1 / 29

Roedd yn byw mewn llys yn Harlech yn Ardudwy efo Manawydan ei frawd a

Amser maith yn ôl roedd gŵr o’r enw Bendigeidfran, fab Llŷr, yn frenin ar Ynys y Cedyrn, yr ynys a elwir heddiw’n Brydain. Roedd yn byw mewn llys yn Harlech yn Ardudwy efo Manawydan ei frawd a Nisien ac Efnisien, dau efaill oedd yn hanner brodyr iddo.

aaron
Télécharger la présentation

Roedd yn byw mewn llys yn Harlech yn Ardudwy efo Manawydan ei frawd a

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Amser maith yn ôl roedd gŵr o’r enw Bendigeidfran, fab Llŷr, yn frenin ar Ynys y Cedyrn, yr ynys a elwir heddiw’n Brydain. Roedd yn byw mewn llys yn Harlech yn Ardudwy efo Manawydan ei frawd a Nisien ac Efnisien, dau efaill oedd yn hanner brodyr iddo.

  2. Roedd ganddo chwaer o’r enw Branwen a hi oedd y brydferthaf o holl ferched Ynys y Cedyrn. Branwen oedd cannwyll llygaid ei brawd Bendigeidfran.

  3. Un prynhawn o haf eisteddai Bendigeidfran a’i deulu ar Garreg Harlech yn syllu tua’r môr. Yn sydyn gwaeddodd llais “Edrych f’arglwydd frenin mae llongau ar y gorwel …….. mae’n nhw’n dod tuag yma’n gyflym” “Tair llong ar ddeg” meddai Manawydan, “ Mae’n nhw’n dod o gyfeiriad Iwerddon” “Beth yw eu bwriad os gwn i?” gofynnodd Bendigeidfran. “Myn brain !” ebychodd Manawydan, “Gwae nhw os ydynt am ryfel!”

  4. “Dywedwch wrth y milwyr am wisgo eu harfau ar unwaith” gorchmynnodd Bendigeidfran. “Aros f’arglwydd” ebe Nisien,“ Maen nhw’n dod mewn heddwch. Mae swch pob tarian ar i fyny. Arwydd o heddwch.” “Os felly fe’u derbyniwn ni nhw gyda gofal. Gwell i ni fynd at fin y dŵr i’w cyfarch ond byddwch yn ofalus.”

  5. “Henffych i ti Fendigeidfran, brenin Ynys y Cedyrn. “ Fi ydi Matholwch, brenin Iwerddon ac wedi dod yma ar neges” ebe Matholwch. “Beth yw dy neges?” gofynnodd Bendigeidfran. “Fel y gwyddost yr wyf yn frenin heb etifedd. Clywais sôn am harddwch dy chwaer Branwen. Mi fyddai priodas yn uno dwy wlad ……………..

  6. Wedi trafod efo Manawydan, Nisien a Branwen cytunwyd mai da o beth fyddai’r briodas ac ymunodd pawb i ddathlu mewn gwledd o briodas.

  7. Nid oedd Efnisien yn hapus o gwbl. “Matholwch yn priodi Branwen heb fy nghaniatad i? Ddim tra bydd dur yn fy nwrn a nerth yn fy mraich. Fe gawn ni weld sut olwg fydd ar geffylau gwynion Matholwch heb weflau, heb glustiau, heb gynffonnau. Mae gen i ddawn i drin cyllell. Mi gawn ni weld .......... o cawn.”

  8. Clywodd Matholwch am y ceffylau. “ Ai dyma groeso Bendigeidfran fab Llŷr? Mae hyn yn warth ar goron Iwerddon. Filwyr, dewch ar frys, yn ôl â ni i’r llongau.” gorchmynnodd Matholwch,” Chaiff yr un Brython ein sarhau………..”

  9. “Aros Fatholwch, paid ag ymddwyn mor fyrbwyll” ymbiliodd Bendigeidfran, “Wyddwn i ddim am y llanast hwn. Gwaith Efnisien, fy hanner brawd, oedd hyn. Rwy’n fodlon talu iawn iti am ymddygiad Efnisien. Rhoddaf farch am bob march a anafwyd……. gwialennau o arian a chlawr aur …..” OND nid oedd hynny’n ddigon…….

  10. “Os nad yw’r iawn yn ddigon fe roddaf ychwaneg ato. Mae gen i bair hud. Pair y dadeni yw’n henw ni arno. Os lleddir milwyr mewn brwydr, a’u taflu i’r pair, fe ddont allan yn gystal milwyr ag erioed, ond ni fyddant yn gallu siarad” ychwanegodd Bendigeidfran.

  11. “O’r gore fe dderbyniaf dy gynnig yn llawen” atebodd Matholwch “ a braint fydd cael priodi Branwen.” “Dyna uno dwy deyrnas mewn heddwch!” meddai Bendigeidfran “Cymer ofal o Branwen fy chwaer”

  12. Ganwyd mab i Branwen a’i alw’n Gwern fab Matholwch ond byr fu hapusrwydd Branwen. Roedd y Gwyddelod wedi clywed am y sarhad a dderbyniodd Matholwch yn Ynys y Cedyrn ac roedden nhw am ddial ar Branwen.

  13. Roedden nhw am ei rhoi i weithio fel caethferch yn y gegin ac i’r cigydd cringoch roi bonclust iddi’n aml ………. “ Tyrd ferch sgythra, neu fe gei di flas fy mhastwn ar dy wegil. Fy nheyrnas i ydi’r gegin ‘ma. Cofia di hynny.”

  14. Doedd neb yn siarad â hi, dim ond y cigydd yn ei rhegi ond un bore daeth drudwen a sefyll wrth ffenestr y gegin. Rhoddodd Branwen fwyd iddi, ac o dipyn i beth, daeth y ddrudwen yn ddof. Dysgodd Branwen iddi siarad. Disgrifiodd iddi ei brawd Bendigeidfran ac egluro iddi’n fanwl sut i deithio dros y môr i Ynys y Cedyrn. Fe ysgrifennodd nodyn a’i rwymo dan ei hadain gyda’r neges bwysig am ei bywyd anhapus.

  15. “Beth yw hyn? Aderyn yn disgyn ar f’ysgwydd ac mae neges wedi ei glymu dan ei adain. Mae Branwen yn gaethferch yng nghegin Matholwch. Mae’r bwystfil o gigydd yn ei churo bob dydd. Fe fydd dial am hyn. Fe gaiff Matholwch dalu’n ddrud am hyn. Rhaid casglu byddin ar unwaith. Does dim munud i’w golli.

  16. Roedd hen ŵr yn gwarchod moch ar fin y traeth. “ Y nefoedd â’n gwaredo mae hi’n ddiwedd y byd. Mae mynydd yn ymddangos yng nghanol y môr, ac ar y mynydd ddau lyn yn disgleirio, ac o gwmpas y mynydd mae fforest o goed ac maen nhw’n dod yn nes ac yn nes. Rhaid dweud wrth y Brenin Matholwch.

  17. Anfonodd Matholwch am Branwen a dywedodd wrthi “Branwen fe hoffwn i ofyn dy gyngor di. Fedri di egluro’r mynydd a’r fforest?” Atebodd Branwen “ Y mynydd yw Bendigeidfran fy mrawd yn cerdded tuag at Iwerddon. Y ddau lyn disglair yw ei ddau lygad yn fflachio gan ddicter a’r fforest yw llongau’r Brythoniaid yn llawn o wŷr arfog.”

  18. Fe gyrhaeddodd Bendigeidfran Fab Llŷr a’i filwyr dir Iwerddon a dyna ddechrau’r cyrch ar y Gwyddelod am y cam a wnaed â Branwen.

  19. Ciliodd y Gwyddelod dros Afon Llinon a thorri’r bont a groesai’r afon fel nad oedd modd i Bendigeidfran a’i filwyr groesi’n unman OND dywedodd “A fo ben bid bont” a gorweddodd y brenin dros yr afon ac fe gerddodd ei filwyr drosto.

  20. Yn y cyfamser roedd y Gwyddelod eisiau cymodi a cynigiodd Matholwch wneud Gwern yn frenin Iwerddon ond nid oedd Bendigeidfran yn fodlon. Roedd o am reoli Iwerddon ei hun.

  21. Yna cynigiodd Matholwch adeiladu tŷ aruthrol ei faint i Bendigeidfran a derbynniodd y cynnig yma gan nad oedd erioed wedi cael byw mewn tŷ. Fe orffenwyd y tŷ ac fe drefnwyd gwledd i’r Brythoniaid i ddathlu’r cymodi. OND roedd rhai Gwyddelod yn parhau i ddal dig.

  22. Felly rhoddwyd milwyr arfog mewn sachau lledr a’i hongian wrth byst yr adeilad. Daeth Efnisien i’r golwg ac roedd yn amau bod y Gwyddelod yn twyllo. Teimlodd ben y milwyr ym mhob sach a gwasgodd eu pennau gyda’i fysedd cryfion nes eu lladd bob un. Heb wybod am yr hyn a wnaeth Efnisien daeth y Gwyddelod i mewn drwy un drws a gwŷr Ynys y Cedyrn drwy’r drws arall.

  23. Daeth Branwen a Gwern, ei mab, i’r neuadd a gwaeddodd Efnisien “Pam na ddaw Gwern fy nai ataf fi ei ewythr hoff?” ac fe redodd y bachgen ato. Cyn i neb sylweddoli beth oedd ar ddigwydd cydiodd Efnisien yn ei nai, Gwern a’i daflu i’r tân.

  24. Gorchmynnodd Matholwch:- “Filwyr! Lladdwch y llofrudd. Dial ! Dial !” ac ymateb Bendigeidfran :- “I’r gâd Frythoniaid ! Fe gaiff Matholwch a’i filwyr dalu iawn am hyn” Cydiodd gwŷr Iwerddon a gwŷr Ynys y Cedyrn yn eu harfau a dechrau brwydro.

  25. Ni fu erioed y fath frwydr. Bu’r naill ochr a’r llall yn ymladd am eu bywydau. Cofiodd y Gwyddelod am y pair a gafodd Matholwch yn rodd gan Bendigeidfran a dechreuwyd daflu eu milwyr marw i mewn iddo. Cododd y milwyr yn ôl yn fyw ond er nad oeddent yn gallu siarad roeddent yn sicr yn gallu ymladd.

  26. Gwelodd Efnisien yr holl lanast ac fe benderfynnodd bod rhaid atal yr holl frwydro. Gorweddodd Efnisien fel gŵr marw ymhlith milwyr Iwerddon. Yn eu brys i ennill y frwydr fe daflwyd Efnisien i’r pair ac yna defnyddiodd ei holl nerth i ddryllio’r pair yn bedwar darn cyn disgyn yn farw.

  27. Fe glwyfwyd Bendigeidfran gyda gwaywffon wenwynig a gorchmynnodd i’r saith gŵr a lwyddodd i ddianc o dir Iwerddon i dorri ei ben a mynd ag ef yn ôl i Ynys y Cedyrn. Croeswyd y môr mewn un llong a glanio’n Ynys Môn ar aber afon Alaw. Gyda hwy ‘roedd Branwen.

  28. Dyma ddisgrifiad y storiwr o dristwch y glanio a marw Branwen: “ Ac i Aber Alaw y daethant i’r tir ac yna eistedd a wnaethant a gorffwys. Edrychodd Branwen ar Iwerddon ac ar Ynys y Cedyrn ‘ O Fab Duw’ meddai hi ‘ gwae fi o’m genedigaeth. Da o ddwy ynys a ddifethwyd o’m hachos i.’ Rhoddodd ochenaid fawr, torrodd ei chalon a marw ac fe’i claddwyd yno ar lan afon Alaw.

More Related