SlideServe
Menu
Préférences
© SlideServe · v2026

Yn yr Ysgol

farrah-head avatar
14 diapositives · 325 Views · Nov 17, 2014

Yn yr Ysgol. Llyfr 2. 1. Bore da, Si ôn. Bore da, Nia. Mae hi’n fore dydd Llun heulog yn Abersaith. Mae Si ôn a Nia yn mynd i’r ysgol. Mae Si ôn yn wyth oed. Mae llygaid brown ‘da fe. Mae gwallt brown a llygaid brown ‘da hi. Mae Nia yn saith oed. 2.

Yn yr Ysgol - slide 1
01 / 14Yn yr Ysgol
1 / 17

Télécharger la présentation

Yn yr Ysgol
Une image / un lien ci-dessous est fourni (tel quel) pour télécharger la présentation

Politique de téléchargement : le contenu du site vous est fourni TEL QUEL pour votre information et votre usage personnel ; il ne peut être vendu, concédé sous licence ni partagé sur d’autres sites sans l’accord de son auteur.Le contenu vous est fourni TEL QUEL, pour votre information et votre usage personnel uniquement. Téléchargez la présentation en cliquant sur ce lien. Lors du téléchargement, si vous ne parvenez pas à télécharger une présentation, l’éditeur a peut-être supprimé le fichier de son serveur.Pendant le téléchargement, si vous ne parvenez pas à obtenir une présentation, le fichier a peut-être été supprimé par l’éditeur.

F I N

Plus de contenu associé

Transcription de la présentation
  1. Yn yr Ysgol Llyfr 2

  2. 1 Bore da, Siôn Bore da, Nia Mae hi’n fore dydd Llun heulog yn Abersaith. Mae Siôn a Nia yn mynd i’r ysgol. Mae Siôn yn wyth oed. Mae llygaid brown ‘da fe. Mae gwallt brown a llygaid brown ‘da hi. Mae Nia yn saith oed.

  3. 2 Bore da, blant. Sawl un sy’ eisiau cinio? Dwylo i fyny. Bore da, Mr Jones. Yn y dosbarth mae dau ddeg chwech o blant. Mae dau ddeg eisiau cinio ysgol. Mae chwech eisiau brechdanau. Does neb yn absennol. Mr Jones ydy’r athro Mathemateg. Mae e’n dal ac yn denau.

  4. Mae pawb yn barod am y wers fathemateg. 3 Beth ydy saith a naw? Un deg chwech Edrychwch! Mae Siôn yn hoffi Mathemateg. Mae Siôn yn hapus. Beth sy’n bod ar Nia? Mae hi’n edrych drwy’r ffenest.

  5. 4 Gwrandewch os gwelwch yn dda. Dydy Nia ddim yn gwrando ar Mr. Jones. Mae hi’n edrych drwy’r ffenest. Mae rhywun wrth y ffenest. Mae e’n gwisgo cap a sgarff coch gwyn a gwyrdd. Pwy ydy e?

  6. Mae’r gloch yn canu. 5 Gwnewch res wrth y drws. Ewch i’r wers nesa. Mae’n ddrwg ‘da fi Mr Jones. Mae rhaid mynd i’r wers Gelf nawr.

  7. 6 Bore da, Mrs. Puw. Bore da, blwyddyn tri. Dyma Mrs. Puw. Mrs. Puw ydy’r athrawes. Mae hi’n gwisgo sgert ddu a blows oren. Mae gwallt brown hir a llygaid mawr glas ‘da hi. Mae hi’n bert.

  8. Mae Mrs. Puw eisiau i’r plant dynnu llun gwisg ysgol newydd. 7 siwmper lwyd. crys oren trowsus glas ’sgidiau pinc. Ha! Ha! Mae’r plant yn tynnu llun gwisg ysgol newydd. Beth mae Nia’n wneud? Mae hi’n edrych drwy’r ffenest.

  9. 8 Nia, beth sy’n bod? Dydy Nia ddim yn gwrando. Mae Mrs. Puw yn grac. Mae hi’n edrych drwy’r ffenest. Mae rhywun wrth y ffenest.

  10. 9 O na! Edrychwch! Mae Siôn, Nia a’r plant yn edrych drwy’r ffenest. Beth sy’n bod?

  11. 10 Mae Ben y bwgan brain y tu allan. Mae Ben ar y trampolîn yn neidio i fyny ac i lawr. Mae e eisiau dychryn y brain. Edrychwch ar y brain ar y to!

  12. 11 Mae’n rhaid i ti fynd yn ôl i’r cae. Dw i eisiau dychryn y brain. Mae Ben eisiau dychryn y brain ar y to. Dydy Mrs. Puw ddim yn hapus. Dydy Siôn a Nia ddim yn hapus. Mae rhaid i Ben fynd yn ôl i’r cae.

  13. 12 crawc! crawc! crawc! crawc! Ewch! Ewch! Ewch i ffwrdd. Dyma Ben yn ôl yn y cae. Mae llawer o frain yn y cae. Mae e’n hoffi dychryn y brain. Mae Ben yn hapus yn y cae nawr. Ewch i ffwrdd! Ewch i ffwrdd! Ewch i ffwrdd!

  14. Diwedd y stori Cliciwch ar Ben i ddechrau eto