1 / 58

TGAU Hamdden a Thwristiaeth

TGAU Hamdden a Thwristiaeth. Cyflwyniad i Hamdden a Thwristiaeth Uned 2. D.S. Mae’n rhaid gosod ‘diogelwch macro’ y rhaglen i o leiaf ‘canolig’ ar gyfer yr effaith gorau. Cliciwch flwch i ddewis gweithgaredd (Mae ymyl coch i’r blwch yn dangos fod y gweithgaredd yn un rhyngweithiol).

justus
Télécharger la présentation

TGAU Hamdden a Thwristiaeth

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. TGAU Hamdden a Thwristiaeth Cyflwyniad i Hamdden a Thwristiaeth Uned 2 D.S. Mae’n rhaid gosod ‘diogelwch macro’ y rhaglen i o leiaf ‘canolig’ ar gyfer yr effaith gorau

  2. Cliciwch flwch i ddewis gweithgaredd (Mae ymyl coch i’r blwch yn dangos fod y gweithgaredd yn un rhyngweithiol). Gweithgareddau 1 11 21 31 41 51 2 12 22 32 42 52 3 13 23 33 43 53 44 54 4 14 24 34 5 15 25 35 45 6 16 26 36 46 7 17 27 37 47 8 18 28 38 48 9 19 29 39 49 10 20 30 40 50 DALIER SYLW: Mae angen i osodiad diogelwch macro eich rhaglen PowerPoint fod ar ‘canolig’ (medium) er mwyn gallu cael y gweithgareddau Llusgo a Gollwng i weithio.

  3. Gweithgaredd 1 Cliciwch ochr dde'r blychau gwyrdd, ac atebwch cywir neu anghywir i’r cwestiynau canlynol ANGHYWIR CYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR ANGHYWIR CYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR

  4. Gweithgaredd 2 Gwyliau Dinas, Gwyliau Byr, Gwyliau Gweithgarwch, Gwyliau Diddordeb Arbennig, Ymweld â Ffrindiau a Pherthnasau, Twristiaeth Chwaraeon. Mae nifer o dermau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth hamdden wedi’u cyflwyno yn yr adran uchod. Yn aml iawn, gall gwyliau ymwneud â mwy nag un o’r termau hyn. Er enghraifft: Mae Gareth, Rebecca a’u tad yn teithio o Gaerdydd i Lundain am dair noson i aros gyda’u tad-cu. Yn Llundain maen nhw’n gwylio Cymru’n chwarae yn erbyn Lloegr yn Twickenham yn ogystal ag ymweld â’r London Eye a’r London Dungeon. Mae’r gwyliau hyn yn: Wyliau byr - oherwydd dim ond am dair noson maen nhw oddi cartref Gwyliau dinas - oherwydd eu bod nhw’n ymweld â Llundain Ymweld â ffrindiau - oherwydd eu bod nhw’n aros gyda’u tad-cu a pherthnasau Twristiaeth - oherwydd eu bod yn mynd i ddigwyddiad chwaraeon chwaraeon pwysig Nodwch bum gwyliau arall a dwedwch pa fath o dwristiaeth sy’n cael eu cynrychioli. Ewch at y sleid nesaf ….

  5. Gweithgaredd 2 – Enghraifft Dosbarth Disgrifiad o math o wyliau..

  6. Gweithgaredd 3 Trwy lusgo a gollwng, gosodwch y gair cywir yn y golofn ar y dde ar gyfer y gweithgarwch teithio a thwristiaeth busnes sy’n cael ei ddisgrifio. Ffair fasnach Cynhadledd/confensiwn Cyfarfod Lletygarwch corfforaethol Cynhadledd

  7. Gweithgaredd 4 Mae’r World Travel Market yn ffair fasnach bwysig i’r diwydiant teithio a thwristiaeth ac yn cael ei chynnal yn Llundain bob hydref. Dyma’r wefan ar gyfer y digwyddiad www.wtmlondon.com Ewch i’r safle ac atebwch y cwestiynau isod. 1. Beth yw dyddiadau ac amserau’r World Travel Market ? 2. Beth yw enw’r lleoliad lle caiff ei chynnal? 3. Enwch bedwar dull o deithio i’r lleoliad. 4. Awgrymwch pam y mae hi’n bwysig i bobl sy’n gweithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth fynd i’r World Travel Market.

  8. Gweithgaredd 5 Gwnewch grynodeb o’r prif wahaniaethau rhwng teithio hamdden, teithio busnes a theithio i ymweld â ffrindiau a pherthnasau(YFfPh) gan ddefnyddio’r penawdau canlynol.

  9. Gweithgaredd 6 Defnyddiwch wefannau a dulliau ymchwilio eraill i ddod o hyd i ddwy enghraifft o bob un o’r atyniadau a’r cyrchfannau canlynol yng Nghymru neu ardaloedd eraill y Deyrnas Unedig.

  10. Gweithgaredd 7 Cysylltwch enw’r ddinas gyda’i atyniad eiconig byd-enwog, trwy lusgo a gollwng enwau’r dinasoedd. Sydney Barcelona Los Angeles Toronto Paris Beijing Llundain San Francisco Efrog Newydd Las Vegas

  11. Gweithgaredd 8 Dewiswch ardal rydych chi’n gyfarwydd â hi, megis dinas neu Barc Cenedlaethol a chynlluniwch ymweliad ar gyfer naill ai grŵp o ‘geiswyr diwylliant’ neu ‘anturwyr’. Awgrymwch pam fyddai’r gweithgareddau a’r ymweliadau rydych chi’n eu cynllunio yn apelio at y grŵp. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am y gweithgareddau a’r ymweliadau.

  12. Gweithgaredd 9 Dewiswch un wlad yn Asia, er enghraifft, India, China neu Wlad Thai ac ymchwiliwch i rai o’r atyniadau diwylliannol a naturiol a all apelio at ymwelwyr o’r DU.

  13. Gweithgaredd 10 ‘Efallai y bydd ‘Bodiau’r traeth’ (Beach bums) yn gwneud niwed i’w hiechyd os byddan nhw’n treulio gormod o amser yn yr haul heb amddiffyn eu croen rhag llosgi. Lluniwch boster yn rhybuddio pobl am y peryglon yn sgil treulio gormod o amser yn yr haul cynnes, gan ychwanegu delweddau addas.

  14. Gweithgaredd 11 Cliciwch ochr dde'r blychau gwyrdd, ac atebwch cywir neu anghywir i’r cwestiynau canlynol. CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR ANGHYWIR CYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR ANGHYWIR CYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR ANGHYWIR CYWIR CYWIR ANGHYWIR Dylech fod wedi rhoi’r ateb ‘anghywir’ i saith cwestiwn. Ysgrifennwch yr ateb cywir ar gyfer y rhain.

  15. Gweithgaredd 12 Defnyddiwch wahanol wefannau i weld beth yw cost y gweithgareddau twristiaeth sydd wedi’u rhestru isod. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am bob gweithgarwch.

  16. Gweithgaredd 13 Ym mha ddegawd y digwyddodd pob un o’r canlynol? Agorodd Twnnel y Sianel ac roedd mwy o ddewis ar gael i bobl o ran teithio i Ewrop. Daeth Twrci a Gwlad Groeg yn gyrchfannau poblogaidd ar gyfer gwyliau pecyn. Ymwelodd pobl â threfi glan-môr am y dydd am na allent fforddio gwyliau. Sefydlwyd Parciau Cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf. Roedd mwy o bobl yn dechrau defnyddio cwmnïau Expedia a Lastminute.com i archebu gwyliau. Dechreuodd gwyliau pecyn i arfordir Môr y Canoldir yn Sbaen. 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au 1970au 1980au 1990au 2000+ Cafodd gweithwyr yr hawl i wyliau â thâl am y tro cyntaf erioed. Daeth UDA yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer gwyliau pell. Dechreuodd cwmnïau awyrennau pris rhesymol gynnig tocynnau rhad. Roedd cynnydd yn nifer y ceir ac roedd pobl yn gallu teithio i rannau gwahanol o’r Deyrnas Unedig.

  17. Gweithgaredd 14 Defnyddiwch y rhyngrwyd a ffynonellau eraill i nodi’r flwyddyn y digwyddodd pob un o’r digwyddiadau yn y tabl isod.

  18. Gweithgaredd 15 Labelwch y ffotograff isod i ddangos rhai o fanteision cyrchfannau gwyliau pecyn nodweddiadol:

  19. Gweithgaredd 16 Ewch i asiantaeth deithio ar y stryd fawr a gofynnwch am lyfrynnau. (Bydd un llyfryn rhwng grŵp o bedwar yn ddigon). Fel arall, chwiliwch am gwmni Thomas Cook neu Thompson Holidays ar y we i weld beth sydd ar gael. Chwiliwch am wyliau a fyddai’n addas i’r grwpiau o bobl canlynol: 1. Teulu gyda dau o blant o dan 5 oed sy’n gallu teithio ym mis Mehefin yn unig. 2. Teulu gyda thri o blant yn eu harddegau sy’n gallu teithio yn ystod gwyliau’r ysgol yn unig. 3. Grŵp o chwech o ferched yn eu 20au cynnar sydd am deithio ym mis Medi. Uchafswm o £300 yr un sydd ganddyn nhw i’w wario ar eu gwyliau. 4. Pâr priod yn eu 60au sydd am deithio ym mis Mai ac sydd am osgoi’r arfordir. Ar gyfer pob grŵp: • Awgrymwch ganolfan wyliau addas ac eglurwch pam eich bod wedi dewis y ganolfan honno • Disgrifiwch y gwesty neu’r llety arall lle bydd y grŵp yn aros • Rhowch amcangyfrif o gost y gwyliau • Awgrymwch rai gweithgareddau addas • Disgrifiwch pa fath o dywydd fydd hi fel rheol • Enwch y maes awyr yn y DU ble fydd yr awyren yn gadael, nodwch yr amser a dreulir ar yr awyren a’r amseroedd gadael a chyrraedd.

  20. Gweithgaredd 17 • A ydych wedi bod ar wyliau pecyn? Mewn grwpiau, trafodwch y gwyliau rydych chi wedi eu cael, gan gynnwys beth oedd yn dda a beth oedd yn ddrwg amdanynt. • Crynhowch fanteision ac anfanteision gwyliau pecyn. • Nodwch pam y mae gwyliau pecyn yn dda neu’n ddrwg yn eich barn chi.

  21. Gweithgaredd 18 • Ystyriwch y grwpiau o dwristiaid yng Ngweithgaredd 16: • Teulu gyda dau o blant o dan 5 oed sy’n gallu teithio ym mis Mehefin yn unig. • Teulu gyda thri o blant yn eu harddegau sy’n gallu teithio yn ystod gwyliau’r ysgol yn unig. • Grŵpo chwech o ferched yn eu 20au cynnar sydd am deithio ym mis Medi. Uchafswm o £300 yr un sydd ganddyn nhw i’w wario ar eu gwyliau. • Pâr priod yn eu 60au sydd am deithio ym mis Mai ac sydd am osgoi’r arfordir. • Defnyddiwch y gwefannau canlynol: • www.lastminute.com • www.expedia.com • www.travelocity.com • www.ebookers.com

  22. Gweithgaredd 19 • Defnyddiwch wefannau’r prif gwmnïau llogi ceir fel Hertz.co.uk • ac Avis.co.uki ganfod y gost o logi car yn yr enghreifftiau isod. • Pâr sy’n hedfan i Bordeaux yn Ffrainc tua dechrau mis Gorffennaf ac sydd am logi car bach am bedwar diwrnod. • Teulu o bump sy’n hedfan i Berlin ym mis Awst ac sydd am logi car ystad (estate) neu gludydd pobl am bythefnos. • Dau bâr sy’n teithio i Calgary yng Nghanada ac sydd am logi cerbyd SUV am dair wythnos, cyn ei ddychwelyd i Faes Awyr Vancouver.

  23. Gweithgaredd 20 Cliciwch ochr dde'r blychau gwyrdd, ac atebwch cywir neu anghywir i’r cwestiynau canlynol. CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR

  24. Gweithgaredd 21 Mae yna nifer o gyrchfannau poblogaidd ar gyfer mordeithiau. Lleolwch yr ardaloedd canlynol ar y map o’r byd: Arfordir Norwy Y Môr Baltig Môr y Caribî Yr Açores a’r Ynysoedd Dedwydd yng ngorllewin yr Iwerydd Môr y Canoldir Arfordir Alaska Yr Afon Nîl Yr Afon Donwy (Danube) Mae teithio ar hyd rhai afonydd yn boblogaidd, yn enwedig:

  25. Gweithgaredd 22 • Dewiswch ddwy long bleser o’r rhestr isod a chwiliwch ar y rhyngrwyd am wybodaeth am y llongau a’u cyfleusterau, ac ewch ati i’w cymharu. • Carnival Conquest • Independence of the Seas • Arcadia • Disney Magic

  26. Gweithgaredd 23 • Cynlluniwch ddeunydd marchnata i berswadio teulu i fynd ar fordaith am y tro cyntaf. • Gallwch wneud: • Poster • Arddangosfa wal • Cyflwyniad PowerPoint • Taflen • Gallech ddefnyddio llyfrynnau cwmnïau mordeithiau pleser neu edrych ar wefannau’r cwmnïau llongau pleser canlynol: • Royal Caribbean Cruises • Princes Cruises • Carnival Cruise Line • Celebrity Cruises • Disney Cruise Line • Crystal Cruise • Cofiwch fod yn rhaid i’ch deunyddiau berswadio’r teulu i gael mordaith am y tro cyntaf. • Pa fath o lefydd y gellid ymweld â nhw yn ystod y fordaith? • Disgrifiwch y cyfleusterau a’r gweithgareddau sydd ar gael ar y llong.

  27. Gweithgaredd 24 • Chwiliwch am wybodaeth am ‘becynnau’ ar gyfer y • digwyddiadau canlynol a nodwch amcan o’r pris: • Grand Prix F1 Monaco • Cymru yn erbyn Lloegr neu Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm yng nghystadleuaeth rygbi’r Chwe Gwlad • Diwrnod yng Nghwpan Ryder • Diwrnod mewn gêm Brawf rhwng tîm criced Lloegr a gwlad arall • Rownd derfynol neu gêm gynderfynol Cynghrair y Pencampwyr.

  28. Gweithgaredd 25 Lluniwch raglen ar gyfer gwyliau gweithgaredd pum niwrnod i grŵp o chwech o bobl sy’n ymweld â Chymru o Ffrainc. Mae’r grŵp yn hoffi gweithgareddau mynydda. Maen nhw’n awyddus i roi cynnig ar weithgaredd gwahanol bob dydd. Maen nhw’n gallu teithio naill ai i Ogledd neu Orllewin Cymru ar gyfer eu gwyliau gweithgaredd. Rhowch wybodaeth am weithgareddau posibl, lleoliadau posibl, cost y gweithgareddau a lle bydd y grŵp yn gallu aros.

  29. Gweithgaredd 26 Labelwch y llun isod i ddangos rhai o nodweddion gwyliau chwaraeon y gaeaf.:

  30. Gweithgaredd 27 Eglurwch yn llawn pam y mae gwyliau chwaraeon y gaeaf yn apelio at gymaint o bobl. Nodiadau:

  31. Gweithgaredd 28 Mae Seland Newydd yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer gwyliau antur. Teipiwch ‘Gwyliau antur yn Seland Newydd’ i beiriant chwilio a byddwch yn dod o hyd i lawer o wybodaeth am wahanol wyliau antur sydd ar gael. Edrychwch ar yr hyn sy’n cael ei gynnig gan nifer o drefnwyr teithiau. 1. Dewiswch un o’r gwyliau antur sy’n cael ei gynnig ac eglurwch pam y byddai’n apelio atoch chi. 2. Dewiswch un o’r gwyliau antur sy’n cael ei gynnig ac eglurwch pam y gallai apelio at aelod hŷn o’ch teulu. 3. Pa weithgaredd fyddech chi’n hoffi rhoi cynnig arno fel rhan o’ch gwyliau antur? Pam y mae’n apelio atoch chi? 4. Pa weithgareddau fyddech chi ddim yn eu mwynhau, a pham?

  32. Gweithgaredd 29 Mae Llundain yn ddinas boblogaidd ar gyfer gwyliau byr. Cynlluniwch ymweliad tri diwrnod, dwy noson i Lundain yn teithio ar y trên o’ch tref agosaf. Defnyddiwch y templed isod fel man cychwyn ac ychwanegwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch. Amserau’r trên

  33. Gweithgaredd 30 Gan lusgo a gollwng yr dulliau isod i’w mannau priodol, awgrymwch beth fyddai’r dewis gorau o gludiant ar dir ar gyfer pob grŵp o gwsmeriaid isod. Rhowch reswm cryno dros eich dewis. Gallwch ddefnyddio pob math o gludiant unwaith yn unig. System danddaearol Bws ymweld â golygfeydd Bws moethus Car Bws Trên Tacsi

  34. Gweithgaredd 31 Defnyddiwch wefannau i ganfod cost fferi rhwng Dover a phorthladd Calais yn Ffrainc ar gyfer dyddiadau ar ddechrau mis Awst. Y cwsmeriaid yw teulu o bedwar ac maen nhw’n teithio mewn car, gan ddychwelyd ar ôl pythefnos. Defnyddiwch y gwefannau www.pandoferries.com a www.seafrance.com Hefyd, chwiliwch beth yw costau fferis rhwng Cymru ac Iwerddon ym mis Awst.

  35. Gweithgaredd 32 Mae meysydd awyr a chwmnïau hedfan yn sefydliadau masnachol sy’n ceisio gwneud elw. Mae cwmnïau hedfan yn gwneud elw trwy gludo teithwyr, tra bod meysydd awyr yn gwneud elw trwy godi tâl ar gwmnïau hedfan i lanio ar redfeydd. Gelwir y rhain yn daliadau glanio. Yn Heathrow mae’r prif gwmnïau hedfan yn gwmnïau ‘gwasanaeth llawn’ sefydledig megis British Airways. Ym meysydd awyr eraill y DU mae’r defnyddwyr yn cynnwys cwmnïau hedfan rhad megis Ryanair ac easyJet. Yn draddodiadol roedd prif gwmnïau hedfan megis British Airways ac Air France yn cael eu galw yn ‘gwmnïau cenedlaethol’ a oedd yn aml yn eiddo i’r cyhoedd. Erbyn heddiw mae’r cwmnïau hedfan hyn yn eiddo i sefydliadau’r sector preifat. Mae’r holl gwmnïau hedfan megis British Airways a Ryanair yn gweithredu gwasanaethau rheolaidd. Ar lwybrau taith fer poblogaidd i gyrchfannau megis Paris a Barcelona, gall y prisiau y mae’r cwmnïau hedfan traddodiadol yn eu codi fod yn debyg i’r cwmnïau rhad. Nid yw cwmnïau hedfan rhad yn hedfan ar deithiau hir i’r UDA a chyrchfannau eraill y tu hwnt i Ewrop. Mae cwmnïau rhad wedi cael effaith ar waith sefydliadau teithio a thwristiaeth eraill hefyd. Mae mwy o deithwyr bellach yn gallu ac yn barod i archebu eu taith hedfan yn uniongyrchol gyda’r cwmni yn hytrach na defnyddio asiantau teithio. Hefyd, mae cwmnïau hedfan wedi bod yn gyfrifol am hunanbecynnulle mae’r teithwyr yn archebu eu teithiau hedfan, llety a chludiant arall eu hunain, yn hytrach na phrynu gwyliau pecyn traddodiadol. Gosodwch y geiriau isod sydd ar goll o’r darn hwn yn eu lleoliad cywir trwy eu llusgo a’u gollwng. teithiau hir cwmnïau cenedlaethol gwasanaeth llawn taliadau glanio hunanbecynnu rheolaidd taith fer rhad masnachol

  36. Gweithgaredd 33 Ar y map gwag o’r Deyrnas Unedig dangoswch ble mae’r prif feysydd awyr sy’n dilyn. Defnyddiwch y cylchoedd yn gyntaf, yna labelwch. Heathrow Llundain Stansted Llundain Birmingham Manceinion Caerdydd Newcastle Bryste Glasgow Belfast Rhyngwladol Dwyrain Canolbarth Lloegr

  37. Gweithgaredd 34 Mae teulu sy’n byw yng Nghaerdydd am ymweld â Disney ym Mharis ar wyliau byr. Mae ganddyn nhw dri o blant, gydag un ohonynt yn defnyddio cadair olwyn. Mae’r plant yn 14, 12, ac 11 oed. Mae’n rhaid i’r teulu benderfynu pryd i fynd a beth yw’r ffordd orau o deithio. Gwnewch ychydig o ymchwil ac yna eglurwch y ffactorau y mae angen iddyn nhw eu hystyried wrth benderfynu ar eu dull o deithio i Baris. Nodiadau:

  38. Gweithgaredd 35 • Atebwch y cwestiynau isod am gyrchfannau arfordirol i dwristiaid • yn y DU. • Pa ganolfan wyliau bwysig sydd yng Ngorllewin Sussex? • Pa ganolfan wyliau bwysig sydd ar Arfordir Swydd Efrog? • Pa ganolfan wyliau bwysig sydd â thŵr enwog? • Tua sawl blwyddyn yn ôl y dechreuodd y canolfannau gwyliau hyn ddatblygu? • Ym mha ran o Gymru mae Llandudno? Y pump cwestiw nesaf…

  39. Gweithgaredd 35 • Atebwch y cwestiynau isod am gyrchfannau arfordirol i dwristiaid • yn y DU. • 6. Ym mha ran o Gymru mae Dinbych-y-pysgod? • 7. Enwch un ganolfan wyliau yng Nghernyw. • 8. Enwch un Parc Cenedlaethol yn Lloegr sydd ag ardal arfordirol. • 9. Enwch y Parc Cenedlaethol yng Nghymru sydd ag ardal arfordirol. • 10.Beth sy’n arbennig am ran o Arfordir Dorset?

  40. Gweithgaredd 36 Ar y map gwag o’r Deyrnas Unedig isod dangoswch ble mae’r canolfannau gwyliau arfordirol a’r ardaloedd a restrir isod. Bournemouth Brighton Blackpool Scarborough Dinbych-y-pysgod Llandudno Arfordir Penfro Exmoor, Arfordir Dorset Defnyddiwch yr offer amlygu i nodi’r canolfannau gwyliau, a chofiwch liwio’r blychau uchod er mwyn cwblhau’r allwedd.

  41. Gweithgaredd 37 Atebwch y cwestiynau isod am ardaloedd arfordirol Ewrop. Tua faint o bobl sy’n ymweld ag ardaloedd arfordirol o gwmpas Môr y Canoldir bob blwyddyn? Enwch ddwy wlad sydd ag arfordir ar Gefnfor Iwerydd. Enwch ddwy ganolfan arfordirol yn Sbaen. Enwch un ‘costa’ yn Sbaen. Enwch un o ynysoedd y Baleares. Enwch un ganolfan wyliau ar ‘Riviera’ Ffrainc. Enwch un ynys oddi ar arfordir yr Eidal Enwch un ynys yng ngwlad Groeg. Pa ynys ym Môr y Canoldir sydd â chysylltiadau hanesyddol â’r DU? Ar ba arfordir y mae ardal yr Algarve?

  42. Gweithgaredd 38 Nodwch ble mae’r canolfannau gwyliau a’r ardaloedd arfordirol isod: Defnyddiwch yr offer amlygu i nodi’r canolfannau gwyliau, a chofiwch liwio’r blychau uchod er mwyn cwblhau’r allwedd. Costa del Sol yn Sbaen Yr Algarve ym Mhortiwgal Mallorca Malta Riviera Ffrainc Corfu a Creta yng Ngwlad Groeg Sardegna Arfordir yr Iwerydd Ffrainc Croatia Tunisia

  43. Gweithgaredd 39 Ar y map gwag hwn o’r Deyrnas Unedig dangoswch ble mae’r cyrchfannau cefn gwlad pwysig sydd wedi’u rhestru isod: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Parc Cenedlaethol Eryri Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Parc Cenedlaethol Bro’r Llynnoedd Parc Cenedlaethol y Peak District Parc Cenedlaethol Yorkshire Dales Arfordir Gŵyr Arfordir Treftadaeth Dorset 1 1 2 2 3 3 4 4 5 5 6 6 7 7 8 8

  44. Gweithgaredd 40 Yn y tabl isod, nodwch ym mha ddinasoedd twristaidd yn y DU y gallwch weld yr atyniadau pwysig. Caergrawnt Stratford-upon-Avon Manceinion Caergaint Llundain Caerdydd Caer

  45. Gweithgaredd 41 Gan ddefnyddio’r fformat ar y dudalen uchod, lluniwch ‘ganllaw cryno’ i ddinas dwristaidd yn Ewrop neu’r UDA.

  46. Gweithgaredd 42 Astudiwch y rhestr o atyniadau yng Nghaerdydd a nodwch at ba grŵp o dwristiaid y gallent apelio fwyaf. ATYNIADAU Gêm rygbi yn Stadiwm y Mileniwm Taith o gwmpas Castell Caerdydd Gwnewch yr un peth ar gyfer cyrchfan arall rydych chi wedi’i hastudio. Ymweliad â Techniquest Cynhyrchiad yng Nghanolfan y Mileniwm Gwesty Dewi Sant Gyda’r nos ym Mermaid Quay

  47. Gweithgaredd 43 Nodwch a yw pob un o’r dulliau cludiant gwahanol isod yn cael eu defnyddio fel rheol i gyrraedd cyrchfan neu i deithio o fewn cyrchfan. Cyrraedd y cyrchfan O fewn cyrchfan Cyrraedd y cyrchfan O fewn cyrchfan Cyrraedd y cyrchfan O fewn cyrchfan Cyrraedd y cyrchfan O fewn cyrchfan Cyrraedd y cyrchfan O fewn cyrchfan Cyrraedd y cyrchfan O fewn cyrchfan Cyrraedd y cyrchfan O fewn cyrchfan Cyrraedd y cyrchfan O fewn cyrchfan Cyrraedd y cyrchfan O fewn cyrchfan Cyrraedd y cyrchfan O fewn cyrchfan

  48. Gweithgaredd 44 Cliciwch ochr dde'r blychau gwyrdd, ac atebwch cywir neu anghywir i’r cwestiynau canlynol. CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR

  49. Gweithgaredd 45 Defnyddiwch www.photolibrarywales.com i ddod o hyd i luniau o’r gwahanol fathau o atyniadau naturiol yng Nghymru: 2 lyn gwahanol 2 fynydd gwahanol 1 rhaeadr 2 draeth 1 clogwyn 1 rhaeadr 1 ogof

  50. Gweithgaredd 46 Gwnewch bictogramau, yn cynrychioli nifer yr ymwelwyr, i ddangos pwysigrwydd cymharol rhai o’r atyniadau yn y tabl isod. Ffynhonnell: Addaswyd o The Association of Leading Visitor Attractions www.alva.org.uk

More Related