90 likes | 351 Vues
Andy Warhol. Celf Bop (PopArt) Math o gelf sydd yn edrych ar wrthrychau pob dydd mae pobl yn eu gweld o’u cwmpas yw Celf bop. Mae y rhan fwyaf o’r lluniau yn tarddu o ddeunydd pacio, lluniau enwogion, hysbysebion a stribedi cartwn. Un o artistiaid Celf Bop mwyaf enwog yw Andy Warhol.
E N D
Celf Bop (PopArt) Math o gelf sydd yn edrych ar wrthrychau pob dydd mae pobl yn eu gweld o’u cwmpas yw Celf bop. Mae y rhan fwyaf o’r lluniau yn tarddu o ddeunydd pacio, lluniau enwogion, hysbysebion a stribedi cartwn. Un o artistiaid Celf Bop mwyaf enwog yw Andy Warhol.
Andy Warhol Cafodd Andy Warhol ei eni yn Pittsburgh, Pennsylvania yn 1928. Mi sylweddolodd ei rieni yn fuan iawn fod ganddo dalent am arlunio. Cafodd ei yrru gan ei athrawon ysgol i wersi celf ar y penwythnosau. Doedd gan rhieni Andy fawr ddim o arian, ond wedi iddynt fod yn cynilo mi wnaethant ei anfon i goleg celf Carnagie, lle bu yn dysgu am ddarlunio a chynllunio ac yno datblygodd ei ffurf unigryw o arlunio.
Wedi iddo adael yr ysgol fe aeth i Efrog Newydd i chwilio am waith. Fe gafodd waith yn darlunio lluniau ar gyfer cylchgronau, cynllunio ac addurno ffenestri siopau, gwneud cardiau penblwydd, lluniau ar gyfer recordiau a llyfrau ac fe fuo yn gwneud cymylau, glaw a haul ar gyfer pobl tywydd ar y teledu.
Roedd Andy eisiau bod yn enwog. Awgrymodd un o’i ffrindiau iddo wneud lluniau o wrthrychau pob dydd, Celf Bop (Pop Art). Fe wnaeth hyn Andy yn enwog iawn! Roedd pobl yn hoffi ei luniau oherwydd eu bod nhw yn lliwgar a llachar. Nid yn unig oedd Andy Warhol yn darlunio roedd hefyd yn gwneud ffilmiau. Un o’i ffilmiau oedd dyn yn cysgu am chwe awr! Bu farw Andy Warhole yn 1987. Erbyn hyn roedd yn arlunydd enwog iawn. Roedd ei waith yn atgoffa pobl o bethau pwysig, pob dydd yn eu bywydau.
Roedd Andy Warhol yn artist a oedd yn peintio, argraffu a darlunio yr hyn a oedd yn boblogaidd ar y pryd. Gwrthrychau a oedd yn ei weld ar y teledu, mewn cylchgronau ac mewn posteri. Allwch chi wneud sgets o rhywbeth a welwch chi bob dydd fel potel ddiod neu focs bwyd brecwast?
Sut i wneud print mono. Byddwch angen ● Paent poster neu inc printio ● Brwsh paent neu bensil ● Dau roler inc ● Darn o blastig llyfn, fel tray (dim yn angenrheidiol) ● Papur • Cychwynnwch drwy roi ychydig o’r paent ar eich darn plastig. (Mae posib gwneud hyn ar fwrdd dosbarth ond ei fod yn creu ychydig o lanast!) • Gan ddefnyddio'r rholer, gwasgwch y paent allan i orchuddio'r darn plastig a haen denau o baent. ( mae’n bwysig fod dim gormod o baent neu ni weithith y print) • Yna gyda chefn y brwsh paent neu bensil gwnewch eich llun neu batrwm yn y paent, gan fod yn ofalus i beidio pwyso ar y paent gyda’ch llaw! • Wedi gorffen eich llun, yn ofalus rhowch eich darn o bapur dros y llun a gyda rholer glan rhwbiwch gefn y papur gan roi yn un pwysedd ar draws y papur. • Yn ofalus codwch eich papur ac fe ddylech gael gopi o’r llun ar eich papur! • Gallwch wneud copi arall drwy roi tudalen arall tros y paent. • Mae posib hefyd gwneud y llun ar gefn y papur ac nid yn y paent ond mae'n rhaid bod yn ofalus i beidio â phwyso ar y papur wrth wneud y llun!
Dyma rhai o enghreifftiau o waith y plant. Dyma enghraifft o lun cyfrifiadurol un o’r plant wedi iddynt ei orffen yn syth ar Swyn Lliw. Yma maent wedi defnyddio testun i wneud y gwaith ysgrifenedig yn hytrach na llunio y geiriau. Gwelwch yma y lluniau sydd wedi eu symud i raglen fel Publisher ar gyfer eu hailadrodd yn null Warhol. Cliciwch yma ar gyfer y taflenni athro
Dyma enghraifft o’n lluniau pop art ni. Yma rydym wedi rhoi y lluniau gyda’i gilydd i wneud un llun mawr. Sylwch fod pob llun a pedwar lliw gwahanol ym mhob sgwar, a bod rheini yn troelli o fewn y pedwar sgwar personol. Sylwch fy mod wedi ceisio rhoi y lluniau at eu gilydd fel nad oes yr un lliw cefndir yn cyffwrdd eu gilydd mewn lluniau gwahanol.