1 / 39

Sesiwn briffio i staff yr orsaf bleidleisio

Sesiwn briffio i staff yr orsaf bleidleisio. Etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r refferendwm ar y system bleidleisio i etholiadau Senedd y DU – 5 Mai 2011. Cyflwyniad . Swyddog Cyfrif Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol . Amcanion y sesiwn hyfforddi.

suzy
Télécharger la présentation

Sesiwn briffio i staff yr orsaf bleidleisio

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Sesiwn briffio i staff yr orsaf bleidleisio Etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r refferendwm ar y system bleidleisio i etholiadau Senedd y DU – 5 Mai 2011

  2. Cyflwyniad Swyddog Cyfrif Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol

  3. Amcanion y sesiwnhyfforddi • Mae eich rôl yn allweddol – chi yw wyneb gwasanaeth cwsmeriaid y refferendwm. • Yn y sesiwn hwn byddwn yn: • amlinellu'r hyn rydyn ni'n disgwyl i chi ei wneud ar y diwrnod pleidleisio • trafod y gweithdrefnau pleidleisio • meddwl am faterion iechyd a diogelwch • amlygu nifer o drefniadau gweinyddol

  4. Pleidleisio mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru • Mae etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal trwy ddefnyddio’r System Aelod Ychwanegol (AMS). • Mae dau bapur pleidleisio, un i'r etholiad etholaeth ac un i'r etholiad rhanbarth • Bydd y pleidleisiwr yn bwrw eu pleidlais trwy osod croes sengl (X) yn erbyn yr ymgeisydd neu blaid o’u dewis ar bob un o’r ddau bapur pleidleisio ar wahân

  5. Trosolwg o’r refferendwm • Mae refferendwm yn bleidlais uniongyrchol y gofynnir i'r etholwyr naill ai dderbyn neu wrthod cynnig neilltuol ynddi. • Ar 5 Mai bydd refferendwm ar y system bleidleisio i Etholiadau Seneddol y DU • Mae gan bleidleiswyr bleidlais a dylent nodi croes (X) yn naill ai y blwch ‘ie’ neu’r blwch ‘na’ ar y papur pleidleisio.

  6. Mae'n hanfodol eich bod yn … ymddwyn yn ddiduedd drwy'r amser cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddir gan y Swyddog Cyfrif sicrhau cyfrinachedd a diogelwch y bleidlais

  7. Y Swyddog Llywyddu –rheolaeth yr orsaf bleidleisio • Cydgysylltu gyda deilydd allwedd yr adeilad • Trefnu gosodiad yr orsaf bleidleisio • Cyfarwyddo a goruchwylio gwaith y Clercod Pleidleisio • Cyfrif am yr holl bapurau pleidleisio, blychau pleidleisio a’r gwaith papur

  8. Y Clerc Pleidleisio – dyletswyddau cyffredinol • Cynorthwyo gyda gosodiad yr orsaf bleidleisio a pharatoi ar gyfer agor y pleidleisio • Bod yn foesgar a phroffesiynol wrth ddelio â’r pleidleiswyr • Gwirio fod etholwyr yn gymwys i bleidleisio yn y refferendwm ac yn yr orsaf bleidleisio honno • Deall y broses o roi papurau pleidleisio

  9. Dynesu aty diwrnod pleidleisio • Tasgau hanfodol • Ymweld â'r man pleidleisio a gwirio trefniadau mynediad • Gwirio cynnwys y blychau pleidleisio cyn gynted â phosibl ar ôl eu casglu • Cysylltu ag aelodau eraill y tîm • Cod gwisg - sicrhau bod dillad yn adlewyrchu proffesiynoldeb a’u bod yn ddiduedd, ond eu bod hefyd yn gysurus

  10. Archwilwyr yr orsaf bleidleisio • Pwynt cyswllt • Cyflenwadau o ddeunyddiau ysgrifennu ac offer • Gyfrifol am • Gwirio cynllun gorsafoedd • Gwirio bod pethau'n rhedeg yn llyfn • Bod yn ymwybodol o unrhyw giwiau a delio â nhw • Casglu unrhyw bleidleisiau post a ddychwelwyd • Dosbarthu taliadau (os yn briodol) • Rhifau cysylltu[………………..]

  11. Risgiau • Methu cysylltu â deilydd yr allwedd • Methu cael mynediad i'r orsaf bleidleisio • Staff ddim yn presenoli eu hunain neu'n cyrraedd yn hwyr • Problemau sy'n effeithio ar arddangos hysbysiadau • Cofrestrau anghywir yn cael eu dyrannu i'r orsaf • Y rhifau papurau pleidleisio ddim yn cyfateb i’r rhai a argraffwyd ymlaen llaw ar y CNL. • Papurau pleidleisio a gyflwynwyd wedi'u rhoi'n anghywir • Ciwiau'n cynyddu'n agos at derfyn y bleidlais

  12. Yr orsaf bleidleisio Trefnu, gosodiad, a phwy gaiff ddod i mewn i’r orsaf bleidleisio

  13. Trefnu'rorsaf bleidleisio • Cynllun/rhybuddion (gweler y rhestr wirio yn Atodiad 11 i Lawlyfr yr Orsaf bleidleisio) • gorfod gweithio’n bennaf i'r pleidleisiwr • llwybr cerdded y disgwylir i'r pleidleisiwr ei ddilyn • hygyrch i'r holl bleidleiswyr • Lleoliad y blwch/blychau pleidleisio • hygyrch a diogel • Trefnwch bob set o bapurau pleidleisio mewn trefn rifiadol • Rhifwyr, ymgyrchwyr ac asiantiaid • pwy all gael mynediad i'r orsaf bleidleisio? • Selio'r blwch (blychau)

  14. Cynllun yr orsaf bleidleisio

  15. Cynllun yr orsaf bleidleisio

  16. Pwy all gael mynediad i'r orsaf bleidleisio? • pleidleiswyr • swyddog Cyfrif a staff • ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad • asiantiaid refferendwm • asiantiaid pleidleisio • swyddogion yr heddlu ar ddyletswydd • cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol • arsylwyr achrededig • pobl ifainc o dan 18 yn dod gyda phleidleiswyr • cymdeithion pleidleiswyr gydag anableddau

  17. Dau fath o ID a gyflwynir gan y Comisiwn Etholiadol

  18. Gofal cwsmeriaid • Dangoswch ddiddordeb personol • Byddwch yn gynorthwyol a hawdd mynd atoch • Gwrandwch arnynt a dangos empathi â nhw • Caniatewch iddynt gyfleu eu pwynt cyn ymateb • Peidiwch â dweud ‘Na’, dywedwch wrthynt beth y gallwch ei wneud iddynt a beth y cânt ei wneud • Ond rhaid dilyn rheolau’r etholiad a’r refferendwm bob amser, waeth pa mor daer, gofidus neu flin ydynt • Os mewn amheuaeth, cysylltwch â’r swyddfa etholiadau

  19. Gofal cwsmeriaid (parhad) • Sicrhewch fod y broses bleidleisio'n hygyrch i bawb : • rhaid i’r gosodiad weithio i'r holl bleidleiswyr, gan gynnwys defnyddwyr cadair olwyn • dylai deunyddiau papur a ddarperir mewn ieithoedd a fformatau eraill fod yn hawdd eu gweld • mae rhaid ichi fod yn gallu darparu gwybodaeth i etholwyr anabl ar opsiynau ar gyfer pleidleisio â chymorth neu heb gymorth

  20. Templed pleidleisio cyffyrddol • Mae angen i’r templed cyffyrddol fod yn weladwy a dylech bod yn hyderus wrth ei ddefnyddio • Sut i ddefnyddio

  21. Pwy sy'n gallu a ddim yn gallu pleidleisio? • Defnyddio'r gofrestr etholiadol a'r rhestr(au) rhif cyfatebol

  22. Pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru? • Etholwyr heb lythrennau na ddyddiadau o flaen eu henw • Etholwyr sy'n 18 neu fwy ar ddiwrnod yr etholiad • Etholwyr gyda ‘G’ cyn eu henw • Etholwyr gyda ‘K’ cyn eu henw • Etholwyr gydag ‘L’ cyn eu henw • Etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw sydd ag 'N' yn lle enw

  23. Pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn y refferendwm? Etholwyr heb lythrennau na dyddiadau cyn eu henw Etholwyr gyda chofnod dienw sydd heb lythyren wrth eu cofnod heblaw am y llythyren ‘N’ Etholwyr sy’n 18 oed neu fwy Etholwyr gydag ‘E’ cyn eu henw Etholwyr gydag ‘F’ cyn eu henw Etholwyr gydag ‘L’ cyn eu henw

  24. Anfon y papurau pleidleisio • Nodi'r gofrestr a'r CNL • Gwnewch i’r etholwr gadarnhau eu henw • Nodwch rhif etholwr yr etholwr yn y gofrestr • Nodwch rhif etholwr yr etholwr yn y Rhestr(au) Rhif Cyfatebol (CNL(s)) • PEIDIWCH ag ysgrifennu rhif yr etholwr ar y papur pleidleisio! • Papurau pleidleisio • Agorwch yn llawn fel bod yr holl bapur yn weladwy. • Marc swyddogol • Rhif y papur pleidleisio a Marc Dynodi unigryw (UIM)

  25. Marcio'r gofrestr Cliciwchiddychwelyd at y sleid

  26. Enghraifft o Restr Rhif Cyfatebol (CNL) Cliciwchiddychwelyd at y sleid BC 27/1

  27. Enghraifft o gefn y papur pleidleisio

  28. Marcio'r papur pleidleisio i etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru • Mae gan bob pleidleisiwr ddwy bleidlais yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol: pleidlais etholaeth i ymgeisydd a phleidlais ranbarthol o restr plaid wleidyddol (neu i ymgeisydd rhanbarthol sy’n sefyll fel unigolyn). • Mae dau bapur pleidleisio: un i'r etholiad etholaeth ac un i'r etholiad rhanbarth. • Yn yr etholiad etholaeth, dylai pleidleiswyr roi croes yn y blwch a ddarperir ar ochr dde enw’r ymgeisydd y dymunant bleidleisio iddo. • Yn yr etholiad rhanbarth, dylai pleidleiswyr roi croes yn y blwch a ddarperir ar ochr dde enw’r blaid wleidyddol y dymunant bleidleisio iddi, neu i ymgeisydd rhanbarthol, os oes un.

  29. Marcio'r papur pleidleisio i’r refferendwm • Efallai bydd angen egluro'r broses bleidleisio i rai etholwyr: • Mae gan bleidleiswyr un bleidlais, a dylent roi croes (X) yn naill ai’r blwch ‘ie’ neu ‘na’ • Os ydynt yn pleidleisio i fwy nag un dewis, ni fydd eu papur pleidleisio yn cael ei gyfrif

  30. Beth sy'n digwydd os…? • roddir tystysgrif gyflogaeth ichi? • yw pleidleisiwr yn difetha papur pleidleisio • yw pleidleisiwr wedi enwebu dirprwy ond mae'r pleidleisiwr yn cyrraedd cyn y dirprwy • yw person yn cyrraedd i bleidleisio ond mae'r gofrestr yn dangos bod y person wedi pleidleisio eisoes • yw person yn cyrraedd i bleidleisio ond mae'r gofrestr yn dangos bod y person yn bleidleisiwr post • yw person yn cyrraedd gan ddymuno pleidleisio fel dirprwy brys • yw person yn credu y dylent fod ar y gofrestr ond nid ydynt wedi’u rhestru • oes cynnwrf yn yr orsaf bleidleisio

  31. Y cwestiynau rhagnodedig • Mae rhaid gofyn y cwestiynau rhagnodedig: • pan fyddwch chi'n amau cambersonadu • pan fydd etholwr cofrestredig yn amlwg o dan oedran • pan fydd ymgeisydd, asiant etholiad, asiant refferendwm neu asiant pleidleisio'n gofyn i hynny gael ei wneud • bob amser cyn anfon papur pleidleisio a gyflwynwyd

  32. Pleidleisiau post • Gall pleidleiswyr roi eu pecynnau pleidleisiau post i mewn i unrhyw orsaf bleidleisio yn yr etholaeth (gwiriwch fod pecyn i’r etholaeth cyn ei dderbyn) • Rhaid selio pecynnau pleidlais post a ddychwelwyd a’u labelu fel y cyfarwyddwyd • [rhowch i mewn y weithdrefn ar gyfer casglu pecynnau pleidlais post gan y Swyddog Cyfrif yn ystod y dydd]

  33. Pleidleisiau post • Ni ellir rhoi papur pleidleisio cyffredin i farcwyr 'A' yn yr orsaf bleidleisio: • yn uniongyrchol i'r Swyddog Cyfrif i'w newid (cyn 5 pm) • gweithdrefn papurau pleidleisio a gyflwynwyd wedi 5 pm • eithriad: ble mae etholwr yn honni nad yw erioed wedi gwneud cais am bleidlais bost. Yn yr achos hwnnw, byddent yn gymwys am bapur pleidleisio a gyflwynwyd ar unrhyw adeg.

  34. Cau’r Pleidleisio • Y gweithdrefnau i’w dilyn

  35. Cau’r pleidleisio • Rhaid cau am 10 yr hwyr • Mae rhaid i unrhyw berson yr anfonwyd papur(au) pleidleisio iddo erbyn 10pm gael pleidleisio • Fodd bynnag ni ellir anfon wedi 10pm, hyd yn oed os oedd yr etholwr mewn ciw am 10pm • Seliwch y blwch/blychau pleidleisio. • Mae hawl gan yr ymgeiswyr ac asiantiaid i osod seliau gan fod y pleidleisio yn awr wedi cau.

  36. Wedi i'r pleidleisio gau • Mae'n gwbl hanfodol y cyflawnir y cyfrif papurau pleidleisio'n gywir • Mae rhaid gosod y cyfrif papurau pleidleisio yn yr amlen a ddarperir - cadwch hon gyda'r blwch/blychau pleidleisio • Sicrhewch y gosodir yr holl ddogfenni yn y pecynnau cywir wedi'u llofnodi fel bo'n briodol • Dylai Clercod Pleidleisio gynorthwyo wrth dacluso'r orsaf er mwyn caniatáu i'r Swyddog Cyfrif wneud y tasgau pwysig hyn.

  37. Iechyd adiogelwch • peidiwch byth â pheryglu diogelwch unrhyw berson y tu mewn i'r orsaf bleidleisio • byddwch yn ymwybodol o unrhyw risgiau posib i ddiogelwch • archwiliwch yr adeilad yn rheolaidd • os canfyddir peryglon - dewch o hyd i ddatrysiad • os oes damwain yn digwydd - dilynwch weithdrefnau • byddwch yn ofalus wrth godi pethau trwm

  38. Cwestiynau

  39. Gwybodaeth ychwanegol • Cysylltiadau tîm etholiad • Gwefan y Comisiwn Etholiadol • www.electoralcommission.org.uk • www.aboutmyvote.co.uk • Taflenni adborth

More Related