1 / 30

Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Briffio ymgeiswyr ac asiantau. Etholiadau llywodraeth leol. Pynciau. pwy ’dy pwy amserlen yr etholiad cymwysterau gwaharddiadau enwebiadau asiantau pleidleisiau drwy’r post y diwrnod pleidleisio cyfrif pleidleisiau treuliau ymgeiswyr cysylltwyr. Pwy ’dy pwy.

tuan
Télécharger la présentation

Briffio ymgeiswyr ac asiantau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Briffio ymgeiswyr ac asiantau Etholiadau llywodraeth leol

  2. Pynciau • pwy ’dy pwy • amserlen yr etholiad • cymwysterau • gwaharddiadau • enwebiadau • asiantau • pleidleisiau drwy’r post • y diwrnod pleidleisio • cyfrif pleidleisiau • treuliau ymgeiswyr • cysylltwyr

  3. Pwy ’dy pwy • Y Swyddog Canlyniadau yw’r sawl sy’n gyfrifol am redeg yr etholiadau. [nodwch yr enw] yw’r Swyddog Canlyniadau. • Mae’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gyfrifol am gynnal y gofrestr o etholwyr a’r rhestri o bleidleiswyr absennol. [nodwch yr enw] yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol. • Gallwch chi gysylltu â’r ddau trwy’r swyddfa etholiadau (rhoddir y manylion yn ddiweddarach)

  4. Amserlen yr Etholiad

  5. Amserlen yr Etholiad (parhad)

  6. Cymwysterau • Rhaid i ymgeiswyr fodloni meini prawf ar ddiwrnod eu henwebu ac ar y diwrnod pleidleisio: • bod yn 18 oed o leiaf • bod yn Brydeinig, yn ddinesydd y Gymanwlad sy’n gymwys (â chaniatâd amhenodol i aros), yn wladolyn aelod-wladwriaeth yr UE. • Hefyd, rhaid bodloni o leiaf un o’r canlynol: • Bod yn etholwr llywodraeth leol cofrestredig ar gyfer ardal yr awdurdod lleol • Meddiannu tir neu adeiladau, fel perchennog neu denant, yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn enwebu • Bod â’r prif weithle neu’r unig weithle (gan gynnwys gwaith di-dâl) yn ystod y 12 mis diwethaf yn ardal yr awdurdod lleol • Bod wedi byw yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y 12 mis diwethaf

  7. Gwaharddiadau • Ni chaiff rhywun fod yn ymgeisydd os yw: • yr awdurdod lleol yn ei gyflogi/chyflogi neu os yw mewn swydd â thâl dan yr awdurdod (gan gynnwys cyd-fyrddau neu bwyllgorau). !Caiff ymgeiswyr fod yn weithwyr y mae’r ‘awdurdod lleol yn eu cyflogi’ os ydynt yn gweithio mewn gwasanaethau tân, yr heddlu, gwasanaethau iechyd neu ysgolion penodol • yn destun Gorchymyn Cyfyngiadau Methdaliad (neu orchymyn interim) yng Nghymru neu Loegr • wedi’i (d)dedfrydu i gyfnod o garchariad am dri mis neu fwy (gan gynnwys dedfryd ohiriedig) heb opsiwn talu dirwy, yn ystod y 5 mlynedd cyn y diwrnod pleidleisio • wedi’i (g)wahardd dan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 • yn bwrw gwaharddiad o ganlyniad i lys etholiad yn ei gael/ei chael yn euog o arfer llwgr neu anghyfreithlon • mewn swydd dan gyfyngiadau gwleidyddol

  8. Cyflwyno papurau enwebu • Rhai i bob ymgeisydd gyflwyno dau bapur enwebu erbyn canol dydd - [E-19] • y ffurflen enwebu • y cydsyniad i’r enwebiad • Hefyd, bydd angen i ymgeiswyr dros bleidiau gyflwyno, erbyn canol dydd – [E-19]: • Tystysgrif yn awdurdodi defnyddio enw plaid/ disgrifiad cofrestredig ar y papur pleidleisio • Cais ysgrifenedig i ddefnyddio un o arwyddluniau’r blaid ar y papur pleidleisio (dewisol)

  9. Cyflwyno papurau enwebu • !Sicrhewch fod y papurau enwebu’n cael eu llenwi'n gywir, gan y gall camgymeriadau wneud eich cais yn annilys. • I drefnu rhywun i’w wirio’n anffurfiol, cysylltwch â’r swyddfa etholiadau (rhoddir y manylion yn ddiweddarach)

  10. Ffurflen enwebu • Cynhwyswch eich enw llawn a’ch cyfeiriad cartref • Dewisol: defnyddiwch y blwch/blychau enwau a ddefnyddir fel arfer os mai dyna ydych chi fel arfer yn cael eich galw yn lle’ch enw llawn a’ch bod eisiau ei ddefnyddio yn lle. • Maes disgrifiad – 3 opsiwn: • ei adael yn wag • Annibynnol • gall ymgeiswyr dros blaid ddefnyddio enw’r blaid neu ddisgrifiad y mae tystysgrif sydd wedi’i chyhoeddi gan neu ar ran y Swyddog Enwebu’n ei awdurdodi

  11. Ffurflen enwebu • Tanysgrifwyr: mae’n ofynnol cael 10 tanysgrifiwr. Mae’n rhaid iddynt lofnodi a phrintio’u henwau. Cymharwch fanylion y tanysgrifwyr â’r manylion ar y gofrestr etholiadol. Peidiwch â gofyn i’r tanysgrifwyr lofnodi hyd nes eich bod wedi llenwi’r meysydd enw, cyfeiriad a disgrifiad ar y ffurflen.

  12. Ffurflen cydsynio i enwebu • Mae’n rhaid cynnwys: • enw a chyfeiriad • yr ardal rydych chi’n sefyll ynddi • cadarnhad o’r cymhwyster/ cymwysterau perthnasol (o leiaf 1, ond dewiswch bob un sy’n berthnasol) • dyddiad geni a llofnod • enw, cyfeiriad a llofnod tyst

  13. Tystysgrif awdurdodi • Mae’n rhaid i ymgeiswyr dros blaid gael caniatâd ysgrifenedig i ddefnyddio enw/disgrifiad y blaid oddi wrth y Swyddog Enwebu (neu rywun sydd wedi’i benodi/phenodi i weithredu ar ei r(h)an) • Gall y dystysgrif: • ganiatáu defnyddio enw’r blaid neu ddisgrifiad penodol • caniatáu i’r ymgeisydd ddewis p’un a yw am ddefnyddio enw’r blaid neu unrhyw un o’r disgrifiadau sydd wedi’u cofrestru â’r Comisiwn Etholiadol • Rhaid ei chyflwyno erbyn canol dydd[E-19]

  14. Ffurflen cais am arwyddlun • Gall ymgeiswyr dros blaid ofyn am gael arwyddlun wedi’i argraffu ar y papur pleidleisio • Rhaid cyflwyno ffurflen cais am arwyddlun erbyn canol dydd [E-19] • Dylai ymgeiswyr dros blaid gyflenwi fersiwn electronig o’r arwyddlun i’r Swyddog Canlyniadau lle bo angen

  15. Ymgeiswyr dros bleidiau ar y cyd • Wedi’u henwebu gan fwy nag un plaid • Gallant ddefnyddio cyd-ddisgrifiadau cofrestredig • rhaid i dystysgrif awdurdodi oddi wrth bob plaid eu cefnogi • Gallant ddefnyddio un arwyddlun un o’r pleidiau ond nid oes unrhyw arwyddluniau ar y cyd

  16. Asiant etholiad • Yn gyfrifol am reoli'ch ymgyrch etholiad yn briodol; yn enwedig rheolaeth ariannol. • Rhaid i hysbysiadau o benodi gyrraedd y Swyddog Canlyniadau erbyn canol dydd – [E-16] Mae’r ffurflen wedi’i chynnwys yn y pecyn enwebu. • Fe fyddwch chi’n dod yn eich asiant eich hun fel mater o drefn os nad oes asiant wedi’i benodi.

  17. Asiantau eraill • Gellir penodi asiantau eraill i fod yn bresennol ar eich rhan wrth agor pleidleisiau drwy’r post, mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y cyfrif: • Mae’n ofynnol sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau’n derbyn hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw bobl a benodir fel asiantau pleidleisio a chyfrif erbyn [E-5]. • Rhaid penodi’r asiantau pleidleisio drwy’r post a fydd yn mynychu sesiwn agor benodol cyn dechrau’r sesiwn. Bydd y Swyddog Canlyniadau’n rhoi rhybudd o 48 awr. • Mae ffurflenni ar gael i hysbysu’r Swyddog Canlyniadau.

  18. Cael gweld y gofrestr etholiadol/ rhestri pleidleiswyr absennol • Ar gael i ymgeiswyr – cyn gynted ag y dewch yn ymgeisydd yn swyddogol: • y cynharaf, ar [dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad] os ydych chi neu eraill yn datgan y byddwch chi’n sefyll fel ymgeisydd • cyn gynted ag y byddwch chi neu eraill wedi datgan y byddwch chi’n sefyll fel ymgeisydd ar ôl y dyddiad hwn / y dyddiad y byddwch chi'n cyflwyno'ch papurau enwebu • Gwnewch gais ysgrifenedig i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol – mae ffurflenni ar gael o’r swyddfa / wedi’u cynnwys yn eich pecyn enwebu.

  19. Cael gweld y gofrestr etholiadol/ rhestri pleidleiswyr absennol • Defnyddiwch ddata at ddibenion a ganiateir yn unig! • i lenwi’r ffurflen enwebu • i’ch helpu i ymgyrchu • i wirio bod rhoddion/benthyciadau’n ganiataol

  20. Ymgyrchu • Defnyddiwch argraffnodau yn eich deunyddiau ymgyrchu, gan gynnwys gwefannau. • Cydymffurfiwch â rheolau cynllunio sy'n ymwneud â byrddau hysbysebu a baneri mawr. • Sicrhewch fod posteri awyr agored yn cael eu tynnu i lawr 2 wythnos ar ôl yr etholiad. • Peidiwch â chynhyrchu deunydd sy’n edrych yn debyg i gerdyn pleidleisio. • Peidiwch â thalu pobl am arddangos eich hysbysebion (oni bai eu bod nhw’n arddangos hysbysebion fel rhan o’u busnes arferol).

  21. Pleidleisiau Drwy’r Post • Cod ymddygiad – ni ddylai unrhyw ymgeisydd neu gefnogwr eu rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle gellir amau eu gonestrwydd neu eu huniondeb, neu onestrwydd neu uniondeb yr ymgeisydd neu’r blaid • Oherwydd rhesymau’n ymwneud â diogelwch, mae gofyn i bleidleiswyr absennol ddarparu llofnod a dyddiad geni ar geisiadau • mae’r rhain yn cael eu storio’n electronig a chymharir nhw â’r rheiny ar y datganiad pleidleisio drwy’r post a ddychwelir gyda’r bleidlais drwy'r post • Mae’n bwysig bod unrhyw geisiadau neu becynnau pleidleisio drwy’r post a dderbynnir yn cael eu dychwelyd i’r swyddfa etholiadau cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau bod yna ddigon o amser i’w prosesu • Os ydych chi’n ystyried argraffu’ch ffurflenni eich hun, mae’n rhaid iddynt gynnwys yr holl ofynion deddfwriaethol

  22. Y diwrnod pleidleisio • Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm • Bydd y swyddfa ar agor rhwng [x]yb a [x]yh ar gyfer ymholiadau neu broblemau sy’n ymwneud â gweinyddu’r etholiad • yn achos ymholiadau sy’n ymwneud â materion ariannol yr etholiad, cysylltwch â’r Comisiwn Etholiadol (dangosir y manylion cyswllt yn ddiweddarach) • Rhifwyr • Pleidleisiau Drwy’r Post – gellir mynd â’r rhain i mewn i orsafoedd pleidleisio o fewn y adran/ward neu i’r swyddfa etholiadau tan 10yh.

  23. Cyfrif pleidleisiau • [Nodwch drefniadau lleol ar gyfer cyfrif pleidleisiau etholiad llywodraeth leol: pryd, lle ac ati] • Bydd y ganolfan cyfrif ar agor i asiantau ymgeiswyr o [X] • Cynhelir y cyfrif yn: • [nodwch leoliad/cyfeiriad y ganolfan cyfrif] • Mae gan ymgeiswyr, asiantau etholiad, asiantau cyfrif ac un person arall sydd wedi’i benodi gan yr ymgeisydd hawl i fod yno. - cyfyngiadau o ran asiantau cyfrif: [X]

  24. Materion yn ymwneud â gwariant

  25. Gwariant ymgeiswyr • Y diffiniad yw treuliau penodol ‘a ddefnyddir at ddiben etholiad yr ymgeisydd’ ar ôl y dyddiad y daethant yn ymgeisydd yn swyddogol • Cyfrifoldeb yr asiant etholiad • Cyfyngiad ar dreuliau: • £600 + 5 ceiniog fesul etholwr yn y ward/adran ar y gofrestr mewn grym ar [nodwch y dyddiad] • yn llai i ymgeiswyr dros bleidiau ar y cyd • Mae’n rhaid cael derbynebau a’u cadw (dros £20)

  26. Manylion gwariant ymgeiswyr • Mae’n rhaid cyflwyno manylion treuliau 35 diwrnod calendr ar ôl canlyniad yr etholiad • Bydd y Swyddog Canlyniadau’n rhoi’r manylion ar gael i’r cyhoedd • Mae’n bosibl y bydd y Comisiwn Etholiadol yn adolygu sampl o fanylion treuliau • Mae methu â chyflwyno manylion treuliau'n drosedd • Ni ad-delir unrhyw wariant

  27. Cysylltiadau

  28. Cysylltiadau • Y swyddfa etholiadau –[nodwch] • Yr adran briffyrdd – [nodwch] • Cysylltwyr y Comisiwn Etholiadol [dilëwch fel bo’n briodol] • Swyddfa Dwyrain a De-ddwyrain Lloegr 020 7271 0600 • Swyddfa Llundain 020 7271 0689 • Swyddfa Canolbarth Lloegr 02476 820086 • Swyddfa Gogledd Lloegr 01904 567990 • Swyddfa De-orllewin Lloegr 01392 314617 • Swyddfa Cymru029 2034 6800 • Cyllid Pleidiau a’r Etholiad020 7271 0616

  29. Cwestiynau

  30. Diolch yn fawr Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd â’ch pecyn ymgeisydd fel canllaw

More Related