1 / 19

Dameg y Talentau

Dameg y Talentau. Yn aml roedd Iesu'n adrodd stori er mwyn dysgu gwers. Damhegion oedd yr enw am y storïau hyn. Un dydd roedd dyn yn mynd ar daith hir. Roedd am i'w weision ofalu am ei eiddo yn ystod ei absenoldeb, felly fe'u galwodd ynghyd.

eden
Télécharger la présentation

Dameg y Talentau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Dameg y Talentau

  2. Yn aml roedd Iesu'n adrodd stori er mwyn dysgu gwers. Damhegion oedd yr enw am y storïau hyn. Un dydd roedd dyn yn mynd ar daith hir. Roedd am i'w weision ofalu am ei eiddo yn ystod ei absenoldeb, felly fe'u galwodd ynghyd.

  3. I'r gwas cyntaf rhoddodd bum talent. (Nid ceiniog oedd talent, ond pwys o arian gwerthfawr megis arian, ac roedd un talent yn werth mwy na £1,000. Felly derbyniodd y gwas hwn arian a oedd yn werth mwy na £5,000.) Dechreuodd y dyn hwn weithio ar unwaith gan ddefnyddio ei arian nes ei ddyblu. Roedd bellach ganddo ddeg talent yn lle pump.

  4. Rhoddodd y meistr ddau dalent i'r ail ddyn. Mwy na thebyg roedd yn meddwl mai dyna oedd y swm o arian y gallai'r dyn hwnnw ofalu amdano. Roedd yr ail ddyn hefyd yn llwyddiannus, a dyblodd ei arian. Dechreuodd gyda mwy na £2,000 a nawr roedd ganddo ddwywaith cymaint.

  5. Nid oedd y trydydd dyn yr un mor gall a'r ddau arall, ond rhoddodd y meistr un talent iddo gan ddisgwyl iddo ofalu amdano'n dda. Roedd yntau hefyd wedi gallu cynyddu ei arian, ond palodd dwll a'i guddio yn y ddaear.

  6. Ar ôl amser maith, dychwelodd y meistr. (Mae rhai'n credu mai darlun o ddychweliad Iesu i'r nefoedd yw taith y meistr, ac mai barnu dynolryw yw ei ddychweliad o'r daith.) Roedd yn barod am adroddiad gan y gweision.

  7. Roedd y dyn a oedd wedi derbyn pum talent wedi dod â'i arian a dangosodd i'r meistr ei fod wedi'i ddyblu. Roedd yn hapus dangos y canlyniadau i'w meistr. Roedd y meistr yn fodlon iawn. Meddai, "Fy ngwas da a ffyddlon! Buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig; byddaf yn rhoi llawer yn dy ofal. Dere i ymuno yn llawenydd dy feistr!"

  8. Roedd y dyn a oedd wedi derbyn dau dalent yn dangos i'r meistr ei fod yntau hefyd wedi dyblu ei arian. Derbyniodd yr un geiriau canmoliaethus â'r dyn cyntaf a oedd wedi derbyn pum talent.

  9. Roedd y dyn a oedd wedi derbyn un talent wedi datgloddio'r talent a'i gyflwyno gerbron y meistr. Cyhuddodd y meistr o fod yn ddyn caled i weithio iddo, gan ddweud ei fod wedi claddu'r talent trwy ofn. Fe'i dychwelodd i'r meistr gan ddweud, "Dyma i ti dy eiddo yn ôl."

  10. Roedd y meistr yn grac iawn gyda fe gan ei alw'n was drwg a diog. Dywedodd y dylai'r dyn o leiaf fod wedi rhoi'r arian i fancwyr a chael peth llog. Cymerodd y meistr ei dalent oddi wrth y dyn a'i roi i'r dyn yr oedd deg talent ganddo, a chafodd y dyn a oedd wedi derbyn un talent ei gosbi am nad oedd wedi defnyddio'r talent yn gall.

More Related