230 likes | 379 Vues
H C I s Rhyngwyneb cyfrifiadur-pobl. Arddulliau Rhyngwynebau. Seiliedig ar Orchmynion Ffurflenni Dewislenni Iaith Naturiol Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol.
E N D
Arddulliau Rhyngwynebau • Seiliedig ar Orchmynion • Ffurflenni • Dewislenni • Iaith Naturiol • Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol
Seiliedig ar Orchymynion Mae DOS, sy’n cynrychioli Disk Operating System, yn rhyngwyneb defnyddiwr cyffredin iawn a yrrir gan orchmynion. • Anogwr Gorchmynion • Teipio gorchmynion • Gall pob gorchymyn fod â switshis • Moddau gwahanol y gellir rhedeg y gorchymyn ynddynt yw’r rhain: • Mae Dir yn rhoi rhestriad cyfeiriadur • Mae Dir /w yn rhoi’r rhestriad ar draws y dudalen • Mae Dir /s yn cynnwys yr is-gyfeiriaduron • Mae Dir /p yn oedi ar waelod pob tudalen • Defnyddwyr arbenigol yn unig
mantais rhyngwynebau a yrrir gan orchmynion yw y gallant fod yn gyflym i’w defnyddio cyhyd â bod y defnyddiwr yn gwybod y gorchmynion cywir. Caiff y gorchmynion cywir i gopïo’r ffeil eu teipio i mewn gan y defnyddiwr ar y bysellfwrdd Mae’r system weithredu yn dangos neges i gadarnhau bod y gorchymyn wedi cael ei gyflawni’n llwyddiannus. • anfantais yw eu bod yn anodd iawn i’w defnyddio os ydy’r defnyddiwr yn ddechreuwr neu heb wybod y gorchmynion cywir. Gall systemau a yrrir gan orchmynion fod yn anghyfeillgar iawn i bobl nad ydynt yn arbenigwyr cyfrifiaduron a’u drysu.
Ffurflenni • Labeli Data yn rhoi cymorth • Blychau i roi data i mewn/dewis data • Fe’u defnyddir i gofnodi data (cofnodion) • Mae dewis yn haws • Rhoddir dewisiadau i’r defnyddiwr • Defnyddiol i ddechreuwyr
Dewislenni • Cyfres o eitemau perthynol y gellir eu clicio • Rhoi dewis cyfyngedig • Cyfeillgar i ddechreuwyr • Wedi’u strwythuro’n opsiynau
Yn yr enghraifft hon mae rhyngwyneb defnyddiwr a yrrir gan ddewislenni wedi cael ei ddefnyddio i gopïo ffeil o’r enw fred.txt i ddisg hyblyg defnyddiwr.
Adnabod llais • Defnyddir microffon i dderbyn mewnbwn llais. Defnyddir seinyddion ar gyfer allbwn llais. System a yrrir gan LAIS yw hon, mae’r rhain yn dal i fod yn y cyfnod arbrofol ond maen nhw’n cael eu datblygu a gallan nhw helpu pobl anabl. Hefyd mae systemau ar gyfer adnabod defnyddwyr cardiau arian neu gardiau smart yn cael eu datblygu. Problemau: • Gall defnyddwyr ddefnyddio ieithoedd gwahanol • Efallai na fydd acenion lleol yn cael eu hadnabod • Mae rhai geiriau Saesneg yn swnio’r un fath - two, to, too
Iaith Naturiol Mae’r ffactor dynol yn bwysig iawn wrth ddylunio’r systemau hyn ac mae diddordeb diweddar mewn systemau arbenigo a deallusrwydd artiffisial wedi gwneud nodweddion fel rhyngwynebau iaith naturiol yn fwy cyffredin gan wneud rhyngwynebau dynol peiriannau yn fwy cyfeillgar i’r defnyddiwr. • Mae’r defnyddiwr yn teipio neu’n siarad mewn iaith normal bob dydd ac mae’r cyfrifiadur yn ymateb • Fe’i defnyddir yn Microsoft Help a gwefan Ask Jeeves • Yn ddefnyddiol i ddechreuwyr gan nad oes angen iddynt ddeall y cyfrifiadur i’w ddefnyddio. • Â mewnbwn lleisiol, mae’n ddefnyddiol i bobl ag anabledd corfforol.
Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol • Yn disgrifio’r rhyngwyneb rhwng y defnyddiwr a’r cyfrifiadur. • Yn rhoi delweddau yn lle rhywfaint o’r testun • Gall gynnwys dewislenni, ffurflenni a gorchmynion
Rhyngwynebau defnyddwyr graffigol (GUI) Y math o ryngwynebau defnyddwyr graffigol (GUI) a ddefnyddir fwyaf yw systemau WIMP. Mae WIMP yn cynrychioli Windowsi ganiatáu amlorchwyl a dangos strwythur ffeiliau Iconscynrychioliadau symbolaidd o ffeiliau neu raglenni Menui restru cyfleusterau priodol Pointeri ddewis y gorchymyn neu’r cyfleuster rydych ei eisiau
Yn ogystal • Cymorth ar y sgrin • Amgylcheddau wedi’u haddasu ar gyfer y defnyddiwr-ffefrynnau • Cynorthwyr ar y sgrin • Tiwtorialau
Manteision • Yn gyfeillgar i’r defnyddiwr am nad oes raid i chi gofio pob gorchymyn • Yn hawdd ei ddefnyddio â’r maint lleiaf o hyfforddiant. Dull sythweledola 'chyfeillgar i’r defnyddiwr'. Yn addas ar gyfer defnyddwyr â’r sgiliau TG isaf. Bydd nifer o gymwysiadau gwahanol yn defnyddio’r un eiconau a dulliau – felly mae pob yn 'teimlo' yr un fath. • Yn gallu rhedeg mwy nag un darn o feddalwedd, felly mae’n hawdd trosglwyddo data rhyngddynt e.e. mewnforio clipluniau.
Anfanteision • Mae amgylcheddau o’r fath yn defnyddio mwy o gof hapgyrch (RAM) a lle storio ar y disg, ond ni fu hynny’n llawer o broblem gan fod cost cof a storfa disg wedi dod yn rhatach a bod peiriannau’n cynnwys gyriannau caled mwy eu maint. • Gall wneud i’r peiriant redeg yn arafach
Dyluniad rhyngwyneb defnyddiwr • Dylai rhyngwyneb defnyddiwr da fod yn gyfeillgar i’r defnyddiwr. • Cysondeb gweithredu, gosodiad sgrin ayb. • Dylid dewis lliwiau’n ofalus e.e. sy’n hawdd eu gweld • Gellir defnyddio sain i wneud pethau fel rhybuddio’r defnyddiwr ynghylch problemau ond hefyd dylai fod yn bosibl ei diffodd • Cymorth ar-lein ac wedi’i ddogfennu
Cymorth ar-lein ac all-lein Mae angen meintiau gwahanol o gymorth ar ddefnyddwyr gwahanol. • Cymorth a gwallnegesau • Gall llawer o systemau gyfyngu ar lefel y sgrin gymorth sydd ar gael. Mae system gymorth dda yn bwysig i’r defnyddiwr newydd a gall ddarparu tiwtorial ar-lein neu lawlyfr ar-lein neu ddewislenni a ysgogir gan fysellau cymorth. • Mae gwall-negesau neu ddiagnosteg yn ddefnyddiol i bob defnyddiwr. Rhaid iddynt roi syniad o’r math o wall sydd wedi digwydd, nid dweud 'gwall' yn unig
Bysellau un pwrpasGall rhai bysellau neu gyfuniadau o fysellau gyflawni tasgau rhagddiffiniedig. E.e. gall <CTRL> a <S> gadw darn o waith. Gall <CTRL> <ALT> a <DEL> ailgychwyn cyfrifiadur. Bysellau meddal Gall fod yn bosibl rhaglennu bysellau i gyflawni tasgau pan gânt eu pwyso. Efallai y bydd gan rai bysellfyrddau fysellau 'swyddogaeth' y gellir eu rhaglennu. • Dyfeisiau pwyntioLlawdrin dyfais sy’n symud pwyntydd ar y sgrin. Enghreifftiau: Llygoden, Pêl lwybro, Ffon reoli, Pad Graffeg a Phen Golau/Cnap.
LlawysgrifenMae rhai cyfrifiaduron dal-yn-y-llaw yn caniatáu i ddefnyddwyr 'ysgrifennu' ar y sgrin. OCR Anfantais: Mae angen meddalwedd gymhleth i adnabod llawysgrifen pobl wahanol.
Cymhwyso Rhyngwynebau Defnyddwyr at Ddefnyddywr • Mae gan ddefnyddwyr gwahanol ofynion gwahanol: • Pobl â Diffyg Gweld: • Cynffon llygoden, sgrin wedi’i chwyddo, cynlluniau lliw cyferbyniol, eiconau mawr ayb. • Defnyddwyr arbenigol: • Llinell orchymyn, bysellau llwybr llygad, ychwanegion rhaglennu
Lleoliad: ble fydd yn cael ei ddefnyddio? • Rhyngwyneb cyffwrdd sgrin, cyffyrddell, ayb • Pobl ag anabledd corfforol: • Ar gyfer dyfeisiau mewnbwn ychwanegol mae angen newidiadau i’r rhyngwyneb defnyddiwr
Ar ôl i system gyfrifiadurol newydd gael ei dylunio, rhaid gwirio i sicrhau bod y dyluniad newydd yn gydnaws â rhagofynion gwreiddiol y system. • Gwneir adolygiad o’r dyluniad er mwyn sicrhau bod... • y dyluniad yn cyfateb i’r rhagofynion, a bod amcanion y system newydd wedi’u bodloni, • y technegau mwyaf priodol wedi cael eu defnyddio, • y rhyngwyneb defnyddiwr yn briodol. • Bydd gwallau a wneir yng nghyfnod y dylunio yn trosglwyddo i bob datblygiad pellach o’r system newydd. • Os gwnaed camgymeriadau yng nghyfnod y dylunio, byddai llawer o waith yn cael ei wneud yn gweithredu system oedd, ar y gwaethaf, yn methu â gweithio, neu ar y gorau, yn methu â gwneud y gwaith yn dda.
Gwerthuso Dyluniad • Sut y byddech yn penderfynu ydy dyluniad system yn dda? • Dyma rai meini prawf.... • ydy’r dyluniad yn cyflawni’r amcanion? • ydy hi’n bosibl gweithredu’r dyluniad â’r adnoddau llafur a’r arbenigedd sydd ar gael? • ydy’r dyluniad yn dechnegol ddichonol? Ydy’r holl galedwedd yn bodoli? • ydy’r dyluniad mor syml ag sy’n bosibl fel y gall pobl ddeall yn hawdd sut y mae’n gweithio? Mae dyluniadau cymhleth yn anoddach i’w rhoi ar waith ac mae’n anoddach datrys problemau sy’n codi. • ydy hi’n bosibl ei weithredu o fewn yr amserlen arfaethedig? • ydy hi’n bosibl ei weithredu o fewn y gyllideb sydd ar gael?
Sut y byddwch yn gwerthuso dyluniad? • Llyfr log o wallau • Holiaduron / Cyfweliadau • Arsylwi’r dyluniad ar waith