1 / 43

Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio

Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio. Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Cyflwyniad . Swyddog Canlyniadau Lleol Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol. Amcanion y sesiwn hyfforddi. Mae eich rôl yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn ymddiried ym mhroses yr etholiad

Télécharger la présentation

Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Sesiwn hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

  2. Cyflwyniad Swyddog Canlyniadau Lleol Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol

  3. Amcanion y sesiwn hyfforddi • Mae eich rôl yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn ymddiried ym mhroses yr etholiad • Byddwn yn sôn am y pethau hyn yn y sesiwn hon: • esbonio'n fras beth y byddwn yn disgwyl ichi ei wneud ar y diwrnod pleidleisio • trafod y gweithdrefnau pleidleisio • meddwl am faterion iechyd a diogelwch • tynnu sylw at nifer o drefniadau gweinyddol

  4. Prif nodau ar gyfer yr etholiad • bod pawb sy'n pleidleisio'n cael profiad da, a bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio'n gallu gwneud hynny • bod yr etholiad yn cael ei gynnal mewn ffordd broffesiynol • bod y canlyniadau'n gywir a phawb yn teimlo y gallan nhw ymddiried yn y canlyniadau hynny • bod y broses yn dryloyw • bod yr etholiad yn cael ei weinyddu mewn ffordd gyson

  5. Pleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu • Wrth gynnal etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu defnyddir y system pleidlais atodol • Gofynnir i bleidleiswyr bleidleisio dros eu dewis cyntaf o ymgeisydd drwy roi croes (X) yn y golofn dewis cyntaf a phleidleisio dros eu hail ddewis o ymgeisydd drwy roi croes (X) yn y golofn ail ddewis

  6. Pleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu • Dim ond iddynt roi croes yn y golofn dewis cyntaf, bydd eu pleidlais yn cael ei chyfrif. • Does dim rhaid i bleidleiswyr farcio ail ddewis. • Os dim ond ail ddewis y byddant yn ei farcio, ni fydd eu pleidlais yn cael ei chyfrif.

  7. Mae'n hollbwysig ichi... fod yn ddiduedd bob amser cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau lleol sicrhau bod y bleidlais yn gyfrinachol ac yn ddiogel

  8. Y Swyddog Llywyddu - rheoli'r orsaf bleidleisio • Cysylltu â'r sawl sy'n cadw allwedd yr adeilad • Trefnu i osod pethau yr orsaf bleidleisio • Rhoi cyfarwyddyd i Glercod yr Etholiad a goruchwylio'u gwaith • Cadw cyfrif o'r holl bapurau pleidleisio, y blychau pleidleisio a'r gwaith papur

  9. Clerc yr Etholiad -dyletswyddau cyffredinol • Cynorthwyo i osod pethau yn yr orsaf bleidleisio a pharatoi ar gyfer agor y cyfnod pleidleisio • Bod yn gwrtais ac yn broffesiynol wrth ymdrin â'r pleidleiswyr • Sicrhau bod etholwyr yn gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio honno • Deall y broses ar gyfer rhoi papurau pleidleisio i bobl

  10. Wrth i'r diwrnod pleidleisioagosáu • Tasgau hanfodol • Ymweld â'r man pleidleisio a sicrhau bod y trefniadau'n iawn ar gyfer cysylltu a sicrhau mynediad • Sicrhau bod y trefniadau'n iawn ar gyfer casglu'r blwch pleidleisio a gwirio'r cynnwys cyn gynted ag sy'n bosibl • Cysylltu ag aelodau eraill y tîm • Cod gwisg - sicrhau bod dillad yn cyfleu agwedd broffesiynol a diduedd ond eu bod hefyd yn gyfforddus ac yn gynnes (etholiad mis Tachwedd fydd hwn)

  11. Arolygwyr gorsafoedd pleidleisio • Pwynt cyswllt • Cyflenwi papurau ac offer • Yn gyfrifol am • Sicrhau bod y gorsafoedd wedi'u gosod yn iawn • Sicrhau bod pethau'n mynd yn hwylus • Bod yn ymwybodol o giwiau a helpu yn y cyswllt hwnnw • Casglu unrhyw bleidleisiau post a ddychwelwyd • Rhannu taliadau (os yw hynny'n briodol) • Rhifau cyswllt [ ........................ ]

  12. Risgiau • Methu cysylltu â cheidwad yr allwedd • Methu mynd i mewn i'r orsaf bleidleisio • Staff heb gyrraedd neu'n hwyr • Problemau o ran arddangos hysbysiadau • Cofrestri anghywir wedi'u rhoi i'r orsaf • Rhifau'r papurau pleidleisio ddim yn cyfateb â'r rheini sydd wedi'u rhagargraffu ar y Rhestr Rhifau Cyfatebol • Dilyn y drefn anghywir wrth gyflwyno papurau pleidleisio a gyflwynwyd dan amgylchiadau arbennig • Ciwiau'n hel wrth i'r etholiad ddirwyn i ben • Eira, rhew, llifogydd

  13. Yr Orsaf Bleidleisio Gosod pethau a'u lleoli a phwy gaiff fynd i mewn i'r orsaf bleidleisio

  14. Gosod pethau ynyr orsaf bleidleisio • Lleoli pethau /hysbysiadau (gweler y rhestr ar gyfer gosod pethau yn Atodiad 11 o'r Llawlyfr ar gyfer gorsafoedd pleidleisio) • rhaid i'r peth weithio i'r pleidleisiwr • dilynwch y llwybr y disgwylir i'r pleidleisiwr ei ddilyn • gwnewch yn siŵr bod pob hysbysiad yn ei le a bod pensiliau'n barod ac wedi'u minio • trefniadau priodol i sicrhau bod y lle'n hygyrch i bleidleiswyr • ystyried anghenion defnyddwyr cadair olwyn (e.e. drysau, lle i droi, pleidleisio'n gyfrinachol) • darparu seddi i etholwyr y gall fod angen iddynt orffwys • pleidleisio’n gyfrinachol (dim ffenestri yn edrych dros y bythau pleidleisio)

  15. Gosod pethau ynyr orsaf bleidleisio (parhad) • Paratoi'r papurau • trefnu'r papurau pleidleisio yn nhrefn eu rhifau • paratoi'r gofrestr a'r rhestr rhifau cyfatebol • cadw papurau pleidleisio a gyflwynwyd dan amgylchiadau arbennig mewn paced.

  16. Gosod pethau yn yr orsaf bleidleisio (parhad) • Asiantiaid pleidleisio, rhifwyr ac eraill • ystyriwch ymhle y caiff asiantiaid pleidleisio, rhifwyr, cefnogwyr/ymgyrchwyr eraill fod/ lle na chân nhw fod • Lleoliad y blwch/blychau pleidleisio • hwylus a diogel • Selio'r blwch/blychau • dangos bod y blwch yn wag • selio yn unol â'r cyfarwyddiadau ychydig cyn 7 • peidiwch â gadael i ymgeiswyr /asiantiaid ychwanegu sêl ar yr adeg hon

  17. Lleoli pethau yn yr orsaf bleidleisio

  18. Lleoli pethau yn yr orsaf bleidleisio

  19. Pwy gaiff fynd i mewn i'r orsaf bleidleisio? • Pleidleiswyr • Swyddog Canlyniadau’r Ardal Heddlu, y Swyddog Canlyniadau lleol a‘u staff • Ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad • Asiantiaid pleidleisio • Swyddogion yr heddlu sydd ar ddyletswydd • Cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol • Arsyllwyr achrededig • Pobl dan 18 oed sydd gyda phleidleiswyr • Cymdeithion pleidleiswyr sydd ag anabledd

  20. Arsyllwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol

  21. Gofalu am gwsmeriaid • Dangoswch ddiddordeb personol • Byddwch yn gymwynasgar ac yn gyfeillgar • Gwrandewch arnyn nhw a chydymdeimlo • Gadewch iddyn nhw wneud eu pwynt cyn ymateb • Peidiwch â dweud 'Na', dywedwch wrthyn nhw beth y gallwch ei wneud drostyn nhw a beth y gallan nhw ei wneud • Ond rhaid dilyn rheolau'r etholiad yn ddieithriad, ni waeth faint maen nhw'n mynnu, na pha mor anhapus neu ddig y byddan nhw • Os nad ydych chi'n siŵr, cysylltwch â'r swyddfa etholiadau

  22. Gofalu am gwsmeriaid (parhad) • Gwnewch yn siŵr bod y broses bleidleisio'n hygyrch i bawb: • rhaid i'r ffordd mae pethau wedi'u gosod fod yn hwylus i bob pleidleisiwr, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio cadair olwyn • dylai papurau a ddarperir mewn ieithoedd a fformatau eraill fod yn gwbl amlwg • rhaid ichi allu darparu gwybodaeth ar gyfer etholwyr anabl ynglŷn â'r opsiynau ar gyfer pleidleisio

  23. Templed cyffwrdd ar gyfer pleidleisio • Mae angen i'r templed cyffwrdd fod yn amlwg a dylech deimlo'n hyderus i'w ddefnyddio • Sut mae ei ddefnyddio - gwnewch yn siŵr bod y templed yn sownd yn y papur pleidleisio a bod y pleidleisiwr yn teimlo'n hyderus i'w ddefnyddio. Dylai'r pleidleisiwr: - godi'r ffenestr maen nhw'n ei dewis yn y golofn dewis cyntaf - marcio'u dewis cyntaf o ymgeisydd â chroes (X) - cau'r ffenestr - ailadrodd ar gyfer eu hail ddewis yn yr ail golofn - gwahanu'r templed oddi wrth y papur pleidleisio - plygu'r papur pleidleisio a'i roi yn y blwch pleidleisio - dychwelyd y templed i'r Swyddog Llywyddu

  24. Pwy gaiff a phwy na chaiff bleidleisio? Defnyddio'r gofrestr etholiadol a'r rhestr/rhestri rhifau cyfatebol

  25. Pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu? Etholwyr heb lythrennau na dyddiadau o flaen eu henw Etholwyr sy'n 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad - sef bod y dyddiad o flaen eu henw ar neu cyn y diwrnod pleidleisio Etholwyr â 'G' o flaen eu henw Etholwyr â 'K' o flaen eu henw Etholwyr ag 'L' o flaen eu henw Etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw – bydd ganddynt 'N' yn lle enw

  26. Rhoi'r papurau pleidleisio i bobl • Marcio'r gofrestr a'r Rhestr Rhifau Cyfatebol • Gofynnwch i'r etholwr gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad • Marciwch rif etholwr yr etholwr yn y gofrestr • Galwch rif a rhif etholwr yr etholwr • Rhowch rif yr etholwr ar y Rhestr Rhifau Cyfatebol • PEIDIWCH ag ysgrifennu rhif yr etholwr ar y papur pleidleisio!

  27. Rhoi'r papurau pleidleisio i bobl (parhad) • Papurau pleidleisio • Agorwch y papur yn llawn fel bod y papur i gyd i'w weld • Marc swyddogol, rhif papur pleidleisio a Marc Dynodi Unigryw (UIM)

  28. Marcio'r gofrestr Queen’s Walk BC JP32 4LT 411 G Vella, Eva 1 412 F Jolly, Simon 1 413 K Vella, Christina 1 414 Brown, Robert 3 415 Evans, Gareth 5 416 Singh, Parvinder 7 417 Myers, Martin 7 418 A Bishop, Stephanie 15 418/1 13 Tach 2012 Watts, Judith 15

  29. Enghraifft o'r Rhestr Rhifau Cyfatebol BC 27/1

  30. Eithriadau i'r rheol • Etholwyr dienw • Rhaid iddyn nhw ddangos cerdyn pleidleisio • Wedi'u marcio ag 'N' ar y gofrestr • Rhaid peidio â galw'u henw a'u cyfeiriad • Marciwch y gofrestr â’u rhif pleidleisio fel arfer • Etholwyr eraill - Ar ddiwedd y gofrestr (diwedd rhaniad yr orsaf

  31. Eithriadau i'r rheol • Gwallau clercio • Ar daflen gofrestr ar wahân • Gwiriwch y rhain bob tro os na allwch chi ddod o hyd iddyn nhw ar y gofrestr.

  32. Enghraifft o gefn y papur pleidleisio Rhif Nod AdnabodUnigryw

  33. Marcio'r papur pleidleisio ar gyfer etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu • Os byddan nhw'n gofyn ichi sut mae pleidleisio, darllenwch y cyfarwyddyd ar frig y papur pleidleisio. • Os byddan nhw'n gwneud camgymeriad, dilynwch y weithdrefn ar gyfer difetha papur pleidleisio • Peidiwch â dechrau trafod yr etholiad na dim byd heblaw am sut mae pleidleisio

  34. Beth os...? • bydd rhywun yn rhoi tystysgrif cyflogaeth ichi • bydd pleidleisiwr yn difetha papur pleidleisio • bydd pleidleisiwr wedi enwebu dirprwy ond bod y pleidleisiwr yn cyrraedd cyn y dirprwy • bydd rhywun yn cyrraedd i bleidleisio ond bod y gofrestr yn dangos bod y person hwnnw eisoes wedi pleidleisio • bydd rhywun yn cyrraedd i bleidleisio ond bod y gofrestr yn dangos bod y person hwnnw'n pleidleisio drwy'r post • bydd rhywun yn cyrraedd sy'n dymuno pleidleisio fel dirprwy brys • bydd rhywun yn credu y dylen nhw fod ar y gofrestr ond nad ydyn nhw wedi'u rhestru • bydd helynt yn codi yn yr orsaf bleidleisio

  35. Y cwestiynau penodedig • Rhaid gofyn y cwestiynau penodedig: • os bydd ymgeisydd, asiant etholiad neu asiant pleidleisio'n gofyn amdanyn nhw • cyn cyflwyno papur pleidleisio dan amgylchiadau arbennig • Dylid gofyn y cwestiynau penodedig: • os byddwch chi'n amau bod rhywun yn esgus bod yn rhywun arall • os bydd etholwr cofrestredig yn amlwg o dan oed • pan fydd etholwr yn dweud bod eu henw'n wahanol i'r hyn sydd ar y gofrestr etholwyr • Ni chaniateir holi na chwestiynu etholwyr mewn unrhyw fodd arall

  36. Pleidleisiau Post • caiff pleidleiswyr gyflwyno'u pleidleisiau post mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn yr ardal bleidleisio (ardal cyngor lleol) • rhaid storio, selio a labelu pecynnau pleidleisiau post yn unol â'r cyfarwyddiadau • cesglir pleidleisiau post yn ystod y dydd, a dychwelyd y gweddill gyda'r blwch pleidleisio pan ddaw'r cyfnod pleidleisio i ben

  37. Pleidleisiau Post • Ni ellir rhoi papur pleidleisio cyffredin yn yr orsaf bleidleisio i bobl sydd wedi'u marcio ag 'A': • cyfeiriwch nhw at y Swyddog Canlyniadau lleol i gael papur arall (cyn 5yh) • y weithdrefn ar gyfer cyflwyno papurau pleidleisio dan amgylchiadau arbennig ar ôl 5yh • eithriad: lle bydd etholwr yn honni nad yw erioed wedi gwneud cais am bleidlais bost. Os felly, bydd yn gymwys i gael papur pleidleisio wedi'i gyflwyno dan amgylchiadau arbennig unrhyw bryd. Serch hynny, dylid annog yr etholwyr hyn i wneud cais am bapur arall yn y swyddfa etholiadau os nad yw'n 5yh eto

  38. Cau'r Bleidlais Dyma'r weithdrefn

  39. Cau'r Bleidlais Rhaid cau am 10yh Rhaid caniatáu i bawb sydd wedi cael papur pleidleisio erbyn 10yh bleidleisio Ond, does dim modd rhoi papur pleidleisio i neb ar ôl 10yh, hyd yn oed os oedd yr etholwr mewn ciw am 10yh. Selio'r blwch/blychau pleidleisio a'r pecynnau pleidleisiau post Bydd gan ymgeiswyr/asiantiaid yr hawl i roi seliau ar y blychau ar ddiwedd y bleidlais

  40. Ar ôl i'r bleidlais gau Hollol hanfodol bod y cyfrif papurau pleidleisio yn cael ei gwblhau'n gywir Rhaid gosod y cyfrif papurau pleidleisio yn yr amlen a ddarperir - cadwch y rhain gyda'r blwch/blychau pleidleisio Gwnewch yn siŵr fod y dogfennau i gyd yn cael eu rhoi yn y pecynnau iawn ac yn cael eu llofnodi fel sy'n briodol Clercod pleidleisio i helpu i bacio pethau yn yr orsaf er mwyn i'r swyddog llywyddu allu gwneud y tasgau pwysig hyn

  41. Iechyd a diogelwch • peidiwch byth â pheryglu diogelwch rhywun yn yr orsaf bleidleisio • byddwch yn ymwybodol o unrhyw risgiau posibl o ran diogelwch • archwiliwch y lle'n rheolaidd • byddwch yn arbennig o ofalus os yw’r tywydd yn aeafol • os gwelwch chi unrhyw beryglon - ceisiwch ddatrys y broblem • os bydd damwain - dilynwch y weithdrefn • byddwch yn ofalus wrth godi pethau trwm

  42. Unrhyw gwestiynau

  43. Gwybodaeth ychwanegol • Manylion cysylltu’r tîm etholiadol • Gwefan y Comisiwn Etholiadol • www.comisiwnetholiadol.org.uk • www.fymhleidlaisi.co.uk • Taflenni Adborth

More Related