodferch yn arwyddo y Ketubah i ddangos eu bod yn cytuno i’r briodas.

  3. Mae yn dangos yr addewid mae’r ddau wedi gwneud i’w gilydd am briodas hapus a hir. Maen’t yn ei arwyddo o flaen y rabbi ac o flaen tystiolaethwyr. Maen’t yn ei arwyddo o flaen y rabbi a tystiolaethwyr sydd hefyd yn arwyddo y Katubah.

  4. Mae’r ketubah yn ddogfen pryderth, mewn llawsygrifen Hebraeg. Mae yr un yma mewn cynllun prydferth papur.

  5. Mae’r gynulleidfa yn aros i’r seremoni ddechrau Mae priodasau Iddewig fel arfer yn cymryd lle ar ddydd Sul.Dydyn nhw ddim yn cael eu cynnal nhw ar ddydd Sadwrn gan mai hwm yw diwrnod y Shabbat.

  6. Mae’r Rabbi yn cyrraedd i ddechrau y gwasanaeth. Mae ef yn arweinydd crefyddol ac yn athro. Fel arfer, mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnal mewn synagog ond mae’r briodas yma yn cael ei gynnal y tu allan.

  7. Mae’r seremoni briodasol yn cymryd lle o dan ‘canopi’, y Chuppah. Mae’n symbol o’r cartef bydd y ddau yn gwneud gyda eu gilydd. Mae to iddo ond dim waliau i ddangos i deulu a ffrindiau y bydd croeso iddynt wastad.

  8. Ar y bwrdd mae potel o win a gwydr.Mae’r Rabbi yn bendithio y gwin ac yn ei rhoi i’r priodfab a’r briodferch i yfed, fel symbol o’u hapusrwydd. Wedi ei orchuddio gyda clwtyn mae gwydr arall, lle mae’r priodfab yn sathru arno a’i dorri. Un ystyr i hyn yw na all un peth ddal yr holl gariad sydd gan gan y ddau at eu gilydd..

  9. Y priodfab yn cyrraedd gyda ei rhieni.

  10. Mae’r morwynion a’r ystlysau yn cyrraedd. Byddant yn sefyll yn y blaen, naill ochr i’’r Chuppah.

  11. Mae yn daith hir i forwyn fach!

  12. Mae pawb yn aros i’r briodferch gyrraedd. Mae’r dynion i gyd yn gwisgo Kepah, gorchudd ir pen fel arwydd o barch ac i’n atgoffa fod rhywbeth uwchlaw ni i gyd..

  13. Mae’r briodferch yn cerdded i lawr y llwybr gyda ei rhieni ar naill ochr.

  14. Mae eu rhieni yn rhoi ei llaw i’r priodfab. Yna, mae eu rhieni yn sefyll naill ochr i’r cwpl nes i’r seremoni ddechrau..

  15. Mae’r briodas yn dechrau gyda darlleniad o’r ysgruthyrau.Yna, mae’r priodfab a’r briodferch yn cyfnewid modrwyau. Mae’r modrwyau yn symbol o’u priodas a’r gobaith am undeb parhaol.Ar ddiwedd y seremoni, mae’r priodfab yn torri gwydr.

  16. Mae’r seremoni wedi gorffen. Mae’r cwpl nawr yn wr a gwraig. Mae’r gynulleidfa yn dweud mewn Hebraeg, “Mazal Tov! Mazal Tov!” sydd yn golygu ‘pob lwc a llongyfarchiadau.

  17. Yn y dathliad ar ol y seremoni mae pawb yn dal dwylo ac yn dawnsio y Hora, y cylch bwywyd..

  18. Mae llawer o’r dawnsio yn draddodiadol. Dyma lun o’r briodferch yn dawnsio gyda ei thad..

  19. Ar ddiwedd y ddawns, mae’r priodfab a’r briodferch yn cael eu codi i gadeiriau ac yn cael eu tywys o gwmpas yr ystafell. Mae pawb yn clapio..

  20. Mae siaradwyr yn annerch y ddau.Ar y bwrdd mae torth o fara, y challa.

  21. Mae’r cwpl yn torri eu cacen priodas ac mae’r dathliad yn parhau. Gyda digon o gerddoriaeth, dawnsio a digon i fwyta ac yfed mae pawb yn hapus. Dymunwn pob hapusrwydd iddynt wrth ddechrau eu bywyd newydd gyda eu gilydd. Mazal Tov!

More Related