1 / 5

Byw yng

Llyfrgell Casnewydd. Byw yng. NGHASNEWYDD. yn yr. 1850au. Casnewydd yn 1850. Edrychwch ar y map hwn o Gasnewydd yng nghanol y 19 eg Ganrif. Beth ydych chi’n meddwl mae’r ardaloedd mwy coch yn ei ddangos?.

candie
Télécharger la présentation

Byw yng

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Llyfrgell Casnewydd Byw yng NGHASNEWYDD yn yr 1850au

  2. Casnewydd yn 1850 Edrychwch ar y map hwn o Gasnewydd yng nghanol y 19eg Ganrif. Beth ydych chi’n meddwl mae’r ardaloedd mwy coch yn ei ddangos? Cliciwch ar yr ardaloedd hyn i gael golwg wedi ei chwyddo. Ydych chi’n dal i feddwl eich bod yn gywir? Allwch chi weld patrwm? Oes gan y ddwy ardal rywbeth yn gyffredin? Mae’r ardaloedd mwy coch yn dynodi ‘DWYSTER POBLOGAETH A CHYFFREDINOLRWYDD AFIECHYD’. Beth ydych chi’n meddwl ydy ystyr hyn?

  3. O ddefnyddio map modern o Gasnewydd, allwch chi ddarganfod os oes rhai o’r strydoedd hyn yn dal i fodoli? Allwch chi feddwl am unrhyw resymau pam fod gan rai ardaloedd fwy o farwolaethau nag ardaloedd eraill? Pa ardal oedd wedi ei tharo waethaf yn 1855? Beth oedd yr achos mwyaf tebygol dros farwolaeth? Achosion Marwolaeth yng Nghasnewydd -1855 Ydych chi’n gwybod beth ydy’r holl afiechydon hyn? Oes yno rai ohonyn nhw’n dal yn beryglus heddiw? CYFANSWM Broncitis Niwmonia Ffitiau Twymyn Trais Frech Goch Crŵp Dolur rhydd Amrywiol Lefydd

  4. Amgylchiadau Byw yng Nghasnewydd – 1850au Bron y mater cyntaf a ddaeth i’m sylw oedd presenoldeb parhaol y dwymyn teiffws, yn arbennig yn y rhannau mwyaf torfol a budr (brwnt) o’r dref… Mae’r Dwymyn Goch (Scarlet Fever), y Frech Goch a’r Frech Wen, pan ddigwyddant yn yr ardaloedd hyn, yn waeth, ac yn dod i gysylltiad ag amgylchiadau ffafriol i’w lledaeniad. G T Clark. Adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol ar Fwrdeistref Casnewydd, 1850, Tudalen 14 Yn Stryd Charles mae 30 o dai, y mwyafrif ohonynt gyda cheuffos yn y stryd. Mae chwech yn dai llety isel, wedi eu his-osod i randai gwahanol, ac maent yn orlawn iawn, fel, er enghraifft, y tŷ gyda 30 o bobl yn trigo yno; pob stafell yn cael ei defnyddio ar gyfer holl bwrpasau domestig yn ystod y dydd ac fel ystafelloedd cysgu yn ystod y nos. Mae mwyafrif y lletywyr hyn yn gasglwyr hen garpiau neu esgyrn, sy’n cael eu pentyrru yn y stafelloedd. Mewn rhai o’r tai lletya, cedwir swm mawr o bysgod wedi eu sychu hyd nes eu bod yn aml mewn stad o bydredd. Mewn eraill, mae llysiau y methwyd eu gwerthu yn ystod y dydd. G T Clark. Adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol ar Fwrdeistref Casnewydd, 1850, Tudalen 18 Stryd Fothergill – Mae 21 o dai yn y stryd hon, nifer yn cynnwys pedair neu bum stafell, gyda nifer o deuluoedd yn trigo ynddynt, ac eto, yn eu his-osod i wyth neu ddeg, neu weithiau ddeuddeg i bedwar ar ddeg person, bron y cyfan yn Wyddelod, lle nad oedd ganddynt ond ond un stafell i fyw ynddi, lle roeddynt i gyd yn cysgu ar lawr mewn gwelyau o siafins coed a charpiau, gyda’r ffenestri wedi eu cau a’r llefydd tân wedi eu cau, yn anadlu’r un aer drosodd a thro… Cefais hyd i bum gwely mewn un stafell, chwe dyn ymhob gwely, tri gyda’u pennau i un cyfeiriad, a thri gyda’u pennau i’r cyfeiriad arall, roedd gan un dwymyn… G T Clark. Adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol ar Fwrdeistref Casnewydd, 1850, Tudalen 21 Mynwent Iard Capel y Tabernacl – mae’r fynwent hon yn orlawn, ffiaidd a chyfoglyd; yn cael ei hamgylchynu gan gymdogaeth boblog a pharchus. Rwy’n deall mai dyfnder cyfartalog y beddi yw 4 troedfedd 6 modfedd i 5 troedfedd; gyda’r pridd yn wlyb. O ganlyniad mae’r beddi, i raddau, yn llawn dŵr. Mae rhan o Stryd Llanarth yn ffinio gydag hi i’r gogledd; mae’r pympiau a’r ffynhonnau yn hollol ddiwerth, gan fod unrhyw ddŵr yno wedi ei aflywio, ac felly mor ddrewllyd fel na all gael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas arall. G T Clark. Adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol ar Fwrdeistref Casnewydd. 1850, Tudalen 39 Llys Wedlake – yma mae 14 o dai, gydag 11 ohonynt heb awyriad, gyda Gwyddelod o’r dosbarth isaf, yn isel eu sefyllfa, yn fudr /(brwnt) ac afiach… Mae’r draen wedi ei gorchuddio gyda fflagen a bordyn ond nid oes digon o rediad ynddi. Mae’r tai bach hefyd yn fudr (brwnt). Nid yw rhannau isaf y tai hyn yn ffit i fyw ynddynt. Cyn i’r bwrdd glanweithdra ddod yn weithredol, hwn oedd un o’r llysoedd gwaethaf. Ar ganol y llys roedd pydew lludw mawr lle cai holl sbwriel y tai ei daflu, ac roedd hwn yn gorwedd yn erbyn dau dŷ bach, lle roedd eu cynnwys yn llifo i’r pydew lludw ac felly’n llygru’r atmosffer fel ei bod yn annymunol iawn i berson fynychu’r Llys os nad oeddynt yn gyfarwydd â’r lle. G T Clark. Adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol ar Fwrdeistref Casnewydd, 1850, Tudalen 26 Nid yw’n ddigwyddiad anghyffredin i ddarganfod hen wragedd neu blant yn cysgu mewn cypyrddau gyda’u drysau ar gau, ac mewn un achos nid oedd y gwely gwellt wedi ei newid ers dwy flynedd, ac mewn un arall, darganfuwyd mam y tenant gyda thri o ŵyrion yn cysgu mewn cwpwrdd bychan 20 modfedd o led wrth 4 ½ troedfedd o hyd. G T Clark. Adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol ar Fwrdeistref Casnewydd. 1850, Tudalen 21 Mae’r cyflenwad [dŵr] yn hollol annigonol i anghenion y dref, ac mae’r bythynnod yn dioddef yn sylweddol o’r prinder. Ar gyfer pwrpasau cyffredin gallant ddefnyddio dŵr o’r gamlas, ond mae’r dŵr yn fudr /(brwnt) iawn, gyda dreiniau o’r tai yn arllwys iddi. G T Clark. Adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol ar Fwrdeistref Casnewydd. 1850, Tudalen 31

  5. Beth syddangeni chi wneud… • Mae gan y sleidhonnifer o ddarnauwedieuhysgrifennu am amgylchiadaybywyngNghasnewyddynystod y datblygiaddiwydiannolcyflymyngnghanolyr 1850au. Gellirgweldpob un (a’ucuddio) drwyglicioar y rhifau. • Darllenwch bob un ynofalus a theipiwchunrhywwybodaeth a ddarganfyddwchyn y blwch a ddarperir. • Wrthgasglugwybodaeth, meddyliwch am: • Amgylchiadau tai ac ardaloeddbyw – pam eu bod felhyn? • Mynediad at ddŵrglân • Presenoldebafiechydon • Ffactoraueraill a allaifodwedieffeithioariechyd a diogelwch y boblyramserhonno. • 2) Darllenwch y darnaueto. Pam gredwch chi fodamgylchiadaubywfelhynynystodcanol y 18edganrifyngNghasnewydd? Pam y dioddefodd y bobl y problemauhyn?

More Related